Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf roi gwybod i Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod diweddaraf Grŵp Rhyngweinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 16 Medi 2024.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Steve Reed AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a hefyd yn bresennol oedd Mary Creagh AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol (y Gweinidog dros Natur), y Farwnes Hayman, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Mairi Gougeon ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Diwygio Tir a'r Ynysoedd, Jim Fairlie ASA, y Gweinidog Amaeth a Chysylltedd, ac Andrew Muir ACD, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Cytunodd y Grŵp i sefydlu cysylltiadau rhynglywodraethol cryfach yn seiliedig ar egwyddorion gonestrwydd, ymddiriedaeth a pharch. Er mwyn gweithredu hyn, cafodd y grŵp drafodaeth, a chytunwyd ar Gylch Gorchwyl newydd ac uchelgeisiol i lywio ffyrdd o weithio a gwneud penderfyniadau ar lefelau gweinidogol a swyddogol. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU a byddaf yn rhannu’r ddolen berthnasol â chi maes o law. Pwysleisiais bwysigrwydd ymgysylltu ystyrlon a rhannu'r hyn a ddysgir â'n gilydd. Tynnais sylw hefyd at y ffaith fod y Fframweithiau Cyffredin yn rhan hanfodol o gydweithio'n effeithiol.

Buom yn trafod rhaglen waith ar y cyd yn y dyfodol ar gyfer cydweithredu gwell, a chytunwyd y dylai ein hymdrechion ganolbwyntio ar wella ein diogeledd bwyd, gwella ein bioddiogelwch, gwella ein heconomi gylchol, diogelu natur a chynyddu bioamrywiaeth y DU, gan gynnwys defnyddio fframweithiau marchnadoedd natur lle bo hynny'n briodol. Croesawais y cyfle i gydweithio yn y meysydd hyn, a fydd yn ein galluogi i sicrhau gwell canlyniadau i'n hamgylchedd a'n diogeledd bwyd. 

Cytunwyd bod cymunedau a busnesau ledled y DU yn hanfodol i'r economi, a nhw yw defnyddwyr ac amddiffynwyr ein hadnoddau naturiol. Yng nghyd-destun cyfalaf naturiol, tynnais sylw at y ffaith mai rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yw sail ein dull gweithredu yng Nghymru.  

Trafododd y Grŵp bwysigrwydd tryloywder a chydweithio ar unrhyw drafodaethau yn y DU gyda'r UE ynghylch cytundeb Iechydol/Ffytoiechydol posibl (SPS)

O ran rheoli gwastraff ac economi gylchol, amlygais safle Cymru fel y genedl orau ond un am ailgylchu drwy'r byd, a cynhigiais rannu gwersi a ddysgwyd gyda'r gwledydd eraill. 

Roeddem yn cytuno bod ymchwil wyddonol ar y cyd yn faes clir lle mae'n rhaid i'r pedair gwlad gydweithio. Tynnais sylw at y ffaith y gallai cydweithio ar ymchwil leddfu straen ar adnoddau, a bod yn fodd o rannu arbenigedd lleol. Un maes y tynnais sylw ato ar gyfer trafodaeth yn y dyfodol oedd cydweithio ar ymchwil am strategaethau dileu TB gwartheg, ac am eu rhoi ar waith ar lawr gwlad. 

Yna rhoddodd Grŵp Monitro Marchnad Amaethyddiaeth y DU (UKAMMG) ddiweddariad ar ei waith. Mae'r UKAMMG yn cynnwys swyddogion o bob un o'r pedair llywodraeth ac yn dadansoddi materion sy'n effeithio ar farchnadoedd amaeth ledled y DU. Amlygais bwysigrwydd y gyllideb amaethyddiaeth o ran gallu’r sector i barhau i gyflawni ystod o amcanion pwysig. 

Rhoddodd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur ddiweddariad yn amlinellu'r rôl hanfodol y mae natur yn ei chwarae wrth gefnogi cymdeithasau iach, economïau cydnerth a busnesau ffyniannus. Cytunodd y pedair llywodraeth bod eu bod yn rhannu uchelgais gyffredin i ailgydbwyso'r galw a roddir ar y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarperir gan y byd naturiol, ac i amddiffyn ei allu i'w cyflenwi.  

Yn olaf, gwnaethom gytuno ar amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2024 a 2025 i hwyluso gwaith trafod a goruchwylio meysydd cydweithredu gwell. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin. 

Caiff hysbysiad am y cyfarfod hwn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs. (Saesneg yn Unig).