Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar Gynllun Busnes i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf ar gyfer 2017/18.  Mae’r Cynllun yn adeiladu ar lwyddiant arwyddocaol y Maes Awyr dros y flwyddyn ddiwethaf.  Oherwydd ei sensitifedd masnachol, nid wyf mewn sefyllfa i ddangos y cynllun i aelodau, ond mae’n cwmpasu’r ddwy flynedd nesaf ac yn cynnwys rhagolwg ariannol pum mlynedd a chynllun ariannol amcanol 20 mlynedd.  Mae’r cynllun yn un ariannol gyfrifol sy’n gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o’r £15m sydd wedi’i ychwanegu at y cyfleuster benthyca masnachol y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn.  

Mae’r Maes Awyr wedi ehangu ystod yr arbenigeddau ar ei Fwrdd yn sgil penodi Terry Morgan fel cyfarwyddwr anweithredol. Mae gan Terry Morgan lawer iawn o brofiad o ddatblygu busnes cwmnïau hedfan a meysydd awyr.  Mae hyn yn dilyn dyrchafu’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Deb Barber, yn Brif Swyddog Gweithredol.  Yr un pryd, mae’r Maes Awyr newydd recriwtio hefyd aelod ychwanegol i’r tîm rheoli uwch (Mark Bailey) a fydd yn gyfrifol am gynllunio a datblygu’r Maes Awyr.  Byddwn yn lansio proses recriwtio ar gyfer cyfarwyddwr anweithredol annibynnol i eistedd ar Fwrdd WGC Holdco, y cwmni sy’n berchen ar Faes Awyr Caerdydd ar ein rhan.  Gyda’r penodiadau hyn, rydym yn rhoi ar waith argymhellion yr adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar brynu Maes Awyr Caerdydd

Mae Maes Awyr Caerdydd yn strategol bwysig i Gymru ac i economi Cymru.  Mae cysylltiad clir rhwng llwyddiant y Maes Awyr a chreu swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol.  Mae’n cynnal dros 2,600 o swyddi ac yn cael gwerth rhagor na £100m o effaith ar yr economi leol.

Yn 2016, llwyddodd Maes Awyr Caerdydd i sicrhau newid sylfaenol a phositif yn agweddau a chanfyddiad y cyhoedd amdano ac am yr hyn y gall ei wneud dros bobl a busnesau Cymru. O dan arweiniad ei gadeirydd, Roger Lewis, mae Maes Awyr Caerdydd wedi canolbwyntio ar ddarparu maes awyr sy’n rhan o’n llwyddiant cenedlaethol, ac yn symbol o uchelgais rhyngwladol Cymru.

Dewisodd fwy na 1.35 miliwn o deithwyr ddefnyddio’r Maes Awyr llynedd. Mae hynny’n cynrychioli 15 y cant o dwf blynyddol, gan ei wneud yn un o’r meysydd awyr sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain – y cyflymaf ond tri gyda thros 1 miliwn o deithwyr.  Disgwylir i’r twf hwnnw barhau yn 2017.

Mae teithiau newydd wedi’u cyflwyno, gyda’r ehediadau newydd o Gaerdydd i Ddinas Llundain yn dangos hyblygrwydd y Maes Awyr i ymateb i anghenion teithwyr pan fu Twnnel Hafren ar gau – mae’r ehediadau hyn wedi’u hestyn.  Ymhlith y gwasanaethau newydd eraill gafodd eu lansio yn ystod y flwyddyn oedd Verona a Berlin, sy’n golygu y gall cwmnïau hedfan fynd â theithwyr yn syth yn awr i ragor na 50 o lefydd, gan gynnwys naw prifddinas.  Rwy’n hyderus y gwelwn yn  2017 y rhestr honno o gyrchfannau o Gaerdydd yn cynyddu.