Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw terfynu contract?

1. Mae Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn rhoi i awdurdodau contractio fantais teler ymhlyg ym mhob contract cyhoeddus sy'n sicrhau y gall y contract gael ei derfynu gan yr awdurdod contractio mewn tri amgylchiad penodol, y cyfeirir atynt fel ‘seiliau dros derfynu’ yn y Ddeddf.

2. Mae'r Ddeddf hefyd yn cyflwyno gofyniad gorfodol o ran tryloywder pan ddaw contract i ben, gan gynnwys ar ôl terfynu contract o dan un o'r seiliau terfynu ymhlyg. At ddibenion y gofyniad o ran tryloywder, mae'r Ddeddf yn diffinio ‘terfynu’ fel proses sy'n cwmpasu'r holl amgylchiadau lle y gall contract ddod i ben (gweler paragraff 8 isod). Mae'n rhaid i bob awdurdod contractio gyhoeddi ‘hysbysiad terfynu contract’ ar ôl i unrhyw gontract cyhoeddus gael ei derfynu (ac eithrio contractau a ddyfarnwyd gan gyfleustodau preifat a chontractau ar gyfer ‘gwasanaethau dewis defnyddwyr’ a ddyfarnwyd yn uniongyrchol o dan adran 41 drwy gyfeirio at Atodlen 5, paragraff 15 o'r Ddeddf). Bydd cyhoeddi hysbysiadau terfynu contract yn golygu y gellir craffu'n fanylach ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod oes y contract, gan alluogi partïon â diddordeb i weld, ar draws pob un o'r hysbysiadau cyhoeddedig, er enghraifft, a yw gwerth a thymor y contract wedi cynyddu ers iddo gael ei ddyfarnu, neu'r rhesymau dros derfynu contract yn gynnar. Bydd hefyd yn helpu gyda gwaith dadansoddi data a goruchwylio ehangach, gan alluogi awdurdodau contractio a'r llywodraeth i ddeall, er enghraifft, faint o gontractau sydd ar waith ac yn cael eu cyflawni.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli prosesau terfynu contract?

3. Mae adrannau 78-80 o'r Ddeddf yn rheoleiddio prosesau terfynu contractau:

  1. Adran 78: Hawl ymhlyg i derfynu contractau cyhoeddus
  2. Adran 79: Terfynu contractau cyhoeddus: diogelwch gwladol
  3. Adran 80: Hysbysiadau terfynu contractau

4. Mae adran 78 yn nodi'r tair sail dros derfynu (gweler paragraff 11 isod) sy'n ymhlyg ym mhob contract cyhoeddus.

5. Mae adran 79 yn nodi darpariaethau ar gyfer ‘awdurdodau contractio perthnasol’ (gweler paragraff 20 isod) sy'n ystyried terfynu contract o dan y teler ymhlyg yn seiliedig ar y sail ddisgresiynol dros wahardd yn Atodlen 7, paragraff 14 a'r sail fandadol dros wahardd yn Atodlen 6, paragraff 35 sy'n ymwneud â chyflenwyr sy'n peri risg i ddiogelwch gwladol.

6. Mae adran 80 o'r Ddeddf a rheoliad 42 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (y Rheoliadau)1 yn nodi darpariaethau sy'n ymwneud â hysbysiadau terfynu contract.

Beth sydd wedi newid?

7. Mae'r tair sail ymhlyg dros derfynu a nodir yn y Ddeddf yn ymhelaethu ar yr hawliau terfynu sy'n ymhlyg yn y ddeddfwriaeth flaenorol ac yn cryfhau hawliau awdurdodau contractio i derfynu contract os yw'r cyflenwr neu'r isgontractiwr yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy neu os bydd yn dod yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy. Gwahaniaeth amlwg arall yw'r gofyniad gorfodol i gyhoeddi hysbysiadau terfynu contract.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

8. Er bod sawl rheswm pam y gallai contract ddod i ben, mae'r Ddeddf yn darparu, yn adran 80(3), fod ‘terfynu at ddibenion cyhoeddi hysbysiad terfynu contract yn cwmpasu'r holl amgylchiadau lle y gallai contract ddod i ben, ac yn nodi'r rhestr ganlynol nad yw'n hollgynhwysfawr:

  1. cyflawni: gan gynnwys er enghraifft, pan gyflawnir rhwymedigaethau'r contract neu'r hyn sydd i'w gyflawni gan y contract, pan wneir taliadau a phan gaiff unrhyw anghydfodau eu datrys, drwy gytundeb o'r ddeutu neu ddrysiant contract
  2. dod i ben: pan fydd y contract yn cyrraedd ei ddyddiad terfynu (a all gynnwys cyfnodau o estyniad)
  3. terfynu gan barti: pan fydd un parti yn arfer hawl gontractiol neu hawl ymhlyg i derfynu'r contract
  4. dad-wneud: pan ddaw'r contract i ben a chaiff y partïon eu hadfer i'r sefyllfa lle roeddent cyn i'r contract gael ei lunio, neu
  5. diddymu gan orchymyn llys: pan ddatgenir bod y contract yn annilys gan ddyfarniad cyfreithiol.

9. Gall contractau cyhoeddus amrywio'n fawr ac nid yw'r Ddeddf yn rhoi rhestr ddiffiniol o amgylchiadau lle y gellir terfynu contract. Fel arfer, nodir ar ba seiliau y gall contract gael ei derfynu gan yr awdurdod contractio neu'r cyflenwr yn y contract.

Seiliau ymhlyg dros derfynu contract

10. Mae'r Ddeddf yn ymhlygu ym mhob contract cyhoeddus ar ba seiliau y gall yr awdurdod contractio derfynu'r contract (adran 78(1) o'r Ddeddf). Bydd y seiliau hyn yn gymwys i bob contract cyhoeddus, p'un a ydynt yn cael eu hatgynhyrchu yn y contract ai peidio. Nid yw'r Ddeddf yn ymhlygu telerau sy'n ymwneud ag iawndal a materion atodol eraill os bydd yr awdurdodau contractio yn terfynu'r contract ar un o'r seiliau ymhlyg dros derfynu, y dylai awdurdodau contractio ystyried eu cynnwys fel telerau penodol yn eu contractau (gweler paragraff 18 isod).

11. Y tair sail ymhlyg dros derfynu contract, fel y'u nodir yn adran 78(2) o'r Ddeddf, yw:

  1. bod yr awdurdod contractio o'r farn i'r contract gael ei ddyfarnu, neu ei addasu, mewn ffordd sy'n gyfystyr â thorcyfraith perthnasol o ran y Ddeddf neu'r rheoliadau a wnaed oddi tani (mae adran 78(12) o'r Ddeddf yn diffinio ‘torcyfraith perthnasol’ fel achos o dorri'r contract y mae'r awdurdod contractio o'r farn y gallai arwain at her gyfreithiol lwyddiannus o dan Ran 9 o'r Ddeddf neu fel arall)
  2. ers i'r contract gael ei ddyfarnu, fod y cyflenwr wedi dod yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy (gan gynnwys drwy gyfeirio at berson â chyswllt - ‘Person â chyswllt’, fel y'i diffinnir yn adran 26(4) o'r Ddeddf, yw rhywun y mae'r cyflenwr yn dibynnu arno i fodloni'r amodau cymryd rhan (nad yw'n warantwr), er enghraifft, isgontractiwr allweddol. Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllaw ar waharddiadau)
  3. bod isgontractiwr (heblaw person â chyswllt) yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy.

12. Diffinnir y termau cyflenwyr ‘gwaharddedig’ a ‘gwaharddadwy’ y cyfeirir atynt yn adran 78(2)(b) ac (c) yn adran 57(1) a (2) o'r Ddeddf. Mae adran 78(11) yn egluro beth yw ystyr cyflenwr yn dod yn gyflenwr gwaharddadwy, sef:

  1. pan nad oedd sail ddisgresiynol dros wahardd yn gymwys cyn i'r contract gael ei ddyfarnu, ond ei bod yn gymwys ar ôl hynny (adran 78(11)(a)(i) o'r Ddeddf)
  2. pan fydd sail ddisgresiynol dros wahardd a oedd yn gymwys cyn i'r contract gael ei ddyfarnu yn parhau i fod yn gymwys, ond ei bod yn gymwys i amgylchiadau gwahanol, er enghraifft, cyfnod gwahanol o berfformiad gwael, neu pan fydd achos o gamymddwyn proffesiynol cyn neu ar ôl i'r contract gael ei ddyfarnu (adran 78(11)(a)(ii) o'r Ddeddf)
  3. dim ond ar ôl dyfarnu'r contract y mae'r awdurdod contractio yn canfod bod y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy cyn i'r contract gael ei ddyfarnu (adran 78(11)(b) o'r Ddeddf).

13. Mae hyn yn sicrhau nad yw'r teler ymhlyg yn adran 78(2)(b) yn gymwys pan oedd y cyflenwr yn waharddadwy yn ystod y broses gaffael ond bod yr awdurdod contractio wedi arfer ei ddisgresiwn er mwyn peidio â'i wahardd. Mewn geiriau eraill, ni all awdurdodau contractio ailystyried y penderfyniad hwnnw heb fod unrhyw newid mewn amgylchiadau.

Defnyddio'r teler ymhlyg

14. Mae'r Ddeddf yn nodi, yn adrannau 78(3-7), nifer o gyfyngiadau ar y defnydd o'r teler ymhlyg yn adran 78 a nifer o ddarpariaethau sy'n ymwneud â'r defnydd ohono.

15. Ym mhob senario, cyn terfynu contract drwy gyfeirio at y teler ymhlyg, mae adran 78(7) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio:

  1. hysbysu'r cyflenwr o'i fwriad i derfynu'r contract
  2. nodi pa un o'r seiliau yn 78(2)(a-c) sy'n gymwys a pham mae wedi penderfynu terfynu'r contract
  3. rhoi cyfle rhesymol i'r cyflenwr ymateb i'r awdurdod contractio ynghylch a yw sail dros derfynu yn gymwys a'i benderfyniad i derfynu'r contract.

16. Ceir cyfyngiadau ar y defnydd o'r sail dros derfynu yn adran 78(2)(c) o'r Ddeddf (sy'n ymwneud â'r sefyllfa lle mae isgontractiwr yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy, sy'n cynnwys pan oedd yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy cyn i'r contract gael ei ddyfarnu a phan ddaw'r isgontractiwr yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy ar ôl i'r contract gael ei ddyfarnu). Mae adran 78(3-6) o'r Ddeddf yn darparu mai dim ond os gwnaethant ofyn am wybodaeth am isgontractwyr o dan adran 28(1)(a) (gwybodaeth am isgontractwyr) y gall awdurdodau contractio ddibynnu ar y teler ymhlyg hwn. Mae'n darparu bod yn rhaid i un o'r amodau canlynol gael ei fodloni (adran 78(3)):

  1. cyn dyfarnu'r contract, nid oedd yr awdurdod contractio yn ymwybodol bod y cyflenwr yn bwriadu isgontractio'r contract cyfan neu ran ohono (adran 78(4) o'r Ddeddf)
  2. cyn dyfarnu'r contract, ceisiodd yr awdurdod contractio gadarnhau (o dan adran 28(1)(b) (Gwahardd cyflenwyr drwy gyfeirio at isgontractwyr) o'r Ddeddf) a oedd yr isgontractiwr yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy drwy fod ar y rhestr rhagwaharddiadau (o dan adran 57(1)(b) neu (2)(b) (Ystyr cyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy) o'r Ddeddf) (gweler y canllaw ar ragwahardd), ond nid oedd yn gwybod ei fod yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy mewn gwirionedd (adran 78(5) o'r Ddeddf)
  3. gofynnodd yr awdurdod contractio am wybodaeth am yr isgontractiwr fel rhan o weithdrefn dendro gystadleuol er mwyn nodi a oedd unrhyw isgontractiwr arfaethedig yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy (o dan adran 28(2) (gwahardd cyflenwyr drwy gyfeirio at isgontractwyr) o'r Ddeddf), ond cyn dyfarnu'r contract nid oedd yn gwybod ei fod yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy mewn gwirionedd (adran 78(6) o'r Ddeddf).

17. Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi, yn adran 78(8), pan derfynir contract ar sail y ffaith bod isgontractiwr yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy (boed hynny o dan adran 78(2)(b) neu (c), fod yn rhaid i'r awdurdod contractio roi cyfle rhesymol i'r cyflenwr derfynu ei drefniant â'r isgontractiwr hwnnw ac, os oes angen, ddod o hyd i isgontractiwr newydd. Mae hyn yn cynnwys personau â chyswllt sy'n isgontractwyr yn ogystal ag isgontractwyr eraill y ceisiodd yr awdurdod contractio wybodaeth amdanynt yn ystod y broses gaffael.

18. Dylai awdurdodau contractio bob amser nodi yn y contract beth fydd yn digwydd pan gaiff y contract ei derfynu, gan gynnwys o dan y teler ymhlyg yn adran 78 o'r Ddeddf. Bydd ystyriaethau ymarferol, er enghraifft, pa mor hir ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno y caiff y contract ei derfynu; trosglwyddo asedau, data, ac ati; help gydag ailgaffael; talu arian sy'n ddyledus ac a oes unrhyw ‘gostau torri contract’ ar gyfer torri contract yn gynnar (er enghraifft, ar gyfer costau y mae'r cyflenwr wedi ymrwymo i'w talu i'w gyflenwyr). Nid yw'r Ddeddf yn atal awdurdodau contractio rhag atgynhyrchu'r teler ymhlyg yn benodol yn eu contractau cyhoeddus, ac mae hefyd yn caniatáu yn benodol i gontractau cyhoeddus gynnwys darpariaethau ategol ynghylch iawndal a materion eraill sy'n ymwneud â therfynu contract drwy gyfeirio at y teler ymhlyg (adran 78(9) o'r Ddeddf).

19. Os bydd yr awdurdod contractio a'r cyflenwr yn cynnwys teler yn y contract cyhoeddus sy'n honni ei fod yn cyfyngu ar y teler ymhlyg neu ei fod yn drech nag ef, ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith a bydd y teler ymhlyg yn ddilys o hyd (adran 78(10) o'r Ddeddf). Er enghraifft, petai'r awdurdod contractio yn ceisio darparu nad oedd unrhyw hawliau terfynu yn yr amgylchiadau a nodir yn adran 78 o'r Ddeddf, neu gyfyngu ar yr hawliau terfynu hynny. Gall awdurdodau contractio ddarparu ar gyfer terfynu contractau ar seiliau eraill heblaw'r rhai sy'n ymhlyg yn adran 78 o'r Ddeddf.

Diogelwch gwladol

20. Er y gall awdurdodau contractio derfynu contract cyhoeddus ar un o'r seiliau dros derfynu yn adran 78 o'r Ddeddf, mae adran 79 o'r Ddeddf yn nodi darpariaethau penodol sy'n gymwys i awdurdodau contractio perthnasol wrth derfynu contract o dan y teler ymhlyg yn seiliedig ar y sail ddisgresiynol dros wahardd neu'r sail fandadol dros wahardd sy'n ymwneud â diogelwch gwladol. Mae'r gofynion hyn yn gymwys p'un a yw'r awdurdod contractio wedi atgynhyrchu'r teler ymhlyg yn benodol yn ei gontract ai peidio.

21. Diffinnir awdurdodau contractio perthnasol yn adran 79(3) o'r Ddeddf fel unrhyw awdurdod contractio heblaw'r canlynol:

  1. un o Weinidogion y Goron neu un o adrannau'r llywodraeth
  2. Swyddog Corfforaethol Tŷ'r Cyffredin, neu
  3. Swyddog Corfforaethol Tŷ'r Arglwyddi.

22. Mae adran 79(1) o'r Ddeddf yn darparu na chaiff awdurdod contractio perthnasol derfynu contract drwy gyfeirio at y teler ymhlyg yn adran 78 ar y sail ddisgresiynol dros wahardd sy'n ymwneud â bygythiad i ddiogelwch gwladol (Atodlen 7, paragraff 14) heblaw o dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. mae'r awdurdod contractio wedi hysbysu un o Weinidogion y Goron o'i fwriad, a
  2. mae'r Gweinidog yn cytuno bod y cyflenwr neu'r isgontractiwr yn gyflenwr gwaharddadwy o dan Atodlen 7, paragraff 14 ac y dylid terfynu'r contract.

23. O ran terfynu contract ar y sail fandadol dros derfynu sy'n ymwneud â bygythiad i ddiogelwch gwladol (Atodlen 6, paragraff 35), dim ond os bydd wedi hysbysu un o Weinidogion y Goron o'i fwriad y caiff yr awdurdod contractio derfynu contract drwy gyfeirio ar y teler ymhlyg yn adran 78 o'r Ddeddf (adran 79(2) o'r Ddeddf).

Pa hysbysiadau sy'n gysylltiedig â'r agwedd hon ar y Ddeddf?

Yr hysbysiad terfynu contract

24. Mae adran 80(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad terfynu contract ar ôl ‘terfynu’, fel y'i diffinnir yn adran 80(3) o'r Ddeddf (gweler paragraff 8), pob contract cyhoeddus ac eithrio (fel y'i diffinnir yn adran 80(4) o'r Ddeddf):

  1. contractau a lunnir gan gyfleustodau preifat
  2. contractau ar gyfer ‘gwasanaethau dewis defnyddwyr’ a ddyfarnwyd yn uniongyrchol o dan Atodlen 5, paragraff 15.

25. Rhaid i awdurdodau Cymreig datganoledig gyhoeddi hysbysiad terfynu contract ar y platfform digidol Cymreig, GwerthwchiGymru. Wedyn, bydd GwerthwchiGymru yn anfon yr hysbysiad ymlaen i'r platfform digidol canolog, gan fodloni'r gofyniad cyfreithiol i gyhoeddi hysbysiad terfynu contract ar y platfform digidol canolog o dan yr amgylchiadau a nodir yn y Ddeddf.

26. Defnyddir cyhoeddi hysbysiad terfynu contract i hysbysu rhanddeiliaid bod contract cyhoeddus wedi'i derfynu, y rheswm dros ei derfynu a'r dyddiad terfynu (gweler rheoliad 42 ‘Hysbysiadau terfynu contract’ o'r Rheoliadau am ragor o wybodaeth). Mae'n galluogi rhanddeiliaid i weld a yw'r contract wedi'i ymestyn y tu hwnt i'w gyfnod arfaethedig neu lle mae opsiynau wedi'u harfer. Pan fydd contract wedi'i derfynu am fod cyflenwr wedi torri'r contract hwnnw, mae'r hysbysiad terfynu hefyd yn darparu gwybodaeth am yr achos hwnnw o dorri'r contract, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd cyn i'r contract gael ei dorri a chanlyniad torri'r contract. Mae'r hysbysiad terfynu contract hefyd yn rhoi terfyn ar y cofnod ar y Platfform Digidol Cymreig (GwerthwchiGymru) a'r platfform digidol canolog. Hwn yw'r hysbysiad olaf a gyhoeddir yn y gyfres o hysbysiadau sy'n ymwneud â phroses gaffael.

27. Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y contract cyhoeddus ei derfynu (adran 80(1) o'r Ddeddf).

28. Efallai y bydd achosion lle y caiff contract ei derfynu cyn i hysbysiad manylion contract ar gyfer y contract hwnnw gael ei gyhoeddi, yn enwedig yn achos contractau cyffyrddiad ysgafn, lle mae gan yr awdurdod contractio 120 diwrnod i gyhoeddi'r hysbysiad (o gymharu â 30 diwrnod ar gyfer contractau eraill) (gweler y canllaw ar yr hysbysiad manylion contract am ragor o wybodaeth). O dan amgylchiadau o'r fath, dylai awdurdodau contractio gyhoeddi'r hysbysiad manylion contract ac, yna, yr hysbysiad terfynu contract cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy'n ofynnol ar gyfer cyhoeddi hysbysiad terfynu contract.

29. Mewn achosion lle y caiff prosesau caffael eu terfynu cyn i gontract gael ei lunio, mae'n ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad terfynu caffael yn lle hynny. Gweler y canllaw ar yr hysbysiad terfynu caffael am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad terfynu contract

30. Mae rheoliad 42 o'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth y mae'n ofynnol i awdurdodau contractio ei chynnwys yn yr hysbysiad terfynu contract.

31. Mae hyn yn cynnwys y rhesymau dros derfynu'r contract cyhoeddus, y dyddiad y cafodd y contract cyhoeddus ei derfynu a gwerth amcangyfrifedig y contract cyhoeddus gan gynnwys TAW. Rhaid i'r ffigur ar gyfer gwerth y contract cyhoeddus gael ei amcangyfrif yn unol ag Atodlen 3 i'r Ddeddf.

32. Gan nad yw adran 80(3) o'r Ddeddf yn rhestr hollgynhwysfawr o'r amgylchiadau a allai arwain at derfynu contract, mae'r hysbysiad terfynu contract yn galluogi i awdurdodau contractio naill ai nodi bod y contract wedi'i derfynu gan ddefnyddio un o'r dulliau a nodir yn adran 80(3) o'r Ddeddf neu am resymau eraill.

33. Pan gaiff contract ei derfynu o ganlyniad i achos o dor contract, mae rheoliad 42(2)(h) o'r Rheoliadau yn darparu bod yn rhaid i'r hysbysiad terfynu contract gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  1. datganiad bod adran 71(5) o'r Ddeddf yn gymwys am fod y cyflenwr wedi torri'r contract
  2. mewn achosion lle na pherfformiodd y cyflenwr y contract i foddhad yr awdurdod contractio, y dyddiad yr oedd yr awdurdod contractio o'r farn bod y cyflenwr wedi methu â gwella ei berfformiad
  3. esboniad o natur yr achos o dor contract neu'r methiant i gyflawni, effaith a hyd yr achos o dor contract neu'r methiant i gyflawni, unrhyw gamau a gymerwyd gan yr awdurdod contractio i hysbysu'r cyflenwr am yr achos o dor contract/methiant i gyflawni a'i annog i wella'r sefyllfa, (gan gynnwys unrhyw hysbysiadau rhybudd a roddwyd o dan y contract cyhoeddus neu gyfle arall i wella perfformiad yn unol ag adran 71(4)(b) o'r Ddeddf), a'r camau a gymerwyd gan y cyflenwr i liniaru effaith yr achos o dor cyfraith a pham nad oedd y camau hyn yn ddigonol.

34. Mewn sefyllfaoedd lle y dyfarnwyd iawndal yn dilyn yr achos o dor contract neu'r methiant i gyflawni, rhaid i awdurdodau contractio ddarparu manylion unrhyw gytundeb setlo neu iawndal a ddyfarnwyd, os digwyddodd hyn cyn y dyddiad terfyn ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad terfynu contract. O dan amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r hysbysiad terfynu contract gynnwys cadarnhad bod hyn wedi digwydd, swm yr iawndal neu unrhyw arian arall a dalwyd, ar ba sail y dyfarnwyd iawndal (er enghraifft, yn unol â'r contract cyhoeddus, penderfyniad llys neu dribiwnlys neu setliad a negodwyd). Os oes penderfyniad a gofnodwyd o ddyfarniad llys neu dribiwnlys fod contract wedi'i dorri, rhaid i awdurdodau contractio hefyd gynnwys dolen i'r dudalen we lle y gellir gweld y penderfyniad neu gopi o'r penderfyniad.

35. Os dyfernir iawndal neu os cytunir ar iawndal ar ôl i hysbysiad terfynu contract gael ei gyhoeddi, nid yw'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod contractio ddiweddaru'r hysbysiad yn ôl-weithredol drwy gynnwys gwybodaeth am iawndal neu gytundeb setlo. Fodd bynnag, byddai'n arfer da gwneud hynny.

36. O dan amgylchiadau lle mae achos o dor contract neu fethiant i gyflawni yn arwain at derfynu'r contract yn rhannol, dylai awdurdodau contractio gyhoeddi gwybodaeth gan ddefnyddio'r hysbysiad cyflawni contract (o fewn 30 diwrnod i'r achos o dor contract) yn hytrach na'r hysbysiad terfynu contract (gweler y canllaw ar yr hysbysiad cyflawni contract).

37. Diben cyhoeddi gwybodaeth am achos o dor contract neu fethiant i gyflawni sy'n arwain at derfynu'r contract yw darparu cofnod cyhoeddus o achosion lle y digwyddodd hyn. Gall awdurdodau contractio wahardd cyflenwyr am achos o dor contract neu berfformiad gwael (ar y sail yn Atodlen 7, paragraff 12), os gellir dangos nad ydynt wedi cyflawni un contract neu fwy i lefel foddhaol a'u bod wedi methu â gwella eu perfformiad (yn amodol ar hunanlanhau). Mae gwybodaeth a gyhoeddir mewn hysbysiadau terfynu contract yn darparu tystiolaeth er mwyn i awdurdodau allu defnyddio'r sail. Gweler y canllaw ar waharddiadau am ragor o wybodaeth.

38. Oherwydd yr angen am dryloywder a'r posibilrwydd y caiff cyflenwyr eu gwahardd ar y sail ddisgresiynol, mae trothwy uchel ar gyfer atal gwybodaeth rhag cael ei chyhoeddi yn yr hysbysiad terfynu contract. Er enghraifft, petai'r sail dros ddyfarnu iawndal yn unol â'r contract cyhoeddus, ni fyddai fawr ddim cyfiawnhad dros gadw'r wybodaeth honno yn ôl. Yn yr un modd, os bydd penderfyniad wedi'i wneud gan lys neu dribiwnlys a bod y wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd, ni fyddai unrhyw gyfiawnhad dros beidio â'i chynnwys mewn dolen i'r dyfarniad yn yr hysbysiad hwn.

Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?

  • Canllaw ar waharddiadau
  • Canllaw ar hysbysiad manylion contract a dogfennau contract
  • Canllaw ar yr hysbysiad cyflawni contract
  • Canllaw ar gyhoeddi gwybodaeth
  • Canllawiau ar ragwahardd
  • Canllaw ar hysbysiad terfynu caffaeliad
  • Canllaw ar ddilyniant hysbysiadau a siartiau llif
  • Canllaw ar y platfform digidol Cymreig (GwerthwchiGymru)