Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr:    WGC 004/2024

Dyddiad cyhoeddi:   04/10/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J (Offer hylosgi a systemau storio tanwydd) sy'n ymgorffori newidiadau a wnaed yn 2010 a 2024 

Cyhoeddwyd gan:   Mark Tambini, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Wedi'i gyfeirio at:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cyngor y Diwydiant Adeiladu
Fforwm Personau Cymwys

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd

Crynodeb:

Cylchlythyr yw hwn i gyhoeddi bod y newidiadau mewn perthynas â larymau carbon monocsid i Ddogfen Gymeradwy J wedi'u cymeradwyo a'u cyhoeddi, ac i dynnu sylw at y darpariaethau trosiannol ar gyfer y newidiadau.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car 
Merthyr Tudful 
CF48 1UZ    

Llinell uniongyrchol:   0300 060 4400
E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:  adeiladu a chynllunio

Cylchlythyr

Deddf Adeiladu 1984

Rheoliadau Adeiladu 2010
Newidiadau i Ddogfen Gymeradwy

Cyflwyniad
  1. Ar ran Gweinidogion Cymru, rwy'n tynnu'ch sylw at y newidiadau i argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J (offer hylosgi a systemau storio tanwydd) sy'n ymgorffori newidiadau 2010 a 2024.
     
  2. Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu'ch sylw at arweiniad newydd i gefnogi paragraff J3 o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010 - "Rhybudd bod carbon monocsid wed gollwng".

Cymhwyso'r ddeddf

  1. Mae'r newidiadau a wnaed i'r Ddogfen Gymeradwy yn ymwneud ag adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru.

Newidiadau i'r Ddogfen Gymeradwy

  1. Mae Dogfen Gymeradwy J wedi'i newid i gynnwys arweiniad sef lle gosodir offer hylosgi sefydlog newydd neu gyfnewid sydd â ffliw, o fath sy'n defnyddio unrhyw danwydd (olew, nwy (gan gynnwys LPG) a solet) mewn annedd (gan gynnwys ffyrnau sefydlog â ffliw), dylid darparu larwm carbon monocsid.
     
  2. Adran 1: Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud yn gyffredinol â gosodiadau hylosgi, bellach yn cynnwys arweiniad ym mharagraffau newydd 1.24 i 1.30 sy'n ymdrin â darparu larymau carbon monocsid lle gosodir offer hylosgi sefydlog â ffliw o fath sy'n defnyddio unrhyw danwydd. 
     
  3. Mae hyn yn golygu bod paragraffau 2.34 i 2.36 o argraffiad blaenorol Dogfen J gyda newidiadau 2010, wedi'u dileu. Roeddynt yn delio â larymau carbon monocsid ar gyfer offer sy'n llosgi tanwydd solet yn unig, felly mae'r paragraffau newydd wedi'u disodli.
     
  4. I grynhoi, mae angen larwm carbon monocsid i rybuddio preswylwyr am bresenoldeb carbon monocsid yn y canlynol:

(i) Ym mhob man (gan gynnwys mannau cysylltiedig er enghraifft garejis ac atigau) lle ceir offer hylosgi sefydlog (gan gynnwys offer hylosgi sefydlog â ffliw a ddefnyddir ar gyfer coginio), ac 

(ii) mewn llety risg uchel, hynny yw, ystafell wely neu brif ystafell fyw lle ceir ffliw sy'n gwasanaethu offer hylosgi yn mynd drwy'r ystafelloedd hynny.

  1. Dylai larymau carbon monocsid gydymffurfio â BS EN 50291-1:2018 ac ymgorffori seinydd a chael eu pweru gan fatri sydd wedi'i ddylunio i weithio am oes weithredol y larwm. Dylai'r larwm gynnwys dyfais rhybuddio i rybuddio defnyddwyr pan fydd oes y larwm ar fin dod i ben. 
     
  2. Mae canllawiau ac argymhellion ar osod larymau carbon monocsid ar gael yn BS EN 50292:2023 ac yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.

Newidiadau bychain

  1. Yn ogystal â'r ailrifo sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r newidiadau a ddisgrifir uchod, rydym hefyd yn gwneud newidiadau i gywiro mân wallau yn Nogfen Gymeradwy J i gynnwys rhif OS cywir a darn o baragraff J3 o Atodlen 1 yr OS hwnnw. 

Dogfennau cymeradwy

  1. Mae Atodiadau B ac C i'r Cylchlythyr hwn yn rhoi'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth i'r Ddogfen Gymeradwy ddiwygiedig a Hysbysiad Tynnu Cymeradwyaeth yn Ôl i argraffiadau blaenorol o'r Ddogfen Gymeradwy, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol. 

Trefniadau trosiannol

  1. Daw'r newidiadau a wnaed i Ddogfen Gymeradwy J i rym ar 6 Ionawr 2025 ac eithrio fel a ganlyn. 
     
  2. Bydd argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J sy'n ymgorffori rhagor o newidiadau a wnaed yn 2010, yn dal i fod yn berthnasol i'r gwaith adeiladu y mae'n ymwneud ag ef, ar yr amod: 

a. bod y gwaith adeiladu wedi dechrau cyn 6 Ionawr 2025; neu 

b. bod gwaith y mae - 

(i) hysbysiad adeiladu ar ei gyfer wedi’i roi i awdurdod lleol cyn 6 Ionawr 2025,

(ii) hysbysiad cychwynnol ar ei gyfer wedi'i roi i awdurdod lleol ac nad yw'n ei wrthod cyn 6 Ionawr 2025, 

(iii) hysbysiad diwygio ar ei gyfer wedi ei roi i awdurdod lleol ac nad yw'n ei wrthod cyn 6 Ionawr 2025, neu

(iv) cynlluniau llawn ar ei gyfer wedi'u hadneuo cyn 6 Ionawr 2025, 

a bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis sy'n dechrau ar 6 Ionawr 2025; neu 

c. nad oes angen hysbysiad ar gyfer y gwaith (gweler rheoliad 12(6) o Reoliadau Adeiladu 2010) a bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis sy'n dechrau ar 6 Ionawr 2025. 

Sylwch fod gan "hysbysiad adeiladu", "hysbysiad cychwynnol", "hysbysiad diwygio" a "chynlluniau llawn" yr ystyron a roddir iddynt yn rheoliad 2 o Reoliadau Adeiladu 2010. 

Cyffredinol

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu. Yn unol ag adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo'r newidiadau. 
     
  2. Nid yw'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar y gofynion technegol yn Rheoliadau Adeiladu 2010. Ymdrinnir â'r materion hynny yn y Ddogfen Gymeradwy sy'n cael ei newid.

Ymholiadau

Anfonwch unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at: 

Mark Tambini
Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ 

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru 

Yn gywir,

Mark Tambini 
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Atodiad A

Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad cymeradwyo i newid dogfennau sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion rheoliadau adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer eu pwerau o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r newidiadau i'r ddogfen a enwir isod at ddiben rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 a enwir isod.

Daw'r gymeradwyaeth i rym ar 6 Ionawr 2025 ac eithrio mewn perthynas â'r gwaith fydd eisoes wedi'i ddechrau cyn y dyddiad hwnnw; neu mewn perthynas â gwaith y rhoddwyd hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol neu hysbysiad diwygio ar ei gyfer neu bod cynlluniau llawn wedi'u hadneuo cyn y dyddiad hwnnw a chyn belled â bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw; neu mewn perthynas â gwaith lle nad oes angen hysbysiad (gweler rheoliad 12(6) o Reoliadau Adeiladu 2010) ar yr amod bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw.

Dogfen

Argraffiad 10 o Ddogfen Gymeradwy J (Offer Hylosgi a systemau storio tanwydd) yn ymgorffori newidiadau a wnaed yn 2010 a 2024.

GofynionvRheoliadau Adeiladu 2010 y cymeradwyir y ddogfen hon mewn cysylltiad â hwy 

Rhan J, Atodlen 1 

Atodiad B

Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer dogfennau sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion rheoliadau adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer eu pwerau o dan adran 6(5) a 5(A), wedi tynnu yn ôl y gymeradwyaeth i'r ddogfen a enwir isod at ddiben rhoi arweiniad ymarferol ar y gofynion yn Rhan J o Atodlen 1 o Reoliadau Adeiladu 2010. 

Daw'r hysbysiad tynnu cymeradwyaeth yn ôl i rym ar 6 Ionawr 2025 ac eithrio mewn perthynas â'r gwaith fydd eisoes wedi'i ddechrau cyn y dyddiad hwnnw; neu mewn perthynas â gwaith y rhoddwyd hysbysiad adeiladu neu hysbysiad diwygio ar ei gyfer neu bod cynlluniau llawn wedi'u hadneuo cyn y dyddiad hwnnw a chyn belled â bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw; neu mewn perthynas â gwaith lle nad oes angen hysbysiad (gweler rheoliad 12(6) o Reoliadau Adeiladu 2010) ar yr amod bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw. 

Dogfen

Argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J (Offer Hylosgi a systemau storio tanwydd) yn ymgorffori newidiadau 2010.