Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn cwrdd â busnesau a buddsoddwyr rhyngwladol yn yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol yn Llundain heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr Uwchgynhadledd yw prif ddigwyddiad buddsoddi Llywodraeth y DU, gan ddod â 300 o arweinwyr diwydiant ynghyd i drafod buddsoddi ac arddangos y cryfderau sy'n bodoli ar draws gwledydd y DU. Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr i Gymru yn yr Uwchgynhadledd.

Mae 1,480 o gwmnïau tramor yng Nghymru, sy'n cyflogi bron i 175,000 o bobl, gan gynnwys mewn diwydiannau twf fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, technoleg ariannol, seiberddiogelwch, ynni morol, gweithgynhyrchu'r genhedlaeth nesaf a gwyddorau bywyd.

Mae buddsoddiadau tramor mawr wedi eu cyhoeddi yng Nghymru yn ddiweddar. Y mis diwethaf, cyhoeddodd y cwmni mawr o Dwrci Eren Holdings fuddsoddiad gwerth £1 biliwn a fydd yn sicrhau 300 o swyddi ar Lannau Dyfrdwy, gyda chefnogaeth gan Lywodraethau'r DU a Chymru. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Kellanova, y cwmni rhyngwladol Americanaidd sy'n cynhyrchu grawnfwydydd brecwast Kellogg’s, fuddsoddiad o £75 miliwn a fydd yn creu 130 o swyddi newydd yn Wrecsam.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:

"Mae buddsoddiad mewnol yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru ac yn cefnogi uchelgeisiau fy llywodraeth ar gyfer twf. Mae effaith buddsoddiadau tramor ar ein heconomi yn enfawr, gan greu cyflogau uwch, gwell cynhyrchiant a mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu.

"Rydyn ni wedi gweld rhai buddsoddiadau rhyngwladol cyffrous iawn yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dwi am sicrhau bod y buddsoddiadau hynny yn parhau i bob rhan o Gymru, gan arwain at dwf tymor hir a chreu swyddi. 

"Mae'n hanfodol ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddenu buddsoddiad i Gymru. Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu fel Prif Weinidog i gwrdd â phenderfynwyr allweddol y diwydiant a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan wych ar gyfer buddsoddi."