Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched. Roedd y datganiad yn nodi bod angen rhoi sylw sylweddol i sawl llwybr gan gynnwys:

  • anhwylderau mislif
  • endometriosis
  • menopos

Mae'r datganiad ansawdd yn amlinellu nifer o ddisgwyliadau ar fyrddau iechyd gan gynnwys:

  • yr angen i gydweithio ar draws y gwasanaethau iechyd i gefnogi mynediad teg ar gyfer menywod a merched, cysondeb o ran safonau gofal, mynd i'r afael ag amrywiad diangen, a darparu cydgymorth pan fo angen
  • sicrhau lefelau priodol o allu diagnostig, therapiwtig a llawfeddygol i alluogi menywod sydd angen ymyriadau i dderbyn gofal mor agos â phosibl i'r cartref heb orfod aros yn hir
  • trawsnewid llwybrau yn unol â safonau gofal cydnabyddedig
  • sicrhau bod llwybrau cenedlaethol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer gwasanaethau iechyd menywod wedi'u gwreiddio'n llawn mewn darpariaeth gwasanaethau lleol

Roedd gofynion y GIG mewn perthynas â gwasanaethau canser gynaecolegol wedi'u nodi yn flaenorol yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser. Roedd yn canolbwyntio’n benodol ar ddarparu llwybrau a gytunir yn genedlaethol a mynd i'r afael ag amrywiad o ran ansawdd gofal.

Uwchgynhadledd weinidogol ar gynaecoleg

Cynhaliwyd uwchgynhadledd weinidogol ar gynaecoleg ym mis Gorffennaf 2024 i asesu'r sefyllfa bresennol ar draws y llwybrau gynecoleg a deall yr heriau o fewn y llwybrau hyn. Roedd hyn yn helpu i:

  • ennyn gwell dealltwriaeth o drawsnewid llwybrau a sut y gellir cyflymu'r rhain ar draws GIG Cymru
  • rhannu arferion gorau ac unrhyw rwystrau i wella
  • ystyried modelau gofal cynaliadwy a sut y gellir rhoi'r rhain ar waith
  • cytuno ar sut y gellir gweithredu gwelliannau i berfformiad

Sefyllfa bresennol gwasanaethau gynaecoleg

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gweithrediaeth GIG Cymru ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd gyflwyniad ar sefyllfa bresennol gwasanaethau gynaecoleg ar draws Cymru, gan dynnu sylw at yr amrywiad rhwng byrddau iechyd. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Ym mis Ebrill 2024, gynaecoleg oedd un o'r safleoedd tiwmorau â'r perfformiad gwaethaf yn erbyn safon y llwybr canser a amheuir (SCP) sef 30.6% ar draws Cymru. Roedd y sefyllfa hon yn gyson â'r misoedd blaenorol, ac nid oes gwelliannau wedi'u nodi ers mis Ebrill 2021. Mae perfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gwella dros y misoedd diwethaf.
  • Mae gweithgarwch brys gynaecoleg yn amrywio ar draws Cymru, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn nodi gweithgarwch llawer uwch o'i gymharu â byrddau iechyd eraill.
  • Mae cyfanswm y cleifion ar restrau aros wedi cynyddu'n sylweddol o 26,138 ym mis Mawrth 2020 i 49,400 ym mis Mawrth 2024. Bu twf yn nifer y cleifion sy'n aros dros 104 wythnos i'w triniaeth ddechrau.
  • Nid yw'r gwasanaeth ar lefel Cymru gyfan mewn cydbwysedd, gyda’r cyfanswm ar y rhestr aros wedi cynyddu 89% ers mis Mawrth 2020.
  • Mae'r adolygiad cenedlaethol Cael Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf (GIRFT) wedi gosod sawl maes y mae angen i fyrddau iechyd ganolbwyntio arnynt:
    • adolygu llwybrau gynaecolegol trydyddol cymhleth ar draws Cymru i ddeall amrywiad a hysbysu ar fodel arfer gorau
    • deall asesiad o wasanaethau yn erbyn canllawiau 'ymhellach, yn gyflymach' GIRFT
    • adolygu'r hyfforddiant hysterosgopi i nyrsys ac archwilio a allai GIG Cymru ddarparu hyfforddiant mewnol i weithwyr dan hyfforddiant
    • adolygu'r codau cyfredol a datblygu argymhellion i'w defnyddio ar draws GIG Cymru
    • cefnogi ac annog cadw at egwyddorion ‘triniaethau cywir yn y lle cywir’ (yn unol â'r rhaglen waith optimeiddio theatr)
    • diffinio'r triniaethau ar lwybrau sylw yn ôl symptomau (SoS) a llwybrau ar gais y claf (PIFU) a chynyddu'r defnydd o'r llwybrau hyn

Cyd-destun strategol

Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr ymrwymiad i wella gwasanaethau a chanlyniadau iechyd i fenywod a merched a'r angen i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn y system gofal iechyd.

Nodwyd y disgwyliadau canlynol ar fyrddau iechyd:

  • yr angen i fyrddau iechyd gydweithio i gefnogi mynediad teg i fenywod a merched, cysondeb o ran safonau gofal, mynd i'r afael ag amrywiad diangen, a darparu cymorth ar y cyd pan fo angen
  • sicrhau lefelau priodol o allu diagnostig, therapiwtig a llawfeddygol i alluogi menywod sydd angen ymyriadau i dderbyn gofal mor agos â phosibl i'r cartref heb orfod aros yn hir
  • trawsnewid llwybrau yn unol â safonau gofal cydnabyddedig
  • sicrhau bod llwybrau cenedlaethol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer gwasanaethau iechyd menywod wedi'u gwreiddio'n llawn mewn darpariaeth gwasanaethau lleol

Tynnwyd sylw at yr amseroedd aros cyfredol ac amrywiadau mewn perfformiad. Mae mynd i’r afael â hyn yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Er mwyn gwneud hyn bydd angen i fyrddau iechyd:

  • weithredu'r llwybrau delfrydol cenedlaethol
  • sicrhau bod y llwybr atgyfeirio yn gywir
  • canolbwyntio ar wella'r cyswllt cyntaf â chleifion
  • cyflymu llwybrau diagnosis
  • buddsoddi mewn capasiti'r gweithlu
  • ad-drefnu gwasanaethau bregus

Bydd hyn yn golygu gweithio ar draws unedau, neu ar draws y bwrdd iechyd, neu ar draws y rhanbarth.

Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet yr angen i ddefnyddio capasiti yn briodol i:

  • fanteisio ar unrhyw ddatblygiadau technolegol a digidol i'n helpu i wella effeithlonrwydd a gweithredu'r llwybr delfrydol cenedlaethol yn lleol
  • sicrhau bod y llwybr atgyfeirio yn gywir
  • canolbwyntio ar wella'r cyswllt cyntaf â chleifion
  • cyflymu llwybrau diagnosis
  • buddsoddi mewn capasiti'r gweithlu
  • ad-drefnu gwasanaethau bregus

Rhaid defnyddio'r holl gapasiti sydd ar gael yn briodol, a rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod y cleifion mwyaf priodol yn cael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd, gan wella'r llwybrau trwy fabwysiadu safonau a dulliau gweithredu cenedlaethol fel anfon yn syth i gael profion, a lleihau nifer yr apwyntiadau dilynol trwy ddefnyddio dulliau gweithredu megis apwyntiadau dilynol ar gais y claf a sylw yn ôl symptomau. Rhaid i'r rhain gael eu cefnogi gan newidiadau i fodelau gwasanaeth i greu gwasanaethau mwy cynaliadwy.

Gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r rhai sy'n bresennol roi'r llwybr delfrydol cenedlaethol ar waith a lleihau'r bylchau mewn llwybrau trwy anfon yn syth i gael profion a chynnig ymchwiliadau dilynol ar yr un diwrnod.

Gofynnwyd i fyrddau iechyd gytuno i leihau nifer y cleifion sy'n aros mwy na 62 diwrnod am eu triniaeth canser a gweithredu mesurau effeithlonrwydd a gynlluniwyd i leihau'r galw cyffredinol ar y gwasanaeth, gan gynnwys optimeiddio prosesau atgyfeirio trwy ddefnyddio e-atgyfeiriadau a mynediad at ganllawiau fel llwybrau iechyd cymunedol.

Canolbwyntio ar lwybrau penodol

Canolbwyntiodd yr uwchgynhadledd ar 3 llwybr:

  • amheuaeth o ganser gynaecolegol
  • clinigau gynaecoleg un stop a gwaedu ar ôl y menopos
  • endometriosis

Llwybr amheuaeth o ganser gynaecolegol

Amlygwyd y canlynol yn y cyflwyniad ar y llwybr amheuaeth o ganser gynaecolegol:

  • Mae perfformiad wedi bod yn her ers peth amser ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru.
  • Mae nifer y cleifion sy'n cael eu cyfeirio at y llwybr amheuaeth o ganser gynaecolegol wedi cynyddu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae atgyfeiriadau 30% yn uwch bob mis o'i gymharu â 2021 a 2022. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sydd wedi gweld y twf mwyaf yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, tra bod atgyfeiriadau wedi lleihau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gall hyn adlewyrchu newidiadau mewn rheoli'r galw a llwybrau amgen.
  • Mae cyfraddau diagnosis yn parhau i ostwng ar lefel Cymru gyfan, 4.4% ar gyfer y 12 mis hyd at fis Ebrill 2024.
  • Nid yw nifer y triniaethau wedi cynyddu i'r un graddau dros yr un cyfnod, gan awgrymu lleihad yn y gyfradd diagnosis ar gyfer canser gynaecolegol, a allai ddangos bod angen rhagor o waith a buddsoddiad o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol.
  • Mae cydymffurfiaeth profi ar unwaith wedi gwella mewn sawl bwrdd iechyd yn ystod y misoedd diwethaf.
  • Bu gwelliannau mewn perfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys cynnydd yng nghanran y cleifion a welwyd gyntaf erbyn diwrnod 14 (89% o'r llwybrau wedi cau ym mis Ebrill 2024).
  • Mae bregusrwydd gwasanaethau oncoleg a'r gweithlu yn risgiau mawr i'r llwybr hwn.
  • Mae cyfleoedd i fyrddau iechyd, gan gynnwys rhaglenni optimeiddio theatr, profi ar unwaith, atgyfeiriadau electronig a chanolfannau diagnostig cyflym.

Cododd y canlynol yn ystod y drafodaeth grŵp ar y llwybr amheuaeth o ganser:

  • Mae problemau llwybr yn digwydd yn bennaf ar ddechrau'r llwybr canser gyda niferoedd isel yn cael eu gweld gyntaf o fewn 14 diwrnod ac yn cael penderfyniad i drin o fewn 31 diwrnod. Cynnydd bychan iawn yn nifer y cleifion sy'n cael eu trin flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn rhannol oherwydd y gostyngiad yng nghyfradd diagnosis canser ond twf clir yn nifer y cleifion ar y rhestrau aros.
  • Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
    • addysg barhaus i feddygon teulu
    • gweithlu canser gynaecolegol
    • bylchau yn y gweithlu
    • darparu gwasanaethau
  • Dylai'r rhaglen adfer canser hwyluso trafodaethau ynghylch datblygu gwasanaethau rhanbarthol.
  • Dylai Gweithrediaeth y GIG arwain ar gynhyrchu data a gwybodaeth briodol ar ganser gynaecolegol.
  • Mae'r rhwydweithiau gweithredu canser a chlinigol yn arwain ar weithredu dull unedig i Gymru gyfan o reoli gwaedu afreolaidd mewn cleifion ar therapi adfer hormonau (HRT).
  • Bod cyfleoedd i fyrddau iechyd eraill ddysgu o'r profiadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i adolygu eu llwybrau i gynnwys brysbennu diwygiedig, fetio rheng blaen a dyrannu capasiti ychwanegol mewn theatrau.
  • Dylai Gweithrediaeth y GIG gefnogi byrddau iechyd i weithredu gwelliannau amrywiol megis codio gwell, adolygu cynlluniau swyddi meddygon ymgynghorol, gweithredu canllawiau cenedlaethol ar gyfer gwaedu ar therapi adfer hormonau, a gweithredu mentrau apwyntiad dilynol ar gais claf (PIFU) a sylw yn ôl symptomau (SoS).

Clinigau gynaecoleg un stop a gwaedu ar ôl y menopos

Yn y cyflwyniad ar glinigau gynaecoleg un stop a gwaedu ar ôl y menopos, tynnwyd sylw at y canlynol:

  • Datblygwyd 3 llwybr ar lefel Cymru gyfan ar gyfer syndrom cyn mislif, gwaedu ar ôl y menopos a gwaedu trwm yn ystod mislif. Fodd bynnag, nid yw'r rhain yn cael eu gweithredu'n gyson ar draws Cymru gydag amryw o lwybrau ar waith gan gynnwys clinigau un a dau stop.
  • Mae angen adolygu'r llwybrau un a dau stop i weld pa opsiwn sydd fwyaf addas ar gyfer gofal cleifion a phrofiad cleifion.
  • Mae GIRFT wedi argymell y dylai Cymru ganolbwyntio ar ddatblygu canolfannau iechyd menywod sy'n ymgorffori gofal sylfaenol a gofal eilaidd.
  • Mae'r llwybr HRT yn fyw ar dudalen Hywel Dda a'r dudalen Llwybrau Iechyd Cymunedol.

Roedd y pwyntiau allweddol o'r drafodaeth yn cynnwys:

  • Byddai caniatáu i feddygon ymgynghorol sganio cleifion yn helpu i fynd i'r afael â rhestrau aros a symleiddio llwybrau.
  • Oherwydd y cyfyngiad mewn gallu diagnostig, a cholli’r gallu hysterosgopi posibl o ganlyniad i’r model un stop, gall model dau stop gyda chyfnod aros byr iawn fod yn fwy effeithiol.
  • Dylai Gweithrediaeth y GIG gynnal dadansoddiad manwl o'r galw a chapasiti i gefnogi trafodaeth ar ganolfannau rhanbarthol.
  • Mae gwiriwr symptomau Endometriosis Cymru yn offeryn effeithiol i gefnogi diagnosis cynnar a gall helpu menywod i ddeall eu symptomau.
  • Nid oes digon o nyrsys yn y gwasanaeth o'i gymharu ag arbenigeddau eraill. 
  • Gall Llwybrau Iechyd Cymunedol gefnogi gwella ansawdd llythyrau atgyfeirio.

Y llwybr endometriosis

Roedd y cyflwyniad ar y llwybr endometriosis yn ymdrin â'r canlynol:

  • Mae angen i'r rhwydwaith gweithredu clinigol gynecolegol ddiffinio a chymeradwyo llwybrau endometriosis trydyddol.
  • Crëwyd pecyn cymorth manwl i helpu menywod i ddeall eu symptomau. Mae'n bwysig bod menywod yn cael eu cyfeirio at y pecyn cymorth hwn ac yn cael eu hannog i'w ddefnyddio.
  • Gofal sylfaenol yw'r lle priodol i gefnogi a grymuso menywod.
  • Mae angen i'r rhwydwaith gweithredu clinigol gynecolegol ganolbwyntio ar sefydlu llwybr atgyfeirio rhanbarthol dwy ffordd.
  • Dylai Gweithrediaeth y GIG ganolbwyntio ar hyfforddi a chefnogi gofal sylfaenol drwy ddefnyddio’r Llwybrau Iechyd Cymunedol ar gyfer endometriosis a phoen pelfis.
  • Dylai byrddau iechyd geisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gydag Endometriosis UK yn eu sioe deithiol a drefnwyd ar gyfer Hydref 2024.

Roedd trafodaethau'r grŵp yn cynnwys:

  • Dylai byrddau iechyd gydweithio â'r Cydbwyllgor Comisiynu i ddatblygu gwasanaeth arbenigol gan ddefnyddio manylebau o wasanaethau GIG Lloegr.
  • AaGIC i ystyried sut y gallant gefnogi hyfforddiant meddygon ymgynghorol a meddygon dan hyfforddiant i sganio ar gyfer endometriosis.
  • Y rhwydwaith gweithredu clinigol gynaecolegol i ddatblygu llwybrau clir ar gyfer y rhai sydd ag endometriosis difrifol ac arwynebol.
  • Cytunodd byrddau iechyd i ystyried sut y gallant sefydlu canolfannau endometriosis lleol.
  • Dylai byrddau iechyd gwblhau gweithredu argymhellion o adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis 2021, gan gynnwys fformatio ar gyfer meini prawf a manylebau diagnostig.
  • Mae adolygiad o ganllawiau NICE ar gyfer endometriosis ar y gweill.
  • Cytunodd byrddau iechyd i gryfhau ymgysylltiad â gofal sylfaenol a gweithredu llwybrau gofal cymunedol i sicrhau diagnosis cynnar a thriniaeth briodol i gleifion yn ogystal â helpu i reoli'r galw cynyddol am wasanaethau gynaecolegol a darparu gofal o ansawdd uchel yn nes i'r cartref lle bynnag y bo modd, gyda chymorth ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol.

Casgliadau

Roedd Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru yn cydnabod awydd ac ymrwymiad gwirioneddol yr holl dimau sy'n gweithio tuag at wella gwasanaethau gynaecoleg yng Nghymru. Fe wnaeth hi annog cydweithwyr i rannu'r hyn a ddysgwyd ac edrych ar wahanol ffyrdd o weithio'n lleol ac yn rhanbarthol i gyflawni trywydd cenedlaethol gwasanaeth Cymru gyfan.

Pwysleisiodd yr angen i ddatblygu a gweithredu llwybrau ar gyfer gwaedu afreolaidd ar therapi adfer hormonau a gofal ar ôl y menopos, ac y bydd angen i'r gwasanaeth ganolbwyntio ar leihau nifer y cleifion sy'n aros am wasanaethau gynecoleg trwy:

  • raglenni profi ar unwaith
  • apwyntiad dilynol yr un diwrnod
  • systemau e-gyfeirio
  • datblygu gweithluoedd hyfforddi uwch a chraidd

Anogodd wasanaethau i barhau i ymgysylltu'n gryf â gofal sylfaenol a all gefnogi rheoli atgyfeiriadau a brysbennu cleifion sy'n aros am apwyntiadau a gwasanaethau.

Camau gweithredu a’r camau nesaf

Cytunwyd ar yr ymrwymiadau a'r camau gweithredu canlynol a bydd cynnydd yn erbyn y rhain yn cael ei fonitro'n agos:

  • Byrddau iechyd i gryfhau ymgysylltiad â gofal sylfaenol i sicrhau y cytunir ar y llwybrau delfrydol cenedlaethol a chanllawiau NICE, ac y cydymffurfir â hwy, a sicrhau prosesau atgyfeirio effeithlon gan gynnwys e-atgyfeiriadau.
  • Byrddau iechyd i gynnal ymarfer meincnodi endometriosis yn erbyn argymhellion NCEPOD gyda chamau gweithredu clir ac amserol ar gyfer gwella lle bo angen.
  • Llywodraeth Cymru, y Rhwydwaith Iechyd Menywod a'r Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Gynaecoleg i drafod yr opsiynau cyllido posibl gyda'r Cydbwyllgor Comisiynu ar gyfer comisiynu gwasanaethau trydyddol yng Nghymru.
  • Byrddau iechyd i ganolbwyntio ar wella'r llwybrau ar gyfer:
    • sicrhau gwell mynediad at apwyntiad claf allanol cyntaf
    • gweithredu llwybrau apwyntiad dilynol ar gais y claf (PIFU) / sylw yn ôl symptomau (SoS)
    • gwaedu ar ôl y menopos a gwaedu afreolaidd ar HRT
    • llwybrau iechyd cymunedol gynaecoleg, i'w defnyddio gan bob bwrdd iechyd
  • Byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau i gynnwys menywod wrth ddarparu/dylunio gwasanaethau gynaecoleg.
  • Rhaglen Gwerth mewn Iechyd i ganolbwyntio ar waedu ar ôl y menopos a diffinio sut beth yw da gyda safonau clir gan gynnwys PREM a metrigau craidd.
  • Dylai Gweithrediaeth y GIG:
    • ddatblygu cynlluniau i wella profiad cleifion gan gynnwys lleisiau menywod/ansawdd gofal a Civica
    • arwain ar waith i safoni prosesau codio a chipio data ar draws byrddau iechyd i wella gwybodaeth data a rhannu data
    • hwyluso archwiliad o atgyfeiriadau gynaecoleg i wasanaethau er mwyn deall amrywiad ar draws Cymru
    • cynnal asesiad o'r galw llawfeddygol a'r gallu i gwblhau, rhannu a deall i gefnogi trafodaeth ar ganolfannau rhanbarthol
    • hwyluso llwybr Cymru gyfan ar gyfer gwaedu afreolaidd ar HRT/PMB yn y gweithdy ar 27 Medi 2024
    • cefnogi byrddau iechyd i weithredu gwahanol welliannau fel adolygiad o gynlluniau swyddi ymgynghorol, gweithredu canllawiau cenedlaethol ar gyfer gwaedu ar HRT, a gweithredu apwyntiadau dilynol ar gais y claf (PIFU) a sylw yn ôl symptomau (SoS)
    • datblygu llwybrau clir i'r rhai sydd ag endometriosis difrifol ac arwynebol
  • AaGIC i arwain ar gynllun gweithlu gyda chamau gweithredu i'w cymryd o ran addysg barhaus ar gyfer meddygon teulu, sgiliau llawfeddygol a diagnostig, a gofynion gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a nyrsio.

Atodiad 1: yn bresennol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

  • Sara Garland, Rheolwr Cyffredinol, Teulu a Therapïau
  • Louise Harvey, Rheolwr Gwasanaeth, Obstetreg a Gynaecoleg
  • Gareth Edwards, Meddyg Ymgynghorol Obstetreg a Gynaecoleg
  • Jayne Beasley, Pennaeth Bydwreigiaeth a Gynaecoleg
  • Margeret Parrot, Rheolwr Gwasanaethau Canser

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

  • Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Menywod
  • Geeta Kumar, Arweinydd Clinigol Gynaecoleg Gogledd Cymru
  • Richard Peevor, Arweinydd Gynaecoleg/Oncoleg Gogledd Cymru
  • Faye Pritchard, Arweinydd Busnes a Pherfformiad
  • Harriet Rees, Rheolwr Gwasanaethau Canser
  • Joanne Hussein, Ymarferydd Ailgynllunio Llwybrau ar gyfer Gwasanaethau Canser

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  • Suzanne Rankin, Prif Swyddog Gweithredol
  • Paul Bostock, Prif Swyddog Gweithredu
  • Richard Skone, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro
  • Marie Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio dros dro
  • Sandeep Hemmadi, Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol Plant a Menywod
  • Anju Kumar, Cyfarwyddwr Obstetreg a Gynaecoleg
  • Anju Sinha, Arweinydd Clinigol Gynaecoleg
  • Andy Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio
  • Sam Barrett, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Plant a Menywod
  • Ken Lim, Arweinydd Clinigol Canser/Llawfeddyg Gynaecolegol Ymgynghorol De Ddwyrain Cymru
  • Catherine Wood, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Bwrdd Clinigol Gwasanaethau Plant a Menywod

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

  • Gethin Hughes, Prif Swyddog Gweithredu
  • Mohamed Elnasharty, Arweinydd Clinigol Gynaecoleg
  • Carl Verrecchia, Cyfarwyddwr Gweithrediadau
  • Hannah Lloyd, Rheolwr Gyfarwyddwr Obstetreg, Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol Integredig
  • Caleb Igbenehi, Cyfarwyddwr Clinigol Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol Integredig

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

  • Lisa Humphrey, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro
  • Debra Bennett, Rheolwr Darparu Gwasanaethau Canser
  • Islam Abdelrahman, Gynaecolegydd Ymgynghorol, Arweinydd Canser a Laparosgopi
  • Lyndon Freeman, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol
  • Lauren Davies, Rheolwr Gwasanaeth Obstetreg, Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol
  • Samantha Robinson, Uwch Reolwr Nyrsio, Gynaecoleg

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

  • Zoe Ashman, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ansawdd a Diogelwch
  • Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Gwyddorau Iechyd a Digidol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

  • Deb Lewis, Prif Swyddog Gweithredu
  • Abigail Morris, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth
  • Michelle Mason-Gawne, Cyfarwyddwr Cyswllt y Grŵp

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

  • Louise Hanna, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol
  • Rachel Hennessy, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Canser Felindre
  • Annie Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio
  • Sarah Burton, Nyrs Glinigol Arbenigol Macmillan, Canserau Gynaecolegol
  • Jane Powell, Ffiseg Feddygol, Canolfan Ganser Felindre
  • Erin McMonnies, Radiograffydd Arolygol Bracitherapi

Trydydd sector

  • Debbie Shaffer, Sylfaenydd, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
  • Lowri Griffiths, Cadeirydd Cynghrair Canser Cymru, Gofal Canser Tenovus

Gweithrediaeth GIG Cymru

  • Meinir Jones, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd
  • Alex Hicks, Rheolwr Rhwydwaith Iechyd Menywod ac Iechyd Plant
  • Tom Crosby, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Canser
  • Gareth Lee, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflenwi a Sicrwydd
  • Roxanne Green, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaeth ac Integreiddio
  • Ihab Abbasi, Arweinydd Clinigol Gynaecoleg Rhwydwaith Gweithredu Clinigol
  • Helen Munro, Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Strategol ar gyfer Iechyd Menywod
  • Jeff Turner, Arweinydd Clinigol Rhaglen Adferiad Canser
  • Heather Wilkes, Arweinydd Clinigol Rhaglen Adferiad Canser
  • Gillian Day, Prif Reolwr Rhaglen
  • Jenna Goldsworthy, Prif Reolwr Rhaglen
  • Alastair Roeves, Arweiniol Clinigol Cenedlaethol Gofal Sylfaenol a Chymunedol / Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Llwybrau Iechyd a Gofal
  • Chiquita Cusens, Nyrs Arweiniol Genedlaethol Gofal Sylfaenol a Chymunedol
  • Andrew Jones, Rheolwr Gwella Ansawdd a Pherfformiad
  • Alun Matthews, Rheolwr Gwella Galw a Chapasiti
  • Alana Fowler Browne, Uwch Reolwr Gwella
  • Ellis Owen, Rheolwr y Prosiect
  • Bethan Hawkes, Nyrs Canser Arweiniol

Llywodraeth Cymru

  • Sue Tranka, Y Prif Swyddog Nyrsio
  • Anthony Davies, Polisi Llwybrau Clinigol a Chyflyrau Difrifol
  • Janine Hale, Pennaeth Iechyd Menywod
  • Olivia Shorrocks, Perfformiad, Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth y GIG
  • Caroline Lewis, Perfformiad, Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth y GIG
  • Pushpinder Mangat, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
  • Martyn Rees, Perfformiad, Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth y GIG
  • Luke Solomon, Perfformiad, Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth y GIG
  • Sarah Jones, Perfformiad, Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth y GIG
  • Kate O'Neill, Perfformiad, Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth y GIG

Gweinidogol

  • Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Catherine Cleaton, Swyddfa Breifat Ysgrifennydd y Cabinet
  • Madeleine Brindley, Swyddfa Breifat Ysgrifennydd y Cabinet