Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018: canllawiau i awdurdodau lleol ar drefniadau dros dro ar gyllid ar gyfer lleoliadau arbenigol anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ôl-16
Gwybodaeth ar ariannu lleoliadau arbeingol ADY ôl-16 o Medi 2023 fel rhan o’r rhaglen trawsnewid ADY.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Bydd trefniadau ar gyfer cynllunio a sicrhau lleoliadau mewn Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol yn dechrau newid fel rhan o'r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae'r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth i awdurdodau lleol am fecanweithiau ariannu ar gyfer lleoliadau mewn Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol sy'n dechrau o fis Medi 2023.
Cynulleidfa
- Awdurdodau lleol.
- Sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol.
Cynulleidfa
Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY) a diwygiadau ADY ehangach i greu system unedig ar gyfer cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag ADY rhwng 0 a 25 oed. Bydd yn trawsnewid y systemau ar wahân ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) (mewn ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion, ac ar gyfer plant nad ydynt wedi’u cofrestru mewn ysgol neu uned cyfeirio disgyblion) ac anawsterau a (neu) anableddau dysgu (AAD) ym maes addysg bellach. Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (Cod ADY) ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am ariannu lleoliadau ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed sydd ag anawsterau dysgu ac sydd angen mynediad at ddarpariaeth arbenigol. Bydd y sefyllfa hon yn newid fel rhan o’r system ADY. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol ar gyfer pobl ifanc yn y system ADY. Nod y newid hwn yw sicrhau bod awdurdodau lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hyn, yn gallu cydweithio â phartneriaid amrywiol i ddatblygu a chryfhau darpariaeth ADY arbenigol ôl-16.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi trefniadau dros dro ar gyfer cyllid i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau ar gyfer person ifanc sydd wedi symud i'r system ADY, a lle mae awdurdodau lleol wedi penderfynu sicrhau lleoliad ar gyfer y person ifanc mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
Bydd y trefniadau a amlinellir yn y canllawiau yn berthnasol i leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol o fis Medi 2023 ar gyfer pobl ifanc sydd wedi symud i'r system ADY. Bydd y trefniadau hyn yn parhau i fod yn berthnasol i leoliadau sydd wedi'u sicrhau o dan y trefniadau hyn nes bod y lleoliadau wedi'u cwblhau. Rydym yn rhagweld y bydd cyllid yn cael ei drosglwyddo'n llawn i awdurdodau lleol erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2024 i 2025, pan fydd pob person ifanc wedi symud i'r system ADY. Bydd y newid graddol hwn yn galluogi Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill trwy gydol y cyfnod hwn er mwyn sicrhau bod y trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno yn effeithiol a'u bod yn cyd-fynd yn llawn â'r egwyddorion sy'n sylfaen i'r Cod ADY.
Ceir manylion llawn am ddyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg ôl-statudol yn y Cod ADY.
Cynlluniau datblygu unigol
Fel rhan o’r Ddeddf ADY, yn gyffredinol bydd gan bob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY, waeth beth fo difrifoldeb neu gymhlethdod ei AAD, yr hawl i gael cynllun cymorth statudol a elwir yn ‘cynllun datblygu unigol’ (CDU). Mae CDU yn ddogfen sy'n cynnwys disgrifiad o ADY plentyn neu berson ifanc a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sydd ei hangen oherwydd AAD y plentyn neu'r person ifanc.
Mae rhagor o wybodaeth am CDU ar gael fel rhan o'r cwestiynau cyffredin am raglen trawsnewid y system ADY. Ceir manylion llawn am gynnwys CDU a chyfrifoldebau am lunio, cynnal, adolygu a diwygio CDU yn y Cod ADY.
Llinell amser
Dechreuodd y Ddeddf ADY gael ei gweithredu ym mis Medi 2021, ac mae plant a phobl ifanc yn cael eu symud yn raddol o'r system AAA i'r system ADY. Yn hytrach na newid ar raddfa fawr, mae dull gweithredu 'llif drwodd' yn cael ei fabwysiadu, a bydd dysgwyr yn symud yn raddol i'r system ADY fel a ganlyn:
- Bydd y rhai ym Mlwyddyn 11 yn 2022 i 2023 yn symud i'r system ADY erbyn 31 Awst 2023 (disgwylir i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau ar gyfer y bobl ifanc hyn yn ystod 2022 i 2023 er mwyn paratoi iddynt bontio i addysg ôl-orfodol ym mis Medi 2023).
- Bydd y rhai ym Mlwyddyn 11 yn 2023 i 2024 yn symud i'r system ADY erbyn 31 Awst 2024 (disgwylir i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau ar gyfer y bobl ifanc hyn yn ystod 2023 i 2024 er mwyn paratoi iddynt bontio i addysg ôl-orfodol ym mis Medi 2024).
- Bydd unrhyw berson ifanc nad yw wedi symud i'r system ADY ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2024 i 2025 yn symud i'r system ADY bryd hynny.
Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau am leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol, a sicrhau lleoliadau o’r fath, wrth i bobl ifanc symud i'r system ADY. Mae manylion llawn am rôl yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r lleoliadau hyn ar gael yn y Cod ADY.
Hyd nes y bydd y Ddeddf ADY yn berthnasol i berson ifanc, bydd Deddf Addysg 1996 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn parhau i fod yn berthnasol, a bydd y person ifanc yn parhau i elwa ar y cymorth sydd ar gael trwy'r systemau AAA ac AAD presennol yn y drefn honno. Nid yw'r canllawiau hyn yn effeithio ar leoliadau ar gyfer pobl ifanc nad ydynt wedi symud i'r system ADY. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau ac ariannu lleoliadau yn uniongyrchol ar gyfer pobl ifanc nad ydynt wedi symud i'r system ADY nes eu bod wedi cwblhau eu rhaglenni astudio.
Lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
Mae'r Cod ADY yn cynnwys manylion cyfrifoldebau awdurdodau lleol mewn perthynas â lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol. Dylai awdurdodau lleol gyfeirio at y Cod i gael rhagor o fanylion am y broses o wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol.
Y man cychwyn yw bod gan berson ifanc hawl i gael hyd at 2 flynedd o addysg bellach neu hyfforddiant. Y tu hwnt i hynny, gall awdurdod lleol benderfynu bod gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant mewn amgylchiadau penodol. Fel y nodir yn y Cod, rhaid i unrhyw leoliadau a ariennir gan y trefniadau hyn fod mewn sefydliadau sydd wedi'u cynnwys yn rhestr Llywodraeth Cymru o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol. Bydd y rhestr hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd er mwyn adlewyrchu'r sefyllfa ddiweddaraf.
Trefniadau ariannol
Bydd cyllid ar gyfer lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol ar gael i awdurdodau lleol trwy Grant Addysg Awdurdodau Lleol o flwyddyn ariannol 2023 i 2024 ymlaen. Trefniadau dros dro yw'r rhain hyd nes y bydd cyllid wedi'i drosglwyddo'n llawn i awdurdodau lleol, ac rydym yn rhagweld y bydd y broses hon wedi'i chwblhau erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2024 i 2025.
Fel rhan o'u gwaith o wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol, bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gytuno ar y canlynol gyda’r sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol perthnasol mewn perthynas â phob lleoliad:
- costau
- telerau ac amodau
- rhaglen astudio'r person ifanc
Bydd Llywodraeth Cymru yn ei thro yn ad-dalu awdurdodau lleol am gostau elfen addysg y lleoliad trwy'r Grant Addysg Awdurdodau Lleol.
Mae cydweithredu ac integreiddio yn enghreifftiau o'r egwyddorion allweddol sy'n sylfaen i'r system ADY. Fel y nodir yn y Cod, gallai awdurdodau lleol a chyrff y GIG ystyried trefniadau ariannu priodol ar y cyd. Dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn defnyddio dull cydgysylltiedig yn fewnol o ariannu elfennau addysg a gofal cymdeithasol lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol. Dylai gwybodaeth sy'n cael ei darparu i Lywodraeth Cymru gynnwys manylion trefniadau ariannu ar y cyd.
Bydd dyraniadau grant yn adlewyrchu natur y galw am leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol, a byddant yn seiliedig ar wybodaeth sy'n cael ei darparu i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol. Hefyd, bydd y trefniadau yn caniatáu i awdurdodau lleol hysbysu Llywodraeth Cymru am newidiadau i gostau pan fydd lleoliad wedi cychwyn, er enghraifft os oes unrhyw newidiadau wedi'u cytuno yn ystod y flwyddyn.
Trefniadau adrodd
Wrth i waith yr awdurdodau lleol o wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau fynd rhagddo, bydd yn ofynnol iddynt ddarparu diweddariadau chwarterol i Lywodraeth Cymru yn crynhoi eu dealltwriaeth ddiweddaraf o leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ffurflenni at ddibenion darparu'r diweddariadau hyn.
Bydd y diweddariadau hyn yn cynnwys:
- manylion pob lleoliad mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol a ragwelir neu a gadarnhawyd
- statws pob lleoliad, hynny yw lleoliad sy'n cael ei ragweld, lleoliad sydd wedi'i sicrhau, lleoliad sydd wedi cychwyn neu leoliad sydd wedi'i gwblhau
- costau pob lleoliad, hynny yw costau a ragwelir, costau wedi'u cadarnhau neu gostau gwirioneddol, gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau ariannu ar y cyd
- crynodeb byr o'r rhaglen astudio (gan gynnwys unrhyw newidiadau i'r rhaglen astudio y cytunwyd arni os yw'n berthnasol)
- manylion absenoldebau (tymor byr neu hirdymor) neu bobl yn tynnu'n ôl o leoliadau
Gall Llywodraeth Cymru ofyn am ragor o wybodaeth i gefnogi ceisiadau awdurdodau lleol am gyllid.
Defnyddir yr wybodaeth hon i gyfrifo dyraniadau grant, ac at ddibenion cynllunio a monitro yn ogystal â gweithredu fel tystiolaeth i gefnogi ceisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol maes o law. Ni fydd hon yn broses ymgeisio. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyflawni eu dyletswyddau yn unol â'r hyn a nodir yn y Cod, sy'n cynnwys gwneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau ar gyfer pobl ifanc lle bo hynny'n berthnasol.
Gwneud penderfyniadau ynghylch lleoliad mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am sefydlu prosesau i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau fel y nodir yn y Cod ADY wrth ystyried a ddylai person ifanc gael ei leoli mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. Dylai’r prosesau hyn adlewyrchu’r 5 egwyddor sy’n sail i’r Ddeddf ADY fel y’u nodir ym Mhennod 3 o’r Cod ADY, a sicrhau bod y rhanddeiliaid priodol yn cael eu cynnwys wrth lywio’r broses benderfynu hon.
Cwestiynau
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn i ALNpost16implementation@llyw.cymru