Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1: Croeso/Sylwadau Agoriadol

  1. Croesawodd y Prif Weinidog bawb i ail gyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG). Eglurodd y byddai'n cadeirio'r tair eitem gyntaf cyn trosglwyddo’r dasg o gadeirio'r cyfarfod i'r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y berthynas waith effeithiol a sefydlwyd yn ystod y pandemig drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol ac roedd yn edrych ymlaen at gynnal trafodaethau yn y dyfodol yn y CPG gyda'r un lefel o ymddiriedaeth. Nododd ymddiheuriadau gan Janis Richards (Make UK Ltd).

Eitem 2: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

  1. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'n ymdrin â Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru am gyfnod byr cyn gofyn i Charlie Thomas, Pennaeth Is-adran Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o fanylion am y broses ddeddfwriaethol. Eglurodd y byddai'r eitem hon yn ategu'r eitem nesaf lle byddai'n amlinellu blaenoriaethau deddfwriaethol presennol Llywodraeth Cymru. 
     
  2. Eglurodd y Prif Weinidog, er nad deddfwriaeth oedd yr ateb bob tro i faterion polisi, ei fod yn un o'r prif ysgogiadau a oedd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau newid. Pwysleisiodd bwysigrwydd defnyddio'r CPG i drafod y rhaglen ddeddfwriaethol fel rhan o gyflawni dyletswyddau Llywodraeth Cymru o dan y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'n gwneud ei ddatganiad blynyddol ar y rhaglen ddeddfwriaethol yn y Senedd ym mis Gorffennaf, a bod hon yn foment briodol i drafod blaenoriaethau deddfwriaethol gyda'r Cyngor. Cyn gwneud hynny, eglurodd y byddai'n ddefnyddiol amlinellu'r broses weinyddol sy'n sail i gyflwyno'r rhaglen. 
     
  3. Gofynnodd y Prif Weinidog i'r aelodau ystyried sefyllfa'r rhaglen ddeddfwriaethol gyfredol 5 mlynedd, gyda 3 blynedd bellach wedi mynd heibio. Pwysleisiodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn canolbwyntio ar sicrhau bod blaenoriaethau deddfwriaethol a oedd eisoes yn cael eu datblygu yn cael eu cyflawni. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai cyfleoedd am drafodaethau ehangach yn nes at etholiad nesaf y Senedd ynghylch deddfwriaeth bosibl ar gyfer y tymor nesaf. Pwysleisiodd bwysigrwydd trafod y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn y cyfarfod hwn ac roedd yn edrych ymlaen at drafodaethau pellach o dan yr eitem nesaf. 

Yna, gofynnodd y Prif Weinidog i Charlie Thomas gyflwyno’r broses ddeddfwriaethol i'r CPG.

  1. Trafododd Charlie Thomas ei rôl yn gryno o fewn Llywodraeth Cymru fel Pennaeth yr Is-adran Ddeddfwriaeth. Rhoddodd gyflwyniad yn amlinellu gwahanol agweddau ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol gan gynnwys y mathau o Filiau ac is-deddfwriaethau a ddygir gerbron y Senedd. Eglurodd sut y datblygwyd y Rhaglen drwy'r Cabinet ac Is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer y Rhaglen Ddeddfwriaethol, gan ddiweddu yn natganiad blynyddol y Prif Weinidog yn y Senedd. Rhoddodd Charlie amlinelliad o'r Biliau a gyhoeddwyd yn y datganiad blynyddol ar gyfer 2023 i 2024 a sut y lluniwyd y rhaglen gydol tymor y Senedd. Gorffennodd y cyflwyniad drwy dynnu sylw at y llinell amser ar gyfer ymgysylltu ar Filiau gan edrych ar y gwahanol gamau o ddatblygu polisi, craffu a chychwyn yn y Senedd.
     
  2. Amlinellodd Charlie y gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu polisi, yr arbenigedd technegol sydd ei angen, pwysigrwydd defnyddio adnoddau cyfyngedig Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn briodol, a'r angen i gydymffurfio ag amserlenni a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd. Esboniodd rai o'r dewisiadau amgen i ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol a'r rôl bwysig a chwaraeodd Is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer y Rhaglen Ddeddfwriaethol wrth ystyried blaenoriaethau'r Bil. Cadarnhaodd Charlie fod y ffocws bellach ar ddarparu'r eitemau mwyaf arwyddocaol o fewn yr amser sy'n weddill ar bwynt blwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol. 
     
  3. Pwysleisiodd y Prif Weinidog gymhlethdod cyflwyno deddfwriaeth, gan ailadrodd y llinellau amser tynn a'r adnoddau arbenigol dan sylw. 
     
  4. Gofynnodd Shavanah Taj (TUC Cymru) a allai aelodau dderbyn papur diweddaru rheolaidd ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Gan gyfeirio at ddewisiadau amgen posibl i ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol, roedd Shavanah o'r farn y byddai'n fuddiol i aelodau ddeall yn well pa opsiynau deddfwriaethol nad oedden nhw’n sylfaenol oedd ar gael i'r Cabinet. 
     
  5. Cefnogodd y Prif Weinidog y cynnig i ddarparu papur i'w nodi i'r CPG ar gynnydd y rhaglen ddeddfwriaethol. Pwysleisiodd gymhlethdod darparu rhagor o wybodaeth am opsiynau anneddfwriaethol, gan egluro bod hyn yn dibynnu ar yr amcanion polisi penodol sy'n cael eu ceisio. Gofynnodd y Prif Weinidog i'r aelodau ysgrifennu at Ysgrifenyddiaeth y CPG gyda'u sylwadau ar y blaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer gweddill y rhaglen ddeddfwriaethol bresennol erbyn 21 Mehefin.
     
  6. Gofynnodd Ian Price (CBI) o dan ba amgylchiadau y byddai Biliau Brys yn cael eu defnyddio a'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'u datblygiad. 
     
  7. Pwysleisiodd Charlie mai dan amgylchiadau eithriadol yn unig y defnyddir Biliau Brys, megis ymateb i fygythiadau sy'n datblygu'n gyflym ac amlinellod y broses dan sylw yn gryno. Esboniodd, mewn rhai achosion, y gallai’r Senedd, serch hynny, ystyried Biliau na fyddent yn bodloni’r meini prawf i graffu arnynt o dan weithdrefn Frys o dan graffu carlam/cyflym, er enghraifft, os oeddent, yn Filiau mater byr/un mater neu eisoes wedi bod yn destun ymgynghori a chraffu manwl.

Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth CPG i ddarparu papur i'w nodi i'r CPG ar gynnydd y Rhaglen Ddeddfwriaethol.

Gweithredu: Aelodau CPG i roi sylwadau ar flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru erbyn 21 Mehefin i'r Ysgrifenyddiaeth. 

Eitem 3: Cyfrinachol: Aelodau yn unig – Ymgynghoriad ar Flaenoriaethau Deddfwriaethol Gweinidogion Cymru

  1. Pwrpas yr eitem hon oedd ymgynghori â'r CPG yn gynnar yn y broses o gytuno ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Felly, nid oedd y wybodaeth a ddarparwyd i aelodau yn y parth cyhoeddus ac felly ni ellid ei datgelu.
     
  2. Ymgynghorodd y Prif Weinidog â'r CPG ar flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Senedd. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar yr hyn a fyddai'n cael yr effaith fwyaf ar ddinasyddion. Byddai'r sylwadau a godwyd yn cael eu bwydo'n ôl i'r Cabinet wrth gwblhau'r rhaglen ond cytunwyd na fyddai'r rhain yn cael eu cofnodi yn y cofnodion.
     
  3. Cododd Neil Butler (NASUWT) faterion yn ymwneud â'r sector Addysg nad ydyn nhw’n dod o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a'r anawsterau yr oedd hyn yn parhau i'w hachosi.
     
  4. Mynegodd Gareth Lloyd (UCU) bryderon am lefelau cyfranogiad AU.

Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth CPG i wneud aelodau'n ymwybodol pan fydd ymgynghoriad Cam 1 ar un o'r Biliau a drafodwyd yn cael ei lansio. 

Eitem 4: Cyfrinachol: Aelodau yn unig – Adolygu Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru

  1. Pwrpas yr eitem hon oedd ymgynghori â'r CPG yn gynnar yn y broses o adolygu amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. Felly, nid oedd y wybodaeth a ddarparwyd i aelodau yn y parth cyhoeddus ac felly ni ellid ei datgelu.
     
  2. Yn dilyn ymadawiad y Prif Weinidog, cymerodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol yr awenau i gadeirio'r cyfarfod. Cyflwynodd y Gweinidog ei hun i'r aelodau. Eglurodd fod Adran 12 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu eu hamcanion llesiant yn flynyddol a chyhoeddi, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed tuag at eu cyflawni. Pwysleisiodd y Gweinidog y byddai cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf yn cyflawni'r ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i adrodd ar gynnydd ac y byddai'n cynnwys canlyniad yr adolygiad.
     
  3. Ar ran y cysylltiadau undeb yng Nghymru, diolchodd Shavanah Taj i Hannah Blythyn A am ei gwaith ar bartneriaeth gymdeithasol gan gynnwys mynd â'r ddeddfwriaeth drwy'r Senedd. Croesawodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol newydd, Sarah Murphy AS, i'r rôl, gan nodi ei bod eisoes wedi mynychu Cyngres TUC Cymru y mis blaenorol.
     
  4. Croesawodd Jessica Turner (Unsain) y cyfle i gyfrannu a hybu pwysigrwydd bod yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy clir mewn perthynas â'r math o farchnad lafur, economi a gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar Gymru. Roedd hyn yn cynnwys blaenoriaethu undebaeth lafur fel y llwybr i wneud gwaith yn decach, amddiffyn diwydiant yng Nghymru, ymrwymiad cliriach i geisio dod â thlodi i ben, ac uchelgais i fewnoli gwasanaethau cyhoeddus fel eu bod yn cael eu darparu gan bobl a gyflogir yn uniongyrchol gan y sector cyhoeddus. Pwysleisiodd y dylai hyn gael ffocws tymor hwy ar leihau'r risg o dlodi yn hwyrach mewn bywyd gan y byddai unrhyw 'arbedion' o drefnu drwy gontract allanol yn arwain at gost i ffyniant gweithwyr ar ffurf pensiynau.
     
  5. Gofynnodd y Gweinidog i'r SPC ystyried a oedd yn cytuno y dylai'r amcanion barhau fel y meysydd y gallai Llywodraeth Cymru, wrth gyflawni ei swyddogaethau, wneud y mwyaf o'i chyfraniad at bob un o'r nodau llesiant. Os nad oedd hynny'n wir, gofynnodd y Gweinidog i'r aelodau nodi pa un o'r amcanion ddylai newid, i beth y dylent newid a'r rhesymau pam.
     
  6. Rhoddodd aelodau’r CPG farn ar yr adolygiad blynyddol o'r amcanion llesiant. Gan fod hon yn eitem gyfrinachol ni chofnodwyd yr awgrymiadau manwl a godwyd gan aelodau yn y cofnodion. 
     
  7. Gofynnodd y Gweinidog i'r aelodau ddarparu ymatebion erbyn 21 Mehefin fel y gallai'r Cabinet ystyried safbwyntiau'r CPG fel rhan o'r adolygiad eleni o'r amcanion llesiant. 

Gweithredu: Aelodau’r CPG i roi sylwadau ar adolygiad blynyddol Llywodraeth Cymru o'r amcanion Llesiant erbyn 21 Mehefin i'r Ysgrifenyddiaeth. 

Eitem 5: Cyfarfod Nesaf – dyddiad a lleoliad

  1. Ymddiheurodd y Gweinidog nad oedd Ysgrifenyddiaeth y CPG wedi gallu cadarnhau'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod hwn o fewn y 4 wythnos a fyddai'n cael ei ddarparu fel arfer ac nad oedd yr agenda derfynol wedi'i chyhoeddi bythefnos ymlaen llaw.
     
  2. Dywedodd y Gweinidog wrth yr aelodau fod rheoliadau i ymestyn y dyletswyddau Llesiant ac felly fod dyletswyddau'r bartneriaeth gymdeithasol i 8 corff cyhoeddus ychwanegol wedi'u gosod gerbron y Senedd. Ychwanegodd y Gweinidog y byddai'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) ym mis Awst hefyd yn dod yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau llesiant ac felly'r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol yn sgil diddymiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). 
     
  3. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai cyfarfod nesaf y CPG yn cael ei gynnal ar 10 Gorffennaf rhwng 10:30am a 12:00pm ac y byddai'r agenda ddrafft yn cael ei darparu ar gyfer sylwadau yn ddiweddarach yn yr wythnos. Awgrymodd y gallai'r cyfarfod gael ei ddefnyddio i drafod y potensial i'r CPG gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth, Deallusrwydd Artiffisial yn y gweithle a'r defnydd o gyllid Llywodraeth Cymru i annog arferion gwaith teg. 
     
  4. Pwysleisiodd Shavanah Taj (TUC Cymru) ar ran y cysylltiadau undeb yng Nghymru, bwysigrwydd y CPG yn trafod y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol yn rheolaidd. Awgrymodd Shavanah y byddai'n fuddiol i'r Prif Weinidog ystyried cynnal cyfarfod ychwanegol ym mis Medi o ystyried y byddai'r Etholiad Cyffredinol yn debygol o arwain at newid llywodraeth ar lefel y DU. Eglurodd y byddai hyn yn cael goblygiadau i Gymru gan gynnwys meysydd o fewn cwmpas y CPG a pholisi datganoledig. 
     
  5. Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd aelodau yn cyflwyno eu barn i Ysgrifenyddiaeth y CPG ar eitemau 3 a 4 sy'n ymdrin â blaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ac adolygu'r amcanion llesiant erbyn 21 Mehefin.

Eitem 6: Cofnodion y cyfarfod diwethaf / materion yn codi

  1. Gofynnodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol i'r aelodau a oedd unrhyw broblemau gyda'r materion a oedd yn codi yn y papur ar gyfer yr eitem hon.
     
  2. Cytunodd y CPG ar y materion a gododd a chofnodion y cyfarfod blaenorol.
     
  3. Daeth y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol â'r cyfarfod i ben.

Presenoldeb y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG): 4 Mehefin 2024

Llywodraeth Cymru

Vaughan Gething AS, Prif Weinidog Cymru 
Sarah Murphy AS, Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol
Jo Salway, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
Catrin Sully, Dirprwy Bennaeth Swyddfa'r Cabinet
Charlie Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Deddfwriaeth

Cynrychiolwyr y Gweithwyr 

Ruth Brady, GMB
Neil Butler, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau
Peter Hughes, Uno'r Undeb
Gareth Lloyd, Undeb y Brifysgol a'r Coleg
Shavanah Taj, Wales TUC Cymru 
Jess Turner, UNSAIN
Mike Walker, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol
Helen Whyley, Coleg Brenhinol Nyrsio
Darren Williams, Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol

Cynrychiolwyr y Cyflogwyr 

Pippa Britton, Trydydd Sector
Y Fonesig Elan Closs-Stephens, Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus
Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Yr Athro Wendy Larner, Prifysgol Caerdydd
Ian Price, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru
Nicola Prygodzicz, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Kathryn Robson, Addysg Oedolion Cymru

Cymorth Ysgrifenyddiaeth/Sylwedyddion

Alex Bevan, Llywodraeth Cymru (Cynghorydd Arbennig)
Rachel Garside-Jones, Llywodraeth Cymru
David Hagendyk, Llywodraeth Cymru (Cynghorydd Arbennig)
Zoe Holland, Llywodraeth Cymru
Mark Lewis, Llywodraeth Cymru
Harvey McCabe, Make UK Ltd (yn arsylwi ar gyfer Janis Richards)

Ymddiheuriadau

Janis Richards, Make UK Ltd