Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn yn adrodd ar ganlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 11 neu 17 oed ysgolion canol, uwchradd neu arbennig a gynhelir, Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD) neu disgyblion a addysgir heblaw yn yr ysgol (EOTAS) neu yng Nghymru. Nid yw hyn yn cynnwys disgyblion mewn ysgolion annibynnol na Sefydliadau Addysg Bellach.

Newidiadau i'r broses o lunio'r ystadegau hyn

Ailgyflwyno prif ddangosyddion TGAU

Fel y cyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn ei Ddatganiad Ysgrifenedig dyddiedig 19 Ionawr 2023, bydd Llywodraeth Cymru yn ailddechrau adrodd ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 4 ar lefel ysgol gan ddefnyddio’r dull a fabwysiadwyd yn 2018/19. Mae hyn yn golygu, ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, bydd Llywodraeth Cymru yn parhai i gyhoeddi'r prif ddangosyddion a ganlyn: Dangosydd Capio 9 (fersiwn y mesur interim), Dangosydd Llythrennedd, Dangosydd Rhifedd, Dangosydd Gwyddoniaeth, a Dangosydd Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, i gyd yn seiliedig ar sgôr pwyntiau (Gweler ansawdd a methodoleg isod am fwy o fanylion). Bydd hyn am gyfnod interim, gan ddechrau gyda data canlyniadau o flwyddyn academaidd 2022/23, wrth inni fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu ecosystem wybodaeth ddiwygiedig ac, fel rhan o hynny, trefniadau adrodd ar ddata canlyniadau cymwysterau yn y dyfodol. 

Mae'r dadansoddiad o'r canlyniadau a gyflwynwyd yn y datganiad hwn yn seiliedig ar ganlyniadau TGAU blwyddyn 11 a 17 oed Safon Uwch ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir, Unedau Cyfeirio Disgyblion (PRU) a disgyblion a Addysgir heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) yng Nghymru (ac eithrio Sefydliadau Addysg Bellach ac ysgolion annibynnol) sy'n debyg i wybodaeth a ryddhawyd gan Gymwysterau Cymru a'r Cyd-ganolfan Cymwysterau (JCQ)  (gweler ansawdd a methodoleg) isod ar y sylw).

Graddau a aseswyd gan ganolfannau

Roedd cyfnod arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flwyddyn drosiannol, lle dychwelwyd cymwysterau perthnasol disgyblion Cymru i arholiad ysgrifenedig. Nid oedd hwn yn ddychweliad cyflawn i arholiadau cyn-bandemig. I ddigolledu am unrhyw darfu ar amserlen yr ysgol, rhoddwyd dewis ehangach o gwestiynau o’r maes llafur i ddisgyblion a safodd arholiadau yn 2021/22, gyda Cymwysterau Cymru yn gosod canlyniadau hanner ffordd yn fras rhwng 2018/19 (y tro diwethaf i arholiadau gael eu sefyll) a chanlyniadau 2020/21. Wrth i ni symud yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig, arhosodd rhywfaint o gefnogaeth ar waith ar gyfer dysgwyr a safodd arholiadau yn 2022/23. Roedd y gefnogaeth hon ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw ac yn ddull cefnogol o raddio. Yn 2022/23 gosododd Cymwysterau Cymru y canlyniadau ar lefel genedlaethol yn fras hanner ffordd rhwng canlyniadau 2018/19 a 2021/22. Yn 2023/24 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, gan arwain at ostyngiad bach yn y canlyniadau o 2022/23.

Dyfarnwyd graddau i ddisgyblion y dyfarnwyd cymhwyster iddynt yn ystod cyfnodau haf 2020 a 2021 yn seiliedig ar radd a bennwyd gan y ganolfan neu fodel gradd a aseswyd gan y ganolfan. Pennwyd graddau gan ysgolion yn seiliedig ar eu hasesiad o waith dysgwyr, gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth (gan gynnwys asesiadau heblaw arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth).

Oherwydd y trefniadau arholi amrywiol sydd ar waith ers 2018/19, rhaid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau rhwng blynyddoedd dilynol.

Dosbarthiad Graddau TGAU

Mae'r gwerthoedd yn y graffiau a'r ffigurau yn y datganiad hwn yn dangos canran y cofrestriadau a ddyfarnwyd ar bob gradd unigol, wedi'u dadansoddi yn ôl nodweddion dethol disgyblion. Er enghraifft, yn Ffigur 7, mae'r bar glas golau cyntaf ar y chwith (gwerth 11.2%) yn cynrychioli nifer y graddau A * a ddyfarnwyd yn 2018/19 fel canran o'r holl gofrestriadau yn 2018/19.

Mae'r dosbarthiadau gradd hyn yn caniatáu i'r canlyniadau gael eu holi ar lefel fwy manwl a dangos canlyniadau ar yr ystodau gallu uchaf ac isaf. Darperir dosbarthiadau gradd ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 yn y tablau atodol hefyd.

Canlyniadau allweddol 2023/24

TGAU, Disgyblion Blwyddyn 11 (Cyfnod Allweddol 4)

  • Yn 2023/24 y dangosydd cyfartalog capio 9 (fersiwn mesurau interim) oedd 351.1 pwynt, yn is na’r 354.4 pwynt yn 2018/19 a’r 358.1 points in 2022/23.
  • Y dangosydd cyfartalog ar gyfer Tystysgrif Her Sgiliau oedd 31.8 pwynt (Ffigur 1).
  • Sgoriodd disgyblion yn uchaf yn y dangosydd Llythrennedd. Y dangosydd cyfartalog ar gyfer Llythrennedd oedd 38.5 pwynt, y dangosydd cyfartalog ar gyfer Rhifedd yw 35.9 pwynt a'r dangosydd cyfartalog ar gyfer Gwyddoniaeth oedd 36.0 pwynt (Ffigur 2).

Canlyniadau yn ôl nodweddion dethol disgyblion 

  • Sgoriodd menywod yn uwch yn y dangosydd Capio 9 (fersiwn mesur interim). Fodd bynnag, o 2018/19 i 2023/24 cyfyngodd y bwlch dangosydd capio 9 rhwng gwrywod a menywod o 32.9 i 21.9 pwynt.
  • Mae disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sgorio'n gyson uwch na disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn y dangosydd Capio 9 (fersiwn mesur interim). Yn 2023/24 culhaodd y bwlch i 80.8 pwynt o 87.1 pwynt yn 2022/23. Mae hyn yn debyg i'r bwlch o 77.3 yn 2018/19.
  • Culhaodd y bwlch rhwng disgyblion Gwyn Prydeinig a disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y dangosydd Capio 9 (fersiwn dangosyddion interim), gyda disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cyflawni gwell canlyniadau na disgyblion Gwyn Prydain. Culhaodd y bwlch o 22.7 pwynt yn 2022/23 i 18.8 pwynt yn 2023/24 (Ffigur 5).
  • Y cefndir ethnig a sgoriodd uchaf yn y dangosydd Capio 9 (fersiwn dangosyddion interim) oedd disgyblion Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig ar 464.9 pwynt. 

Safon Uwch, Disgyblion 17 oed (Chweched dosbarth)

  • Yn 2023/24 roedd canran y cofrestriadau Safon Uwch a ddyfarnwyd graddau A* i A, A* i C yn is na 2022/23. Roedd y gostyngiad mwyaf ar A* i A, gyda gostyngiad o 4.1 pwynt canran. Doedd dim newid yn A* i E yn 2023/24.

Canlyniadau yn ôl nodweddion dethol disgyblion

  • Nid oedd bwlch rhwng menywod a gwrywod yn A* i A yn 2023/24, mae merched wedi cael canlyniadau uwch na dynion yn A* i A ers 2018/19 gyda bwlch o 3.4 pwynt canran yn 2022/23. Cyflawnodd menywod ganlyniadau gwell na dynion ar raddau A* i C o 5.8 pwynt canran. Roedd y bwlch yn A* i E hefyd yn ddibwys yn 2023/24 (Ffigur 10).
  • O 2022/23 i 2023/24 culhaodd y bwlch ychydig rhwng disgyblion Gwyn Prydeinig a disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar raddau A* i A, gyda disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cyflawni gwell canlyniadau na disgyblion Gwyn Prydain. Roedd y bwlch yn A* i E yn ddibwys (Ffigur 11).
  • Disgyblion â chefndir ethnig Tseiniaidd sgoriodd ar ei uchaf gyda dros hanner y cymwysterau a ddyfarnwyd yn A* i A (59.0%).

TGAU Disgyblion Blwyddyn 11 (Cyfnod Allweddol 4)

Dangosydd Capio 9 (fersiwn y mesur interim)

Mae'r dangosydd Capio 9 wreiddiol, a gyflwynwyd yn 2016/17, yn canolbwyntio ar naw canlyniad gorau disgyblion Blwyddyn 11 o'r cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys gofynion pwnc-benodol. Rhaid i'r sgôr Capio 9 (fersiwn dangosydd interim) (gweler ansawdd a methodoleg isod am fwy o fanylion) a gyflwynwyd yn 2018/19 gynnwys cymwysterau TGAU Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf neu Lenyddiaeth Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg neu Rifedd, a Gwyddoniaeth. Fel canllaw, mae gradd A* TGAU yn werth 58 o bwyntiau, mae gradd A yn werth 52 o bwyntiau, mae gradd C yn werth 40 o bwyntiau ac ati. Mae'r sgôr pwyntiau cyfartalog Capio 9 (fersiwn y mesur interim) eleni ychydig yn is na'r hyn sy'n cyfateb i 9 gradd C (360 o bwyntiau). Gweler Diffiniadau i gael dadansoddiad llawn o'r pwyntiau yn ôl gradd.

Y dangosydd cyfartalog Capio 9 (fersiwn y mesur interim) o holl ddisgyblion yng Nghymru yn 2023/24 yw 351.1, gostyngiad bach o'i gymharu â 358.1 yn 2022/23. Nid yw hyn yn dangos ystod na dosbarthiad sgoriau ar gyfer disgyblion yn y garfan. Bydd gan ddisgyblion unigol ystod eang o sgorau, bydd rhai yn uwch a bydd rhai yn is. Bwriad y dangosydd hwn yw adlewyrchu canlyniadau i ysgolion yng Nghymru ac nid yw'n cael ei ddefnyddio i asesu perfformiad disgyblion unigol.

Dangosydd tystysgrif her sgiliau (SCC)

Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau (Manyleb CBAC), sy'n rhan allweddol o Fagloriaeth Cymru, ar gael i ddysgwyr ar Lefel Sylfaen 1 neu Lefel Genedlaethol 2. Rhoddir graddau A i C ar gyfer Lefel Genedlaethol 2, ac fe'u trosir i'r un sgoriau pwyntiau â'r dangosydd pwnc, gyda 52 o bwyntiau ar gyfer A ac yn y blaen. Rhoddir dyfarniad Llwyddo* a Llwyddo ar gyfer Lefel Sylfaen 1, ac fe'u trosir yn sgoriau pwyntiau o 31 a 22. Mae hyn yn golygu y dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r dangosydd hwn â'r tri mesur perfformiad pwnc. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r dangosydd hwn â'r tri mesur perfformiad pwnc, sydd â dulliau asesu gwahanol. Mae'r SCC yn canolbwyntio mwy ar waith cwrs a gwblhawyd drwy gydol y flwyddyn academaidd yn hytrach nag arholiad terfynol ar ddiwedd y flwyddyn/tymor.

Ffigur 1: Dangosydd Tystysgrif Her Sgiliau Cyfartalog (SCC) gan ddisgyblion Blwyddyn 11, 2016/17 i 2023/24 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Graff llinell yn dangos dangosydd Tystysgrif Her Sgiliau o 2016/17 i 2023/24, ac eithrio 2019/20 i 2021/22 gweler [Nodyn 2]. O 2016/17 i 2018/19 cynyddodd y dangosydd. Yn dilyn pandemig coronafeirws COVID-19 mae'r dangosydd yn is flwyddyn wrth flwyddyn, ond mae'n dal yn uwch na'r sgôr yn 2016/17.

Ffynhonnell: Cronfa Ddata Arholiadau Cymru (WED), 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 1 y tablau atodol

[Nodyn 1]: Cyn 2018/19, defnyddiwyd y canlyniad gorau ar gyfer pob disgybl ar gyfer dangosyddion. O 2018/19, dim ond canlyniad y cofrestriad cyntaf (gronolegol) fydd yn cael ei gyfrif yn ein dangosyddion.

[Nodyn 2]: Nid oes data ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22, wrth i ddangosyddion gael eu hatal oherwydd Pandemig y COVID-19.

[Nodyn 3]: Mae’r pwyntiau ar yr echelin-Y yn dechrau ar 25, nid ar 0.

Er bod pwyntiau yn uwch yn mynd o 2016/17 i 2018/19, 28.6 i 36.4, yn 2022/23 roedd yn is yn 31.6 gyda chynnydd bach i 31.8 yn 2023/24.

Dangosyddion perfformiad pwnc (sgoriau pwyntiau cyfartalog)

Mae'r prif dangosyddion yn dangos y sgôr gyfartalog ar gyfer pob disgybl sydd wedi'i gynnwys ledled Cymru. Ar gyfer y Dangosyddion Llythrennedd, Rhifedd a Gwyddoniaeth, y sgôr pwyntiau cyfartalog uchaf posibl yw 58 o bwyntiau, a hynny os yw pob disgybl yn cyflawni gradd A*. Y sgôr pwyntiau cyfartalog isaf yw 16 o bwyntiau, a hynny os yw pob disgybl yn cyflawni gradd G. Noder, mae'r ffigurau hyn yn dangos y sgoriau cyfartalog ar gyfer pob disgybl yng Nghymru. Bydd rhai disgyblion yn perfformio'n well na hyn a rhai yn perfformio'n waeth. Nid yw hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o ddisgyblion wedi cyflawni gradd D yn y pwnc perthnasol. Mae'r ffigwr yn gyfartaledd o bob disgybl ar draws Cymru ac nid yw'n nodi ystod na dosbarthiad sgoriau o fewn y garfan.

Ffigur 2: Dangosyddion pwnc ar gyfartaledd gan ddisgyblion Blwyddyn 11, 2016/17 i 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Graff llinell sy'n dangos y dangosyddion pwnc; Llythrennedd, Rhifedd a Gwyddoniaeth, o 2016/17 i 2023/24, ac eithrio 2019/20 i 2021/22 gweler [Nodyn 1]. Mae disgyblion yn sgorio'n gyson yn well yn y dangosydd Llythrennedd  na'r ddau ddangosydd pwnc arall. Mae disgyblion o drwch blewyn yn sgorio'n well mewn Rhifedd dros Wyddoniaeth.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 1 y tablau atodol

[Nodyn 1]: Nid oes data ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22, wrth i ddangosyddion gael eu hatal oherwydd Pandemig y COVID-19. 

[Nodyn 2]: Cyn 2018/19, defnyddiwyd y canlyniad gorau ar gyfer pob disgybl ar gyfer y dangosyddion. O 2018/19, dim ond canlyniad y cofnod cyntaf (gronolegol) fydd yn cael ei gyfrif yn ein dangosyddion. 

[Nodyn 3]: Mae’r pwyntiau ar yr echelin-Y yn dechrau ar 30, nid ar 0.

Y mesurau Llythrennedd yw'r uchaf yn gyffredinol, ac yna mathemateg a gwyddoniaeth, ac eithrio 2016/17 a 2023/24 pan oedd y mesur gwyddoniaeth yn uwch na rhifedd. Mae'r holl fesurau rhwng 36.0 a 39.7 pwynt. Rhwng 2022/23 a 2023/24 gostyngodd y tri dangosydd oddeutu un pwynt. Y gwahaniaeth rhwng pob gradd yw 6 phwynt felly mae hyn yn cyfateb i un rhan o chwech o'r boblogaeth sy'n cyrraedd un radd yn is o'i gymharu â 2022/23.

Canlyniadau fesul nodweddion disgyblion

Mae'r siartiau canlynol yn dangos y bylchau yn y dangosyddion dros y blynyddoedd diweddar ôl nodweddion dethol disgyblion.

Rhyw

Bwlch rhwng y rhywiau yn y dangosydd Capio 9 (fersiwn y mesur interim)

Yn 2023/24 sgoriodd menywod 362.4 a sgoriodd gwrywod 340.5 pwynt ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9 (fersiwn y dangosydd interim). Mae hyn yn golygu bod merched yn sgorio'n uwch na gwrywod o 21.9 pwynt. Gostyngodd hyn o fwlch o 32.9 pwynt yn 2018/19.

Bwlch rhwng y rhywiau yn y dangosydd pwnc
Ffigur 3: Bwlch rhwng y rhywiau mewn dangosyddion pwnc (gwryw llai benyw), 2016/17 i 2023/24
Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Graff llinell sy'n dangos y bwlch yn y mesurau pwnc; Llythrennedd, Rhifedd a Gwyddoniaeth, rhwng menywod a gwrywod rhwng 2016/17 a 2023/24, ac eithrio 2019/20 i 2021/22 [Nodyn 1]. Ar gyfer pob un o'r tri dangosydd roedd menywod yn sgorio'n uwch na gwrywod, mae'r bylchau ehangaf ar gyfer Llythrennedd ac mae'r bylchau culaf ar gyfer Rhifedd. Rhwng 2018/19 a 2023/24 ym mhob dangosydd fe gulhaodd y bwlch.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 2a y tablau atodol

[Nodyn 1]: Nid oes data ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22, wrth i ddangosyddion gael eu hatal oherwydd pandemig y COVID-19.

[Nodyn 2]: Cyn 2018/19, defnyddiwyd y canlyniad gorau ar gyfer pob disgybl ar gyfer y dangosyddion. O 2018/19, dim ond canlyniad y cofnod cyntaf (gronolegol) fydd yn cael ei gyfrif yn ein dangosyddion.

Roedd y bwlch ehangaf mewn Llythrennedd yn 2023/24 gyda gwahaniaeth o 4.8 pwynt a'r culaf oedd Rhifedd lle sgoriodd gwrywod yn uwch na menywod o 0.1 pwynt. Yn wahanol i'r dangosydd Llythrennedd a Rhifedd, mae'r bwlch yn y dangosydd Gwyddoniaeth wedi ehangu ychydig o 1.4 pwynt yn 2022/23 i 1.6 pwynt yn 2023/24.

Prydau ysgol am ddim (PYD)

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth

Bu newidiadau sylweddol yn ddiweddar yn y ddarpariaeth PYD yng Nghymru fel rhan o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd. I gael rhagor o fanylion, gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Bwlch Capio 9 yn ôl Prydau Ysgol am Ddim (fersiwn y mesur interim)

Yn 2023/24 sgoriodd disgyblion sy'n gymwys ar gyfer PYD (eFSM) 296.7 a sgoriodd disgyblion nad oeddent yn gymwys ar gyfer PYD (nFSM) 377.5 ar gyfartaledd yn y dangosydd capio 9 (fersiwn y mesurau interim). Mae hyn yn golygu fod disgyblion nad ydynt yn gymwys yn sgorio'n uwch na disgyblion sydd yn gymwys o 80.8 pwynt. Mae hyn yn ostyngiad yn y bwlch o 87.1 pwynt yn 2022/23.

Bwlch PYD yn y dangosyddion pwnc
Ffigur 4: Bwlch PYD yn y dangosyddion pwnc (ddim yn gymwys i gael PYD llai cymwys i gael PYD), 2016/17 i 2023/24
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Graff llinell sy'n dangos y bwlch yn y dangosyddion pwnc; Llythrennedd, Rhifedd a Gwyddoniaeth, rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael PYD a disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD rhwng 2016/17 a 2023/24, ac eithrio 2019/20 i 2021/22 [Nodyn1]. Ar gyfer yr holl ddangosyddion ar gyfartaledd fe sgoriodd disgyblion nad oeddent yn gymwys ar gyfer PYD yn uwch na disgyblion sy'n gymwys i gael PYD. Mae'r bwlch yn ehangaf mewn Gwyddoniaeth ac yn gulaf mewn Llythrennedd. Rhwng 2018/19 a 2023/24 ehangodd y bwlch ym mhob un o'r tri dangosydd.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 2b y tablau atodol

[Nodyn 1]: Nid oes data ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22, wrth i ddangosyddion gael eu hatal oherwydd pandemig y COVID-19.

[Nodyn 2]: Cyn 2018/19, defnyddiwyd y canlyniad gorau ar gyfer pob disgybl ar gyfer y dangosyddion. O 2018/19, dim ond canlyniad y cofnod cyntaf (gronolegol) fydd yn cael ei gyfrif yn ein dangosyddion.

Yn 2023/24 roedd y bwlch lleiaf mewn Llythrennedd ar 9.6 pwynt tra bod yr ehangaf mewn Gwyddoniaeth ar 12.1 pwynt. Rhwng 2022/23 a 2023/24 culhaodd y bwlch ym mhob un o'r tri dangosydd ar gyfradd debyg.

Ethnigrwydd

Yng nghyd-destun y cyhoeddiad hwn mae'r categori "Gwyn" a ddefnyddir isod, yn cyfeirio at ddisgyblion Gwyn-Brydeinig yn unig. Mae'r holl ddisgyblion eraill sydd ag ethnigrwydd wedi'i recordio wedi'u cynnwys o dan y categori grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Felly mae'r categori hwn hefyd yn cynnwys disgyblion Gwyn nad ydynt yn Brydeinig. Nid yw disgyblion nad ydynt wedi nodi eu hethnigrwydd wedi'u cynnwys. Mae'n debygol y bydd gwahaniaethau mewn cyflawniad rhwng grwpiau yn y categori Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae dadansoddiad pellach ar gael ar gyfer grwpiau ethnig manylach yn y tablau atodol ac yn Ffigur 5 isod.

Bwlch Capio 9 ethnigrwydd (fersiwn mesur interim)

Yn 2023/24 sgoriodd disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig 378.7 pwynt a sgoriodd disgyblion Gwyn Prydeinig 359.9 pwynt ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9. Mae hyn yn golygu yn gyffredinol bod disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn sgorio'n uwch na disgyblion Gwyn Prydain o 18.8 pwynt. Mae hyn yn culhau’r bwlch o 22.7 pwynt yn 2022/23.

Bwlch ethnigrwydd yn y dangosydd pwnc
Ffigur 5: Bwlch ethnigrwydd yn y dangosydd pwnc, 2016/17 i 2023/24 (disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig llai disgyblion Gwyn)
Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Graff llinell sy'n dangos y bwlch yn y dangosyddion pwnc; Llythrennedd, Rhifedd a Gwyddoniaeth rhwng disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a disgyblion Gwyn Prydain rhwng 2016/17 a 2023/24, ac eithrio 2019/20 i 2021/22 [Nodyn 1]. Ar gyfer pob dangosydd fe sgoriodd disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn uwch na disgyblion Gwyn Prydain. Ar y cyfan roedd y bwlch yn ehangaf ar gyfer y dangosydd Rhifedd ac yn gulaf ar gyfer y dangosydd Llythrennedd. Rhwng 2018/19 a 2023/24 cynyddodd y bylchau ar gyfer y tri phwnc ar gyfradd debyg.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 2c y tablau atodol

[Nodyn 1]: Nid oes data ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22, wrth i ddangosyddion gael eu hatal oherwydd pandemig y COVID-19.

[Nodyn 2]: Cyn 2018/19, defnyddiwyd y canlyniad gorau ar gyfer pob disgybl ar gyfer y dangosyddion. O 2018/19, dim ond canlyniad y cofnod cyntaf (gronolegol) fydd yn cael ei gyfrif yn ein dangosyddion.

Yn 2023/24 y bwlch ehangaf oedd 3.4 pwynt ar gyfer Rhifedd a'r bwlch culaf oedd 1.3 pwynt ar gyfer Llythrennedd. Rhwng 2018/19 a 2022/23 roedd y bylchau ar gyfer y tri phwnc yn uwch flwyddyn wrth flwyddyn, fodd bynnag, gostyngodd y bwlch yn 2023/24.

Dosbarthiad gradd TGAU cyffredinol

Ffigur 6: Canran y cofrestriadau TGAU yn ôl ystod graddau ym mhob pwnc, 2015/16 i 2023/24 [Nodyn 1], [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart llinell yn dangos ystodau graddau TGAU A* i A, A* i C ac A* i G a enillwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 11 rhwng 2015/16 a 2023/24. Yn ystod y blynyddoedd 2019/20 a 2020/21, TGAU yn yr ardal lwyd gysgodol, dyfarnwyd TGAU yn seiliedig ar Raddau a Aseswyd gan Ganolfan a Graddau a Benderfynir gan Ganolfan [Nodyn 3]. Yn 2021/22, 2022/23 a 2023/24 mae canran y TGAU a ddyfarnwyd graddau A* i A ac A* i C yn is na’r ganran a ddyfarnwyd yn ystod pandemig COVID-19, â dychwelyd i'r lefel cyn y pandemig.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 4a y tablau atodol

[Nodyn 1]: Roedd cyfnodau arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flynyddoedd trosiannol. Yn 2021/22 gosododd Cymwysterau Cymru'r canlyniadau ar lefel genedlaethol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2018/19 a 2020/21. Yn 2022/23 gosodwyd y lefel genedlaethol hanner ffordd rhwng 2018/19 a 2021/22. Yn 2023/24 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, gan arwain at ostyngiad bach yn y canlyniadau o 2022/23.

[Nodyn 2]: Cyn 2018/19, defnyddiwyd y canlyniad gorau ar gyfer pob disgybl ar gyfer dangosyddion. O 2018/19, dim ond canlyniad y cofnod cyntaf (gronolegol) fydd yn cael ei gyfrif yn ein mesurau.

[Nodyn 3]: Oherwydd pandemig y COVID-19, cafodd arholiadau cyhoeddus eu hatal yn 2019/20 a 2020/21 a dyfarnwyd graddau i ddisgyblion yn seiliedig ar fodel gradd a bennwyd gan ganolfan neu a aseswyd gan ganolfan.

Ers 2015/16 mae rhwng 96.1% a 99.4% o ddisgyblion wedi derbyn graddau A* i G. Roedd canran y disgyblion sy'n derbyn graddau A* i C yn uwch yn ystod blynyddoedd y pandemig COVID-19 o 65.1% yn 2018/19 (cyn y pandemig) i 75.1% yn 2020/21 (pan ddyfarnwyd Graddau a Benderfynir gan Ganolfan). Yn 2023/24 gostyngodd y ffigwr hwn i 63.8%, yn unol â lefelau cyn y pandemig. Roedd canran y disgyblion sy'n cael graddau A* i A yn uwch yn ystod y pandemig, o 19.5 yn 2018/19 i 29.5% yn 2020/21. Yn 2023/24 roedd yn is ar 19.8, yn agos at y canran a ddyfarnwyd cyn pandemig COVID-19.

Ffigur 7: Canran y cofrestriadau TGAU yn ôl gradd unigol ym mhob pwnc, 2018/19 a 2023/24
Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar sy'n dangos y canran o gofrestriadau TGAU a ddyfarnwyd ym mhob gradd rhwng 2018/19 a 2023/24. Yn ystod y blynyddoedd 2019/20 a 2020/21 dyfarnwyd TGAU yn seiliedig ar Raddau a Aseswyd gan Ganolfan a Graddau Penderfynol y Ganolfan [Nodyn 1]. Digwyddodd y newid mwyaf yn nosbarthiad y graddau yn 2019/20 a 2020/21 lle dyfarnwyd canran uwch o raddau uwch. Ar y cyfan, mae'r dosbarthiad graddau a ddyfarnwyd bellach wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, mae'r gwahaniaeth mwyaf rhwng 2018/19 a 2022/23 ar y radd A*.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 4a y tablau atodol

[Nodyn 1]: Oherwydd pandemig y COVID-19, cafodd arholiadau cyhoeddus eu hatal yn 2019/20 a 2020/21 a dyfarnwyd graddau i ddisgyblion yn seiliedig ar fodel gradd a bennwyd gan ganolfan neu a aseswyd gan ganolfan.

[Nodyn 2]: Roedd cyfnodau arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flynyddoedd trosiannol. Yn 2021/22 gosododd Cymwysterau Cymru'r canlyniadau ar lefel genedlaethol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2018/19 a 2020/21. Yn 2022/23 gosodwyd y lefel genedlaethol hanner ffordd rhwng 2018/19 a 2021/22. Yn 2023/24 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, gan arwain at ostyngiad bach o ganlyniadau 2022/23.

[Nodyn 3]: Cyn 2018/19, defnyddiwyd y canlyniad gorau ar gyfer pob disgybl ar gyfer mesurau. O 2018/19, dim ond canlyniad y cofnod cyntaf (gronolegol) fydd yn cael ei gyfrif yn ein dangosyddion.

[Nodyn 4]: Mae U/X yn gofrestriadau sydd heb eu graddio.

Yn 2023/24 mae dosbarthiad y graddau wedi dychwelyd i lefel debyg a welwyd cyn y pandemig, roedd canran y cofrestriadau TGAU y dyfarnwyd graddau A* i A iddynt yn is o gymharu â blynyddoedd blaenorol, a’r gwahaniaeth mwyaf yw A*. Yn gyfatebol, roedd canran y cofrestriadau TGAU y dyfarnwyd graddau D, E, F a G iddynt yn 2023/24 yn uwch. Roedd y newid yn y canran o'r ceisiadau a ddyfarnwyd B ac C yn ddibwys. Rhwng 2018/19 a 2023/24 roedd nifer y graddau A* a ddyfarnwyd yn uwch o 0.2 pwynt canran.

Disgyblion 17 oed ar ddechrau'r flwyddyn ysgol mewn Ysgolion (Chweched dosbarth)

Dosbarthiad graddau Safon Uwch

Ffigur 8: Canran y dyfarniadau Safon Uwch gan ddisgyblion 17 oed yn ôl ystod graddau ym mhob pwnc, 2015/16 i 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Graff llinell sy'n dangos y canran o ddyfarniadau Safon Uwch sy'n cyrraedd ffiniau graddau A* i A, A* i C ac A* i E. Yn ystod y blynyddoedd 2019/20 a 2020/21, yn yr ardal lwyd gysgodol, dyfarnwyd Safon Uwch yn seiliedig ar Raddau a Aseswyd gan Ganolfan a Graddau a Benderfynir gan Ganolfan [Nodyn 1]. Yn 2022/23 a 2023/24 mae canran y graddau Safon Uwch a ddyfarnwyd A* i A ac A* i C yn is na’r ganran a ddyfarnwyd yn ystod pandemig COVID-19 ond dal yn uwch na'r ganran a ddyfarnwyd yn 2018/19 (cyn y pandemig).

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 7 y tablau atodol

[Nodyn 1]: Oherwydd Pandemig y COVID-19, cafodd arholiadau cyhoeddus eu hatal yn 2019/20 a 2020/21 a dyfarnwyd graddau i ddisgyblion yn seiliedig ar fodel gradd a bennwyd gan ganolfan neu a aseswyd gan ganolfan.

[Nodyn 2]: Roedd cyfnodau arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flynyddoedd trosiannol. Yn 2021/22 gosododd Cymwysterau Cymru'r canlyniadau ar lefel genedlaethol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2018/19 a 2020/21. Yn 2022/23 gosodwyd y lefel genedlaethol hanner ffordd rhwng 2018/19 a 2021/22. Yn 2023/24 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, gan arwain at ostyngiad bach o ganlyniadau 2022/23.

Ers 2015/16 mae rhwng 99% a 100% o ddisgyblion wedi derbyn graddau A* i E. Roedd canran y disgyblion sy'n derbyn graddau A* i C yn uwch yn ystod blynyddoedd y Pandemig COVID-19 o 76.7% yn 2018/19 (cyn y pandemig) i 92.2% yn 2019/20 (pan ddyfarnwyd Graddau Asesu Canolfannau (pan ddyfarnwyd Graddau Asesu Canolfannau). Yn 2023/24 gostyngodd y ffigwr hwn i 78.0%. Roedd canran y disgyblion sy'n cael graddau A* i A yn uwch o 25.5% yn 2018/19 i 49.0% yn 2020/21. Ar gyfer 2023/24 mae canran y cofrestriadau Safon Uwch A* i A ac A* i C yn dal i fod yn uwch na'r canlyniadau cyn y pandemig.

Ffigur 9: Canran y cofrestriadau Safon Uwch gan ddisgyblion 17 oed a ddyfarnwyd gradd ym mhob pwnc, 2018/19 i 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart bar sy'n dangos y canran o gofrestriadau Safon Uwch a ddyfarnwyd ar bob gradd. Yn ystod y blynyddoedd 2019/20 a 2020/21 dyfarnwyd Safon Uwch yn seiliedig ar Raddau a Aseswyd gan Ganolfan a Graddau Penderfynol y Ganolfan [Nodyn 1]. Digwyddodd y newid mwyaf yn nosbarthiad y graddau yn 2019/20 a 2020/21. Yn 2023/24 roedd canran y cofrestriadau Safon Uwch y dyfarnwyd graddau A* a A iddynt yn is o gymharu â blynyddoedd blaenorol, gyda’r gostyngiad mwyaf yn A* (i 9.8 pwynt canran). Yn gyfatebol, roedd canran uwch o ymgeiswyr Safon Uwch y dyfarnwyd graddau B, C, D ac E iddynt yn 2023/24.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 7 y tablau atodol

[Nodyn 1]: Oherwydd Pandemig y COVID-19, cafodd arholiadau cyhoeddus eu hatal yn 2019/20 a 2020/21 a dyfarnwyd graddau i ddisgyblion yn seiliedig ar fodel gradd a bennwyd gan ganolfan neu a aseswyd gan ganolfan.

[Nodyn 2]: Roedd cyfnodau arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flynyddoedd trosiannol. Yn 2021/22 gosododd Cymwysterau Cymru'r canlyniadau ar lefel genedlaethol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2018/19 a 2020/21. Yn 2022/23 gosodwyd y lefel genedlaethol hanner ffordd rhwng 2018/19 a 2021/22. Yn 2023/24 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, gan arwain at ostyngiad bach o ganlyniadau 2022/23.

[Nodyn 4]: Mae U/X yn gofrestriadau sydd heb eu graddio.

Canlyniadau fesul nodweddion disgyblion

Mae'r ffigurau canlynol yn dangos y bylchau mewn dosbarthiad gradd yn y blynyddoedd diweddar yn ôl nodweddion dethol disgyblion. Nid oes siart ar gyfer hawl i brydau bwyd am ddim oherwydd bod nifer y disgyblion o'r fath ym mlwyddyn 13 mewn ysgolion a gynhelir yn rhy isel i ganiatáu unrhyw gymariaethau ystyrlon. Gellir gweld cymariaethau yn ôl ethnigrwydd disgyblion yn y tablau atodol a ddarperir.

Mae Ffigurau 10 ac 11 yn dangos y gwahaniaeth yng nghanran y gwahanol grwpiau o ddisgyblion sy'n cyflawni ystodau graddau amrywiol. Er enghraifft, yn siart 10 mae'r siart yn dangos y gwahaniaeth pwynt canran rhwng canran y merched a gyflawnodd yr ystod gradd benodol (e.e. A* i C) minws canran y bechgyn a gyflawnodd yr un ystod graddau.

Rhyw

Ffigur 10: Bwlch rhwng y rhywiau mewn cyflawniad ym mhob pwnc Safon Uwch ar gyfer disgyblion 17 oed, yn ôl ystod gradd, 2016/17 i 2023/24 (gwrywod llai benywod)
Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Graff llinell yn dangos y bwlch yn ystodau graddau A* i A, A* i C ac A* i E rhwng menywod a gwrywod rhwng 2016/17 a 2022/23. Yn ystod y blynyddoedd 2019/20 a 2020/21, yn yr ardal lwyd cysgodol, dyfarnwyd Safon Uwch yn seiliedig ar Raddau a Aseswyd gan Ganolfan a Graddau a Benderfynir gan Ganolfan (gweler [Nodyn 1]). Er bod y bwlch ar lefel A yn ddibwys ar gyfer graddau A* i E ac A* i A yn 2023/24, ar raddau A* i C mae menywod yn cael canlyniad gwell na gwrywod. Er i'r bwlch leihau yn 2021/22 o lefelau'r pandemig, mae wedi ehangu eto yn 2023/24.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 8 y tablau atodol

[Nodyn 1]: Oherwydd Pandemig y COVID-19, cafodd arholiadau cyhoeddus eu hatal yn 2019/20 a 2020/21 a dyfarnwyd graddau i ddisgyblion yn seiliedig ar fodel gradd a bennwyd gan ganolfan neu a aseswyd gan ganolfan.

[Nodyn 2]: Roedd cyfnodau arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flynyddoedd trosiannol. Yn 2021/22 gosododd Cymwysterau Cymru'r canlyniadau ar lefel genedlaethol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2018/19 a 2020/21. Yn 2022/23 gosodwyd y lefel genedlaethol hanner ffordd rhwng 2018/19 a 2021/22.

Rhwng 2018/19 a 2020/21 ehangodd y bwlch ar raddau A* i A yn sylweddol i 8.0 pwynt canran, fodd bynnag, does dim bwlch yn 2023/24. Mae'r bwlch rhwng menywod a dynion a ddyfarnwyd graddau A* i C ar Safon Uwch rhwng 2015/16 a 2023/24 yn amrywio ac mae wedi ehangu ychydig, o 5.4 pwynt canran yn 2016/17 i 5.8 pwynt canran yn 2023/24.

Ethnigrwydd

Yng nghyd-destun y cyhoeddiad hwn mae'r categori "Gwyn" a ddefnyddir isod, yn cyfeirio at ddisgyblion Gwyn-Brydeinig yn unig. Mae'r holl ddisgyblion eraill sydd ag ethnigrwydd wedi'i recordio wedi'u cynnwys o dan y categori grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Felly mae'r categori hwn hefyd yn cynnwys disgyblion Gwyn nad ydynt yn Brydeinig. Nid yw disgyblion nad ydynt wedi nodi eu hethnigrwydd wedi'u cynnwys. Mae'n debygol y bydd gwahaniaethau mewn cyflawniad rhwng grwpiau yn y categori Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae dadansoddiad pellach ar gael ar gyfer grwpiau ethnig manylach yn y tablau atodol.

Ffigur 11: Bwlch mewn cyflawniad ym mhob pwnc Safon Uwch ar gyfer disgyblion 17 oed rhwng disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a disgyblion Gwyn, yn ôl ystod gradd, 2015/16 i 2023/24 (Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig llai Gwyn)
Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Graff llinell sy'n dangos y bwlch mewn graddau A* i A, A* i C ac A* i E rhwng disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a disgyblion Gwyn Prydeinig rhwng 2016/17 a 2023/24. Yn ystod y blynyddoedd 2019/20 a 2020/21, yn yr ardal lwyd cysgodol, dyfarnwyd Safon Uwch yn seiliedig ar Raddau a Aseswyd gan Ganolfan a Graddau a Benderfynir gan Ganolfan [Nodyn 1]. Mae'r bwlch rhwng disgyblion Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a disgyblion Gwyn Safon Uwch yn ddibwys ar gyfer ystodau gradd A* i E. Mae'r bwlch A* i C wedi amrywio yn ystod y cyfnod 2015/16 a 2023/24, tra ar raddau A* i A mae'r bwlch wedi bod yn uchel yn gyson.

Ffynhonnell: WED, 2023/24

Ceir y data yn Nhabl 8b y tablau atodol

[Nodyn 1]: Oherwydd pandemig y COVID-19, cafodd arholiadau cyhoeddus eu hatal yn 2019/20 a 2020/21 a dyfarnwyd graddau i ddisgyblion yn seiliedig ar fodel gradd a bennwyd gan ganolfan neu a aseswyd gan ganolfan.

[Nodyn 2]: Roedd cyfnodau arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flynyddoedd trosiannol. Yn 2021/22 gosododd Cymwysterau Cymru'r canlyniadau ar lefel genedlaethol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2018/19 a 2020/21. Yn 2022/23 gosodwyd y lefel genedlaethol hanner ffordd rhwng 2018/19 a 2021/22. Yn 2023/24 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, gan arwain at ostyngiad bach o ganlyniadau 2022/23.

Yn y graddau A* i A mae disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cyflawni canlyniadau gwell yn gyson na disgyblion Gwyn, gyda bwlch o 4.3 pwynt canran yn 2023/24. Mae'r bwlch rhwng disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a disgyblion Gwyn a ddyfarnwyd graddau A* i C rhwng 2015/16 a 2023/24 wedi amrywio, gan newid o -1.3 pwynt canran yn 2015/16 i 1.4 pwynt canran yn 2022/23, wedi lleihau i -0.7 pwynt canran yn 2023/24, yn debyg i'r bwlch yn 2016/17.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Newidiadau a chymariaethau

Ar gyfer TGAU a Safon Uwch, roedd cyfnod arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flwyddyn drosiannol, lle dychwelwyd cymwysterau perthnasol disgyblion Cymru i arholiad ysgrifenedig. Nid oedd hwn yn ddychweliad cyflawn i arholiadau cyn-bandemig. I ddigolledu am unrhyw darfu ar amserlen yr ysgol, rhoddwyd dewis ehangach o gwestiynau o’r maes llafur i ddisgyblion a safodd arholiadau yn 2021/22, gyda Cymwysterau Cymru yn gosod canlyniadau hanner ffordd yn fras rhwng 2018/19 (y tro diwethaf i arholiadau gael eu sefyll) a chanlyniadau 2020/21. Wrth i ni symud yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig, parhaodd rhywfaint o gefnogaeth ar waith ar gyfer dysgwyr a safodd arholiadau yn 2022/23. Roedd y gefnogaeth hon ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw ac yn ddull cefnogol o raddio. Yn 2022/23 gosododd Cymwysterau Cymru'r canlyniadau ar lefel genedlaethol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2018/19 a 2021/22. Yn 2023/24 mae Cymwysterau Cymru wedi dychwelyd i ddyfarnu canlyniadau yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig, gan arwain at ostyngiad bach o ganlyniadau 2022/23.

Ar 21 Ionawr 2021, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg y byddai dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2021 yn cael eu graddau wedi’u dyfarnu trwy fodel gradd a bennir gan y ganolfan.

Fe wnaeth cau ysgolion yn ystod y cyfnod rhwng Mawrth ac Awst 2020 atal Llywodraeth Cymru rhag cwblhau cyfrifiad o ysgolion yr Uned Cyfeirio Disgyblion (PRU) neu ddisgyblion Addysgedig heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Am y rheswm hwn nid yw disgyblion PRU ac EOTAS wedi'u cynnwys yn y canlyniadau ar gyfer blynyddoedd academaidd 2019/20 ymlaen.

Mae'r data yn y datganiad hwn yn dechrau yn 2015/16 oherwydd newid diffiniad o'r garfan TGAU rhwng 2014/15 a 2015/16 lle newidiwyd y garfan o ddisgyblion 15 oed i ddisgyblion ym Mlwyddyn 11. Gellir dod o hyd i ddata ar gyfer blynyddoedd cynharach ar StatsCymru.

Cyhoeddiadau tebyg

Mae'r canlyniadau hyn yn cynrychioli'r data a oedd ar gael i gyrff dyfarnu ar 26 Medi 2024. Gallant fod yn wahanol i'r canlyniadau a gyhoeddwyd yn gynharach gan naill ai Cymwysterau Cymru neu JCQ. Mae'r datganiad ystadegol hwn yn canolbwyntio ar ddisgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ac mae'n cynnwys canlyniadau apeliadau llwyddiannus hyd at 26 Medi 2024. Gall data a gyhoeddir gan sefydliadau eraill gynnwys graddau a ddyfarnwyd mewn canolfannau eraill ac i fyfyrwyr o oedrannau eraill. Bydd y data a gyhoeddwyd yn gynharach na dyddiad y datganiad hwn yn cynnwys llai o apeliadau llwyddiannus. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran nodiadau. Cyhoeddwyd gwybodaeth debyg hefyd ym mis Awst 2024 gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ). Fodd bynnag, bydd y wybodaeth a gyhoeddir gan y JCQ yn wahanol i'r hyn a gyhoeddir yma gan y byddant yn cynnwys myfyrwyr o bob oedran sydd wedi ymgymryd â TGAU neu Safon Uwch ac ym mhob canolfan arholi (gan gynnwys sefydliadau addysg bellach ac ysgolion annibynnol) a byddant yn adlewyrchu'r graddau sydd ar gael ar ddiwrnod y canlyniadau (JCQ).

Yn ystod Hydref 2024 cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ddadansoddiad cydraddoldeb o ganlyniadau TGAU a Safon Uwch 2023/24. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiad yn ôl rhyw, PYDd ac AAA/ADY. Bydd y dadansoddiad TGAU yn wahanol i'r hyn a gyflwynir yma gan y bydd ond yn cynnwys y data ar y diwrnod canlyniadau ym mis Awst ac ni fydd yn cynnwys unrhyw apeliadau ac ailfarciau dilynol. Bydd y data Safon Uwch yn wahanol oherwydd bydd hefyd yn cynnwys cymwysterau a enillwyd mewn colegau AB ac eto bydd y data yn cyfeirio at y sefyllfa ar ddiwrnod canlyniadau ym mis Awst. Mae’r canlyniadau yn y datganiad hwn ar gyfer myfyrwyr ym mlwyddyn 11 neu 17 oed mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ac yn adlewyrchu’r graddau sydd ar gael ar 26 Medi 2024.

Diffiniadau

Ysgolion canol

3/4 i 16/18 oed.

Ysgolion uwchradd

11 i 16/18 oed.

Ysgolion arbennig

Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.

Nifer Cyfartalog

Drwy gydol y ddogfen hon, mae unrhyw gyfeiriad at nifer cyfartalog yn cyfeirio at y cymedr.

Newidiadau o ran cofrestriadau lluosog

O 2018/19, pan gaiff disgybl ei gofrestru ar gyfer cymhwyster fwy nag unwaith, dim ond canlyniad y cofrestriad cyntaf (yn gronolegol) gaiff ei gyfrif yn ein dangosyddion perfformiad CA4, pa un a yw'r radd a gyflawnir ar gyfer cofrestriad hwyrach yn uwch ai peidio. Cyn 2018/19, defnyddiwyd y canlyniad gorau ar gyfer pob disgybl ym mhob pwnc i lunio dangosyddion perfformiad.

Nid yw'r newid hwn yn gymwys i ddisgyblion 17 oed (chweched dosbarth).

Y dangosydd capio 9 (fersiwn y mesurau interim)

Mae'r sgôr pwyntiau hon yn canolbwyntio ar naw canlyniad gorau disgyblion Blwyddyn 11 o'r cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys gofynion pwnc-benodol. Ers 2018/19, mae hyn yn cynnwys un o blith Saesneg neu Gymraeg (Iaith neu Lenyddiaeth), Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd ac un TGAU Gwyddoniaeth. Mae dadansoddiad o'r sgôr Capio 9 hon ac esboniad o'r dull a ddefnyddir i gyfrifo'r mesur hwn ar gael.

Sgoriau pwyntiau cyfatebol ar gyfer graddau

Mae'r tabl canlynol yn nodi'r sgôr pwyntiau ar gyfer gradd a gyflawnir mewn TGAU cyfres 1, a ddefnyddir i gyfrifo'r Sgoriau Pwyntiau Pwnc-benodol a'r sgôr pwyntiau Capio 9.

  • A* yn werth 58 pwynt
  • A yn werth 52 pwynt
  • B yn werth 46 pwynt
  • C yn werth 40 pwynt
  • D yn werth 34 pwynt
  • Mae'n werth 28 pwynt
  • F yn werth 22 pwynt
  • Mae'n werth 16 pwynt
  • Mae U neu X yn werth 0 pwynt

Dangosydd llythrennedd

Y radd TGAU orau un o blith Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg Iaith Gyntaf a Llenyddiaeth Gymraeg.

Dangosydd rhifedd

Y radd TGAU orau un o blith Mathemateg a Mathemateg – Rhifedd.

Dangosydd gwyddoniaeth

Y radd TGAU orau un o blith Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Sengl), Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Dwbl) a Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl). Dyfernir dwy radd TGAU i ddisgyblion ar gyfer dyfarniad dwbl. Ar gyfer y dangosydd hwn, byddwn yn defnyddio'r radd orau o'r ddwy.

Prydau ysgol am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Mae'r dadansoddiad FSM yn y datganiad hwn yn cynnwys disgyblion sy'n gymwys drwy'r meini prawf prawf modd yn unig. Nid yw'r rhai sy'n gymwys drwy TP neu UPFSM wedi'u cynnwys.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)

Mae gan berson ADY/AAA os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol neu ddarpariaeth addysgol arbennig. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn cynlluniau datblygu unigol (CDU) sy'n gynlluniau statudol a grëwyd o dan y Ddeddf ADY. Efallai y bydd gan ddysgwyr ag AAA Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu and yr Ysgol a Mwy neu Ddatganiad, a fydd yn dod i ben ym mis Awst 2025 pan fydd y system ADY wedi'i chwblhau.

Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth i ddiwallu eu hanghenion.

Mae gweithredu'r system ADY ar waith, gyda phlant yn symud o'r system AAA i'r system ADY tan fis Awst 2025. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn CDUau a gynhelir gan naill ai ysgol neu awdurdod lleol.

Mae dadansoddiad o'r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol, yn awgrymu bod y gostyngiad mewn dysgwyr ADY/AAA dros y tair blynedd diwethaf oherwydd adolygiad systematig gan ysgolion o'u cofrestrau a'u data ADY/AAA, yn barod ar gyfer ac wrth weithredu'r system ADY. Ni ellir nodi dysgwyr a gefnogir trwy Weithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy (y rhai sydd angen y swm lleiaf o ddarpariaeth addysgol arbennig) fel ADY/AAA yng Nghyfrifiad yr Ysgolion mwyach. Mae hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn rhai tymor byr, nid oes angen darpariaeth ychwanegol i, neu yn wahanol i'r hyn a ddarperir ar gyfer dysgwyr eraill, y gellir mynd i'r afael â hwy fel rhan o ddarpariaeth gyfannol.

Gofynnwyd hefyd i ysgolion beidio defnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Roedd y categori hwn wedi dod yn un cyffredinol ar gyfer y rhai yr oedd angen cymorth dal i fyny arnynt, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn lle ei fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr a oedd yn aros am asesiad. Mae hyn wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os canfyddir nad oedd ganddynt ADY/AAA. Mae’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ wedi cael ei ddileu o gyfrifiad ysgolion 2023 a 2024.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r niferoedd drwy gydol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY yng Nghymru.

Statws Ystadegau Swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2010. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â chanlyniadau arholiadau disgyblion Blwyddyn 11 (TGAU) neu 17 oed (Safon Uwch) mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion canol, uwchradd, ysgolion arbennig a disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Darperir y data gan gyrff dyfarnu 8ing yn dilyn cyfnod arholiadau'r haf pan fydd y rhan fwyaf o arholiadau yn digwydd. 

Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu a'i gymeradwyo cyn cyhoeddi tablau yn y datganiad terfynol. 

Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad i'r data yn ystod y prosesu wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau wedi'i gyfyngu i dderbynwyr cymwys yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU) ac egwyddorion ansawdd ansawdd ar gyfer allbynnau ystadegol.

Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion Blwyddyn 11 neu 17 oed ym mlwyddyn academaidd 2023/24 ac mae'n cynnwys cymwysterau a enillwyd gan ddisgyblion mewn blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, os bydd disgybl yn cwblhau TGAU ym Mlwyddyn 10 2022/23 bydd yn cael ei gynnwys yng nghofnodion disgyblion ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 pan fydd y disgybl ym Mlwyddyn 11. 

Rhwng dyddiau canlyniadau TGAU a Safon Uwch ym mis Awst a dechrau mis Hydref, bydd ein contractwr allanol yn casglu ac yn cyd-fynd â chanlyniadau arholiadau unigol o tua 20 o gyrff dyfarnu. Bydd hyn yn cynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol (e.e. cymwysterau BTEC). Darperir y data trwy system trosglwyddo data ar-lein ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnwys camau amrywiol o ddilysu awtomataidd a gwirio synhwyrau sicrhau ansawdd uchel o ddata.

Cyhoeddir y data fel rhai dros dro ddechrau mis Hydref ac yna rhoddir y data i awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae hyn yn ddechrau cyfnod dilysu 3 wythnos lle bydd ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn gwirio'r data yn unol â'u cofnodion eu hunain ac yn hawlio unrhyw gymwysterau coll neu gymwysterau wedi'u hailfarcio yn dilyn apeliadau. 

Unwaith y bydd yr holl ddiweddariadau i'r data wedi'u cytuno yn ysgrifenedig gydag ysgolion, byddwn yn darparu ail set o ddata i'w wirio'n derfynol gan ysgolion a Las cyn cyhoeddi'r data terfynol ddechrau mis Rhagfyr. Mewn blynyddoedd blaenorol roedd y newid rhwng data dros dro a therfynol ar lefel genedlaethol yn y mesurau canlyniadau allweddol yn llai na 0.1 pwynt canran. 

Mae pob cam wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr o Grŵp Ystadegol y Llywodraeth.

Gwerth

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru
  • i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 
  • i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol

Ynghyd â'r datganiad hwn mae Taenlen Dogfen Agored y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae tablau manwl ar StatsCymru hefyd yn cyd-fynd ag ef, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Mae data'n cael eu cyflwyno'n glir ym mhob tabl, gyda'r daenlen hefyd yn cynnwys dalen clawr yn rhestru pob tabl. Datblygwyd y sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad i geisio gwneud y wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae'r datganiad hwn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol sef dangosydd 7 "Sgôr pwyntiau Capio 9 ar gyfartaledd o ddisgyblion, gan gynnwys y bwlch rhwng y rhai sy'n gymwys neu nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim". 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

As a national indicator under the Act they must be referred to in the analyses of local well-being produced by public services boards when they are analysing the state of economic, social, environmental and cultural well-being in their areas. 

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image

SFR 86/2024