Neidio i'r prif gynnwy

Bydd miloedd yn fwy o bobl yn derbyn profion sgrinio'r coluddyn gartref yn awtomatig i helpu i achub mwy o fywydau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Canser y coluddyn yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser, a bydd mwy na 2,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.

Ond pan gaiff ei ganfod yn gynnar, mae modd trin y canser, a'i wella a bydd y siawns o oroesi yn cynyddu'n sylweddol.

O ddydd Mercher 9 Hydref, bydd pobl 50 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru yn cael cynnig prawf hunan-sgrinio am ganser y coluddyn am y tro cyntaf, ac yn cael pecyn sgrinio drwy’r post.

Gall sgrinio helpu i ganfod canser y coluddyn cyn i'r symptomau ddechrau. Gall y prawf hefyd ganfod polypau, sef tyfiannau nad ydynt yn ganser, ac yna gellir tynnu’r rhain ac atal canser rhag datblygu yn y lle cyntaf.

Dros y 3 blynedd diwethaf, mae’r oedran cymwys ar gyfer profion sgrinio ar gyfer canser y coluddyn wedi cael ei ostwng yng Nghymru, yn unol â’r argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Mae dod â’r oedran cymwys ar gyfer sgrinio i lawr wedi helpu i ganfod mwy o achosion o ganserau’r coluddyn, a hynny yn gynharach.

Mae'r broses sgrinio yn cynnwys prawf imiwnocemegol ysgarthol (FIT) hawdd ei ddefnyddio, sydd â sensitifrwydd cynyddol ac sy'n gallu canfod canser y coluddyn yn well, gan helpu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar brawf sgrinio yn y garfan bresennol o ddynion a menywod 51 i 74 oed.

Daw’r rhaglen sgrinio ar gyfer pobl 50 oed i rym yn llawn yn raddol dros y 12 mis nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser yng Nghymru, a'r ffordd orau o wneud hyn yw canfod a gwneud diagnosis o ganser ar gam cynharach – mae sgrinio’n ein helpu i wneud hyn.

Pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, mae'n fwy tebygol y gellir ei drin.

Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfradd gwella canserau sy'n cael eu canfod trwy brofion sgrinio'r coluddyn yn 90%, ac mae bron i naw o bob deg o bobl yn goroesi canser y coluddyn pan fyddant yn cael diagnosis yn y cam cynharaf.

Rwy'n falch iawn y bydd miloedd yn rhagor o bobl yng Nghymru yn cael y profion sgrinio'r coluddyn i’w gwneud yn eu cartrefi.

Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i wneud y prawf pan fyddant yn ei dderbyn. Gallai achub eich bywyd.

Dywedodd Pennaeth Sgrinio'r Coluddyn Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Steve Court:

Rydym yn falch iawn fod rhaglen Sgrinio'r Coluddyn Cymru yn cael ei ehangu i gynnwys pobl rhwng 50 a 74 oed.

Mae ei ganfod yn gynnar yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser y coluddyn, a gall profion sgrinio ganfod arwyddion o'r clefyd hyd yn oed cyn i'r symptomau ymddangos.

Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen hon, sy'n gallu achub bywydau, pan fyddant yn cael eu cit drwy'r post. Gall wella cyfraddau goroesi yn sylweddol trwy ganfod canser yn gynnar, ar gam sy'n ymateb yn well i driniaeth.

Dywedodd Gerard McMahon, Pennaeth Polisi a Dylanwadu (Gwledydd Datganoledig) Bowel Cancer UK:

Mae'n wych ein bod yn parhau i weld cynnydd o ran optimeiddio rhaglen sgrinio'r coluddyn Cymru. Rydym wedi ymgyrchu ers tro dros ostwng yr oedran sgrinio i 50, felly mae'n garreg filltir enfawr i ni weld hyn ar waith.

Mae bron i 2,400 o bobl yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn yng Nghymru. Gyda rhaglen sgrinio gadarn ar waith, gallwn sicrhau bod mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar, pan fydd y clefyd yn haws ei drin.

Rydym yn gobeithio gweld ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru o ran optimeiddio a sicrhau cyllid priodol ar gyfer sgrinio. Gwyddom fod anghydraddoldebau o hyd o ran cymryd rhan mewn sgrinio, a hynny ym mhob rhan o'r wlad. Rhaid mynd i'r afael â hyn, a pharhau i wella sensitifrwydd presennol y prawf FIT yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC).

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r amcanion allweddol hyn, gan wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn yn y pen draw.