Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy na chwarter biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi helpu pobl hŷn i gael gofal yn eu cartrefi eu hunain ac wedi osgoi miloedd o arosiadau diangen mewn ysbytai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae £146.2 miliwn wedi cael ei fuddsoddi drwy'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol i helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar a chymunedol - gan gefnogi 600,000 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ochr yn ochr â hyn, buddsoddwyd £70 miliwn i ddatblygu hybiau cymunedol ledled Cymru, ac mae £60.5 miliwn pellach wedi'i ddarparu i gefnogi pobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu i fyw'n annibynnol gartref.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Rydym am i bobl fyw bywydau da, iach ac annibynnol am mor hir â phosibl, yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.

Mae gofal cymunedol yn cael ei gydnabod yn eang fel modd o wella canlyniadau i bobl hŷn a phobl ag anghenion cymhleth, ac mae ymchwil yn dangos fod pobl yn gwella'n well yng nghysur eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag mewn ysbyty.

Mae ein buddsoddiad sylweddol i wasanaethau yn y gymuned yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau yn gynnar i gadw pobl yn iachach yn y tymor hir, gan helpu i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, helpodd gwasanaethau fel Gofal a Thrwsio i atal dros 3,000 o dderbyniadau i'r ysbyty ledled Cymru y llynedd drwy addasiadau ac atgyweiriadau I gartrefi.

Gan ganolbwyntio ar wella diogelwch oedolion hŷn, mae'r tîm yn gwneud gwelliannau cyflym i gartrefi sydd wedi'u teilwra i anghenion yr unigolyn, trwy sylwi ar risgiau posibl ac atal anafiadau a allai arwain at orfod mynd i'r ysbyty.

Helpodd eu gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach i arbed tua £10 miliwn i'r GIG yng Nghymru y llynedd, gan arbed 31,000 o ddyddiau gwely yng Nghymru drwy fynd i'r afael â rhyddhau gohiriedig.

Cafodd David Gale, 82 oed, ei ganfod ar lawr ei gartref gyda chyflymder calon isel iawn ac fe'i derbyniwyd i Ysbyty Tywysoges Cymru, lle derbyniodd reolydd calon.

Roedd ei deulu'n poeni na fyddai ganddo'r gefnogaeth gywir o gwmpas y tŷ ar ôl ei ryddhau, ac y gallai ei symudedd cyfyngedig arwain at risg uwch o gwympo.

Cysylltwyd â thîm Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr drwy'r gwasanaeth Ysbyty i Gartref ac fe wnaethon nhw ymweld â David yn ei gartref ddiwrnod ar ôl ei ryddhau i asesu ei anghenion.

Gweithiodd y tîm yn gyflym i wneud addasiadau i wella hygyrchedd ac annibyniaeth David, gan osod canllaw grisiau a chanllawiau dur y tu allan.

Dywedodd David:

Mae Gofal a Thrwsio wedi helpu cymaint. Maen nhw wedi gosod canllawiau o gwmpas ein cartref, mae ein dreif yn serth iawn ac mae'r canllaw sydd wedi'i gosod wedi ein helpu ni i adael y tŷ yn ddiogel ac rydyn ni'n teimlo'n llawer mwy hyderus pan fyddwn ni'n mynd allan nawr.

Cawsom ganllawiau gafael yn yr ystafell ymolchi i'n helpu ni i fynd i mewn ac allan o'r bath, a chanllaw ar y grisiau - felly mae gennym un bob ochr bellach sy'n helpu llawer ac yn ei gwneud hi’n fwy diogel wrth i ni fynd i fyny ac i lawr y grisiau. Rydyn ni hefyd wedi cael canllaw yn yr ardd gefn i'n helpu i gyrraedd y sied a’r toiled tu allan yn fwy diogel. Fe wnaethant hefyd osod llinell Teleofal i ni.

Rwy’n teimlo, heb yr addasiadau hyn, y byddem wedi gorfod edrych ar opsiynau eraill. Felly, mae’n ein gwneud ni mor hapus ein bod gallu aros yn ein cartref, lle rydyn ni wedi magu ein plant, cael cymaint o atgofion hapus ac yng nghwmni cymdogion hyfryd.

Ni allaf weld dim bai ar yr help rydym wedi'i gael gan Gofal a Thrwsio. Mae wedi ein helpu i deimlo'n fwy diogel wrth fynd o amgylch ein cartref ac rydym mor ddiolchgar iddynt am bopeth maen nhw wedi'i wneud i ni.

Dywedodd Kelly Williams, uwch weithiwr achos gyda Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr:

Mae gwasanaeth o’r Ysbyty i Gartref Gofal a Thrwsio yn gwella llif cleifion ac yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn cael eu haildderbyn i'r ysbyty. Mae'r gwasanaeth yn adnabod cleifion lle bo pryder am eu tai a allai achosi oedi cyn iddynt ddychwelyd gartref. Yna mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a'u teuluoedd i wneud y gwelliannau angenrheidiol i'r cartref i alluogi rhyddhau'n gyflym ac yn ddiogel.

Roeddem yn hapus i gefnogi rhyddhau Mr Gale o'r ysbyty drwy osod addasiadau a Teleofal yn ei gartref gan ein Swyddog Diogelwch Cartref, sy'n cael ei ariannu drwy ein gwasanaeth tasgmon ymateb cyflym.

Does dim dwywaith nad yw cartref diogel a chynnes yn hanfodol i iechyd a lles da. Mae cartref diogel a chynnes yn hanfodol i unrhyw un sy'n cael ei ryddhau fel y gallant barhau i wella. Gall tai anniogel neu wael effeithio'n sylweddol ar iechyd meddwl a chorfforol ac felly mae'n hanfodol bod tai yn cael eu hystyried fel rhan o daith rhyddhau claf.

Mae 91% o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn dweud bod eu hannibyniaeth wedi gwella ac mae llawer yn dweud eu bod yn teimlo'n llai ynysig.

Yn genedlaethol, y llynedd fe arbedodd Gofal a Thrwsio tua £25,000,000 i'r GIG yng Nghymru a thros £850,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn sgil llai o dderbyniadau i'r ysbyty a llai o angen galwadau ambiwlans.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Mae'r tîm Gofal a Thrwsio yn enghraifft wych o wasanaeth yn y gymuned, sy’n gwneud gwahaniaeth radical i fywydau'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, trwy eu dull gofal cyfannol ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Rwy'n falch bod cyllid Llywodraeth Cymru, fel y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a'r Gronfa Tai â Gofal, yn helpu sefydliadau fel Gofal a Thrwsio i barhau â'u gwaith amhrisiadwy o ran cadw pobl yn iach a galluogi pobl i gael eu rhyddhau o'r ysbyty mor gynnar â phosibl i wella, lle maent yn gwneud hynny orau, gartref.

Mae ein cyllid hefyd yn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn a'u haildderbyn i'r ysbyty, sydd wedi bod yn hanfodol wrth leddfu'r pwysau ar wasanaethau iechyd cyn y gaeaf.