Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwyf yn lansio ein hymgynghoriad ar elfennau'r gweithlu yng ngham 2 o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith. Mae'r ymgynghoriad hwn, a fydd yn para am wyth wythnos, yn adeiladu ar ymgynghoriad y llynedd ar ein hymateb arfaethedig i'r materion sy'n wynebu gofal cartref yng Nghymru. Mae'n nodi sut y byddwn yn defnyddio'r fframwaith statudol yr ydym yn ei sefydlu o dan Ddeddf 2016 i gefnogi'r sector wrth fynd i'r afael â materion pwysig ynghylch recriwtio a chadw ac arferion gwaith, a thrwy hynny cynnal hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal a chymorth diogel a phriodol.
Pan fu inni ymgynghori y llynedd ar ein cynigion polisi y llynedd, cawsom negeseuon clir am yr angen i gefnogi recriwtio a chadw gweithwyr ac i gadw dilyniant ac ansawdd gofal. Roedd yr effeithiau andwyol sy'n gallu deillio o ddarparu cymorth trwy drefniadau dim oriau a'r angen i hyrwyddo prosesau ac arferion sy'n cadw faint o amser sy'n cael ei dreulio yn darparu gofal a chymorth yn rhan allweddol o'r ymatebion a ddaeth i law.
Mae'r ymgynghoriad felly'n profi rheoliad drafft sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth cartref wahaniaethau'n glir rhwng amser teithio ac amser gofal wrth drefnu'r gwasanaethau hynny. Bwriedir i hyn ddarparu mwy o dryloywder a llywio camau i sicrhau nad yw amser gofal yn cael ei erydu, ac nad yw amser teithio rhwng ymweliadau'n effeithio ar ansawdd y gofal.
Dangosodd canfyddiadau ymchwil a'r ymatebion i'n hymgynghoriadau blaenorol gysylltiad rhwng amlder contractau dim oriau a gostyngiad yn lefel y gofal, a hynny oherwydd materion ynghylch dilyniant o ran gofal a chymorth, a chyfathrebu rhwng gweithwyr gofal cartref a'r rhai y maent yn eu cefnogi. Fel Llywodraeth Cymru rydym o'r farn bod ansawdd gofal a chymorth yn hollbwysig. Rwyf, felly, wedi achub y cyfle hwn i gyflwyno rheoliad drafft sy'n ceisio dylanwadu ar y defnydd o gontractau dim oriau o fewn gwasanaethau cymorth cartref, er mwyn diogelu ansawdd y gofal a ddarperir.
Mae'r ddau gynnig hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â Rheoliadau drafft Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) 2017 a gyhoeddwyd at ddibenion ymgynghori ar 2 Mai.
Byddai'n fwriad gennyf ddefnyddio'r rheoliadau fel y cyfrwng deddfwriaethol ar gyfer y newidiadau yr wyf yn ymgynghori arnynt heddiw. Gyda’i gilydd, nod y darpariaethau drafft yw gwella ansawdd a dilyniant gofal i'r rhai sy'n cael cymorth cartref.
Mae gwella proffil a statws gwaith gofal cartref yn un o nodau Llywodraeth Cymru ac rydym wedi'i gwneud yn glir ers tro ein bod yn credu bod cofrestru gorfodol gweithwyr mewn gwasanaethau cymorth cartref yn elfen angenrheidiol yn hyn o beth. Mae angen amserlennu estyn cofrestru i grwpiau newydd o'r gweithlu yn briodol er mwyn caniatáu digon o amser i weithwyr ymgynefino â'r gofynion cofrestru a chydymffurfio â hwy a'u hychwanegu at y gofrestr mewn ffordd gytbwys. Rwyf felly'n gofyn am farn am gynigion i agor cofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru o weithwyr gofal cymdeithasol i'r rhai sydd wedi'u cyflogi mewn gwasanaethau cymorth cartref rheoleiddiedig (h.y. gweithwyr gofal cartref) o 2018, i gefnogi'r pontio rheoledig hwn.
Yn olaf, fel Llywodraeth Cymru rydym yn glir bod rheolaeth dda ar ofal cymdeithasol yn hanfodol i ansawdd y gofal a'r cymorth a dderbynnir. Er hynny, rydym hefyd yn ymwybodol o heriau recriwtio a chadw rheolwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys yr anawsterau sydd ynghlwm wrth ennill y cymwysterau angenrheidiol a graddau'r trosiant yn y rhan hon o'r gweithlu. Mae hon yn broblem y mae rhaid i'r holl rhanddeiliaid ym maes gofal cymdeithasol weithio gyda'i gilydd i'w meintioli a mynd i'r afael â hi. Rwyf felly'n defnyddio'r ymgynghoriad hwn i geisio barn am sut y gallwn fynd i'r afael â heriau presennol o ran recriwtio a chadw rheolwyr gofal cymdeithasol, er mwyn helpu i sicrhau cyflenwad digonol o reolwyr gofal cymdeithasol galluog y mae ar ddyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru ei angen.