Rheoliadau cychwynnol system gofrestru y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY): asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Asesiad o'r effaith ar hawliau plant o rheoliadau cychwynnol system gofrestru y CADY.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion y polisi
Fe wnaeth Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ddarparu ar gyfer sefydlu Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil ('y Comisiwn'). Y Comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru. Mae angen cyfres o reoliadau i alluogi'r gofrestr a'r system oruchwylio reoleiddiol gysylltiedig i weithredu fel y'i bwriadwyd.
Mae'r rhain yn angenrheidiol er mwyn i'r Comisiwn allu sefydlu a gweithredu'r gofrestr a chael y rhyddid gweithredol i ddatblygu ei ddisgwyliadau ei hun oddi wrth ddarparwyr i fodloni gofynion rheoleiddio.
Ers cyflwyno'r Ddeddf, mae ymarfer brandio wedi'i gynnal, a phenderfyniad wedi'i wneud i ddisodli'r acronym Saesneg 'CTER' â'r teitl 'Y comisiwn', sy'n golygu sgil a gallu, fel ei enw brand. Cafodd yr awgrym hwn dderbyniad da yn ystod gwaith ymgysylltu ddiweddar â rhanddeiliaid, oherwydd ei gysylltiad clir ag uchelgais a blaenoriaethau'r Comisiwn, ac roedd hefyd yn cael ei ystyried yn ddigon syml i weithio'n dda ar lefel ryngwladol. Felly, penderfynwyd defnyddio ei enw cyfreithiol, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil / Commission for Tertiary Education and Research, a ddefnyddir yn y dyfodol o dan 'Y comisiwn' ym mhob gohebiaeth.
Dwy set gyntaf y rheoliadau drafft hyn o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yw canolbwynt yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant, ac maent yn rheoliadau a fydd yn effeithio ar gofrestru darparwyr addysg uwch. Dyma nhw:
- Rheoliadau Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y categorïau cofrestru, yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr, amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus pellach, y categori y mae terfyn ffioedd yn gymwys iddo, a chymhwystra darparwyr cofrestredig i dderbyn cyllid gan y Comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil ac arloesi.
- Rheoliadau Dynodi Darparwyr yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi darparwr fel sefydliad at ddiben gwneud cais cofrestru. Maent yn nodi'r weithdrefn a'r dystiolaeth ategol ar gyfer ceisiadau dynodi gan ddarparwyr na fyddent yn cael eu hystyried fel sefydliad heblaw am y dynodiad. Nid yw dynodiad fel sefydliad yn rhoi unrhyw hawliau na dyletswyddau ar ddarparwr ond bydd yn galluogi darparwyr nad ydynt yn sefydliad i geisio cofrestru â'r Comisiwn.
Mae wedi bod yn fwriad polisi sydd wedi'i ddatgan ein bod am wneud rheoliadau i weithredu'r gofrestr ar gyfer rheoleiddio darparwyr addysg uwch dim ond ar ôl i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022 gael ei phasio gan y Senedd ar 28 Mehefin 2022, ac fe'i cynhwyswyd yn y Datganiad o Fwriad Polisi a gyhoeddwyd gyda'r Ddeddf pan gafodd ei chyflwyno i'r Senedd. Bydd gwneud rheoliadau i weithredu'r gofrestr ar gyfer rheoleiddio darparwyr addysg uwch yn caniatáu i'r gofrestr ffurfio porth rheoleiddio ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig ar gyfer cymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr, ac mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn darparu ystod o swyddogaethau ymyrraeth reoleiddiol i'r Comisiwn i gefnogi'r drefn reoleiddiol.
Mae gwneud rheoliadau i weithredu'r gofrestr ar gyfer rheoleiddio darparwyr addysg uwch yn cynnwys yr elfennau allweddol canlynol
- Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu'r categorïau cofrestru sy'n berthnasol i ddarparwyr addysg uwch.
- Byddai'n ofynnol i'r Comisiwn, yn ei dro, sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg uwch yn unig.
- Byddai darparwyr addysg bellach, ar gyfer darpariaeth nad yw'n addysg uwch, yn parhau i gael eu rheoleiddio'n bennaf drwy delerau ac amodau'r Comisiwn o ran y cyllid grant.
- Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn ystyried gosod telerau ac amodau cyllid ar gyfer darparwyr addysg bellach sy'n ymwneud â llawer o'r amodau cofrestru parhaus gorfodol sy'n berthnasol i ddarparwyr cofrestredig.
Mae gwneud rheoliadau i weithredu'r gofrestr ar gyfer rheoleiddio addysg uwch yn darparu manteision allweddol a fydd yn fuddiol i fyfyrwyr yn y tymor hir. Byddai'r holl ddarparwyr ôl-16 yn cael eu rheoleiddio â'r un mecanwaith goruchwylio gan gynnig mwy o gysondeb a chydlyniant ar draws y sector. Bydd yn caniatáu i'r Comisiwn fonitro a hyrwyddo gwelliant ymhlith darparwyr addysg a hyfforddiant, a fydd yn ei dro yn fanteisiol i'r myfyrwyr sy'n cael addysg gan y darparwyr hyn.
Ymhlith y manteision pellach mae'r canlynol
- Byddai Gweinidogion Cymru yn cydymffurfio â'u dyletswydd i wneud rheoliadau i bennu un neu fwy o gategorïau cofrestru.
- Byddai'r Comisiwn yn gallu cydymffurfio â'i ddyletswydd statudol i sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol.
- Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio adnoddau lle mae yna angen polisi clir gan y bydd yn darparu trefn oruchwylio reoleiddiol gyson dros ddarparwyr y mae eu cyrsiau addysg uwch wedi'u dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr. Ni ellir goruchwylio'n rheoleiddiol ddarparwyr o'r fath drwy delerau ac amodau cyllid yn unig gan fod taliadau ffioedd dysgu yn ymrwymiad cytundebol rhwng darparwyr a'u myfyrwyr.
- Bydd y dull hwn hefyd yn caniatáu goruchwyliaeth reoleiddiol gyfartal a chydlynol mewn perthynas â'r gwahanol fathau o ddarparwyr addysg drydyddol lle gall telerau ac amodau cyllid sicrhau'r oruchwyliaeth reoleiddiol angenrheidiol.
- Mae'r opsiwn hwn yn creu llai o broblemau i'r Comisiwn o ran adnoddau a chapasiti, ac yn gosod llai o feichiau gweinyddol ar ddarparwyr addysg bellach ar gyfer darpariaeth nad yw'n addysg uwch, gan y byddent yn parhau i gael eu rheoleiddio mewn ffordd y maent yn gyfarwydd â hi.
- O dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn cael ei ddiddymu, ac mae sefydlu system reoleiddio gyfredol yn ei le yn flaenoriaeth yn sgil diddymu'r ddeddfwriaeth gysylltiedig.
Nid yw'r Comisiwn wedi datblygu gwybodaeth eto ynghylch y gofynion o ran tystiolaeth ar gyfer bodloni'r amodau cofrestru cychwynnol a'r disgwyliadau ar gyfer cydymffurfio â'r amodau cofrestru parhaus. Fodd bynnag, mae gofynion rheoleiddiol ar wyneb Deddf 2022 y bydd angen i'r Comisiwn eu hystyried a'u datblygu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, sef:
- Y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr: bwriad y Cod hwn yw sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli, ac y gall dysgwyr roi eu barn i ddarparwyr am ansawdd yr addysg y maent yn ei chael a chymryd rhan yn y penderfyniadau a wneir gan y darparwyr hynny.
- Y Cynllun Diogelu Dysgwyr: nod y cynllun hwn yw nodi sut y bydd darparwr yn diogelu buddiannau dysgwyr pe bai amharu ar gwrs neu gwrs yn dod i ben, a sut y gallai darparwyr helpu dysgwyr i drosglwyddo i ddarparwyr eraill.
- Cyfle cyfartal: mae hyn yn ymwneud â chyflwyno canlyniadau mesuradwy mewn perthynas â chyfle cyfartal er mwyn cynyddu cyfranogiad, cynyddu cyfraddau cadw, lleihau bylchau cyrhaeddiad a darparu cymorth mewn perthynas â dysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Lles myfyrwyr a staff: mae hyn yn ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau'r darparwr ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles ei fyfyrwyr a'i staff.
Bydd y rheoliadau, pan gânt eu gwneud, yn galluogi'r Comisiwn i sefydlu'r system gofrestru ar gyfer darparwyr addysg drydyddol addysg uwch yng Nghymru. Mae'r rheoliadau, sy'n ddarostyngedig i'r asesiad hwn, yn caniatáu i'r Comisiwn sefydlu'r gofrestr, gwahodd a phenderfynu ar geisiadau cofrestru, gosod amodau cofrestru ac ymgymryd ag ymyriadau rheoleiddiol.
Bydd y rheoliadau yn rhoi'r rhyddid gweithredol angenrheidiol i'r Comisiwn, fel corff hyd braich, i ddatblygu ei ddisgwyliadau ei hun oddi wrth ddarparwyr i fodloni'r gofynion rheoleiddiol hynny, a sefydlu ei ddull penodol ei hun o fonitro ac ymyrryd.
Bydd angen i'r Comisiwn ddatblygu manylion yr amodau hyn.
Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Yn ddiweddar, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch y cynigion polisi a'r rheoliadau drafft (Rheoliadau Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru a Rheoliadau Dynodi Darparwyr yng Nghymru) sef ffocws yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 31 Hydref 2023 a 5 Chwefror 2024 a chanolbwyntiodd ar wneud rheoliadau i weithredu'r gofrestr ar gyfer rheoleiddio darparwyr addysg uwch yn unig. Dyma oedd y bwriad oherwydd dim ond darparwyr addysg uwch fydd yn gymwys i wneud cais i gael eu cofrestru â'r Comisiwn, ac felly hwn fydd yr unig grŵp o ddarparwyr a fydd yn ddarostyngedig i'r amodau cofrestru ar y cychwyn cyntaf.
Anfonwyd yr ymgynghoriad at ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru. Denodd yr ymgynghoriad 21 o ymatebion, 11 gan ddarparwyr addysg uwch. Ni chafwyd unrhyw ymatebion gan Gomisiynydd Plant Cymru nac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru. Roedd yr ymatebion yn bennaf gan sefydliadau addysg uwch a sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Cafwyd ymatebion hefyd gan y corff rheoleiddiol CCAUC a'r Comisiwn. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Ebrill 2024. Amlygodd yr ymatebion a ddaeth i law fod amodau sy'n ymwneud â'r wybodaeth a roddir i ddarpar fyfyrwyr am y darparwr, ei gyrsiau, a thelerau ac amodau ei gontractau gyda myfyrwyr yn bwysig, a bod angen i'r Comisiwn, wrth bennu'r gofynion manwl ar gyfer yr amodau cofrestru cychwynnol, ystyried yr ystod lawn o sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru a datblygu dull sy'n gymesur â'r risgiau.
Mae gofynion newydd ar wyneb Deddf 2022 sy'n rhan o'r fframwaith strategol y bydd angen i'r Comisiwn ei ddatblygu, a bydd y rhain ar waith i ddiogelu a helpu pobl ifanc sy'n astudio o dan y darparwyr addysg cofrestredig hynny. Y prif newidiadau o ran y system reoleiddiol newydd fyddai amodau cofrestru i ddarparwyr yn ymwneud â'r canlynol:
- Y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
- Y Cynllun Diogelu Dysgwyr
- Cyfle Cyfartal
- Lles myfyrwyr a staff
Mae'r system gofrestru a rheoleiddiol yn ei gwneud yn ofynnol gweithredu amodau cofrestru newydd, a bydd angen i ddarparwyr cofrestredig gydymffurfio yn hytrach ag ystod o amodau cofrestru parhaus. Rhagwelir y bydd hyn yn lleihau maint y baich ar ddarparwyr addysg uwch a reoleiddir ar hyn o bryd yn y tymor hirach, ond bydd angen i'r Comisiwn fonitro ac adolygu'r system reoleiddiol i ysgafnhau'r baich rheoleiddiol gymaint â phosibl.
Nod y Cynllun Diogelu Dysgwyr yw nodi sut y bydd darparwr yn diogelu buddiannau dysgwyr pe bai amharu ar gwrs neu gwrs yn dod i ben, a sut y gallai darparwyr helpu dysgwyr i drosglwyddo i ddarparwyr eraill. Rhagwelir y bydd y cynlluniau'n rhoi eglurder i ddysgwyr os nad ydynt yn gallu parhau i astudio gyda darparwr gan fod y darparwr yn rhoi'r gorau i weithredu neu'n methu parhau i addysgu dysgwyr (er enghraifft, myfyrwyr rhyngwladol os collir Trwydded Fisa Myfyrwyr UKVI neu ddarpariaeth pwnc benodol os bydd cyfleusterau'n cael eu colli'n annisgwyl).
Wrth ddatblygu gofynion y cynllun diogelu dysgwyr, dylai'r Comisiwn ystyried tynnu ar enghreifftiau eraill o ddiwygiadau a wnaed i addysg drydyddol.
Er enghraifft, fel rhan o Fframwaith Safonau Addysg Uwch Awstralia (Safonau Trothwy) 2021, mae'r safonau trothwy yn cynnwys rhwymedigaethau ar gyfer darparwyr i sicrhau bod cynlluniau credadwy yn eu lle ar gyfer parhad busnes, a bod adnoddau digonol ar gyfer rheolaethau ariannol a phrosesau dysgu, i liniaru'r anfantais i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu symud ymlaen mewn cwrs astudio oherwydd newidiadau annisgwyl i drefniadau gweithredu'r darparwr addysg uwch.
Mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn un o amodau Deddf 2022 sydd â'r bwriad o sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli a bod dysgwyr yn gallu rhoi eu barn i ddarparwyr am ansawdd yr addysg y maent yn ei chael a chymryd rhan ym mhenderfyniadau'r darparwyr hynny. Rhagwelir y bydd y cod o fudd i ddysgwyr drwy nodi disgwyliadau o ran sut y dylai darparwyr ymgysylltu â dysgwyr ac ystyried 'llais y dysgwr'. Dylai hyn alluogi darparwyr i ddeall anghenion dysgwyr yn well.
Bydd yr amod cofrestru sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau'r darparwr ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles ei fyfyrwyr a'i staff yn sail i gadw dysgwyr a chyrhaeddiad dysgwyr ac ar gyfer cyflawni nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae yna enghreifftiau o reoleiddwyr eraill sydd wedi gweithredu amodau cofrestru i gefnogi dysgwyr, fel isod, ond mater i'r Comisiwn fydd penderfynu sut mae'n trefnu ei amodau cofrestru y tu hwnt i'r hyn a bennir yn y rheoliadau.
Darparodd y Swyddfa Fyfyrwyr, sy'n rheoleiddio addysg uwch yn Lloegr, ddatganiad diwygiedig o ddisgwyliadau yn ymwneud â hyfforddiant myfyrwyr a staffr, a pholisïau i hwyluso datgelu aflonyddu a chamymddwyn rhywiol ac adrodd amdanynt. Comisiynodd y Swyddfa Fyfyrwyr werthusiad ar effaith gychwynnol cyhoeddi'r datganiad o ddisgwyliadau. Ymgynghorwyd â myfyrwyr a chynrychiolwyr sawl darparwr ac aelodau Panel Myfyrwyr y Swyddfa Fyfyrwyr. Dangosodd canlyniadau'r gwerthusiad hwn nad oedd y datganiad o ddisgwyliadau wedi bod yn ddigonol ar gyfer newid yn ei ffurf bresennol. Nododd myfyrwyr fod angen mwy o dryloywder, yn enwedig cydnabod bod aflonyddu a chamymddwyn rhywiol yn digwydd ar gampysau, a bod angen mwy o adroddiadau ac arwydd clir o newid. Argymhellodd yr adroddiad fod y Swyddfa Fyfyrwyr yn gwneud atal ac ymateb i aflonyddu a chamymddwyn rhywiol yn ddyletswydd orfodol ac yn rhan o'u fframwaith rheoleiddio. Amlygodd yr adroddiad hefyd nad oes data digonol ar lefel sector a darparwyr unigol i lywio ac asesu effeithiolrwydd ymyriadau. Mae hyn wedi arwain at ymgynghoriad gan y Swyddfa Fyfyrwyr ar ddull newydd arfaethedig o reoleiddio aflonyddu a chamymddwyn rhywiol sy'n effeithio ar fyfyrwyr darparwyr addysg uwch cofrestredig. Byddai'r amod newydd arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i brifysgolion a cholegau gyhoeddi dogfen yn esbonio:
- y camau y byddant yn eu cymryd i ddiogelu myfyrwyr rhag aflonyddu a chamymddwyn rhywiol
- trefniadau ar gyfer delio ag achosion
- manylion sut y byddant yn cefnogi unrhyw un sy'n gysylltiedig ag achosion
- manylion yr hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr a staff
Mae arolwg peilot yn cael ei gynnal ar gyfer myfyrwyr er mwyn deall pa mor eang yw camymddwyn rhywiol ym mhrifysgolion Lloegr. Bydd y peilot yn penderfynu a ddylid cynnal arolwg cenedlaethol ac yn helpu'r prifysgolion hynny sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot i ddeall yn well pa gamau y mae angen iddynt eu cymryd.
Mae Llywodraethau Awstralia a Seland Newydd ill dwy wedi darparu fframwaith sy'n blaenoriaethu lles eu myfyrwyr a'u staff yn y sector addysg drydyddol. Mae Fframwaith Safonau Addysg Uwch (Safonau Trothwy) TEQSA Llywodraeth Awstralia yn cynnwys manylion cyfrifoldebau sefydliadau dros les staff, yn ogystal â chefnogi lles a hyrwyddo diogelwch myfyrwyr. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi cyngor amserol a chywir ar fynediad at wasanaethau cymorth i fyfyrwyr a hyrwyddo a meithrin amgylchedd diogel ar y campws ac ar-lein. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr nodi tystiolaeth ar sut maent yn cyflawni hyn. Mae Cod Ymarfer Addysg Seland Newydd (Gofal Bugeiliol Dysgwyr Trydyddol a Rhyngwladol) 2021 yn sicrhau bod dysgwyr trydyddol a rhyngwladol sydd wedi cofrestru gyda darparwyr addysg Seland Newydd yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
Dylai'r Comisiwn ystyried adolygu enghreifftiau eraill o ddiwygiadau i addysg drydyddol er mwyn llywio arferion gorau yng Nghymru.
Bydd yr amod cofrestru gorfodol mewn perthynas â chyfle cyfartal yn helpu i ysgogi gwelliant o ran mynediad, cyfraddau cadw, cyrhaeddiad a chynnydd ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd y gofynion hefyd yn berthnasol i ystod ehangach o ddarparwyr na gofynion y Cynllun Ffioedd a Mynediad, ac felly'n effeithio ar fwy o ddysgwyr. Yn y pen draw, bydd yr amod hwn yn fuddiol i ddysgwyr drwy wella canlyniadau o ran cyflogaeth ac astudio pellach, ac yn cyfrannu at nod 'Cymru sy'n Fwy Cyfartal' Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae gofynion newydd ar wyneb Deddf 2022 yn rhan o'r fframwaith strategol y bydd angen i'r Comisiwn ei ddatblygu a darparu gwybodaeth ac arweiniad ar ei gyfer mewn perthynas â darparwyr addysg uwch, dysgwyr a chynrychiolwyr eraill. Disgwylir i'r Comisiwn gynnal ei ymgynghoriad a'i asesiadau effaith ei hun fel rhan o'r broses o ddatblygu'r gofrestr.
- Pa waith gyda phlant a phobl ifanc rydych chi wedi'i ddefnyddio i lywio eich polisi? Os nad ydych wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, esboniwch pam (Dywed Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fod gan blant yr hawl i fynegi eu barn, yn enwedig pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried).
I grynhoi, cafodd llais pobl ifanc ei glywed a'i nodi fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Deddf Addysg Drydyddol 2022, a thrwy lais plant a phobl ifanc datblygwyd y Ddeddf. Cynhaliwyd Asesiad ar wahân o'r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y Ddeddf, sydd i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant yn canolbwyntio ar Tranche 1 o'r ddau reoliad drafft ynghylch cofrestru darparwyr addysg uwch yr ymgynghorwyd arnynt. Ni fydd y rheoliadau hyn yn sefydlu'r gofrestr, ond yn darparu'r sail ddeddfwriaethol i alluogi'r Comisiwn i sefydlu'r gofrestr. Bydd y gofrestr yn ei gwneud yn bosibl rheoleiddio, mewn ffordd briodol a chymesur, ddarparwyr addysg uwch sy'n cael arian cyhoeddus, gan gynnwys cyllid grant gan y Comisiwn a chymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr. Mae hyn yn hanfodol gan na ellir rheoleiddio darparwyr y mae eu darpariaeth addysg uwch yn cael ei hariannu'n bennaf gan ffioedd dysgu drwy delerau ac amodau cyllid y Comisiwn yn unig. Y rheswm am hyn yw bod taliadau ffioedd dysgu yn ymrwymiad cytundebol rhwng darparwyr a'u myfyrwyr. Bydd y gofrestr yn cynnig cysylltiad hwylus â'r manteision sy'n deillio o gael mynediad at gyllid o'r fath ac yn sicrhau bod darparwyr addysg uwch yn atebol i’r cyhoedd ac yn gallu cyfrannu at flaenoriaethau strategol y Comisiwn. Rhagwelir y bydd y rheoliadau drafft o dan Tranche 1 yn effeithio'n uniongyrchol ar ddarparwyr dysgwyr.
Daethpwyd ag ymgynghoriad Tranche 2 gerbron y Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant i ofyn am gyngor. Awgrymwyd y dylem ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, ond roeddent yn cydnabod bod hyn yn anodd o ystyried natur dechnegol a lefel uchel y rheoliadau arfaethedig. Bydd angen i'r Comisiwn ddatblygu ei gynllun strategol a fydd yn cael effeithiau pendant ar blant a phobl ifanc. Awgrymwyd y byddai ymgysylltu fel rhan o'r broses hon yn fwy ystyrlon.
I sicrhau y gallai pobl ifanc gyfrannu at ymgynghoriad Tranche 1, anfonwyd yr ymgynghoriad at ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru. Ni ddaeth unrhyw ymatebion i law gan Gomisiynydd Plant Cymru nac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru. Roedd yr ymatebion yn bennaf gan y sefydliadau hynny sydd wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n darparu addysg uwch. Roedd hyn i'w ddisgwyl gan fod y rheoliadau drafft yn ymwneud â chofrestru'r darparwyr addysg uwch yn unig.
Fel rhan o ddatblygu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022, gofynnwyd i ymgynghorwyr sy'n fedrus ym maes ymgysylltu â phobl ifanc i lunio ymgynghoriad â phobl ifanc ar y diwygiadau arfaethedig i addysg drydyddol. Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant hefyd ar gyfer Deddf 2022. Cynlluniwyd hwn gyda phlant mewn golwg, a chrëwyd fersiwn sy'n addas i blant. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am wyth wythnos a gofynnwyd am farn plant a dysgwyr iau ar y cynigion i ddiwygio addysg drydyddol. Gwahoddwyd pobl ifanc o ystod o grwpiau oedran a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol i rannu eu barn. Cyhoeddwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2017. Amlygodd yr ymarfer ymgynghori fod pobl ifanc yn profi llawer o wahanol rwystrau wrth geisio cael mynediad at addysg drydyddol. Roedd y rhain yn amrywio o broblemau ariannol i gludiant, a diffyg diddordeb mewn datblygu eu dysgu.
Cafodd 'llais y dysgwr' hefyd ei glywed a'i nodi mewn digwyddiadau Sgiliau Cymru, lle aethpwyd ati i ymgysylltu â dysgwyr o ystod o gefndiroedd ac oedrannau, boed yn blant cynradd neu'n oedolion hŷn. Roedd yr adborth a gafwyd o'r digwyddiad hwn yn help i sicrhau bod barn dysgwyr wedi cael ei hystyried wrth i'r polisi sy'n sail i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil gael ei ddatblygu. Er enghraifft, un o negeseuon allweddol y digwyddiadau oedd y cysyniad y dylid cynllunio cymorth i ddysgwyr ochr yn ochr â dysgwyr. O dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, rhaid i'r Comisiwn baratoi a chyhoeddi cod, er enghraifft, cod ymgysylltu â dysgwyr. Bwriad hyn yw sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle i roi eu safbwynt am ansawdd yr addysg y maent yn ei chael i'w darparwyr, a sicrhau eu bod yn cael cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan ddarparwyr.
Gan na chafodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynigion polisi a'r rheoliadau drafft (Rheoliadau Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru a Rheoliadau Dynodi Darparwyr yng Nghymru) unrhyw ymatebion gan neu ar ran pobl ifanc, ystyriwyd a oedd unrhyw bwrpas pellach, ar y pwynt hwn, i ymgynghori â phobl ifanc, drwy Cymru Ifanc. Fodd bynnag, gan mai mater i'r Comisiwn fydd penderfynu sut mae'n cyflawni ei swyddogaethau, ac ar hyn o bryd nad oes unrhyw wybodaeth ychwanegol ynghylch sut y bydd yr amodau cofrestru yn cael eu llunio y tu hwnt i'r hyn a gynhwysir yn y ddogfen ymgynghori, penderfynwyd peidio ag ymgynghori o'r newydd gan na allem gael trafodaeth ystyrlon gyda phobl ifanc a rhoi'r cyfle i'w llais sicrhau newid ar hyn o bryd. Disgwylir i'r Comisiwn hefyd gynnal ei ymgynghoriad a'i asesiadau effaith ei hun fel rhan o'r broses o ddatblygu'r gofrestr, ac iddo baratoi a gweithredu ar ei flaenoriaethau strategol, fel y'u nodir gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Ebrill 2024.
Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith
Bydd y rheoliadau yn ei gwneud yn bosibl sefydlu cofrestr ar gyfer darparwyr addysg uwch. Disgwylir i'r mwyafrif helaeth o fyfyrwyr addysg uwch fod dros 18 oed. Fodd bynnag, gall y gofrestr fod yn berthnasol i fyfyrwyr, darpar fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae darparu addysg a hyfforddiant ôl-16 yn effeithio ar ddysgwyr o bob oed, gan gynnwys plant, ac o'r herwydd mae'r effeithiau'n ymestyn lawer ymhellach na phlant a phobl ifanc yn unig, ac felly yn cefnogi dibenion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Erthyglau canlynol:
Erthygl 2: Mae'r Confensiwn yn gymwys i bob un, beth bynnag fo'i hil, ei grefydd, ei alluoedd, beth bynnag y mae’n ei feddwl neu'n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono
Bydd yr amod cofrestru gorfodol mewn perthynas ag ymdrechion y Comisiwn i hyrwyddo cyfle cyfartal yn helpu i ysgogi gwelliant o ran mynediad, cyfraddau cadw, cyrhaeddiad a chynnydd ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Erthygl 3: Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn
Mae'r rheoliadau'n pennu set graidd o wybodaeth sy'n berthnasol i fyfyrwyr, darpar fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch darparwyr cofrestredig, y mae'n rhaid i'r Comisiwn ei diweddaru a'i darparu ar gyfer y cyhoedd. Bydd yr amod cofrestru sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau'r darparwr ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles ei fyfyrwyr a'i staff yn sail i gadw dysgwyr a chyrhaeddiad dysgwyr ac ar gyfer cyflawni nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Ar ôl ei sefydlu gan y Comisiwn, bydd y gofrestr yn rhoi sicrwydd i ddysgwyr o ran ansawdd yr addysg, y trefniadau llywodraethiant a'r trefniadau rheoli ariannol mewn perthynas â darparwr addysg uwch. Yn ogystal, bod mesurau diogelu priodol ar waith i ddysgwyr, trefniadau i ymgysylltu'n weithredol â dysgwyr, a sylw i gyfle cyfartal.
Erthygl 12: Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.
Er nad oedd unrhyw ymgysylltu â phobl ifanc a myfyrwyr ar ddatblygu'r rheoliadau a fydd yn effeithio ar ddarparwyr addysg uwch yn unig, wrth ddatblygu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, gofynnwyd i ymgynghorwyr sy'n fedrus ym maes ymgysylltu â phobl ifanc i lunio ymgynghoriad â phobl ifanc ar y diwygiadau arfaethedig i addysg drydyddol. Cynlluniwyd hwn gyda phlant mewn golwg, a chrëwyd fersiwn sy'n addas i blant. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am wyth wythnos a gofynnwyd am farn plant a dysgwyr iau ar ein cynigion ar gyfer diwygio addysg drydyddol. Gwahoddwyd pobl ifanc o ystod o grwpiau oedran a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol i rannu eu barn.
Cafodd 'llais y dysgwr' hefyd ei glywed a'i nodi mewn digwyddiadau Sgiliau Cymru, lle aethpwyd ati i ymgysylltu â dysgwyr o ystod o gefndiroedd ac oedrannau, boed yn blant cynradd neu'n oedolion hŷn. Roedd yr adborth a gafwyd o'r digwyddiad hwn yn help i sicrhau bod barn dysgwyr wedi cael ei hystyried wrth i'r polisi sy'n sail i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil gael ei ddatblygu.
Nod y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, sy'n un o'r gofynion gan ddarparwyr cofrestredig o dan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yw sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli a bod dysgwyr yn gallu rhoi eu barn i ddarparwyr am ansawdd yr addysg y maent yn ei chael a chymryd rhan ym mhenderfyniadau'r darparwyr hynny.
Erthygl 28: Mae gan blant yr hawl i gael addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn
Nod y system gofrestru a'r amodau cofrestru yw cynnal a gwella ansawdd y system drydyddol, parhau a dwysáu gwaith ar ehangu cyfranogiad, a chymryd camau i sicrhau system fwy teg a rhagorol i bawb. Nod casglu data yw nodi annhegwch o fewn y system drydyddol a chyflwyno ymateb a fydd yn cynnwys pennu targedau a chamau gweithredu uchelgeisiol ar gyfer darparwyr i leihau'r annhegwch o ran mynediad at addysg drydyddol, cynyddu amrywiaeth y myfyrwyr sy'n cael eu derbyn pan fo hynny'n isel, a lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad.
Erthygl 29: Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a doniau pob plentyn yn gyflawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, eu diwylliant eu hunain ac eraill, a'r amgylchedd
Bydd y gofrestr hon, unwaith y bydd wedi'i sefydlu, yn dynodi cyrsiau ar gyfer mynediad at gyllid cyhoeddus, sy'n galluogi darparwyr ôl-16 i ddarparu ystod o wahanol addysg a hyfforddiant sy'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Bydd angen asesu hyn unwaith y bydd y gofrestr wedi'i sefydlu, felly disgwylir i'r Comisiwn gynnal ei ymgynghoriad a'i asesiadau effaith ei hun fel rhan o'r broses o ddatblygu'r gofrestr.
Cyngor i weinidogion a’u penderfyniad
Cyflwynir yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant ochr yn ochr â'r Asesiad Effaith Integredig llawn. Caiff Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol hefyd eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant mewn perthynas â'r rheoliadau drafft hyn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad ôl-weithredol ac, yn yr un modd ag yn achos Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, byddwn yn parhau i weithio gyda'r Comisiwn, darparwyr a chyrff cynrychioliadol. Bydd angen cynllun hirdymor i gasglu tystiolaeth o gostau a manteision er mwyn darparu asesiad gwerth am arian pan fydd y rheoliadau wedi'u gwreiddio. Awgrymir bod y rhain yn cael eu hadolygu ar ôl tair a phum mlynedd. Wrth i fwy o fanylion ddod i'r amlwg drwy'r gwerthusiad ôl-weithredol o'r ddeddfwriaeth, o sut mae'r corff yn gweithredu ac o'r system gofrestru, caiff dealltwriaeth well o'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig ag unrhyw newidiadau sy'n cael eu cynnig ei chyfleu bryd hynny mewn asesiadau effaith a gaiff eu diweddaru.
Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc
Mae'r rheoliadau o dan Tranche 1 yn eithaf cyfyngedig ac yn caniatáu ar gyfer creu'r system gofrestru, maent yn effeithio'n uniongyrchol ar ddarparwyr dysgwyr.
Mae'n ofynnol i'r Comisiwn baratoi cynllun strategol sy'n nodi sut y bydd yn mynd i'r afael â blaenoriaethau strategol sy'n ofynnol o dan adran 13 o'r Ddeddf, a sut y bydd yn cyflawni'r dyletswyddau strategol a roddir iddo o dan y Ddeddf. Wrth baratoi'r cynllun, rhaid i'r Comisiwn ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n eu hystyried yn briodol a rhaid cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo. Mae dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi'r cynllun a gymeradwywyd a chymryd pob cam rhesymol i'w weithredu. Disgwylir i'r Comisiwn gynnal ei ymgynghoriad a'i asesiadau effaith ei hun fel rhan o'r broses o ddatblygu'r gofrestr, a fydd yn cynnwys plant a phobl ifanc.
Monitro ac Adolygu
Gan nad yw'r rheoliadau a'r gofrestr wedi'u gweithredu eto, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu a mireinio'r system gofrestru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn i sicrhau y bydd yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant yn cael ei adolygu ac yn llywio asesiad effaith y Comisiwn ei hun.
Disgwylir i gynllun strategol y Comisiwn sy'n nodi sut y bydd yn mynd i'r afael â blaenoriaethau strategol sy'n ofynnol o dan adran 13 o'r Ddeddf gael ei ddatblygu drwy ymgynghori â phersonau y mae'n eu hystyried yn briodol. Mae dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi'r cynllun a gymeradwywyd a chymryd pob cam rhesymol i'w weithredu. Er mwyn cyflawni hyn bydd disgwyl i'r Comisiwn gynnal ei ymgynghoriad a'i asesiadau effaith ei hun fel rhan o'r broses ddatblygu. Rydym yn rhagweld y bydd angen i'r Comisiwn ganolbwyntio ar ddatblygu ei ddisgwyliadau ar gyfer gweithgareddau darparwyr sy'n gysylltiedig ag amodau cofrestru newydd Deddf 2022, er enghraifft, y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Rhagwelir hefyd y bydd y costau ar gyfer cyflwyno'r gweithgareddau hyn yn cael eu pennu i sicrhau llinell sylfaen.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad ôl-weithredol ac, yn yr un modd ag yn achos Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, byddwn yn parhau i weithio gyda'r Comisiwn, darparwyr a chyrff cynrychioliadol. Bydd angen cynllun hirdymor i gasglu tystiolaeth o gostau a manteision er mwyn darparu asesiad gwerth am arian pan fydd y rheoliadau wedi'u gwreiddio. Awgrymir bod y rhain yn cael eu hadolygu ar ôl tair a phum mlynedd. Wrth i fwy o fanylion ddod i'r amlwg drwy'r gwerthusiad ôl-weithredol o'r ddeddfwriaeth, o sut mae'r corff yn gweithredu ac o'r system gofrestru, caiff dealltwriaeth well o'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig ag unrhyw newidiadau sy'n cael eu cynnig ei chyfleu bryd hynny mewn asesiadau effaith a gaiff eu diweddaru.