Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er mwyn taclo’r argyfwng hinsawdd ac ysgwyddo’r ymrwymiadau yng Nghytundeb Paris, rhaid wrth weithredu diwyro a digyfaddawd ar lefel fyd-eang a hynny ar fyrder. Mae hynny’n golygu gweithredu dros yr hinsawdd yma yng Nghymru a dangos arweiniad yn y maes ar lwyfan y byd. 

Yn ystod Wythnos Hinsawdd Efrog Newydd wythnos ddiwethaf, roedd yn dda clywed bod Llywodraeth y DU wedi ymuno â’r Glymblaid dros Bartneriaethau Aml-lefel Uchelgeisiol ar gyfer Newid Hinsawdd (Coalition for High Ambition Multilevel Partnerships – CHAMP). Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraethau Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i ymuno â CHAMP. Yn wir, pan oeddwn yn Efrog Newydd, pwysais unwaith eto ar yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net i gadarnhau y byddai’r DU yn ymuno. 

Mae hwn yn gam pwysig ymlaen, ac yn adlewyrchu uchelgais ac arweiniad newydd gan Lywodraeth y DU dros yr hinsawdd, hynny gydag anogaeth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n tanlinellu ein cyd-ymrwymiad i weithredu mewn ffordd gadarnhaol dros yr hinsawdd. Mae addewid y Glymblaid yn cadarnhau o’r newydd bod cydweithio a gweithredu ar y cyd yn unol â’r wyddoniaeth rhwng pob lefel o lywodraeth – gan gynnwys dinas, tref, talaith a rhanbarth – yn hanfodol. Mae’n pwysleisio bod cydweithio yn cynyddu’r potensial i leihau allyriadau, meithrin cydnerthedd ac osgoi effeithiau difrifol yr hinsawdd; mae’r arloesi a’r dyfalbarhad sydd eu hangen i leihau allyriadau fel na fydd y ddaear yn twymo mwy na 2°C yn digwydd yn aml ar lefel leol neu ranbarthol. Dw i’n disgwyl ymlaen yn galonogol at weld ysgogi’r ddeialog ar draws gwledydd y DU ac at fwy o gydweithio a chefnogaeth i’n gilydd i wireddu’n huchelgais o ran yr hinsawdd. Gwelwyd mwy o gyfleoedd yn Wythnos Hinsawdd Efrog Newydd i Gymru ddangos arweiniad i’r byd wrth daclo’r newid yn yr hinsawdd. Fel un o sylfaenwyr y Glymblaid Dan 2, cefais rannu ag eraill rai o lwyddiannau Cymru, gan gynnwys sut yr ydym wedi lleihau allyriadau methan trwy anfon 98% yn llai o wastraff i safleoedd tirlenwi yn y ddau ddegawd hyd at 2022, a’r camau cadarn rydyn yn eu cymryd i sbarduno a chynnal datblygiadau ynni adnewyddadwy trwy Trydan Gwyrdd Cymru. Cawsom gyfle yn y trafodaethau hefyd i gwrdd a chyfnewid syniadau ag arweinwyr llywodraethau eraill sy’n wynebu’r un heriau â Chymru – newid diwydiannol teg, creu twf gwyrdd a chreu swyddi. 

Mae blaenoriaethau’r Glymblaid Dan 2 yn adlewyrchu’n heriau cyffredin: prysuro’r newid teg oddi wrth danwyddau ffosil, lleihau allyriadau methan, darparu cyllid dros yr hinsawdd a chryfhau rôl llywodraethau rhanbarthol a datganoledig ym mhroses Paris a’r Cyfraniadau a Bennir yn Genedlaethol (NDC). 

Cyn Cynhadledd Partïon (COP29) yr UNFCCC nesaf yn Baku, Azerbaijan ym mis Tachwedd, ac yn 2025 ym Mrasil, dw i’n disgwyl ymlaen at barhau â’r trafod adeiladol â’m cydweinidogion yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yn Llywodraeth y DU ar sut i ddangos rhagor o arweiniad i’r byd ar drechu achosion ac effeithiau newid hinsawdd. 

Yn y cyfamser, daeth Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Dyfodol, a gafodd ei chynnal ar y cyd â’r Wythnos Hinsawdd i ben gyda mabwysiadu’r Cytundeb ar gyfer y Dyfodol. Mae’r cytundeb yn cynnwys addewid i brysuro’r gwaith ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy, yn ailymrwymo gwledydd i Gytundeb Paris ac yn cynnwys ‘Datganiad ar Genedlaethau’r Dyfodol’ sy’n pwyso am benderfyniadau er lles cenedlaethau’r dyfodol. Croesewais bwyslais y Cytundeb ar amlochredd, yr ymrwymiad i'r Nodau Datblygu Cynaliadwy a bod yn rhagweledol wrth daclo heriau’r byd a diogelu cenedlaethau’r dyfodol. 

Mae gwledydd a rhanbarthau ledled y byd yn edrych ar Gymru fel esiampl o arweinydd byd ym maes datblygu cynaliadwy ac rydym yn falch o’n Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n bleser cael diolch a llongyfarch y rheini yng Nghymru sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad Cytundeb y Dyfodol, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, ei ragflaenydd Sophie Howe a’m cyn-cydweinidog Jane Davidson. Ar yr adeg dyngedfennol hon, mae’n gam pwysig ymlaen i’r UN ac yn dangos sut y gall deddfwriaeth flaengar ac arloesol yng Nghymru gael effaith ledled y byd. 

Mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yw heriau mawr ein hoes. I fynd â’r maen i’r wal, rhaid i ni fod yn uchelgeisiol o ran lleihau ein hallyriadau ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Mae gofyn i ni hefyd barhau i roi arweiniad cryf trwy’r byd.  Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn symud yn gynt, gwneud mwy a helpu i adeiladu dyfodol tecach a gwyrddach.