Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynrychiolwyr o Birmingham, Alabama wedi ymweld â Chymru yr wythnos hon, fel rhan o gytundeb i adeiladu ar y cyfeillgarwch hanesyddol rhwng y ddinas a Chymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw’r ymweliad wedi i Lywodraeth Cymru a Dinas Birmingham lofnodi Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol y llynedd. Nod y Cytundeb yw ceisio hyrwyddo masnach economaidd a chydweithrediad ar draws meysydd o ddiddordeb cyffredin gan gynnwys y Celfyddydau a Diwylliant, Gwyddorau Bywyd, Gofal Iechyd ac Addysg.

Fel rhan o'r ymweliad, cyflwynodd y Prif Weinidog a'r gwesteion Americanaidd Sêl Dinas Birmingham i ddisgyblion Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, St. Mary the Virgin, yn Butetown, Caerdydd heddiw. Roedd y sêl yn rhodd gan Faer Birmingham.

Dechreuodd y berthynas rhwng Cymru a Birmingham yn sgil digwyddiadau trasig 15 Medi, 1963. Ar un o'r dyddiau tywyllaf yn hanes modern America, cafodd pedair merch ysgol eu lladd mewn ymosodiad bomio hiliol yn Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street. Daeth y foment hon yn ganolog i'r mudiad hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau.

Yn dilyn y drasiedi, cyfrannodd pobl ar draws Cymru eu newid mân drwy ymgyrch gan y Western Mail i godi arian i dalu am ffenestr liw i gymryd lle un a ddinistriwyd yn yr Eglwys.

Cafodd y ‘Wales Window’ ei dylunio gan yr artist o Gymru, John Petts, a’i chyflwyno i Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street ym 1965. Gyda’i phortread o Grist du ar y groes, roedd y ffenestr yn symbol i'r gynulleidfa fod pobl o bob cwr o'r byd yn gwybod am eu dioddefaint a'u haberth, ac yn meddwl amdanynt.

Y llynedd, i nodi 60 mlynedd ers y bomio, cyflwynodd Llywodraeth Cymru bedair coeden, er cof am y pedair merch a fu farw. Mae’r coed wedi’u plannu ym Mharc Kelly Ingram, ger yr eglwys. Yn rhodd ganddyn nhw, cyflwynodd Maer Birmingham Sêl y Ddinas i Lywodraeth Cymru.

Mae'r ymwelwyr, dan arweiniad Birmingham Sister Cities, yn cynnwys chwiorydd y pedair merch, gweinidog yr eglwys, unigolyn a fu'n ymgyrchu fel plentyn i'r mudiad hawliau sifil, yn ogystal ag arweinwyr gwladol, llywodraeth leol a phobl busnes.

Un o'r cynrychiolwyr yw Sarah Collins Rudolph. Goroesodd Sarah y bomio, ond lladdwyd ei chwaer bedair ar ddeg oed, Addie Mae. Dywedodd Sarah:

"Mae'r cwlwm rhwng Birmingham a Chymru wedi golygu cymaint i mi a sawl un arall a gafodd eu heffeithio ar y diwrnod ofnadwy hwnnw yn 1963. Dangosodd rhodd y Wales Window i ni fod pobl yr ochr draw i'r môr yn meddwl amdanom yn ein poen ac yn credu mewn dyfodol o obaith ac undod.

"Nawr, wrth sefyll yma heddiw, rwy'n cael yr un ymdeimlad o undod, gan wybod bod ein cyfeillgarwch yn dal i fynd o nerth i nerth. Rwy'n ddiolchgar i Birmingham Sister Cities a Llywodraeth Cymru am ddod â ni at ein gilydd fel hyn, gan ein helpu i gofio'r gorffennol wrth i ni adeiladu dyfodol mwy disglair."

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Mae'n bleser croesawu'r cynrychiolwyr o Birmingham Alabama i Gymru yr wythnos hon. Mae'n amlwg bod y cwlwm rhyngom wedi cryfhau dros amser ac yn ffynnu heddiw, gan roi cyfleoedd pellach i ni gydweithio.

"Rwy'n falch bod pobl Cymru wedi dod ynghyd ac wedi estyn allan at gymuned Birmingham yn eu dyddiau tywyllaf, gan gymryd camau yn erbyn hiliaeth a chynnig rhodd gwirioneddol a symbolaidd o undod a heddwch.

"Mae'r Wales Window wedi bod yn sylfaen i'n cyfeillgarwch a bydd yn ein hatgoffa o undod a gobaith am genedlaethau i ddod."