Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n falch o lansio'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) yng Nghymru sy'n ganlyniad i gydweithio traws-sector helaeth â phartneriaid. Ni yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno'r dull arloesol hwn ar gyfer adolygiadau diogelu. Mae gwledydd o bob cwr o’r byd – mor bell i ffwrdd â Seland Newydd ac Awstralia – wedi dangos diddordeb yn y gwaith sy'n cael ei wneud. Unwaith eto, mae Cymru’r arwain y ffordd.

Bydd yr ADUS yn dileu'r angen am adolygiadau lluosog pan fydd bywyd yn cael ei golli neu yn cael ei effeithio'n sylweddol gan gamdriniaeth, esgeulustod neu drais. Bydd yn sicrhau ein bod ni fel asiantaethau cyhoeddus yn dysgu gwersi, ac yn gweithredu ar yr hyn a ddysgwyd wrth gydweithio i ganfod beth mwy y gallwn ni fod wedi'i wneud i atal digwyddiad mor drasig rhag digwydd, a'r hyn y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.

Yn hanesyddol, roedd asiantaethau datganoledig a heb eu datganoli yn gyfrifol am adolygu trychinebau o'r fath, gan ddefnyddio gwahanol brosesau, gweithdrefnau, deddfwriaeth a chanllawiau. Yn aml, roedd hyn yn arwain at adolygiadau lluosog ar gyfer un digwyddiad gan gynnwys Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant, Adolygiadau Lladdiad Iechyd Meddwl ac Adolygiadau Lladdiad Domestig. Nawr dim ond un Adolygiad fydd yn cael ei gynnal i sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgwyd cael eu nodi ac argymhellion yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl

Bydd ADUS yn cael ei gychwyn gan y Bwrdd Diogelu perthnasol gyda chymorth Rhwydwaith Cymorth cenedlaethol sy'n cynnwys Bwrdd Gweinidogol y byddaf i yn ei gadeirio. Yma, bydd materion anodd a mwy cymhleth yn cael eu trafod, ac atebion yn cael eu ceisio.

Bydd y gwaith o weithredu’r argymhellion o'r ADUS yn cael ei fonitro gan Grŵp Strategaeth pwrpasol, sy'n cynnwys partneriaid allweddol ar lefel uwch, i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith, ac os oes angen, bod unrhyw broblemau neu rwystrau i weithredu yn cael eu huwchgyfeirio i'r Bwrdd Gweinidogol. Bydd y dull arloesol unigryw hwn yn sicrhau bod yr holl gamau wedi cael eu gwneud yn drylwyr.

Bydd yr holl adroddiadau ADUS yn y dyfodol yn cael eu cadw yn Storfa Ddiogelu bwrpasol Cymru, sydd eisoes yn gartref i dros 130 o adolygiadau diogelu hanesyddol. Gellir defnyddio gwyddorau cymdeithasol a dysgu peirianyddol i chwilio drwy'r storfa ddigidol hon i ganfod themâu, dysg ac arferion da sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i'r ADUS, a'n galluogi i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â materion ar lefel genedlaethol. Bydd yn trawsnewid y ffordd y mae ymarferwyr, llunwyr polisïau, arweinwyr y sector cyhoeddus ac ymchwilwyr yn defnyddio gwybodaeth a gynhwysir mewn adolygiadau i fynd i'r afael â materion sy'n codi dro ar ôl tro.

Bydd Hyb Cydgysylltu ADUS yn cynnal dangosfwrdd ADUS ar gyfer partneriaid allweddol a rhanddeiliaid a fydd yn darparu data monitro byw gan gynnwys gwybodaeth am ADUS cyfredol ac unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â gweithredu argymhellion. Byddant hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Rhwydwaith Cymorth i gynnal digwyddiadau lledaenu bob dwy flynedd i hyrwyddo arferion da a'r hyn a ddysgwyd ledled Cymru.

Bydd y Grŵp Cyfeirio Dioddefwyr a Theuluoedd yn parhau â'u gwaith i sicrhau bod y ffocws ar yr unigolion hynny sydd wrth wraidd pob ADUS bob amser. Byddant yn rhoi cyngor ar faterion perthnasol ac yn datblygu canllawiau a llenyddiaeth gan gynnwys:

  • canllawiau arfer da ar sut i ymgysylltu â dioddefwyr a'u teuluoedd wrth gynnal Adolygiad;
  • taflen wybodaeth ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd; 
  • canllawiau ADUS hawdd eu deall.

Bydd y broses ADUS yn cael ei hadolygu ar ôl 12 mis i sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i wella'r broses ymhellach.

Cynhelir lansiad ffurfiol yn nes ymlaen yn y flwyddyn gyda rhanddeiliaid allweddol ac aelodau o Fwrdd Gweinidogol yr ADUS. 

Mae copïau o Ganllawiau Statudol ADUS, Pecyn Cymorth ADUS a threfniadau pontio ar gael yma.