Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i hawlio ad-daliad Treth Trafodiadau Tir (TTT) os yw eich eiddo yn adfeiliedig neu'n anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd. 

Gallwch wneud cais neu ddiwygio eich ffurflen os: 

  • mai chi yw prynwr yr eiddo
  • mai chi yw’r cyfreithiwr neu'r trawsgludydd a weithredodd dros y prynwr yn y pryniant gwreiddiol
  • ydych yn rhywun arall sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu ar ran y prynwr 

Cyn i chi ddechrau

Darllenwch ein canllaw eiddo adfeiliedig i ganfod a yw eich eiddo yn adfeiliedig neu'n anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd.

Bydd arnoch angen: 

  • Eich manylion.
  • Manylion y prif brynwr os ydyn nhw’n wahanol i'ch manylion chi.
  • Manylion y trafodiad gwreiddiol.
  • Cyfeirnod unigryw, 12 digid, y trafodiad (CUT). 
  • Tystiolaeth sy'n dangos fod yr eiddo’n adfeiliedig neu'n anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd.
  • Swm y dreth a dalwyd yn wreiddiol.
  • Faint o dreth sydd i’w ad-dalu.
  • Manylion cyfrif banc a chod didoli’r person fydd yn derbyn y taliad. 

Tystiolaeth sy'n dangos fod yr eiddo’n adfeiliedig neu'n anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd. 

Bydd angen i chi uwchlwytho copïau electronig sy'n dangos:

  • tystiolaeth sy'n dangos fod eich eiddo’n adfeiliedig neu'n anaddas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd   
  • cyflwr yr eiddo
  • unrhyw waith atgyweirio sydd angen ei wneud 
Tystiolaeth a argymhellir 
  • Adroddiadau, fel:
    • adroddiad prynwyr cartrefi Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
    • adroddiad syrfewr
    • adroddiad strwythurol
    • adroddiad arolygydd adeiladau
  • Ffotograffau o gyflwr yr eiddo.
  • Manylion gwerthu.

Yn ogystal â'r dystiolaeth hon, gallwch uwchlwytho:   

  • contract gwerthu 
  • caniatâd cynllunio 
  • anfonebau a derbynebau am waith a gwblhawyd 
  • ffurflen esemptiad rhag y Dreth Gyngor
Tystiolaeth na allwn ei derbyn
  • ffotograffau a dynnwyd ar ôl y dyddiad dod i rym, ar ôl i'r gwaith atgyweirio ddechrau
  • delweddau aneglur, lle mae graen ffilm neu bicseli yn amlwg 

Cysylltwch â ni os oes arnoch angen cyflwyno hawliad neu welliant heb dystiolaeth ategol.

Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth 

Edrychwch ar ein polisi preifatrwydd i weld sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni. 

Cymorth 

Os oes angen cymorth arnoch neu os hoffech y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni