Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch sut y gallwch gymryd rhan yn Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025.

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru, sy'n cael ei chynnal rhwng 10 - 16 Chwefror 2025, yn ddathliad blynyddol o brentisiaethau a'r gwerth y maent yn ei gynnig i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru. 

Wrth ddod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr ynghyd, mae'r Wythnos Prentisiaethau yn tynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y gymuned brentisiaethau gyfan i hyrwyddo'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ledled Cymru. 

Pwy sy'n cael cymryd rhan?

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad i bawb. Boed â diddordeb mewn prentisiaethau, yn cwblhau prentisiaeth ar hyn o bryd neu'n gyflogwr, darparwr neu'n ysgol yng Nghymru, fe'ch gwahoddir i gynnal eich dathliadau eich hun a'n helpu i rannu'r negeseuon yn ein pecyn cymorth partner a fydd ar gael o fis Ionawr 2025. 

Sut mae cymryd rhan? 

Mae cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn cael eu hannog i hyrwyddo llwyddiannau anhygoel eu prentisiaid, gan dynnu sylw at y manteision y mae prentisiaid yn eu cynnig i'w busnes a'r economi ehangach yng Nghymru. 

Mae enghreifftiau o sut y gallech gymryd rhan yn cynnwys:

  • Cynnal gweminar neu ddigwyddiad rhithwir – gwahoddwch randdeiliaid i'ch digwyddiad, dywedwch wrthynt pam eich bod yn credu bod prentisiaethau'n ddewis doeth a beth mae eich sefydliad yn ei wneud i gefnogi prentisiaid yng Nghymru.
  • Rhannu astudiaethau achos a straeon llwyddiant ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol sy'n hyrwyddo Wythnos Prentisiaethau Cymru gan ddefnyddio hashnod yr ymgyrch #WPCymru2025.
  • Hyrwyddo prentisiaethau yn eich sefydliad a'u hychwanegu at wefan y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag.

Rhagor o wybodaeth

  • Cysylltwch â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol: Facebook ac X.
  • Am fwy o wybodaeth am brentisiaethau, ewch i LLYW.CYMRU.
  • Rydym yn diweddaru adnoddau ein hymgyrch yn gyson, a gallwch eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Ebostiwch ni ar WythnosBrentisiaethauCymru@llyw.cymru i gael gwybod mwy. 

Prentisiaethau. Dewis Doeth.

Mae prentisiaethau yn helpu unigolion i sbarduno eu gyrfa drwy ddarparu’r profiad cywir a sgiliau penodol i’r swydd, ac yn helpu busnesau i recriwtio mewn ffordd gosteffeithiol.