Mewn araith a roddwyd yn y Senedd, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, i'r afael â'r sefyllfa bresennol yng Nghymru ym maes tai a chynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd.
Wrth annerch y Siambr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Gwyddom fod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i ysgogi twf economaidd.
Gall tai fforddiadwy o ansawdd da roi cyfleoedd i bob unigolyn a theulu, gan effeithio'n gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd, iechyd meddwl ac addysg.
Ni ellir cyflawni ein huchelgais i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru oni bai bod gennym ddigon o gartrefi addas y gall pobl fforddio byw'n dda ynddynt ochr yn ochr â systemau ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi.
Mae nifer uchel o bobl sy'n byw mewn llety dros dro ac Asesiadau Marchnad Tai Lleol Awdurdodau Lleol yn dystiolaeth bod yn rhaid darparu mwy o dai.
Ar ddechrau'r tymor Seneddol hwn, gosodwyd targed heriol gennym i ddarparu 20,000 o gartrefi rhent ychwanegol yn y sector cymdeithasol.
Mae'r Prif Weinidog wedi gosod darparu mwy o gartrefi fel un o'i blaenoriaethau allweddol, gan roi cyfle i deuluoedd fyw bywydau llawn.
Er gwaethaf rhai o'r digwyddiadau byd-eang mwyaf heriol sy'n codi chwyddiant a chostau, darparwyd y lefelau uchaf erioed o gyllid i gefnogi'r ymrwymiad hwn, gyda dros £1.4 biliwn wedi'i fuddsoddi hyd yn hyn.
Mae cefnogi adeiladwyr tai gyda chynnydd mewn costau, cyflwyno cyllid ychwanegol a hyblygrwydd drwy’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro a chyflwyno Cynllun Lesio Cymru yn rhai o’r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth.
Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei flaen:
Mae ein buddsoddiad yn talu ar ei ganfed, mae'r sector yn ymateb yn gadarnhaol ac mae cyfraddau darparu cartrefi cymdeithasol yn cynyddu i rai o'r cyfraddau uchaf a gofnodwyd erioed.
Er fy mod yn canmol gwaith y sector i gynyddu eu rhaglenni adeiladu, mae'n iawn ein bod yn cael ein herio i wneud mwy, cyflawni yn gyflymach.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn cwblhau trefniadau ar gyfer Tasglu Cartrefi Fforddiadwy.
Bydd y Tasglu yn archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i ddarparu cartrefi fforddiadwy drwy brosesau cynllunio, cyflenwi tir ac annog gweithio'n agos gyda gweithgynhyrchwyr tai modiwlaidd.
Gofynnwyd hefyd i awdurdodau lleol flaenoriaethu ymdrechion ac adnoddau ar gynlluniau i ddarparu cymaint o gartrefi â phosibl.
Bydd cyflawni ar yr agenda hon yn galw am weithio'n agos gydag aelodau eraill o'r Cabinet ar draws portffolios i chwalu'r rhwystrau sy'n wynebu tai.
Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei flaen:
Rwy'n credu y byddai aelodau yma yn y Senedd i gyd yn cytuno mai canolbwyntio ar ddarparu mwy o dai fforddiadwy, gyda ffocws cadarn ar rent cymdeithasol, a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yw'r blaenoriaethau cywir.
Rwy'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i wneud hwn yn un o'i blaenoriaethau allweddol i sicrhau cyfleoedd i bob teulu.