Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd
Yn dilyn ei benodiad fel Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, ni fydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC yn parhau yn ei rôl gyda grŵp Tirweddau’r Dyfodol Cymru. Yr wyf felly yn cymryd y cyfle hwn i oedi ac adlewyrchu ar weithgareddau a dyfodol y grŵp.
Ers mis Hydref 2015, pan sefydlwyd Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol Cymru, mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi arwain cynrychiolwyr o'r Parciau Cenedlaethol, AHNE, grwpiau diddordeb a busnes i archwilio argymhellion adolygiad Marsden ac yr achos o blaid diwygio. Gwnaeth gyfraniad sylweddol i sicrhau bod nifer o wahanol bartneriaid yn gallu cyfrannu eu barn, cymryd rhan mewn dadl onest, ac yn y pen draw cyhoeddi "Tirweddau’r Dyfodol: Cyflawni Dros Gymru" yn gynharach eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar rai o gynigion allweddol y gwaith hwn, sy'n ymwneud â rôl a threfn llywodraethu tirweddau dynodedig, fel rhan o'r ymgynghoriad Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy.
Yr wyf yn rhagweld y byddai’n gwneud datganiad llawn ar y ffordd ymlaen o safbwynt tirweddau dynodedig yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ar ôl i mi adolygu'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn. Bydd fy ymateb hefyd yn ystyried yr angen am grŵp ffurfiol, o'r fath a oedd yn bodoli ar gyfer Tirweddau’r Dyfodol Cymru, i ddatblygu a chryfhau partneriaethau a gweithio ar y cyd er mwyn darparu’r tirweddau, yr ecosystemau cyfoethog a'r cymunedau gwledig bywiog yr wyf eu heisiau ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol.