Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt yn Glasgow i dalu teyrnged i heddweision o Gymru ac ar draws y DU sydd wedi'u lladd neu wedi marw ar ddyletswydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn ddigwyddiad blynyddol pwysig a gynhelir i gofio'r miloedd o swyddogion ledled y DU sydd wedi colli eu bywydau.

Y llynedd, Caerdydd oedd lleoliad y digwyddiad coffa i gydnabod eu hymrwymiad a'u dewrder.

Bydd adeilad Parc Cathays Llywodraeth Cymru yn cael ei oleuo'n las heno i nodi Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu.

Bydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt yn bresennol mewn gwasanaeth yn Glasgow heddiw a chyn mynd, dywedodd:

Bob dydd mae swyddogion heddlu yng Nghymru, ac ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, yn dangos eu hymroddiad i ddyletswydd a'u dewrder er mwyn ein hamddiffyn ni i gyd.

Bob blwyddyn ers 2004, mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu wedi bod yn ddiwrnod i gofio aberth swyddogion, ar draws y cenedlaethau, yn rhinwedd eu swydd.

Mae heddiw, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn gyfle pwysig i dalu teyrnged iddyn nhw ac i ddangos ein hymrwymiad na fyddan nhw byth yn cael eu hanghofio.

Mae'n anrhydedd i mi fod yn Glasgow ar gyfer y digwyddiad eleni i gofio ac anrhydeddu'r swyddogion sydd ddim gyda ni bellach.