Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod blynyddol Fforwm Iwerddon-Cymru yng Nghorc, Iwerddon, ar 18 Hydref 2024, rhwng Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, a'r Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor a'r Gweinidog Amddiffyn, Mr. Micheál Martin.

Trefnir y Fforwm o dan Ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon Cymru 2021-2025 gyda'r nod o ddod â rhanddeiliaid gwleidyddol, economaidd ac eraill ynghyd. Mae Datganiad Iwerddon-Cymru yn tanlinellu'r cysylltiadau hanesyddol, diwylliannol a chymunedol dwfn rhwng ein gwledydd, ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad y ddwy lywodraeth i gryfhau'r berthynas hon ymhellach, gan gynyddu'n cydweithrediad a'n cysylltiadau er budd y ddwy wlad.

Eleni, cynhaliwyd y Fforwm yng Nghampws Bishopstown Prifysgol Dechnolegol Munster (MTU), Corc gan ganolbwyntio ar feithrin cysylltiadau academaidd ac ymchwil. Bu'r ymchwilwyr yn briffio'r Tánaiste a'r Prif Weinidog ar brosiectau ymchwil yn ymwneud â'r amgylchedd morol, ecodwristiaeth a chysylltiadau treftadaeth. Cafodd y Fforwm gyfle i weld cyfleusterau newydd a modern Cyber Ireland yn MTU, a chlywed am ei chynlluniau cydweithredol â Chymru.

Yn eu trafodaethau, canolbwyntiodd y Tánaiste a'r Prif Weinidog ar eu huchelgais ar y cyd i ddatblygu'r berthynas rhwng Iwerddon Cymru, gan gynnwys cynigion ar gyfer Datganiad ar y Cyd Iwerddon Cymru ar ôl 2025. Gwnaethant bwysleisio pwysigrwydd parhau i ganolbwyntio ar gryfhau'r partneriaethau rhwng Iwerddon a Chymru, ac ehangu ein cydweithrediad mewn meysydd newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg sydd o bwys i'r ddwy ochr.

Cyn y Fforwm Gweinidogol, ar 17 Hydref 2024, croesawodd yr Arlywydd Higgins Brif Weinidog Cymru a'i dirprwyaeth i Áras an Uachtaráin. Cyfarfu'r Prif Weinidog hefyd â Gweinidog yr Amgylchedd, Hinsawdd a Chyfathrebu a'r Gweinidog Trafnidiaeth, Eamon Ryan.

Cytunwyd y bydd cyfarfod nesaf Fforwm Iwerddon-Cymru yn digwydd yng Nghymru yn 2025.