Mae 17 o brosiectau arloesol o bob rhan o Gymru wedi cael hyd at £125,000 yr un trwy'r Gronfa Sgiliau Creadigol, cyhoeddodd y Gweinidog Jack Sargeant heddiw (dydd Mercher 2 Hydref).
Nod y Gronfa Sgiliau Creadigol, sydd bellach yn ei hail rownd, yw meithrin talentau trwy hyfforddi a meithrin sgiliau unigolion ar draws sawl sector creadigol, gan gynnwys sgrin, cerddoriaeth, technoleg ymgolli, animeiddio a gemau.
Agorwyd y rownd gyntaf yn 2022, gyda thros 27,000 o bobl yn elwa arni, a bron i 500 o gyrsiau hyfforddi a 435 o leoliadau gwella sgiliau'n cael eu darparu.
Dyma rai o'r rheini a gyhoeddwyd heddiw fydd yn cael arian:
- Creative Sparc gan Barc Gwyddoniaeth Menai – prosiect traws-sector sy'n darparu pedwar llinyn gwahanol, gan gynnwys gweithio gyda 250 o blant ysgol gynradd i integreiddio'r diwydiannau creadigol o fewn y cwricwlwm a chyflogi graddedigion diweddar mewn sectorau creadigol allweddol penodol yng ngogledd Cymru.
- Animeiddio gan Media Academy Cymru – datblygu dau gwrs BTEC newydd sy'n canolbwyntio ar animeiddio 2D, 3D a stop-symudiad.
- 'A new game plan for Wales' gan Esports Wales – Mae Esports Wales yn bwriadu estyn ei raglen academi i gwmpasu Cymru gyfan a chynnig sesiynau blasu, rhwydweithio a datblygu gyrfa.
- Cerrig camu at ôl-gynhyrchu, gan Gorilla Academy - rhaglen i ddarparu cyrsiau ôl-gynhyrchu yn y Gymraeg, gan helpu i fynd i'r afael â'r prinder cydnabyddedig mewn sgiliau golygu Cymraeg.
- Anthem Gateway, gan Anthem Music Fund Wales - gwefan ar gyfer cerddorion a phobl greadigol ifanc sy'n chwilio am lwybr i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Bydd nawr yn cynyddu ac yn cynhyrchu deunydd rheolaidd deniadol i gyrraedd mwy o bobl ac i estyn ei gynulleidfa.
Derbyniodd Hijinx, un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop, gefnogaeth yn rownd flaenorol y gronfa i ddarparu sesiynau ReFocus (hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu i'w cynnwys yn y diwydiant sgrin). Mae wedi llwyddo i sicrhau nawdd yn y rownd ddiweddaraf hon hefyd.
Fel rhan o'r gwaith, maent wedi sefydlu sesiynau hyfforddi i Alluogwyr Creadigol, sef hyfforddi pobl i helpu a grymuso artistiaid byddar, dall, anabl a/neu niwroamrywiol i fod yn greadigol ar lefel broffesiynol.
Dywedodd Mari Luz Cervantes, actor, ymarferydd theatr gymunedol a hwylusydd:
Rwy'n gweithio gyda phobl ifanc sydd ag anableddau amrywiol neu anghenion ychwanegol ac rwy'n gobeithio dysgu mwy trwy'r hyfforddiant hwn ynghylch sut y gallwn eu cefnogi i gynhyrchu eu gwaith gorau. Bydd y prosiect yn gwneud gwahaniaeth mawr. Bydd pobl na fyddai eu hanghenion efallai wedi cael eu hystyried o'r blaen yn awr yn gallu cael eu gweld ar ffilm ac yn y theatr.
Dywedodd Sami Dunn, Arweinydd Mynediad Hijinx ac arweinydd eu sesiynau Galluogi Creadigol:
Rydym wedi dechrau gweld cynnydd yn y defnydd o dalentau pobl ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth yn y diwydiannau artistig a bydd y cyllid hwn yn ein helpu i feithrin sgiliau a recriwtio galluogwyr creadigol ledled Cymru i ymateb i'r cynnydd hwnnw a chefnogi actorion anabl i ffynnu yn y diwydiant.
"Nid yw diwydiant y celfyddydau mor gynhwysol a hygyrch ag y gallai ac y dylai fod, ac mae angen cefnogaeth gan bobl i fod yn rhan o bontio'r bwlch hwnnw. Mae cael Galluogwr yn gweithio gydag artist ag anabledd dysgu/awtistiaeth ar gynhyrchiad yn golygu y gall yr artist ganolbwyntio ar actio. Os oes unrhyw broblem ynghylch hygyrchedd - gall y Galluogwr gefnogi ac eirioli.
Mae Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant, newydd ymweld ag un o sesiynau Hijinx i weld beth maen nhw'n gallu ei wneud, diolch i'r cyllid. Dywedodd:
Mae pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i Gymru yn glir - nid yw'n fater o greu swyddi yn unig. Mae gysylltiad annatod rhyngddo â'n diwylliant, ein lles a'n hunaniaeth.
Rydym am gael sector creadigol sy'n adlewyrchu ac yn cynrychioli ei gynulleidfaoedd, yn darparu cyfleoedd gwaith teg a hygyrch ac yn denu, yn datblygu ac yn cadw talent o bob cefndir.
Roedd yn wych ymweld â Hijinx a gweld y gwaith gwych a'r bobl y maen nhw'n gallu eu cynnal a'u helpu, diolch i'n Cronfa Sgiliau Creadigol. Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw gyda'u gyrfaoedd creadigol.