Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (15 Hydref) mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, wedi amlinellu ei nodau a'i hamcanion yn ei rôl weinidogol newydd, gyda phwyslais ar gydweithio, cydweithredu a chymuned.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r nodau yn cynnwys:

  • Cynyddu amlygrwydd opsiynau ar gyfer dysgwyr ôl-16, boed yn llwybrau academaidd neu alwedigaethol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod cyfleoedd addysgol ar gael a all weithio iddyn nhw a'u teuluoedd ar bob cam o'u bywydau, waeth beth fo'u hoedran, cefndir neu amgylchiadau personol.
  • Cydweithredu ar draws y llywodraeth, i sicrhau y gall addysg weithredu fel ysgogiad allweddol yn agenda'r llywodraeth a chyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog o hybu safonau, 'iechyd da' a chyfleoedd i bawb.
  • Ymrwymiad i weithio ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i sicrhau bod gan Gymru y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar gyfer gweithlu yfory.
  • Sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed er mwyn darparu elfen hanfodol o brofiad y dysgwr a helpu i arwain dyfodol eu colegau. Cefnogi cyrff llywodraethu a arweinir gan ddysgwyr.
  • Hyrwyddo rôl bwysig Medr.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Vikki Howells:

Fel cyn-athro ysgol uwchradd a phennaeth cynorthwyol chweched dosbarth, yn ogystal â mentor i'r rhai sydd newydd ddechrau yn y proffesiwn addysgu, mae fy mhrofiadau wedi rhoi dealltwriaeth gadarn i mi o'r llwyddiannau a'r heriau y mae dysgwyr ac ymarferwyr yn eu hwynebu, a byddaf yn ymroi i gynnig empathi a chlust i wrando wrth gyflawni'r rôl hon.

Rwyf am i bawb gael mynediad i'r un cyfleoedd ac rwyf am sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r holl opsiynau ôl-16 sydd ar gael iddynt, boed yn gyrsiau academaidd neu alwedigaethol, ac nad oes rhwystrau i addysg.

Rwyf eisoes wedi dechrau ymweld â darparwyr ôl-16, gan gynnwys colegau a phrifysgolion ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at gael cyfarfod â dysgwyr, eu hathrawon a'u tiwtoriaid fel y gallaf ddeall eu dewisiadau, y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, a dathlu eu cyflawniadau.