Graham Black Cyfarwyddwr Anweithredol, Seafish
Mae Graham Black yn Gyfarwyddwr anweithredol ar Seafish.
Mae yn gadeirydd Pwyllgor Cynghori Seafish Cymru sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd môr yng Nghymru.
Cyn ei waith yn Seafish, Graham oedd Cyfarwyddwr Marine Scotland, a oedd y rhan o Lywodraeth yr Alban oedd yn gyfrifol am yr holl weithgareddau ym moroedd yr Alban - o bysgota, ffermio eogiaid a'r amgylchedd i ffermydd gwynt ar y môr. Gyda chyfrifoldeb am bolisi, gwyddoniaeth a chydymffurfiaeth, datblygodd wybodaeth eang am y sector a'i heriau.
Yn ystod ei gyfnod ym Marine Scotland bu'n gweithio'n agos â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn ac ar ôl Brexit. Roedd ei yrfa flaenorol yn cynnwys uwch swyddi arwain yn CThEM, (gan gynnwys ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Cymru) ac roedd hefyd yn ymwneud yn helaeth ag OECD a diwydiant.
Ar wahân i'w rôl yn Seafish, ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth Datblygu, ac yn aelod o Gymdeithas Ymddiriedolaeth Datblygu yr Alban - a'i nod yw helpu cymunedau lleol i adeiladu capasiti, gweithredu asedau lleol a chynnwys cymunedau.
Mae'n briod â Claire, gyda dau o blant a labrador heriol! Mae wedi mwynhau ei amser yng Nghymru ac yn gobeithio dod â'i brofiad a'i bersbectif i'r bwrdd.