Neidio i'r prif gynnwy

Cam 

Ysgrifenyddiaeth i adolygu ac ailrannu’r ddogfen gweithdrefnau’r CPG ar gyfer sêl bendith ar ôl ystyried y pwyntiau a godwyd gan (DW a GL ym mharagraffau 7, a 12 yn y drefn honno) cyn cyfarfod nesaf y Cyngor.   

Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG 

Diweddariad: Bydd trafodaethau ar ddiwygiadau posibl i weithdrefnau'r CPG yn cael eu cynnal y tu allan i gyfarfodydd gyda'r bwriad o gyflwyno'r ddogfen derfynol i gyfarfod y Cyngor fis Gorffennaf.  

Statws: Parhaus

Cam

Swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod cyfranogiad y TUC yn ysgrifenyddiaeth CPG fel y'i codwyd gan DW gyda chynrychiolwyr y gweithwyr.

Arwain: Swyddogion Llywodraeth Cymru   

Diweddariad: Mae swyddogion Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Cyffredinol Cymru y TUC wedi trafod a bydd yr ysgrifenyddiaeth yn sicrhau bod y secondai presennol yn ymwneud â’i  waith.

Statws: Cwblhau

Cam

Cytunodd AC i fwydo trafodaethau o'r cyfarfod ar gasglu data ar lefel awdurdodau lleol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol gyda Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru fel rhan o adroddiad Llesiant Blynyddol Cymru.

Arwain: Swyddog Llywodraeth Cymru  

Diweddariad: Mae'r Prif Ystadegydd wedi cael gwybod am drafodaethau'r Cyngor.

Statws: Cwblhau

Cam

Cytunodd DMSP i rannu'r 56 adroddiad partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024/25 pe bai aelodau’r CPG yn dymuno eu gweld.

Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG

Diweddariad: Gweithredu pan fydd yr adroddiadau wedi'u cyhoeddi.

Statws: Parhaus

Cam

CPG i ystyried sefydlu is-grŵp i edrych yn benodol ar gaffael meddalwedd Deallusrwydd Artiffisial a'i effaith ar y gweithlu. 

Arwain: Aelodau’r CPG

Diweddariad: Disgwylir i is-grŵp Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar Ddeallusrwydd Artiffisial adrodd ym mis Tachwedd ac mae potensial i'r adroddiad gael ei gyflwyno yn y cyfarfod CPG nesaf ar ôl ei gyhoeddi fel y gall y CPG ystyried ei gamau nesaf er mwyn osgoi dyblygu gwaith.

Statws: Parhaus

Cam

SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y CPG yn cael ei ddiweddaru ar ffurf briffiau technegol ar faterion caffael yn ogystal â datblygu'r Is-grŵp Caffael.

Arwain: Swyddog Llywodraeth Cymru

Diweddariad: Mae diweddariad wedi'i ddarparu i gyfarfod mis Mehefin fel papur i'w nodi.  Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu fel y bo'n briodol.

Statws: Parhaus

Cam

Ychwanegu 'Y potensial i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle' at agenda cyfarfod nesaf y CPG.   

Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG    

Diweddariad: Gohiriwyd y papur hwn i gyfarfod mis Gorffennaf, er mwyn sicrhau bod amser ar gyfer trafodaeth lawn, mae agenda mis Mehefin yn canolbwyntio ar ymgynghori â'r CPG ar flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ac adolygu amcanion llesiant.

Statws: Parhaus

Cam

Nododd DMSP y byddai eitem 11 (Blaenraglen Gwaith) yn cael ei hychwanegu at yr agenda CPG nesaf.

Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG  

Diweddariad: Cyflwynwyd rhaglen waith amlinellol i'r dyfodol fel papur i'w nodi ar gyfer cyfarfod mis Mehefin cyn trafodaeth lawn yng nghyfarfod mis Gorffennaf.

Statws: Cwblhau

Cam

Aelodau i gyflwyno unrhyw gynigion ar gyfer agenda'r cyfarfod CPG nesaf i ysgrifenyddiaeth CPG. 

Arwain: Aelodau CPG

Diweddariad: Gofynnwyd i'r Aelodau gyflwyno cynigion ar yr agenda pan rannwyd cofnodion drafft y cyfarfod cyntaf, a chawsant eu hatgoffa o'r cais pan gadarnhawyd dyddiad cyfarfod mis Mehefin.

Statws: Cwblhau

Cam

Aelodau CPG i rannu eu dewisiadau ar gyfer  dyddiad, lleoliad a fformat cyfarfod nesaf y Cyngor i Ysgrifenyddiaeth CPG

Arwain: Aelodau CPG

Diweddariad: Gofynnwyd i'r Aelodau am eu barn pan ddosbarthwyd cofnodion drafft y cyfarfod cyntaf. 

Statws: Cwblhau

Cam

Ysgrifenyddiaeth CPG i gydlynu trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyngor. 

Arwain: Ysgrifenyddiaeth CPG

Diweddariad: Anfonwyd gwahoddiad at yr aelodau ar 17 Mai.

Statws: Cwblhau