Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi bod aelodau wedi’u penodi i Grŵp Cynghori Gweinidogol allanol ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG, a fydd yn cynnal adolygiad annibynnol o'r trefniadau presennol sydd ar waith i gefnogi gwelliannau yn GIG Cymru. 

Mae hwn yn grŵp o unigolion sydd ag arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol yn eu priod feysydd a fydd yn ein cefnogi yn ein gwaith i leihau amseroedd aros hir. 

Bydd yn gweithredu'n annibynnol ar y GIG yng Nghymru a, drwy ei aelodaeth, bydd yn rhoi sicrwydd allanol imi ar effeithiolrwydd y trefniadau presennol sy'n anelu at wella perfformiad a chynhyrchiant ar draws y GIG. Bydd hefyd yn cynnig safbwyntiau ar sut y gellid cryfhau'r trefniadau hyn i wella perfformiad a chynhyrchiant ymhellach.

Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar ofal a gynlluniwyd, perfformiad canser a lleihau'r amseroedd aros hiraf, yn ogystal ag edrych ar raglenni presennol i wella gofal argyfwng a gofal brys yng Nghymru.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod yr aelodau canlynol wedi’u penodi:

Syr David Sloman (Cadeirydd)

Treuliodd Syr David ei yrfa o 40 mlynedd ym maes rheoli gofal iechyd. Cafodd ei urddo'n farchog yn 2017 am ei wasanaethau i'r GIG. Ef oedd Prif Swyddog Gweithredu GIG Lloegr o fis Rhagfyr 2021 tan ei ymddeoliad ym mis Medi 2023.

Yr Athro Tim Briggs (Aelod)

Llawfeddyg orthopedig ymgynghorol yw Tim ac fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol Gwelliant Clinigol ac Adfer Gofal a Gynlluniwyd GIG Lloegr ym mis Tachwedd 2022. Mae'n gadeirydd y rhaglen Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf (GIRFT) ac mae wedi goruchwylio’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen hon yng Nghymru, Gogledd Iwerddon ac Awstralia ar draws nifer o arbenigeddau. Tim yw cadeirydd ac arweinydd cenedlaethol Cynghrair Gofal Iechyd Cyfamod y Cyn-filwyr ac mae’n Gyrnol Anrhydeddus Ysbyty Maes (Canolbarth Lloegr) 202 yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Fe’i gwnaed yn Gadlywydd Urdd Ardderchocaf yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i'r proffesiwn llawfeddygol.

Yr Athro Sally Lewis (Aelod)

Mae Sally yn gyn-feddyg teulu ac yn gyn-gyfarwyddwr Canolfan Gwerth Mewn Iechyd Cymru. Mae hi bellach yn siaradwr rhyngwladol ac yn gynghorydd strategol ar y cysyniad o werth mewn gofal iechyd.

Yr Athro Marcus Longley (Aelod)

Law yn llaw â bod yn academydd ym maes polisi iechyd, mae Marcus wedi gweithio yn y GIG ers dros 40 mlynedd. Bu'n gyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru am flynyddoedd lawer (lle mae bellach yn Athro Emeritws ym maes Polisi Iechyd). Bu hefyd yn gadeirydd ac yn is-gadeirydd ar gyfer rhai o fyrddau iechyd Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n Ddirprwy Gadeirydd Awdurdod Safonau Proffesiynol y DU ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Adam Roberts (Aelod)

Mae Adam Roberts wedi gweithio mewn swyddi uwch ar draws GIG Lloegr. Ei swydd bresennol yno yw’r Cyfarwyddwr Mewnwelediad Gweithredol Gofal Brys a Gofal Argyfwng. Mae ganddo brofiad helaeth o ddatblygu polisïau cenedlaethol i wella canlyniadau i gleifion, a rheoli pwysau gweithredol amser real. Cyhoeddodd weithiau dylanwadol ym maes iechyd a gofal yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn Ymddiriedolaeth Nuffield a The Health Foundation. Mae'r rhain yn ymdrin â phynciau fel ysgogwyr perfformiad a chynhyrchiant ar gyfer gwasanaethau'r GIG; ac amcanestyniadau o bwysau ariannol y GIG yng Nghymru a Lloegr. 

Ed Rose (Aelod)

Bu Ed Rose yn gyfarwyddwr cyflawni ar gyfer Rhaglen Ganser Genedlaethol GIG Lloegr rhwng 2021 a 2024. Roedd yn gyfrifol am weithredu ystod o raglenni diagnosis cynnar ac adfer perfformiad yn dilyn pandemig Covid-19. Bu hefyd yn gyfarwyddwr GIG Lloegr ar gyfer gofal a gynlluniwyd, canser a diagnosteg rhwng 2023 a 2024. Roedd Ed yn gynghorydd i Simon Stevens, prif weithredwr GIG Lloegr, rhwng 2015 a 2018. Cyn hyn, bu'n gweithio yn uned weithredu'r Prif Weinidog o dan y llywodraeth glymblaid. Dechreuodd ei yrfa ym maes rheoli ysbytai a bu’n gweithio mewn rolau gweithredol amrywiol yn y GIG, gan gynnwys datblygu canolfan therapi paladrau protonau gyntaf y DU yn Ysbytai Coleg Prifysgol Llundain a rheoli gwasanaethau acíwt yn Barts ac Ymddiriedolaeth GIG Llundain.

Dr Tara Sood (Aelod)

Hyfforddodd Dr Sood ym Mhrifysgol Bryste ac mae’n ymgynghorydd Meddygaeth Frys yn y Royal Free Hospital ers dros 15 mlynedd. Yn ogystal â bod yn glinigydd rheng flaen, mae hi wedi cadeirio grŵp diddordeb arbennig y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ar gyfer gofal argyfwng yr un diwrnod. Ar hyn o bryd, mae'n un o Ymgynghorwyr Arbenigedd Cenedlaethol GIG Lloegr, a hynny ar gyfer Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod ac mae wedi cyfrannu at ddatblygu polisïau a strategaeth a'r fframwaith ar gyfer darparu’r math hwn o ofal yn Lloegr.

Syr Paul Williams (Aelod)

Mae Syr Paul wedi bod yn brif weithredwr mewn tair ymddiriedolaeth GIG ac ar gyfer GIG Cymru yn ogystal ag yn gyfarwyddwr cyffredinol iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Wedi iddo ymddeol o GIG Cymru, fe'i penodwyd yn aelod o Gomisiwn Bevan, yn gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, yn aelod o'r Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth, yn gadeirydd y Panel Cynghorol Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus, yn aelod o'r Comisiwn Cwmnïau Cydfuddiannol a Chydweithredol, ac yn gadeirydd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae'r grŵp yn cynnig profiad helaeth o ystod o wasanaethau iechyd cenedlaethol eraill. Bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Hydref 2024 ac yn rhoi cyngor imi erbyn 31 Mawrth 2025.