Neidio i'r prif gynnwy

A yw'r cynnig yn dangos cysylltiad clir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg?

Darparodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('y Ddeddf') ar gyfer sefydlu Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil ('y Comisiwn'). Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer system gofrestru ar gyfer darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, ac i'r gofrestr gael ei sefydlu a'i chynnal gan y Comisiwn.

Ers cyflwyno'r Ddeddf, mae ymarfer brandio sefydliadol wedi'i gynnal a phenderfynwyd defnyddio'r gair 'Medr' yn lle'r acronym 'CTER', sy'n golygu sgil a gallu, fel ei enw brand. Cafodd yr awgrym hwn ei dderbyn yn dda yn ystod y gwaith ymgysylltu diweddar â rhanddeiliaid, oherwydd ei gysylltiad clir ag uchelgais a blaenoriaethau'r Comisiwn, ac fe ystyriwyd hefyd ei fod yn ddigon syml i weithio'n dda ar lefel ryngwladol. Felly, penderfynwyd defnyddio ei enw cyfreithiol, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil / Commission for Tertiary Education and Research, o dan 'Medr' ym mhob un o'n deunyddiau cyfathrebu yn y dyfodol. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg. Mae'r Comisiwn yn bwriadu cyfleu'r penderfyniad hwn i set ehangach o randdeiliaid erbyn diwedd mis Mai.

Y Comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac addysg uwch, dysgu oedolion yn y gymuned, dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol. Un o amcanion polisi cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r Ddeddf yw sefydlu sail ddeddfwriaethol effeithiol, gadarn a chynaliadwy ar gyfer rheoleiddio darparwyr addysg drydyddol. Ni all darparwyr y cyllidir eu darpariaeth addysg uwch gan ffioedd dysgu yn bennaf gael eu rheoleiddio trwy delerau ac amodau'r Comisiwn yn unig gan fod taliadau ffioedd dysgu yn ymrwymiad cytundebol rhwng darparwyr a'u myfyrwyr. Felly, blaenoriaeth gynnar i'r Comisiwn fydd datblygu system goruchwylio rheoleiddiol ar gyfer y darparwyr hyn.

Mae Asesiad Effaith ar y Gymraeg wedi'i gyhoeddi mewn perthynas â'r Deddf, sy'n sefydlu'r cysylltiad clir rhwng y Comisiwn a nodau Strategaeth Cymraeg 2050 o ran gwella'r broses o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, sicrhau y gall pob dysgwr ddatblygu ei sgiliau Cymraeg i'w llawn botensial ac annog dilyniant ieithyddol cadarn o un cam addysg a hyfforddiant i'r nesaf, a gwella'r ffyrdd o ddarparu cymorth canolog ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ddwy set o reoliadau drafft mewn perthynas â sefydlu'r Gofrestr o Ddarparwyr Addysg Drydyddol, o dan y Ddeddf. Bydd y rheoliadau yn galluogi'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, unwaith y bydd yn weithredol, i sefydlu'r system gofrestru ar gyfer darparwyr addysg drydyddol addysg uwch yng Nghymru.

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi bod yn rhan hanfodol o'r broses ddatblygu. Gofynnwyd am farn drwy waith ymgynghori ffurfiol i nodi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar y Gymraeg, cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, yn ogystal ag awgrymiadau i wneud newidiadau i gynyddu'r effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.

Cafwyd 21 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyffredinol, ond nid oedd pob un wedi ymateb i'r ddau gwestiwn ynglŷn â'r Gymraeg. Mynegodd y mwyafrif o'r ymatebwyr farn gadarnhaol ar yr effeithiau ar y Gymraeg gan nodi mai darparu'r sail ddeddfwriaethol yn unig ar gyfer y Gofrestr fydd y rheoliadau, ac y bydd y Comisiwn yn sefydlu a datblygu'r system gofrestru. Nododd llawer o'r ymatebion ei bod yn anodd, ar hyn o bryd, i ddeall a fyddai unrhyw effeithiau negyddol, nes bod y Comisiwn wedi datblygu'r system gofrestru. 

Roedd sylwadau un ymatebydd y tu allan i gwmpas y rheoliadau, gan ganolbwyntio ar ddarparu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn sefydliadau oherwydd heriau o ran recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg. Awgrymodd un arall y dylai mwy o gymorth ariannol fod ar gael i ddarparwyr i wella'r ddarpariaeth Gymraeg. Roedd un ymatebydd yn siomedig nad oedd y rheoliadau drafft yn cyfeirio'n benodol at ddarpariaeth Gymraeg a chyfrwng Cymraeg. Awgrymodd un arall gynnwys amodau mewn perthynas â deddfwriaeth ar y Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011). Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid cynnwys amodau yn ymwneud ag ymrwymiad darparwr i'r Gymraeg a dyletswyddau perthnasol. Ystyriwyd y safbwyntiau hyn ond fe'u diystyrwyd oherwydd bod dyletswyddau strategol ehangach eisoes wedi'u cynnwys yn y Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn arfer ei swyddogaethau gan gynnwys hyrwyddo addysg drydyddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ni fyddai cynnwys amodau pellach yn y rheoliadau yn ychwanegu unrhyw fudd nodedig a byddai'n dyblygu amodau yn y Ddeddf.

Ni fwriedir i'r gofrestr fod yn ystorfa o ddarpariaeth addysg uwch ond i gefnogi goruchwyliaeth reoleiddiol darparwyr rheoleiddiedig. Mae gwybodaeth o'r fath eisoes ar gael drwy wefannau sefydliadau unigol neu drwy system ymgeisio UCAS. Gall y cyrsiau a gynigir gan sefydliadau newid a byddai'n fwy priodol i ddefnyddwyr y gofrestr wirio gwefannau darparwyr cofrestredig unigol i gael manylion am eu cynnig Cymraeg. Felly, ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus, rydym yn fodlon bod y gofynion gwybodaeth a bennir yn y rheoliadau yn ddigonol i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr y gofrestr sy'n berthnasol i oruchwyliaeth reoleiddiol y Comisiwn o ddarparwyr cofrestredig ac nad oes unrhyw effeithiau negyddol ar y Gymraeg.

Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar y Gymraeg, ac esboniwch sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r effeithiau hyn er mwyn gwella'r sefyllfa o ran y Gymraeg. Sut fydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (yn effeithiau cadarnhaol a (neu) andwyol)? Dylech nodi eich ymatebion i’r canlynol wrth ateb y cwestiwn hwn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall

Bydd y gofrestr yn cael ei chyhoeddi'n ddwyieithog ac yn rhoi mynediad i ddysgwyr, darpar ddysgwyr a rhanddeiliaid eraill a'r cyhoedd yn ehangach at y set graidd o wybodaeth angenrheidiol am ddarparwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, os daw tystiolaeth i'r amlwg wrth ddatblygu'r gofrestr gan y Comisiwn fod unrhyw effeithiau negyddol uniongyrchol neu anuniongyrchol di-oed ar y Gymraeg, disgwylir y bydd y Comisiwn yn cynnal ei ymgynghoriad a'i asesiadau effaith ei hun i ddeall unrhyw effeithiau posibl.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg, Gall y rhain fod yn gymunedau gwledig clos, rhwydweithiau cymdeithasol gwasgaredig mewn lleoliadau trefol, ac yn gymunedau rhithiol sy’n ymestyn ar draws ardaloedd daearyddol. (effeithiau cadarnhaol a (neu) andwyol)

Y rhagdybiaeth wrth ddatblygu rheoliadau oedd sicrhau bod yr holl ddarpariaeth a ddynodwyd ar gyfer cymorth myfyrwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn destun rheoleiddio a goruchwyliaeth briodol a chymesur. Nid yw cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith yn cael ei effeithio'n andwyol o ganlyniad i hyn.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar addysg Gymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a (neu) andwyol)

Ar ôl ei sefydlu, bydd y Gofrestr yn cefnogi nodau strategol y Comisiwn i sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr o bob oed trwy ddisodli'r trefniadau presennol sy'n dod o fewn Deddf Addysg Uwch 2015, unwaith y bydd y Ddeddf honno wedi'i diddymu. Bydd y Comisiwn yn gallu defnyddio ei bwerau a'i ddyletswyddau cynyddol o dan y Ddeddf fel ysgogiadau i gynyddu mynediad a darpariaeth. Mae darparu system addysg drydyddol mewn sefyllfa well i ymateb i facro-newidiadau, i gynllunio llwybrau ar gyfer dysgwyr, ac i dynnu'r sector ynghyd mewn ffordd sy'n darparu ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau gydol oes go iawn, gan gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut y byddwch yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a’u bod yn gallu cael mynediad atynt a’u defnyddio mor rhwydd â gwasanaethau Saesneg? Pa dystiolaeth neu ddata a ddefnyddiwyd gennych yn sail i'ch asesiad, gan gynnwys tystiolaeth oddi wrth siaradwyr Cymraeg neu grwpiau sydd â diddordeb yn y Gymraeg

Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i ymgysylltu'n gynnar â chyrff cynrychioliadol Cymraeg, gan gynnwys y Coleg. Bydd y Gofrestr a'r Rheoliadau yn ddwyieithog.

Pa dystiolaeth arall fyddai’n eich helpu i gynnal asesiad gwell

Cynhaliodd Comisiynydd y Gymraeg yr ymchwil 'Addysg Ôl-orfodol a'r Gymraeg: llais y dysgwyr' i gael barn a phrofiadau dysgwyr ôl-16 mewn addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, a ddangosodd yn glir bwysigrwydd y Gymraeg i ddysgwyr yng Nghymru. Ymhlith y rhwystrau a nodwyd oedd y diffyg darpariaeth Gymraeg ar hyn o bryd, yn enwedig yn y meysydd mwy galwedigaethol, y bydd angen mynd i'r afael ag ef. Bydd ymchwil fel hyn yn hanfodol o ran cynnwys llais y dysgwr, sy'n amod mandadol o dan y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn adran 129 o'r Ddeddf , er mwyn sicrhau bod buddiannau pob dysgwr yn cael eu cynrychioli.

Mae Bill Addysg Gymraeg yn cael ei ddatblygu i gefnogi'r her sylweddol a ddaeth yn sgil strategaeth Cymraeg 2050, a'r targed o filiwn o siaradwyr. Ein bwriad yw sefydlu a gweithredu un continwwm o sgiliau Cymraeg fel bod gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o’r daith i ddysgu’r Gymraeg a’r deilliannau ieithyddol disgwyliedig ar bob cam o’r daith honno.

Sut y byddwch yn gwybod a fydd eich polisi'n llwyddiant

Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fonitro cyfranogiad cynyddol a thrwy argaeledd y cyrsiau sydd ar gael. Bydd y dyletswyddau o dan y Ddeddf yn chwarae rhan hanfodol yn hyn a thrwy waith y Comisiwn i ddatblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth o addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg yn y system drydyddol gyfan a'i hyrwyddo. Mae'r system Gofrestru yn ganolog o ran casglu gwybodaeth am gyrsiau ar gyfer goruchwyliaeth reoleiddiol. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn fonitro cydymffurfiaeth pob darparwr cofrestredig â'u hamodau cofrestru parhaus. Rhaid i'r Comisiwn hefyd baratoi adroddiad blynyddol a chynnwys sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae'r gofyniad hwn hefyd yn cynnwys i ba raddau y darparwyd addysg drydyddol yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ba raddau y cafodd y Gymraeg ei dysgu i bobl dros oedran ysgol gorfodol yng Nghymru.