Neidio i'r prif gynnwy

Nodau ymchwil a methodoleg

Ym mis Tachwedd 2023, gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu Wavehill i gynnal ymchwil i archwilio’r dystiolaeth gychwynnol ar gamau gwasanaeth Cymru’n Gweithio i gyflwyno adolygiadau canol gyrfa (ACGau).

Wedi’i lansio yn 2019 a’i ddarparu gan Gyrfa Cymru, Cymru’n Gweithio yw gwasanaeth cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd cenedlaethol diduedd a phroffesiynol Cymru, sydd ar gael i bawb 16 oed a hŷn [troednodyn 1], ac sy’n byw yng Nghymru. Trwy'r gwasanaeth, mae cynghorwyr gyrfaoedd ar gael i gynorthwyo pobl ifanc ac oedolion gan gynnig cyngor, cyfarwyddyd a mynediad am ddim i hyfforddiant i'w helpu i mewn i waith neu i ddatblygu eu gyrfa.

Mae cyflwyno ACGau yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru, ‘Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau’. Fel a nodwyd yn y cynllun, nod ACGau yw ‘annog gweithwyr 50+ oed i feddwl yn rhagweithiol am ddatblygiad gyrfa a sgiliau, iechyd a lles, cyllid a chydbwysedd bywyd a gwaith trwy Cymru'n Gweithio’.

Nod y gwaith ymchwil oedd mynd i’r afael â thri chwestiwn ymchwil sylfaenol:

  • Beth yw’r dystiolaeth gychwynnol ar wasanaeth Cymru’n Gweithio yn cyflwyno ACGau?
  • Beth yw’r dystiolaeth o Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ar yr arfer o gynnal adolygiadau gyrfa?
  • A yw grŵp oedran targed o 50+ ar gyfer gwasanaeth ACG yn briodol?

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil dros gyfnod o dri mis rhwng Rhagfyr 2023 a Chwefror 2024. Roedd hyn yn cynnwys cyfweliadau manwl â 10 cynghorydd gyrfa (yr oedd gan bob un ohonynt brofiad o gyflwyno ACGau) a phum rhanddeiliad allweddol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut y gall ACG fod yn wahanol i gyngor gyrfaoedd arall sy’n cael ei gynnig gan Cymru'n Gweithio a sut y gallai fod yn debyg. Roedd yr ymchwil hefyd yn cynnwys adolygiad o ddata gwybodaeth fonitro a gasglwyd drwy Atlas, platfform rheoli cysylltiadau cwsmeriaid Cymru’n Gweithio, ac adolygiad llenyddiaeth desg thematig. Edrychodd yr adolygiad llenyddiaeth ar 27 o ddogfennau yn ymwneud ag ACGau i sicrhau y gall canfyddiadau'r gwerthusiad gyfrannu'n ystyrlon at y corff hwn o waith.

Canfyddiadau allweddol

Canfyddiadau ynghylch Dyluniad Cychwynnol a Gweithrediad

Gan ymateb i’r cyhoeddiad ynghylch ACG o fewn 'Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: ‘Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau’, cynhaliodd Gyrfa Cymru rywfaint o waith ymchwil mewnol cychwynnol i nodi anghenion gweithwyr hŷn yn ogystal ag arferion da yn ymwneud â newid gyrfaoedd. O ganlyniad, datblygodd Cymru’n Gweithio nodweddion newydd fel rhan o’u harlwy y teimlent y byddent yn helpu i fynd i’r afael yn benodol ag anghenion cwsmeriaid dros 50 oed. Fodd bynnag, penderfynodd Cymru’n Gweithio gynnig nodweddion cymorth newydd i unrhyw gwsmeriaid y teimlai cynghorwyr y byddent yn elwa arnynt. Roedd agweddau newydd ar y cynnig yn cynnwys prawf seicometrig Morrisby, hyfforddiant staff ychwanegol i gynorthwyo cwsmeriaid sydd am newid gyrfa ac elfen farchnata newydd.

Gan ystyried dyluniad arlwy ACG, roedd y rhanddeiliaid [troednodyn 2] yn teimlo bod gan wasanaeth Cymru’n Gweithio y cyfle i osod y safon o ran arferion da ym maes adolygiadau gyrfa ar raddfa Cymru gyfan, gan nodi eu bod o’r farn bod y ddarpariaeth bresennol ar draws y Deyrnas Unedig naill ai’n lleol iawn neu nad yw am ddim i’w defnyddio.

Pwysleisiodd llawer o gynghorwyr nad oedd yr angen am adolygiad gyrfa yn cyfateb i oedran, gan nodi bod cwsmeriaid o'u hugeiniau cynnar i ganol eu chwedegau wedi elwa ar ACG. Fodd bynnag, roedd y pynciau a drafodwyd mewn adolygiad gyrfa yn aml yn amrywio ar sail oedran, gyda chwsmeriaid hŷn yn fwy tebygol o fod eisiau trafod cyfrifoldebau gofal yn ogystal â chynllunio ariannol ac iechyd.

Mae hyblygrwydd yr ACG, ynghyd â’r galw mawr gan amrywiaeth o wahanol fathau o gwsmeriaid, wedi’i gwneud yn heriol i gynghorwyr gyrfaoedd wahaniaethu rhwng ACG a’r cyfarwyddyd gyrfaoedd sydd wedi’i gynnig ers sefydlu Cymru’n Gweithio. Mae rhanddeiliaid a chynghorwyr yn credu mai’r ffactorau hyn yw’r prif resymau pam nad oedd yn bosibl monitro’n feintiol a yw cwsmer wedi bod trwy ACG. Yn hytrach, byddai cynghorwyr yn monitro cynnwys a chynnydd ACGau trwy nodiadau wedi’u cyflwyno ar eu platfform rheoli cysylltiadau cwsmeriaid.

Gan gydnabod y gall rhai cwsmeriaid sy’n ystyried newid gyrfa fod yn ansicr ynghylch eu camau nesaf neu eu dewis lwybr gyrfa, penderfynodd tîm rheoli Cymru’n Gweithio ymgorffori prawf Morrisby fel nodwedd o’r ACG. Gwariodd Cymru’n Gweithio £12,500 i gael trwydded prawf Morrisby i ganiatáu i gwsmeriaid - pan ystyrir bod hynny’n briodol - gael prawf seicometrig am ddim (ar y pwynt defnyddio) [troednodyn 3]. Nod y prawf seicometrig yw nodi cryfderau proffesiynol, gwendidau a sgiliau trosglwyddadwy cwsmeriaid er mwyn nodi llwybrau gyrfa posibl sy'n gweddu i'w set sgiliau.

Pwysleisiodd cynghorwyr gyrfaoedd ei bod yn well cynnal prawf Morrisby ochr yn ochr â chyfarwyddyd gyrfaoedd arbenigol ac nad oedd o reidrwydd yn addas i bob cwsmer. Nododd cynghorwyr gyrfaoedd nad yw'r canlyniadau'n ystyried gwybodaeth am y farchnad lafur ac y gallent, yn ddamcaniaethol, argymell llwybrau gyrfa nad ydynt o reidrwydd yn realistig i gwsmeriaid wrth ystyried dealltwriaeth gyfannol o'u sefyllfa unigol. Ystyriwyd bod y prawf yn ddefnyddiol, cyhyd â bod staff yn gallu ei fframio fel 'ymarferiad cynhyrchu syniadau' yn hytrach nag offeryn penderfynu diffiniol.

Mae dadansoddiad o wybodaeth fonitro Cymru'n Gweithio rhwng Ionawr a Thachwedd 2023 yn dangos bod tua dau y cant o'r holl gwsmeriaid (N=563) wedi defnyddio prawf Morrisby. Roedd cwsmeriaid yn y grwpiau oedran 40 i 49 a 50+ yn gymharol fwy tebygol o ddefnyddio prawf Morrisby o gymharu â dosbarthiad oedran cyffredinol y cwsmeriaid. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth fonitro hefyd yn dangos bod hanner defnyddwyr prawf Morrisby o dan 40 oed, sy'n cyd-fynd â thystiolaeth y cynghorwyr nad oedd oedran fel arfer yn ffactor wrth benderfynu a fyddai cwsmer yn elwa o adolygiad gyrfa.

Roedd y rhan fwyaf o’r cynghorwyr gyrfaoedd wedi mynychu gweminar Ailddyfeisio Gyrfa a gynigiwyd gan Gyrfa Cymru. Roedd yr adborth yn gadarnhaol ac roedd y weminar yn galonogol i rai cynghorwyr gyrfa, gan eu bod yn teimlo ei bod yn cadarnhau eu bod eisoes mewn sefyllfa dda i gynnal ACGau. Roeddent yn deall o'r hyfforddiant bod y math hwn o gymorth yn dibynnu ar yr un set o sgiliau â chyfarwyddyd mwy cyffredinol, gan ychwanegu offer penodol.

Roedd mwyafrif y cynghorwyr gyrfaoedd a gyfwelwyd wedi derbyn hyfforddiant yr Arweinwyr Arian. Roeddynt o’r farn bod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol i gryfhau eu dealltwriaeth o dirwedd cymorth ariannol. Ar y cyfan, roedd cynghorwyr gyrfaoedd yn teimlo eu bod mewn gwell sefyllfa i anfon cwsmeriaid at y darparwr cymorth ariannol priodol, ond roeddent yn dal i deimlo bod cynnig unrhyw gymorth eu hunain y tu hwnt i'w cylch gwaith.

Datblygodd tîm Cymru’n Gweithio eu dull marchnata er mwyn cynorthwyo darpar gynulleidfaoedd i ymgysylltu’n well â chymorth ACG. Roedd hyn yn cynnwys datblygu cyfres o astudiaethau achos, gan roi sylw i straeon amrywiaeth o unigolion sydd wedi derbyn adolygiad gyrfa, ac ymgyrch fwy 'emosiynol' yn pwysleisio'r effaith y gallai adolygiad gyrfa ei chael ar foddhad swydd a chydbwysedd bywyd a gwaith unigolyn. Roedd y cynghorwyr gyrfaoedd a’r rhanddeiliaid yn gadarnhaol ynghylch y dull marchnata diwygiedig, gan awgrymu bod yr ymgyrch newydd yn ymgysylltu â phobl yn glir ac yn gryno.

Roedd y cynghorwyr gyrfaoedd hefyd yn ystyried bod y term 'adolygiad canol gyrfa' neu 'adolygiad gyrfa' yn gadarnhaol, yn enwedig fel ffordd i farchnata'r cymorth. Er bod cynghorwyr gyrfaoedd yn nodi mai anaml y maent yn ei ddefnyddio mewn gwaith o ddydd i ddydd gyda chwsmeriaid a sefydliadau partner, nodwyd bod rhoi label i'r adolygiad canol gyrfa yn ddefnyddiol. Roedd rhai o’r farn bod y teitl wedi helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd bod cyngor gyrfaoedd ar gael i bobl o bob oed ac mewn unrhyw amgylchiadau cyflogaeth, gan fynd i’r afael â chamdybiaethau bod y cymorth wedi’i ddylunio ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol a phobl ddi-waith yn unig.

Dwedodd cynghorwyr gyrfaoedd fod angen a dymuniad clir am ACGau ymhlith cwsmeriaid. Dwedwyd bod y math hwn o gymorth yn amhrisiadwy ac yn hynod fuddiol i’w cwsmeriaid, ac nid oeddent yn ymwybodol o unrhyw sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n darparu gwasanaeth tebyg. Roedd rhai o’r farn bod ystyried y cymorth fel ACG yn rhoi strwythur i’r broses fyfyriol, a nododd eraill fod natur y gwasanaeth o ganolbwyntio ar y person yn ffactor hollbwysig yn ei lwyddiant.

Roedd cynghorwyr gyrfaoedd o’r farn bod pa mor gyffredin yw rhagfarn ar sail oed yn y gweithle yn rhwystr parhaus wrth gynorthwyo cwsmeriaid hŷn, ynghyd â stereoteipiau ynghylch oedran a gwaith, a’r canfyddiad parhaus mai rhywbeth i bobl ifanc neu ddi-waith yn unig yw cyfarwyddyd gyrfaoedd. Roedd rhai cynghorwyr hefyd yn ei chael yn anodd cynorthwyo cwsmeriaid ag anghenion cymorth sylweddol oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau.

Adolygu’r arfer o ddefnyddio Adolygiadau Gyrfa yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig

Ni ddatgelodd yr adolygiad desg gorff mawr o lenyddiaeth o'r Deyrnas Unedig yn ymwneud â’r arfer o ddefnyddio adolygiadau gyrfa. Yn gyffredinol, mae ymchwil a llenyddiaeth yn y Deyrnas Unedig wedi canolbwyntio mwy ar agweddau gweithwyr hŷn neu'n ddarnau eiriolaeth ar gyfer newidiadau penodol mewn ymarfer fel mwy o ffocws ar gynorthwyo gweithwyr hŷn ar gynllunio pensiwn. Gallai rhaglen ar raddfa fawr fel Cymru’n Gweithio chwarae rôl arweiniol wrth ddeall ac amlinellu arferion da ynghylch adolygiadau gyrfa i weithwyr o bob oed.

Mae tystiolaeth sylfaenol o'r gwaith ymchwil hwn, yn ogystal â thystiolaeth o'r llenyddiaeth, wedi dangos bod llawer o weithwyr, waeth beth fo'u hoedran, yn elwa ar adolygiad gyrfa sydd wedi'i deilwra i'w sefyllfa waith bresennol a'u dyheadau a'u dymuniadau i’r dyfodol. Fodd bynnag, mae'r llenyddiaeth hefyd wedi amlygu bod adolygiadau gyrfa yn aml yn cael eu camddeall, a bod gweithwyr yn aml yn nodi bod yr adolygiadau wedi rhagori'n sylweddol ar eu disgwyliadau isel cychwynnol.

Mae’r llenyddiaeth yn pwysleisio bod gweithwyr hŷn yn arbennig yn fwy tebygol o wynebu heriau sy’n ymwneud â’u sefyllfa ariannol, naill ai o ran dyled neu bensiynau, gan nodi bod hyfforddiant i wella dealltwriaeth cynghorwyr o gyngor ariannol a’r sefydliadau sydd fwyaf addas i ddarparu cymorth yn cyd-fynd yn dda ag arferion da.

Adolygu’r arfer o ddefnyddio Adolygiadau Gyrfa yn rhyngwladol

Mae'r llenyddiaeth wedi amlygu'r amrywiaeth eang o ffactorau a all effeithio ar allu unigolyn i weithio, a gallai'r dull gweithredu wedi'i deilwra y mae Cymru'n Gweithio yn ei ddefnyddio yn eu ACGau fod yn ffordd effeithiol i ddarparu'r math hwn o gymorth.

Dechreuodd y Model Gallu i Weithio yn y Ffindir ar ddechrau’r 1980au. Pwrpas cychwynnol y model (a’r Mynegai Gallu i Weithio cyfatebol) oedd rhagweld oedran ymddeol, ac roedd wedi’i wreiddio’n gryf mewn ymchwil iechyd [troednodyn 4]. Ers hynny mae'r model wedi integreiddio ffactorau sy'n ymwneud â galluoedd a gwybodaeth unigolyn mewn perthynas â gwaith, yn ogystal â'u cymhellion mewn bywyd gwaith. Gallai rhoi arferion fel y Mynegai Gallu i Weithio ar waith helpu cynghorwyr gyrfaoedd a chwsmeriaid i nodi anghenion sy'n ymwneud ag iechyd, a fyddai'n galluogi bod yn fwy effeithiol wrth gyfeirio at weithwyr iechyd proffesiynol cymwys fel rhan o adolygiad gyrfa.

Casgliadau

Mae cydnabod safle allweddol Cymru’n Gweithio o ran darparu ACGau wedi galluogi’r gwasanaeth i dyfu drwy ehangu eu harlwy adolygiad gyrfa a rhoi’r cyfle i gwblhau prawf seicometrig Morrisby pan fo’n briodol. Arweiniodd hyn hefyd at farchnata’n well, gan ganolbwyntio ar 'adolygiad gyrfa', i dargedu grŵp oedran hŷn yn benodol a darparu cyfleoedd hyfforddi i gynghorwyr gyrfaoedd i ddatblygu eu gwybodaeth am gymorth ariannol a chyfeirio ymhellach.

Mae'r gwaith ymchwil hwn yn dangos bod gweithwyr yn aml yn elwa o adolygiad gyrfa yn fwy nag yr oeddent yn ei ragweld i ddechrau. Mae’r manteision eang sy’n deillio o unigolion cyflogedig yn derbyn ACG yn awgrymu y byddai’n fuddiol i wasanaeth Cymru’n Gweithio weithio gyda chyflogwyr i gynnig adolygiadau gyrfa. Mae gan farchnata rôl gref i'w chwarae wrth gyfleu i ddarpar gwsmeriaid sut y gallai adolygiad gyrfa fod o fudd i'w sefyllfa bresennol.

Mae'r gwaith ymchwil hwn hefyd wedi canfod nad yw'r angen am adolygiad gyrfa na’r modd y caiff ei weithredu i gychwyn yn newid yn sylweddol gydag oedran. Roedd ACGau a ddarparwyd gan Cymru’n Gweithio wedi mabwysiadu dull wedi’i deilwra at gymorth o’r cychwyn cyntaf, gyda’r nod o fynd i’r afael â’r heriau y mae eu cwsmeriaid yn eu cyflwyno ynghyd â rhannu gwybodaeth am y farchnad lafur a bylchau sgiliau presennol ac yn y dyfodol.

Er bod cyflwyno’r ACG wedi’i ystyried yn gadarnhaol iawn o safbwynt marchnata, mae ei ddefnydd fel terminoleg i ddisgrifio adolygiad gyrfa, ar adegau, wedi achosi dryswch ymhlith staff. Nododd cynghorwyr gyrfaoedd nad ydynt fel arfer yn defnyddio'r term 'adolygiad canol gyrfa' wrth drafod â chwsmeriaid ac nad oedd ffactor gwahaniaethu clir a oedd yn caniatáu i ACGau gael eu monitro'n hawdd fel gwasanaeth ar wahân i gyngor gyrfaoedd. Mae’n amlwg nad yw arlwy ACGau yn wahanol iawn i arlwy cymorth Cymru’n Gweithio cyn cyhoeddi’r ACGau.

Roedd y cynghorwyr yn gadarnhaol ar y cyfan am yr hyfforddiant a gawsant wrth baratoi i ddefnyddio'r ACGau ac offeryn Morrisby. Roedd staff o'r farn bod prawf seicometrig Morrisby yn offeryn defnyddiol wrth ymdrin â chwsmeriaid a oedd yn ansicr ynghylch eu camau gyrfa nesaf ac a oedd â lefel ddigonol o sgiliau TG. Fodd bynnag, pan fydd cwsmeriaid yn cwblhau'r prawf heb arweiniad proffesiynol gan gynghorydd gyrfaoedd, mae risg eu bod am gael cyngor o ansawdd is na phe byddent yn gwneud hynny gyda chynghorydd gyrfaoedd.

Argymhellion

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd yn y gwaith ymchwil hwn, mae’r argymhellion canlynol wedi’u nodi er mwyn cynorthwyo a gwella’r broses o gyflawni ACGau yn y dyfodol.

Argymhelliad 1

Dylai Cymru’n Gweithio barhau i gynnig adolygiadau gyrfa i gwsmeriaid o bob oed ac i’r rheini sy’n gyflogedig, ond symud i ffwrdd o ‘Adolygiadau Canol Gyrfa’ ac ailfrandio arlwy Cymru’n Gweithio fel ‘Adolygiadau Gyrfa’. Bydd hyn yn sicrhau bod adolygiadau gyrfa yn parhau i gael eu hystyried yn gymorth hygyrch a buddiol i gwsmeriaid o bob oed. Dylid defnyddio’r term 'Adolygiadau Gyrfa' yn neunydd marchnata Cymru'n Gweithio. Mae tystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r gwaith ymchwil hwn yn awgrymu bod y term yn gliriach wrth gyfleu'r gwasanaethau a'r cymorth y gellir eu cynnig i ddarpar gwsmeriaid.

Argymhelliad 2

Dylai’r cymorth adolygu gyrfa sy’n cael ei gynnig barhau i fod wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion penodol cwsmeriaid unigol, gan ystyried gwybodaeth am y farchnad lafur a bylchau mewn sgiliau nawr ac yn y dyfodol. Dylai gwasanaeth Cymru’n Gweithio hefyd ehangu ei rwydwaith o sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt fel bod modd cyfeirio at sefydliadau sy’n arbenigo mewn meysydd fel iechyd meddwl ac iechyd galwedigaethol. Drwy wneud hynny, gall Cymru’n Gweithio sicrhau bod yr adolygiad gyrfa sy’n cael ei gynnig yn cynorthwyo unigolion yn effeithiol ac yn cyfrannu at ddiogelu gweithlu Cymru at y dyfodol.

Argymhelliad 3

Dylai Gyrfa Cymru fynd ati’n rhagweithiol i geisio deall y gwahanol faterion sy’n wynebu gwahanol garfannau o gwsmeriaid y mae angen adolygiad gyrfa arnynt er mwyn gwella a thargedu’r marchnata ymhellach. Amlygodd cynghorwyr gyrfaoedd a rhanddeiliaid fod marchnata wedi’i dargedu ar gyfer ACGau wedi golygu ymgysylltu’n llwyddiannus â chwsmeriaid hŷn oherwydd bod y deunydd marchnata wedi cyflwyno pryderon ac anghenion y ddemograffeg honno yn effeithiol ac yn emosiynol. Gall marchnata sy'n cyfeirio'n benodol at yr heriau y mae gweithwyr yn eu hwynebu ar wahanol gamau o'u gyrfa fod yn fwy effeithiol wrth gyfleu manteision arlwy Cymru'n Gweithio i amrywiaeth o gwsmeriaid.

Argymhelliad 4

Os oes angen archwiliad manylach o gyrhaeddiad yr arlwy adolygu gyrfa neu effaith cymorth adolygu gyrfa, ar wahân i gymorth ehangach Cymru’n Gweithio, bydd angen dynodwyr pendant o fewn y wybodaeth fonitro. Gallai hyn gynnwys olrhain pynciau sgwrsio penodol e.e. cynllunio ymddeoliad, cwsmeriaid sydd eisiau newid diwydiant neu eisiau uwchsgilio yn eu maes eu hunain, neu fesurau mesuradwy eraill. O fewn y gwaith ymchwil hwn, ni fu’n bosibl asesu cyrhaeddiad arlwy’r ACGau yn benodol o fewn Cymru’n Gweithio oherwydd bod rhanddeiliaid a chynghorwyr gyrfaoedd o’r farn nad yw’r arlwy yn glir o wahanol i’r cymorth y mae cwsmeriaid yn ei gael fel arfer gan Cymru’n Gweithio. Bydd angen y fframwaith monitro hwn fel sylfaen ar gyfer unrhyw waith ymchwil pellach i ddeall gwerth ychwanegol ac effaith adolygiadau gyrfa ar ganlyniadau cwsmeriaid, sy'n wahanol ac ar wahân i arlwy ehangach Cymru'n Gweithio, gan gynnwys ymchwil hydredol.

Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal deialog reolaidd â gwasanaeth Cymru’n Gweithio, sy’n cynnwys trafod polisïau a chanfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o gyflawniad y rhaglen, a thrwy hynny sicrhau bod Cymru’n Gweithio yn parhau i fod mewn sefyllfa strategol i ymateb i anghenion Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach.

Troednodiadau

[1] Noder bod hyn yn cynnwys pobl ifanc 15 oed sy’n troi'n 16 oed yn yr un flwyddyn academaidd.

[2] Mae rhanddeiliaid yn yr adroddiad hwn yn cyfeirio at randdeiliaid mewnol ac allanol.

[3] Deellir bod y drwydded hon yn cyfateb i 500 o brofion Morrisby ar gyfer cwsmeriaid Cymru'n Gweithio.

[4] Comcare, The Work Ability Approach, Awst 2013.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Rhys Maher, Anna Burgess, Shanti Rao, Andy Parkinson, Oliver Allies

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sean Homer
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 73/2024
ISBN digidol 978-1-83625-658-8

Image
GSR logo