Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw rhwymedïau?

1. Mae dyletswydd statudol ar awdurdodau contractio i gydymffurfio â Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf) a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 (y Rheoliadau). Gall achos o dorri dyletswydd statudol arwain at golled neu ddifrod i gyflenwr. Fel y cyfryw, mae'n bwysig bod modd herio awdurdodau contractio a bod rhwymedïau sifil ar gael i ddigolledu cyflenwyr am unrhyw golled neu ddifrod, neu i unioni'r sefyllfa ac i gymell awdurdodau contractio i gydymffurfio â'r Ddeddf.

2. Mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio ar y rhwymedïau cyfreithiol sydd ar gael o dan y Ddeddf. Mae'n sôn am y camau gweithredu neu'r penderfyniadau y gall y Llys eu gwneud mewn hawliadau sifil yn erbyn awdurdod contractio am dorri dyletswydd statudol. Nid yw'n sôn am unrhyw rwymedïau eraill y gall cyflenwr ofyn amdanynt, fel adolygiad barnwrol.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu rhwymedïau?

3. Mae'r darpariaethau ar gyfer rhwymedïau wedi'u nodi yn Rhan 9 o'r Ddeddf (Rhwymedïau ar gyfer torri dyletswydd statudol):

  1. adran 100 (Dyletswyddau o dan y Ddeddf hon sy'n orfodadwy mewn achosion sifil): Mae'r adran hon yn nodi'r sail a'r cwmpas ar gyfer herio o dan Ran 9 o'r Ddeddf
  2. adran 101 (Atal achos o ymrwymo i gontract neu addasu contract yn awtomatig): Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer atal yr awdurdod contractio yn awtomatig rhag ymrwymo i gontract cyhoeddus neu addasu contract cyhoeddus. Yr effaith yw galluogi'r cyflenwr i ofyn am ‘rwymedïau cyn-gontractiol’, sef rhwymedïau y gellir ond eu cymhwyso pan na fydd yr awdurdod wedi ymrwymo i'r contract neu pan na fydd yr addasiad wedi'i wneud
  3. adran 102 (Rhwymedïau interim): Mae'r adran hon yn nodi'r gorchmynion y gall y llys eu gwneud wrth aros am ganlyniad hawliad cyfreithiol, er enghraifft gorchymyn i ddiddymu'r ataliad awtomatig, ac ar ba sail y bydd y llys yn ystyried gwneud gorchmynion o'r fath
  4. adran 103 (Rhwymedïau cyn-gontractiol): Mae'r adran hon yn nodi'r rhwymedïau sydd ar gael i'r cyflenwr os bydd ei hawliad yn llwyddiannus ac y caiff ei ddatrys cyn ymrwymo i'r contract neu cyn gwneud yr addasiad
  5. adran 104 (Rhwymedïau ôl-gontractiol): Mae'r adran hon yn nodi'r rhwymedïau sydd ar gael os bydd yr hawliad yn llwyddiannus a bod yr awdurdod eisoes wedi ymrwymo i'r contract neu fod yr addasiad eisoes wedi'i wneud
  6. adran 105 (Rhwymedïau ôl-gontractiol: amodau gosod o'r neilltu): Mae'r adran hon yn nodi lle mae'n rhaid gwneud y rhwymedi ôl-gontractiol (a nodir yn adran 104(2)) i ‘osod o'r neilltu’ (y contract)
  7. adran 106 (Terfynau amser ar hawliadau): Mae'r adran hon yn nodi faint o amser sydd gan gyflenwr i gychwyn achos mewn perthynas â thorri dyletswydd statudol
  8. adran 107 (achosion Rhan 9 a'r weithdrefn deunydd caeedig); Mae'r adran hon yn galluogi i wybodaeth sensitif gael ei diogelu yn ystod achos llys.

4. Mae Rhan 9 o'r Ddeddf yn adlewyrchu rhwymedigaethau rhyngwladol y DU mewn perthynas â chaffael cyhoeddus sy'n ei gwneud yn ofynnol sicrhau bod gweithdrefnau adolygu amserol, effeithiol, tryloyw ac anwahaniaethol ar waith sy'n galluogi cyflenwyr i herio achosion o dorri cyfreithiau caffael.

Beth sydd wedi newid?

5. Mae'r gyfundrefn rhwymedïau o dan y Ddeddf yn ailadrodd bwriad y darpariaethau a nodwyd mewn deddfwriaeth flaenorol. Fel gyda'r ddeddfwriaeth flaenorol, mae angen cyfnod segur o dan y Ddeddf cyn trefnu contract o dan rai amgylchiadau penodol ac mae'r awdurdod contractio wedi'i wahardd rhag ymrwymo i'r contract os cyflwynir her, bod yr awdurdod contractio yn ymwybodol o'r her ac nad yw wedi ymrwymo i'r contract eto (atal awtomatig). Mae'r cyfnod segur yn wahanol o dan y Ddeddf gan ei fod yn 8 diwrnod gwaith ym mhob achos. Mae'r ataliad awtomatig hefyd ychydig yn wahanol o dan y Ddeddf gan mai dim ond os caiff her ei chyflwyno yn ystod y cyfnod segur y bydd yn gymwys. Hefyd yn debyg i'r ddeddfwriaeth flaenorol, mae llawer o rwymedïau interim a chyn-gontractiol ac ôl-gontractiol, gan gynnwys iawndal.

6. Gwnaed rhai newidiadau i'r geiriad hefyd er mwyn adlewyrchu cyfundrefn enwi'r DU; mae'n werth nodi y defnyddir y term ‘set aside’ yn lle ‘ineffectiveness’, ond mae'n golygu yr un peth. Mae'r ysgogiadau (amodau) ar gyfer gosod o'r neilltu hefyd rywfaint yn wahanol i'r darpariaethau aneffeithiolrwydd yn y ddeddfwriaeth flaenorol ond maent yn adlewyrchu'r un bwriad: y dylai fod gan gyflenwr yr opsiwn i gyflwyno hawliad i osod y contract o'r neilltu lle na fydd wedi cael y cyfle i gyflwyno hawliad cyn ymrwymo i'r contract neu cyn gwneud yr addasiad. Mae'r amodau gosod o'r neilltu yn wahanol i'r sail dros aneffeithiolrwydd yn y ddeddfwriaeth flaenorol o ganlyniad i'r darpariaethau tryloywder cynyddol o dan y Ddeddf sy'n darparu mwy o wybodaeth a hynny ar fwy o gamau i gyflenwyr cyn dyfarnu'r contract neu ymrwymo iddo.

7. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno prawf newydd sy'n benodol i gaffael i'w gymhwyso gan y Llys wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ar gyfer rhwymedi interim. Caiff y prawf hwn ei ddefnyddio gan y Llys, er enghraifft, wrth benderfynu a ddylid diddymu ataliad awtomatig ar gais gan yr awdurdod contractio (gweler paragraff 29 isod).

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

8. Mae system rhwymedïau effeithiol ac effeithlon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod unrhyw gyfundrefn gaffael gyhoeddus yn gweithredu'n llwyddiannus. Mae'n helpu i sicrhau bod awdurdodau contractio yn cydymffurfio â rheolau caffael ac mae'n rhoi'r hyder i gyflenwyr wybod y caiff contractau cyhoeddus eu dyfarnu mewn ffordd deg a thryloyw. Mae hyn, yn ei dro, yn eu hannog i gyflwyno tendrau am gontractau cyhoeddus.

9. Wrth herio awdurdod contractio o dan y Ddeddf, rhaid i gyflenwr gychwyn achos mewn perthynas â thorri dyletswydd statudol, o fewn y terfynau amser rhagnodedig. Bydd yr achos yn cychwyn pan fydd y Llys yn cyflwyno ffurflen hawlio (ar gais y cyflenwr sy'n cyflwyno'r hawliad). Mae'r rhwymedïau y gall y Llys eu dyfarnu i'r cyflenwr sy'n cyflwyno'r her (yr hawlydd) os bydd ei hawl yn llwyddiannus a'r amodau ar gyfer dyfarnu rhwymedïau o'r fath wedi'u nodi yn y Ddeddf. Gall y Llys hefyd orchymyn bod un o'r rhwymedïau interim sydd wedi'u nodi yn y Ddeddf yn gymwys tra'n aros am benderfyniad ar yr hawliad.

10. Fodd bynnag, nid achos llys yw'r unig ffordd i gyflenwyr ddatrys pryderon caffael. Mae'r gofynion tryloywder sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf yn cefnogi'r gyfundrefn rhwymedïau drwy alluogi cyflenwyr i nodi a chodi unrhyw faterion sy'n gysylltiedig â'r broses gaffael cyn gynted â phosibl, er mwyn gallu eu datrys, cymaint â phosibl, pan fyddant yn codi a chyn gwneud penderfyniad o ran dyfarnu'r contract neu cyn ymrwymo i'r contract (a hynny y tu allan i'r llys). Drwy ddatrys materion sy'n codi yn ystod y weithdrefn ar gam cynnar, mae llai o risg y bydd angen camau cyfreithiol tarfol.

Cwmpas (adran 100)

11. Nid oes gan bob cyflenwr yr hawl i rwymedi o dan Ran 9 o'r Ddeddf ac nid oes gan bob math o dorri dyletswydd (methiant i gydymffurfio â'r Ddeddf) y potensial i arwain at hawliad yn erbyn yr awdurdod contractio.

12. Mae adran 100 (Dyletswyddau o dan y Ddeddf hon sy'n orfodadwy mewn achosion sifil) yn nodi rhai egwyddorion pwysig sy'n sail i'r gyfundrefn rhwymedïau a'r amodau y mae'n rhaid i gyflenwr eu bodloni er mwyn meddu ar statws priodol (h.y. yr hawl i gyflwyno hawliad), sef:

  1. gall torri Rhannau canlynol y Ddeddf (sy'n ymwneud â dyfarnu contractau cyhoeddus, ymrwymo iddynt a'u rheoli) arwain at hawliad mewn perthynas â thorri dyletswydd statudol:
    1. Rhan 1: Diffiniadau Allweddol
    2. Rhan 2: Egwyddorion ac Amcanion
    3. Rhan 3: Dyfarnu Contractau Cyhoeddus a Gweithdrefnau
    4. Rhan 4: Rheoli Contractau Cyhoeddus
    5. Rhan 5: Gwrthdaro Buddiannau
    6. Rhan 7: Rhoi Rhwymedigaethau Rhyngwladol ar Waith
    7. Rhan 8: Gwybodaeth a Hysbysiadau: Darpariaeth Gyffredinol.
  2. Dim ond ‘cyflenwyr o'r Deyrnas Unedig’ a ‘chyflenwyr o wladwriaethau cytuniad’ (fel y'u diffinnir yn adran 90(7) ac 89(1) o'r Ddeddf, yn y drefn honno) sydd â hawl i gyflwyno hawliad am dorri dyletswydd statudol o dan y Ddeddf, mewn perthynas â ‘chaffaeliad a gwmpesir’ (fel y'i diffinnir yn adran 1(1) o'r Ddeddf) (gweler paragraff 13 isod).
  3. Rhaid i gyflenwr allu dangos ei fod wedi dioddef colled neu ddifrod, neu ei fod yn wynebu risg o hynny, o ganlyniad i'r achos o dorri dyletswydd statudol.
  4. Rhaid i'r Llys gyflwyno'r ffurflen hawlio o fewn y cyfnodau amser a nodir yn adran 106 (Terfynau amser ar hawliadau). Os na chaiff y ffurflen hawlio ei chyflwyno o fewn y terfyn amser perthnasol, gall y cyflenwr golli ei hawl i hawlio rhwymedi; gall y Llys wneud gorchymyn i ymestyn y cyfnod amser ar gyfer cychwyn achos ond dim ond os bydd o'r farn bod rheswm da dros wneud hynny ac yn amodol ar uchafswm cyfnod.

13. Dylai awdurdodau contractio nodi bod adran 89(2) o'r Ddeddf yn cyfyngu hawliau cyflenwr gwladwriaeth gytuniad o dan y Ddeddf i'r graddau y mae hawl ganddo i fuddion cytundeb rhyngwladol a bennwyd yn Atodlen 9 mewn perthynas â'r caffaeliad sy'n cael ei gyflawni neu ei herio. At ddibenion rhwymedïau, mae hyn yn golygu mai dim ond ar gyfer y mathau o gaffaeliad a darpariaethau'r Ddeddf sydd wedi'u cwmpasu gan y cytundeb rhyngwladol rhwng y wladwriaeth gytuniad berthnasol a'r DU y bydd gan gyflenwr gwladwriaeth gytuniad statws i gyflwyno hawliad ar eu cyfer. Gweler y canllaw ar gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad am ragor o wybodaeth.

14. Mae hawliad cyflenwr yn aml yn seiliedig ar golli elw y byddai wedi disgwyl ei wneud pe byddai wedi ennill y contract, ond gall ‘colled neu ddifrod’ hefyd gynnwys costau cynigion neu golled ganlyniadol arall, er enghraifft. Ni waeth beth y bydd y golled neu'r difrod yn ymwneud ag ef, rhaid i'r hawlydd allu bodloni'r Llys mae'r achos honedig o dorri dyletswydd statudol a'i hachosodd.

15. Mae nifer bach o rwymedigaethau yn Rhannau 1 i 8 o'r Ddeddf na ellir eu herio o dan Ran 9 os byddant yn cael eu torri. Mae hyn yn cynnwys pob rhwymedigaeth o fewn Rhan 6 (Contractau islaw'r trothwy) a rhwymedigaethau eraill a nodir yn adran 100(5-6) fel a ganlyn:

  1. y ddyletswydd i gydymffurfio ag adran 12(4) (y gofyniad i ystyried rhwystrau sy'n wynebu BBaChau)
  2. y ddyletswydd i gydymffurfio ag adran 13(9) neu 14(8) (y gofyniad i ystyried datganiadau polisi caffael)
  3. y ddyletswydd i gydymffurfio ag adran 90 (cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad: peidio â gwahaniaethu) os nad yw'r caffaeliad yn gaffaeliad a gwmpesir.

Fodd bynnag, gall y rhain fod yn ddarostyngedig i rwymedïau cyfraith gyhoeddus, h.y. adolygiad barnwrol.

16. Yn ogystal, o dan adran 100(7) ni all cyflenwr gyflwyno hawliad yn erbyn awdurdod contractio sydd wedi ei eithrio rhag caffaeliad ar sail penderfyniad gan un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â'r rhestr rhagwaharddiadau, sef:

  1. penderfyniad y Gweinidog i gynnwys enw cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau
  2. penderfyniad y Gweinidog mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y rhestr rhagwaharddiadau
  3. penderfyniad y Gweinidog i beidio â dileu cyflenwr o'r rhestr rhagwaharddiadau
  4. penderfyniad y Gweinidog i beidio â diwygio gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y rhestr rhagwaharddiadau.

Fodd bynnag, mae'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i gyflenwr apelio yn erbyn penderfyniadau'r Gweinidog o dan adran 65 (Penderfyniadau sy'n ymwneud â rhagwaharddiadau: apeliadau). Gweler y canllaw ar ragwaharddiadau am ragor o wybodaeth.

Terfynau amser (adran 106)

17. Yn gyffredinol, bydd gan gyflenwr 30 diwrnod o'r adeg y cafodd wybod gyntaf am yr amgylchiadau perthnasol ar gyfer cychwyn achos mewn perthynas â thorri dyletswydd statudol, neu y dylai fod wedi gwybod amdanynt (‘cyfnod 30 diwrnod’). Mae hyn yn golygu y byddai'r cyfnod 30 diwrnod fel arfer yn cychwyn pan roddir gwybodaeth i'r cyflenwr sy'n ei alluogi i nodi achos o dorri dyletswydd statudol neu pan fydd gwybodaeth o'r fath ar gael iddo.

18. Er enghraifft, os bydd cyflenwr o'r farn fod y meini prawf dyfarnu ar gyfer caffaeliad penodol yn torri'r Ddeddf, rhaid iddo gyflwyno'r hawliad o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr oedd y meini prawf dyfarnu ar gael iddo. Lle bydd hysbysiad yn nodi achos o dorri dyletswydd statudol, bydd gan y cyflenwr 30
diwrnod o'r dyddiad y caiff yr hysbysiad ei gyhoeddi i gychwyn achos. Cyfrifoldeb y cyflenwr fydd adolygu'r wybodaeth mewn modd amserol er mwyn sicrhau y gall gychwyn achos o fewn y terfynau amser perthnasol.

19. Gall y cyflenwr wneud cais i'r Llys i ymestyn y terfyn amser ar gyfer cychwyn achos. Yn gyffredinol, gall y Llys ymestyn y cyfnod er mwyn rhoi uchafswm o dri mis i gychwyn achos, ond dim ond os bydd o'r farn bod rheswm da dros wneud hynny. Gellir ymestyn y cyfnod ar gyfer cychwyn unrhyw ‘achos gosod o'r neilltu penodedig’ (gweler paragraffau 43 - 46 isod) hyd at uchafswm o chwe mis.

20. Ar ôl i'r Llys gyflwyno ffurflen hawlio, mae'r Rheolau Trefniadaeth Sifil (sy'n llywodraethu'r broses o reoli hawliadau sifil yng Nghymru a Lloegr) yn ei gwneud yn ofynnol i Fanylion Hawliad gael eu cyflwyno i'r awdurdod contractio o fewn yr un ffrâm amser â'r un ar gyfer cyflwyno'r ffurflen hawlio, sef 7 diwrnod ar ôl y dyddiad cyflwyno ar gyfer heriau caffael (gweler rhif 7.4 y Rheolau Trefniadaeth Sifil).

Ataliad awtomatig (adran 101 a 102)

21. Os bydd cyfnod segur gorfodol neu wirfoddol yn berthnasol i ddyfarnu neu addasu contract ac y bydd cyflenwr yn ystod y cyfnod segur:

  1. wedi cychwyn achos, ac
  2. yn hysbysu'r awdurdod contractio ei fod wedi gwneud hynny,

bydd gallu'r awdurdod contractio i ymrwymo i'r contract yn cael ei atal yn awtomatig (a hynny ar unwaith). Mae hynny'n golygu na ddylid ymrwymo i'r contract ac na ddylid gwneud yr addasiad.

22. Os caiff y ffurflen hawlio ei chyflwyno a/neu caiff yr awdurdod contractio ei hysbysu ar ôl i'r cyfnod segur ddod i ben ond cyn ymrwymo i'r contract, ni fydd yr ataliad awtomatig yn adran 101 yn gymwys a gall yr awdurdod contractio fwrw ati i ymrwymo i'r contract neu wneud yr addasiad. Fodd bynnag, o dan amgylchiadau o'r fath, byddai'n ddoeth cael cyngor cyfreithiol cyn parhau. Pan fydd awdurdod contractio wedi cytuno i ymestyn cyfnod segur, er enghraifft er mwyn ymateb i ymholiad gan gyflenwr am y caffaeliad, dylid diwygio'r hysbysiad dyfarnu contract yn unol â hynny a'i ailgyhoeddi er mwyn sicrhau bod cyflenwyr yn ymwybodol bod ganddynt fwy o amser i gychwyn achos.

23. Fel arfer, bydd cyflenwr yn cyflwyno hawliad er mwyn herio'r penderfyniad i ddyfarnu contract i gyflenwr arall neu er mwyn herio cyfreithlondeb addasiad ac ennill y contract (neu gontract newydd i roi'r addasiad ar waith) iddo'i hun. Mae atal gallu'r awdurdod contractio i ymrwymo i'r contract neu wneud yr addasiad yn caniatáu'r cyfle i wneud hynny. Yn gyffredinol, bydd datrys unrhyw anghydfod cyn ymrwymo i gontract newydd neu wneud addasiad o fudd i'r awdurdod contractio hefyd, er mwyn sicrhau y gellir darparu'r nwyddau neu'r gwasanaethau neu gyflawni'r gwaith yn llwyddiannus ac osgoi'r tarfu a'r costau sy'n gysylltiedig â rhwymedïau ôl-gontractiol. Felly, mae'r ataliad awtomatig yn cyflawni diben pwysig, oherwydd unwaith yr ymrwymir i gontract, dim ond rhwymedïau ôl-gontractiol sydd ar gael (a gallai'r awdurdod contractio orfod talu dwywaith, h.y. talu'r cyflenwr o dan y contract a ddyfarnwyd a thalu iawndal am golled neu ddifrod os bydd cyflenwr yn llwyddiannus wrth herio dyfarniad neu addasiad).

24. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau, mae gohirio dechrau'r contract neu wneud yr addasiad yn achosi problemau, er enghraifft, os yw'r contract yn ymwneud â darparu gwasanaethau penodol sy'n gysylltiedig ag amddiffyn neu iechyd lle byddai ei ohirio yn cael effaith weithredol annerbyniol. Er mwyn caniatáu ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath, gall awdurdod contractio ofyn i'r Llys ddiddymu neu addasu'r ataliad awtomatig, h.y. dod â'r ataliad i ben neu ei addasu (er enghraifft, darparu ar gyfer cyfnod segur byrrach) a chaniatáu iddo ymrwymo i'r contract neu wneud yr addasiad ar unwaith (neu o fewn cyfnod byrrach nag a fyddai'n berthnasol fel arall). Bydd y Llys yn cymhwyso'r prawf yn adran 102(2) er mwyn ystyried a ddylid diddymu neu addasu'r ataliad.

25. Os na fydd y Llys yn diddymu neu'n addasu'r ataliad awtomatig (gweler paragraffau 27-30 isod), bydd yn parhau'n weithredol hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud mewn perthynas â'r hawliad.

Rhwymedïau interim (adran 102)

26. Gall rhwymedïau interim fod yn berthnasol i unrhyw hawliad, p'un a gaiff y ffurflen hawlio ei chyflwyno cyn y penderfyniad dyfarnu neu ar ôl y penderfyniad hwnnw, neu ar ôl ymrwymo i gontract neu wneud addasiad. Maent ar gael i'r awdurdod contractio ac i'r cyflenwr. Mesurau dros dro yw'r mesurau interim hyn y bwriedir iddynt fod yn weithredol hyd nes y bydd y Llys wedi ystyried yr hawliad ac wedi gwneud dyfarniad.

27. Yn dilyn cais i'r Llys (gan y naill barti neu'r llall), mae'r pŵer gan y Llys i wneud un neu fwy o'r gorchmynion a nodir yn adran 102(1):

  1. gorchymyn yn diddymu neu'n addasu'r ataliad awtomatig
  2. gorchymyn yn ymestyn yr ataliad awtomatig neu'n gosod ataliad arall
  3. gorchymyn yn atal effaith unrhyw benderfyniad a wnaed neu unrhyw gam a gymerwyd gan yr awdurdod contractio fel rhan o'r caffaeliad
  4. gorchymyn yn atal y caffaeliad neu unrhyw ran ohono
  5. gorchymyn yn atal y partïon rhag ymrwymo i gontract neu gyflawni contract
  6. gorchymyn yn atal y partïon rhag ymrwymo i gontract neu wneud addasiad neu gyflawni contract fel y'i haddaswyd.

28. Ni all y Llys wneud gorchymyn sy'n caniatáu i'r partïon ymrwymo i gontract na gwneud addasiad cyn diwedd unrhyw gyfnod segur.

29. Cyn gwneud gorchymyn o'r fath, mae'r prawf yn adran 102(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llys ystyried rhinweddau'r achos er mwyn sicrhau y caiff buddiannau cyflenwyr, gan gynnwys yr hawlydd, a'r cyflenwr y mae'r awdurdod contractio wedi penderfynu dyfarnu'r contract iddo, eu hystyried ochr yn ochr â budd y cyhoedd. Gall y Llys hefyd ystyried unrhyw fater arall y mae'n ei ystyried yn briodol.

30. Mae ystyriaethau budd y cyhoedd yn cynnwys cynnal yr egwyddor y dylid cydymffurfio â'r gyfraith, yn ogystal â goblygiadau gohirio'r caffaeliad neu'r addasiad ac felly y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith y bwriedir i'r contract neu'r addasiad eu darparu neu ei gyflawni.

Rhwymedïau cyn-gontractiol (adran 103)

31. Rhwymedïau cyn-gontractiol yw'r rhwymedïau hynny sydd ar gael i'r cyflenwr pan fydd y Llys wedi dyfarnu o'i blaid h.y. pan fydd wedi dyfarnu bod yr awdurdod contractio wedi torri ei ddyletswydd statudol (gweler paragraff 1 uchod). Mae'r rhwymedïau cyn-gontractiol sydd ar gael i'r Llys wedi'u nodi yn adran 103(2), ond mae disgresiwn eang gan fod adran 103(2) yn caniatáu i'r Llys wneud unrhyw orchymyn, yn ogystal â'r rhai hynny sydd wedi'u nodi yn adran 103(2)(a-c), y mae'n ei ystyried yn briodol. Dim ond pan na fydd y partïon wedi ymrwymo i'r contract y mae'r achos o dorri dyletswydd statudol yn ymwneud ag ef eto neu pan na fydd yr addasiad wedi'i wneud eto y bydd rhwymedïau cyn-gontractiol ar gael.

32. Fel y nodir uchod, mae cyflenwyr sy'n cyflwyno hawliad cyn ymrwymo i'r contract neu cyn gwneud addasiad yn aml yn awyddus i gael cyfle i gyflwyno tendr ar gyfer y contract neu i gyflawni'r contract (neu'r addasiad) eu hunain. Mae rhwymedïau cyn-gontractiol yn adlewyrchu hyn ac yn galluogi'r Llys i wneud gorchymyn sy'n gosod penderfyniad neu weithred yr awdurdod contractio o'r neilltu; er enghraifft, gall osod penderfyniad i ddyfarnu contract o'r neilltu. Gall y Llys hefyd wneud gorchymyn i'r awdurdod contractio gymryd camau penodol, er enghraifft, y dylai ailasesu tendrau yn erbyn y meini prawf dyfarnu. Ymhlith y camau eraill y gellid eu gorchymyn, er enghraifft, byddai ailddechrau rhannau o'r weithdrefn gaffael (er enghraifft, dychwelyd y caffaeliad at gam blaenorol mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol), neu o bosibl ddyfarnu'r contract i'r hawlydd.

33. Mae adran 103(2) hefyd yn caniatáu i'r Llys ddyfarnu iawndal (gweler paragraff 35).

Rhwymedïau ôl-gontractiol (adrannau 104 a 105)

34. Rhwymedïau ôl-gontractiol yw'r rhwymedïau hynny sydd ar gael i'r cyflenwr pan fydd y Llys wedi dyfarnu fod yr awdurdod contractio wedi torri ei ddyletswydd statudol lle mae'r partïon eisoes wedi ymrwymo i'r contract y mae'r achos o dorri'r ddyletswydd statudol yn ymwneud ag ef, neu pan fydd yr addasiad eisoes wedi'i wneud. Yn y sefyllfa hon, mae adran 104(2) yn nodi bod yn rhaid i'r Llys osod y contract o'r neilltu lle caiff amodau penodol eu bodloni ac y gall, yn unrhyw achos, wneud gorchymyn i ddyfarnu iawndal.

Iawndal

35. Mae dyfarnu iawndal mewn gwirionedd yn digolledu'r hawlydd am y golled neu'r difrod y mae wedi'i dioddef/ddioddef o ganlyniad i'r awdurdod contractio yn torri ei ddyletswydd statudol. Ym mhob achos, boed hynny'n rhwymedi cyn-gontractiol neu'n rhwymedi ôl-gontractiol, cyfrifoldeb y Llys fydd penderfynu ai'r achos o dorri dyletswydd statudol a achosodd y difrod neu'r golled a achoswyd gan yr hawlydd ac felly a yw'n briodol dyfarnu iawndal o dan yr amgylchiadau. Os bydd y Llys yn penderfynu dyfarnu iawndal, bydd hefyd yn penderfynu swm yr iawndal. Wrth benderfynu ar y gwerth, bydd y Llys yn ystyried holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys unrhyw ffactorau lliniaru.

Gosod o'r neilltu

36. Rhwymedi gosod o'r neilltu yw'r rhwymedi mwyaf tarfol sydd ar gael i gyflenwyr o dan y Ddeddf. Mae'n gymwys pan fydd achos o dorri dyletswydd statudol wedi digwydd mewn perthynas â dyfarnu neu addasu contract ond na fydd y cyflenwr wedi cael y cyfle i ofyn am rwymedi cyn-gontractiol (o dan adran 103) am reswm a nodir yn adran 105(1) (y cyfeirir ato yn y Ddeddf fel ‘amodau gosod o'r neilltu’) (gweler paragraff 39 isod). Mae gosod o'r neilltu yn orfodol o dan yr amgylchiadau hyn, yn amodol ar y prawf budd y cyhoedd yn adran 104(3) (gweler paragraffau 40-41 isod).

37. Er enghraifft, byddai penderfyniad i ddyfarnu contract lle nad y cyflenwr hwnnw a wnaeth gyflwyno'r tendr mwyaf manteisiol mewn gweithdrefn dendro gystadleuol neu lle na ddylid bod wedi caniatáu dyfarniad uniongyrchol o dan adran 41 (Dyfarniad uniongyrchol mewn achosion arbennig (neu adran 43) (Newid i ddyfarniad uniongyrchol) o'r Ddeddf yn benderfyniad anghyfreithlon. Byddai enghreifftiau o addasu contract yn anghyfreithlon yn cynnwys achos lle na fyddai'r addasiad i'r contract wedi'i ganiatáu o dan adran 74 (Addasu contract cyhoeddus).

38. Mae gosod y contract neu'r addasiad o'r neilltu yn golygu na fydd gan y contract unrhyw effaith o ddyddiad y gorchymyn (h.y. ni fydd ganddo unrhyw effaith o'r pwynt hwnnw ymlaen, ond nid o safbwynt ôl-weithredol). Lle caiff contract neu addasiad ei osod o'r neilltu neu lle caiff hyd y contract neu'r nwyddau neu'r gwasanaethau i'w darparu neu'r gwaith i'w gyflawni eu lleihau (gweler paragraff 40 isod), gall y gorchymyn gynnwys darpariaethau sy'n ymdrin â materion canlyniadol neu atodol, er enghraifft, talu'r cyflenwr am ei berfformiad hyd yn hyn lle na ddarperir ar gyfer hynny yn y contract neu'r contract fel y'i haddaswyd. Bydd yn rhaid i'r awdurdod contractio hefyd ysgwyddo unrhyw gost ac effaith amser ymgymryd â phroses gaffael newydd ar gyfer y nwyddau neu'r gwasanaethau y bwriedir eu darparu neu'r gwaith y bwriedir ei gyflawni o dan y contract neu'r addasiad.

39. Mae adran 105 yn nodi'r amodau gosod o'r neilltu, y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn gymwys er mwyn i'r Llys allu gosod contract neu addasiad o'r neilltu. Fel y nodir ym mharagraff 36 uchod, lle na fydd cyflenwr wedi cael y cyfle i ofyn am rwymedi cyn-gontractiol, rhaid i'r Llys osod y contract neu'r addasiad perthnasol o'r neilltu. Mae'r amodau gosod o'r neilltu hyn a nodir yn adran 105(1) fel a ganlyn:

  1. ni chafodd hysbysiad dyfarnu contract gofynnol ei gyhoeddi: yn gyffredinol mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid cyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract sy'n nodi bod yr awdurdod contractio yn bwriadu ymrwymo i gontract â chyflenwr penodol cyn i'r awdurdod contractio ymrwymo i gontract cyhoeddus (adran 50). Os na chaiff ei gyhoeddi, yna mae'n bosibl na fydd cyflenwyr aflwyddiannus yn ymwybodol o'r penderfyniad ac na fyddant yn gallu herio penderfyniad anghyfreithlon cyn i'r partïon ymrwymo i'r contract. Nid yw'r amod gosod o'r neilltu hwn yn berthnasol lle nad yw'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract. Fodd bynnag, mae'n berthnasol lle bydd yr awdurdod contractio wedi dod i gasgliad amhriodol nad oedd angen hysbysiad dyfarnu contract, neu lle cafodd hysbysiad anghywir ei gyhoeddi
  2. ymrwymwyd i'r contract neu cafodd ei addasu cyn diwedd unrhyw gyfnod segur cymwys: mae'r cyfnod segur yn rhoi cyfnod penodol o amser i gyflenwyr gychwyn achos cyn y bydd y partïon yn ymrwymo i'r contract. Os bydd yr awdurdod contractio wedi ymrwymo i gontract neu os bydd wedi addasu contract cyn diwedd unrhyw gyfnod segur, caiff y gallu i gychwyn achos cyn i'r partïon ymrwymo i'r contract ei leihau neu ei wadu'n llwyr ac ni fydd y cyflenwr yn gallu cyflwyno hawliad mewn perthynas â rhwymedi cyn-gontractiol. Mae'n berthnasol p'un a oedd y cyfnod segur yn ofynnol neu'n wirfoddol ac mae'n cynnwys achosion lle bydd yr awdurdod contractio wedi gwneud penderfyniad amhriodol nad oedd angen cyfnod segur
  3. ymrwymwyd i'r contract neu cafodd ei addasu yn ystod cyfnod lle roedd ataliad awtomatig ar waith neu gan dorri gorchymyn llys: fel y nodwyd ym mharagraff 21 uchod, mae adran 101(1) yn gwahardd awdurdod contractio rhag ymrwymo i gontract cyhoeddus neu addasu contract cyhoeddus os bydd cyflenwr yn cychwyn achos, yn ystod cyfnod segur cymwys, ac y caiff yr awdurdod contractio ei hysbysu am hyn. Pan fydd awdurdod contractio yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn, ni all y cyflenwr gyflwyno hawliad am rwymedi cyn-gontractiol
  4. lle nad yw'n ofynnol i'r awdurdod contractio weithredu cyfnod segur, ac mai dim ond adeg cyhoeddi'r hysbysiad dyfarnu contract y daeth yr achos o dorri dyletswydd statudol i'r amlwg: mae'r amod hwn yn ymdrin â'r amgylchiad lle na wnaeth yr awdurdod contractio weithredu cyfnod segur gan nad oedd yn ofynnol iddo wneud hynny oherwydd natur y contract ac mai dim ond ar ôl i'r partïon ymrwymo i'r contract y daeth yr achos o dorri dyletswydd statudol yn amlwg. Gallai hyn godi, er enghraifft, lle bydd awdurdod contractio yn ymrwymo i gontract yn syth ar ôl cyhoeddi ei hysbysiad dyfarnu contract, a thrwy hynny, beidio â rhoi'r cyfle i'r cyflenwr ystyried yr hysbysiad yn llawn a'r amser iddo gychwyn achos mewn perthynas â rhwymedi cyn-gontractiol. Ni chaiff yr amod hwn ei fodloni os, er gwaethaf y ffaith nad oedd yn ofynnol i'r awdurdod contractio gydymffurfio â chyfnod segur, y darparodd yr hysbysiad dyfarnu contract serch hynny ar gyfer cyfnod segur gwirfoddol ac nad ymrwymwyd i'r contract wedi'i addasu cyn pen diwedd y cyfnod segur hwnnw
  5. dim ond adeg cyhoeddi hysbysiad newid contract y daeth yr achos o dorri dyletswydd statudol yn amlwg: dim ond pan fydd contract yn cael ei addasu y mae'r amod hwn yn berthnasol a byddai'n codi (fel yn achos paragraff d uchod) lle nad yw awdurdod contractio yn gweithredu cyfnod segur gwirfoddol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad. Unwaith eto, ni chaiff yr amod hwn ei fodloni os, er gwaethaf y ffaith nad oedd yn ofynnol i'r awdurdod contractio gydymffurfio â chyfnod segur, y darparodd yr hysbysiad dyfarnu contract serch hynny ar gyfer cyfnod segur gwirfoddol ac yr ymrwymwyd i'r contract wedi'i addasu cyn pen diwedd y cyfnod segur hwnnw, neu
  6. dim ond ar ôl ymrwymo i'r contract neu ei addasu y daeth yr achos o dorri dyletswydd statudol yn amlwg: mae'r amod hwn yn ymdrin â'r amgylchiad lle nad oedd yr hawlydd yn gwybod am yr achos o dorri dyletswydd statudol cyn ymrwymo i'r contract neu cyn gwneud yr addasiad. Er enghraifft, gallai hyn fod gan nad yw'r hysbysiad dyfarnu contract neu'r hysbysiad newid contract yn
    cyfateb i'r contract yr ymrwymwyd iddo, neu'r addasiad a wnaed, ac mai dim ond ar ôl cyhoeddi'r contract neu'r contract fel y'i haddaswyd y daeth hynny'n amlwg. Gallai'r amod hwn hefyd gael ei fodloni lle na fydd awdurdod contractio yn darparu crynodebau asesu (neu grynodebau asesu llawn a/neu gywir) cyn cyhoeddi'r hysbysiad dyfarnu contract ac ymrwymo i'r contract, sy'n gwadu'r cyfle i'r cyflenwr nodi unrhyw achosion posibl o dorri dyletswydd statudol.

40. Hyd yn oed lle caiff amod gosod o'r neilltu ei fodloni, mae'r Ddeddf yn rhoi disgresiwn i'r Llys beidio â gosod y contract neu'r addasiad o'r neilltu, os bydd yn fodlon bod budd cyhoeddus tra phwysig dros beidio â gwneud hynny. Gallai hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, ar gyfer rhai contractau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu amddiffyn lle gallai effaith gosod contract neu addasiad o'r neilltu gael effaith annerbyniol. Os bydd Llys yn fodlon bod budd cyhoeddus tra phwysig, gall leihau hyd y contract neu'r nwyddau neu'r gwasanaethau i'w darparu neu'r gwaith i'w gyflawni yn lle gosod y contract neu'r addasiad o'r neilltu.

41. Mae adran 104(5) yn nodi rhai cyfyngiadau penodol o ran yr hyn y gall y Llys roi ystyriaeth iddo wrth ystyried budd y cyhoedd mewn perthynas â pheidio â gosod y contract neu'r addasiad o'r neilltu. Er enghraifft, ni ddylai ystyried y costau ychwanegol y bydd yr awdurdod contractio yn mynd iddynt wrth ymgymryd â phroses gaffael newydd na goblygiadau ariannol yr oedi wrth ddarparu'r nwyddau neu'r gwasanaethau neu gyflawni'r gwaith y mae'r contract neu'r addasiad yn ymwneud â nhw/ag ef.

42. Fel y nodir ym mharagraff 17 uchod, mae adran 106(2) yn darparu bod yn rhaid i gyflenwr gychwyn achos cyn pen diwedd y cyfnod 30 diwrnod ar gyfer y rhan fwyaf o hawliadau. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer achosion i osod contract o'r neilltu, ar yr amod fod yr awdurdod contractio wedi cyhoeddi hysbysiad manylion y contract o dan adran 53.

43. Fodd bynnag, pan fydd cyflenwr am gychwyn achos i osod contract o'r neilltu lle na wnaeth awdurdod contractio gyhoeddi hysbysiad manylion y contract neu i osod addasiad o'r neilltu (achos gosod o'r neilltu penodedig), mae adran 106(1) o bosibl yn cynnig cyfnod hwy. Yn yr achos hwn, rhaid cychwyn achos cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod neu'r cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod yr ymrwymwyd i'r contract neu y cafodd y contract ei addasu (‘cyfnod chwe mis’) pa un bynnag sydd gynharaf. Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut mae'r terfyn amser yn gweithio:

44. Ymrwymir i gontract cyhoeddus ar 2 Ionawr. Ni chaiff hysbysiad manylion y contract ei gyhoeddi fel sy'n ofynnol gan adran 53. Felly y terfyn amser o chwe mis ar gyfer cychwyn achos gosod o'r neilltu penodedig yw 1 Gorffennaf.

45. Enghraifft A:

ae gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i gyflenwr ar 22 Mehefin sy'n awgrymu o bosibl na chafodd contract ei ddyfarnu i'r cyflenwr a gyflwynodd y tendr mwyaf manteisiol ac y gallai fod sail ganddo dros wneud hawliad bod dyletswydd statudol wedi'i thorri.

Dim ond 10 diwrnod (gan gynnwys y diwrnod y daw'r wybodaeth i law) sydd gan y cyflenwr i gychwyn achos i osod y contract o'r neilltu gan mai dim ond 10 diwrnod sydd ar ôl cyn y daw'r terfyn amser o chwe mis i ben ar 1 Gorffennaf.

Os mai dim ond hawliad am iawndal y mae'r cyflenwr am ei gyflwyno, bydd y cyfnod safonol o 30 diwrnod yn gymwys.

46. Enghraifft B:

Ymrwymir i gontract cyhoeddus ar 2 Ionawr. Ni chaiff hysbysiad manylion y contract ei gyhoeddi fel sy'n ofynnol gan adran 53. Felly y terfyn amser o chwe mis ar gyfer cychwyn achos gosod o'r neilltu penodedig yw 1 Gorffennaf.

Ar 19 Ionawr, mae gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i gyflenwr sy'n awgrymu fod contract wedi cael ei ddyfarnu i gyflenwr na wnaeth o bosibl gyflwyno'r tendr mwyaf manteisiol ac y gallai fod sail ganddo dros wneud hawliad bod dyletswydd statudol wedi'i thorri.

Mae gan y cyflenwr 30 diwrnod o 19 Ionawr i gychwyn achos i osod y contract o'r neilltu. Mae hyn oherwydd bod gan y cyflenwr bellach wybodaeth am yr achos posibl o dorri dyletswydd statudol a bod adran 106(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyflenwr gychwyn achos cyn y cyfnod 30 diwrnod neu'r cyfnod chwe mis, pa un bynnag sydd gynharaf.

Achosion caeedig (adran 107)

51. Mae Deddf Cyfiawnder a Diogelwch 2013 yn caniatáu i Ysgrifennydd Gwladol wneud cais i achos cyfreithiol gael ei gynnal gan ddilyn gweithdrefn deunydd caeedig. Yn ystod gweithdrefn deunydd caeedig, bydd y partïon anllywodraethol yn gadael ystafell y llys pan fydd y Llys yn gwrando deunydd sensitif a gall fod yn arbennig o berthnasol os bydd yr achos yn cynnwys materion sy'n ymwneud â diogelwch gwladol. Gan fod y Ddeddf yn rhoi pwerau i Weinidog Swyddfa'r Cabinet ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Gweinidog hwnnw wneud rhai penderfyniadau, mae adran 107 o'r Ddeddf yn rhoi'r gallu hwn i wneud cais am weithdrefnau caeedig i Weinidog Swyddfa'r Cabinet hefyd.

Rheoli'r risg o hawliad

52. Dylid asesu'r risg o her gyfreithiol drwy gydol proses gaffael gan wneud penderfyniadau a chymryd camau priodol i liniaru'r risgiau wrth iddynt gael eu nodi.

53. Mae cymhwyso cyfnod segur gwirfoddol (h.y. lle nad yw'n ofynnol gan y Ddeddf) yn ffordd effeithiol o liniaru'r risg y bydd contract neu addasiad yn cael ei osod o'r neilltu, gan ei fod yn sicrhau bod gan gyflenwyr ddigon o amser i gychwyn achos er mwyn gofyn am rwymedi cyn-gontractiol. Gweler y canllaw ar hysbysiadau dyfarnu contract a'r cyfnod segur am ragor o wybodaeth.

54. Drwy sicrhau bod y rhai hynny sy'n ymwneud â chynnal prosesau caffael yn ymwybodol bod egwyddorion cyfraith gyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu mewn ffordd deg a rhesymegol wrth wneud penderfyniadau a bod yn rhaid iddynt ystyried yr amcanion yn adran 12 o'r Ddeddf (rhannu gwybodaeth a gweithredu ag uniondeb, ac ymddangos fel petaent yn gwneud hynny), gall awdurdodau contractio roi sicrwydd i gyflenwyr fod y broses gaffael yn gadarn ac yn deg ac y gallant fod yn hyderus ynddi. Dylai awdurdodau contractio roi esboniad i gyflenwyr am unrhyw benderfyniadau sy'n effeithio arnynt cyn gynted â phosibl a rhyddhau gwybodaeth i gyflenwyr ar yr un pryd, cyn belled ag y bo'n ymarferol.

55. Gall gweithredu mewn ffordd dryloyw drwy gydol y broses gaffael, yn enwedig yn ystod y weithdrefn ei hun neu'r broses ar gyfer dyfarnu'r contract, a darparu gwybodaeth cyn gynted â phosibl liniaru'r risg y bydd hawliad yn codi'n ddiweddarach yn y broses gaffael, ar ôl i'r penderfyniad dyfarnu gael ei gyhoeddi.

56. Mae cyhoeddi hysbysiadau yn gynharach na'r terfyn amser terfynol yn y Ddeddf (lle y bo'n bosibl) a mabwysiadu'r gyfundrefn dryloywder lawn hyd yn oed lle nad oes unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny yn golygu y gellir defnyddio'r cyfnod 30 diwrnod cyffredinol ar gyfer cychwyn achos yn y ffordd fwyaf effeithiol. Er enghraifft:

  1. mae cyhoeddi hysbysiad tryloywder cyn gynted â phosibl yn golygu os bydd gan gyflenwr unrhyw bryderon am benderfyniad i wneud dyfarniad uniongyrchol, y caiff y pryderon hyn eu codi'n gynnar ac y gellir eu datrys gan darfu cyn lleied â phosibl ar y broses gaffael. Gall hyn hefyd osgoi'r angen am hawliad cyfreithiol
  2. mae cyhoeddi hysbysiad manylion contract a'r contract neu'r addasiad, neu'r contract fel y'i haddaswyd cyn gynted â phosibl ar ôl ymrwymo i'r contract, neu wneud yr addasiad (hyd yn oed os nad yw'n ofynnol gan y Ddeddf), yn golygu y dylai'r risg y caiff hawliad ei gyflwyno i'w osod o'r neilltu ei leihau unwaith y bydd y cyfnod 30 diwrnod wedi dod i ben.

57. Dylai ymgysylltu â chyflenwyr sy'n codi pryderon, gyda'r bwriad o oresgyn unrhyw broblemau y tu allan i'r gyfundrefn rhwymedïau cyfreithiol, osgoi'r angen i'r cyflenwr gychwyn achos, ac felly osgoi'r costau a'r tarfu y gall heriau cyfreithiol eu hachosi. Dylai awdurdodau contractio weithredu mewn modd amserol, er mwyn peidio â gorfodi'r cyflenwr i gymryd camau cyfreithiol oherwydd cyfyngiadau amser; lle bo angen gwneud hynny a lle bo hynny'n gymwys, gellir ymestyn y cyfnod segur er mwyn caniatáu amser ychwanegol o'r fath. Gallai awdurdodau contractio ystyried a fyddai'n fuddiol gofyn i gymheiriaid (nad ydynt yn cymryd rhan uniongyrchol yn y broses gaffael) roi barn annibynnol ar fater penodol, lle gellir gwarantu hynny a bod modd gwneud hynny.

Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?

58. Er mwyn cymryd camau effeithiol i reoli'r risg y ceir hawliad cyfreithiol, bydd angen i awdurdodau contractio fod yn gyfarwydd â'r rhwymedigaethau a all ysgogi hawliad cyfreithiol os na fyddant yn cydymffurfio â nhw; h.y. y rhai hynny sydd wedi'u cynnwys yn Rhannau canlynol y Ddeddf:

  • Rhan 1: Diffiniadau Allweddol
  • Rhan 2: Egwyddorion ac Amcanion
  • Rhan 3: Dyfarnu Contractau Cyhoeddus a Gweithdrefnau
  • Rhan 4: Rheoli Contractau Cyhoeddus
  • Rhan 5: Gwrthdaro Buddiannau
  • Rhan 7: Rhoi Rhwymedigaethau Rhyngwladol ar Waith
  • Rhan 8: Gwybodaeth a Hysbysiadau: Darpariaeth Gyffredinol.

Caiff y rhwymedigaethau a'r gofynion hyn eu hesbonio'n fanylach yn y gyfres lawn o ganllawiau ar y Ddeddf – cyfeiriwch at y dudalen ‘Deddf Caffael 2023: dogfennau canllaw’. Er mwyn deall yr opsiynau sydd ar gael i gyflenwyr â phryderon am y broses gaffael yn llawn, byddai'n fuddiol deall y gyfundrefn goruchwylio caffael (gan gynnwys rôl yr Uned Adolygu Caffael) a'r broses adolygiadau barnwrol.