Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data a'ch hawliau mewn perthynas â gwybodaeth bersonol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddodd Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2024.  Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion yn llawn gan gyhoeddi ymateb ar 12 Mawrth 2024. Cymeradwyodd y Senedd gasgliadau ac argymhellion y Comisiwn a nodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn ystod trafodaeth a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024.

Mae gweithredu'r ddau argymhelliad cyntaf (isod) ynghylch arloesi democrataidd a datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol yn gofyn am weithredu gan Lywodraeth Cymru drwy weithio gyda phartneriaid allanol. 

1. Arloesi democrataidd

Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru.  Dylai hyn ddefnyddio panel cynghori arbenigol, a dylid ei ddylunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Dylai strategaethau ‌newydd ar gyfer addysg ddinesig fod yn ‌flaenoriaeth i’r gwaith hwn, a dylai gael ei ‌adolygu’n rheolaidd gan y Senedd.

2. Egwyddorion cyfansoddiadol

Gan ddefnyddio’r arbenigedd hwn, dylai Llywodraeth Cymru arwain prosiect i ymgysylltu dinasyddion â’r gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethu i Gymru.

Data personol

Er mwyn helpu i gyflawni ei amcanion, aeth y Comisiwn ati i geisio barn dinasyddion a rhanddeiliaid allanol gan ddefnyddio gwahanol arolygon, llwyfannau a sianeli. 

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod. Nid yw gwaith ymgysylltu'r Comisiwn yn gofyn yn benodol am ddata personol adnabyddadwy, ond gallai'r rhai sy'n cymryd rhan ddewis darparu data personol yn rhan o'u hymwneud â Llywodraeth Cymru. 

Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer hwn yw cyflawni ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Mae cymryd rhan yn wirfoddol.

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei chyfer.

Storio data

Mae data personol pobl sy'n tanysgrifio i'r rhestr bostio diwygio cyfansoddiadol yn cael ei gasglu gan swyddogion Llywodraeth Cymru a'i gadw ar gronfa ddata mewn ffeil ddiogel. Dim ond nifer cyfyngedig o swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gallu defnyddio'r ffeil hon. 

Bydd y data a ganlyn yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru. 

Data Personol Adnabyddadwy

I barhau i gael gwybod am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i argymhellion y Comisiwn, bydd angen i dderbynwyr presennol y rhestr bostio optio i mewn:

  • Gofynnir iddynt rannu'r data gorfodol fel a ganlyn:
    1. Enw cyntaf
    2. Cyfenw
    3. Cyfeiriad e-bost 
  • Gofynnir iddynt rannu'r data dewisol fel a ganlyn:
    1. Pedwar digid cyntaf eu cod post
    2. Blwyddyn geni

Mae gwybodaeth bersonol a gwybodaeth categori arbennig a gaiff ei chasglu a'i chadw yn cynnwys manylion personol megis enw, cyfeiriad a manylion cyswllt. Ni chaiff data personol ei rannu y tu allan i Lywodraeth Cymru.

Beth yr ydym yn ei wneud â’r data?

Rydym yn prosesu'r wybodaeth yn fewnol ar gyfer y diben a nodir uchod. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd. 

Am ba hyd rydym yn cadw eich data?

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 2 flynedd yn rhan o'n gwaith parhaus i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.

Ble rydym yn cadw eich data?

Bydd yr holl ddata personol adnabyddadwy yn cael ei gadw ar weinyddion diogel sy'n cael eu cynnal, neu ei lawrlwytho ar gyfer ei anonymeiddio a'i ddadansoddi yn ddiweddarach ar weinyddion Llywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw ddata adnabyddadwy yn cael ei gopïo na'i lawrlwytho ar unrhyw weinydd allanol, ar wahân i'r rhai a restrir. 

Defnyddio gwybodaeth

Yn rhinwedd ein rôl fel y rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a ddaw i law at y dibenion isod. Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol fel a ganlyn:

  • cysylltu ag unigolion sydd wedi nodi eu dymuniad i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgarwch a gynhelir wedi adroddiad terfynol y Comisiwn.
  • cynnal rhestr gyswllt genedlaethol o randdeiliaid.
  • monitro'r gweithgarwch ymgysylltu cyffredinol gan nodi sylwadau ac adborth unigol. 

Hawliau unigolion

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhannu yn rhan o'r gwerthusiad hwn:

  • yr hawl i gael gafael ar eich data (gofyn am gopi o'ch data eich hun)
  • yr hawl i gywiro'r data (cywiro gwybodaeth anghywir)
  • yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • yr hawl i ddileu data
  • yr hawl i wneud cwyn a’i gyflwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Manylion cyswllt

Os hoffech drafod sut mae eich data yn cael ei storio a'i brosesu, gallwch gysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Neu, cysylltwch â thîm Diwygio Cyfansoddiadol y Comisiwn:

Diwygio Cyfansoddiadol

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Yn unol â'r hawl olaf a nodir uchod, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:: 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)

Tŷ Churchill
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn: 029 2067 8400 / 0303 123 1113