Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi agor Ysgol Feddygol y Gogledd yn swyddogol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygol, sy'n cynnwys cymysgedd o bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol a myfyrwyr graddedig, wedi dechrau astudio ym Mhrifysgol Bangor y semester hwn. Nhw fydd y rhai cyntaf i gael eu holl hyfforddiant meddygol yn y Gogledd.

Eleni, bydd yr ysgol yn derbyn 80 o fyfyrwyr, ond bydd y nifer yn cynyddu'n raddol i gyrraedd 140 y flwyddyn o 2029-30 ymlaen.

Dechreuodd y gwaith cynllunio ar gyfer yr Ysgol Feddygol newydd yn 2020, pan gytunodd Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i sefydlu'r ysgol.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae recriwtio meddygon medrus yn her fawr ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Bydd yr Ysgol Feddygol yn gam enfawr ymlaen ar gyfer recriwtio meddygon yng Nghymru, gan alluogi mwy o fyfyrwyr meddygol i hyfforddi yn y rhanbarth, sy'n dda i'n Gwasanaeth Iechyd, yn enwedig yn y Gogledd.

"Mae sefydlu'r Ysgol Feddygol yn cyflawni un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y rhanbarth, ac yn benllanw pum mlynedd o waith caled gan y bwrdd iechyd a'r prifysgolion. Cyn bo hir, bydd yr ysgol yn cyflenwi meddygon i'r Gwasanaeth Iechyd – a'r rheini wedi cael hyfforddiant modern o'r radd flaenaf fydd yn eu galluogi i ddarparu gofal rhagorol yn y dyfodol."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

"Mae agor yr Ysgol Feddygol yn brawf ein bod wedi ymrwymo o hyd i wasanaeth iechyd sy'n darparu gofal mor agos â phosib i gartrefi pobl.

"Rwy' eisiau diolch i brifysgolion Bangor a Chaerdydd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am eu gwaith caled wrth droi'r weledigaeth ar gyfer Ysgol Feddygol yn realiti.

"Trwy ddewis astudio yma, bydd myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau hyfforddi modern, addysg gofal iechyd flaengar, staff addysgu profiadol, a chefnogaeth barhaus gan staff y Gwasanaeth Iechyd ar draws y rhanbarth."

Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:

"Wrth inni ddathlu 140 mlynedd o Brifysgol Bangor, mae lansio Ysgol Feddygol y Gogledd yn garreg filltir allweddol i'r brifysgol a'r rhanbarth. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i addysg ragorol, i ymchwil arloesol, ac i fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd lleol. Ar y cyd â'n partneriaid, ry'n ni'n llunio dyfodol iachach drwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ein cymunedau."

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Bydd yr Ysgol Feddygol newydd yn allweddol i helpu i fynd i'r afael â'r heriau o ran hyfforddi a chadw meddygon, gan gryfhau'r ddarpariaeth o ofal iechyd dwyieithog ar draws y rhanbarth. Ry'n ni'n cydnabod bod meddygon yn tueddu i ymarfer yn agos at lle maen nhw'n hyfforddi, felly'r nod yw annog myfyrwyr i ddatblygu gyrfaoedd gydol oes yn y Gogledd, er budd y boblogaeth leol a'i chymunedau.

"Bydd cyfleoedd hefyd ar gyfer datblygiadau o ran ymchwil ac arloesi drwy ein gwaith partneriaeth. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar recriwtio a chadw meddygon yn ogystal â gwella canlyniadau i gleifion. Ry'n ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Phrifysgol Bangor i gyflenwi carfan newydd o feddygon cymwysedig fydd yn helpu i ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol."