Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Cyfarfu'r Cabinet y bore yma i ystyried penderfyniad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi gwarant ariannol ar gyfer adeiladu a sefydlu prosiect Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy.
Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cylchffordd Cymru i gefnogi'r prosiect hwn ers cryn dipyn o amser gan yr oeddem yn cydnabod yr effaith gadarnhaol bosibl y gallai ei chael ar yr economi. Bydd cyflawni’r prosiect hwn yn dipyn o gamp ac rydym wedi bod yn glir, o'r dechrau'n deg, fod angen i unrhyw gymorth a roddir gan drethdalwyr fod yn gymesur a theg.
Ym mis Gorffennaf 2016, dywedais wrth y cwmni y byddwn yn disgwyl i o leiaf 50% o’r prosiect gael ei ariannu ac i'r sector preifat ysgwyddo o leiaf 50% o risg ariannol y prosiect er mwyn cyfiawnhau gwerth am arian i'r Llywodraeth a'r pwrs cyhoeddus.
Ym mis Chwefror 2017, cyflwynodd Circuit of Wales Ltd gynnig newydd i'r Llywodraeth, gyda chais ffurfiol yn cael ei gyflwyno ganddo ym mis Ebrill 2017 yn gofyn inni warantu trefniant benthyca o £210 miliwn a ddarperir gan Aviva Investors. Pe bai'r Gylchffordd yn methu a'r benthyciwr yn gofyn i'r warant gael ei had-dalu, byddai hynny'n arwain at wariant blynyddol y byddai'r Llywodraeth yn atebol amdano yn y tymor hir.
Oherwydd lefel uchel iawn y risg sydd ynghlwm wrth y prosiect hwn, yn enwedig yr atebolrwydd ariannol y bydd yn ei olygu i'r Llywodraeth yn y tymor hir, treuliwyd cryn amser ar y broses diwydrwydd dyladwy a gofynnwyd i'r Cabinet ystyried y materion y bore yma. Rwy'n ysgrifennu at yr Aelodau yn awr i roi gwybod ichi am ganlyniad y trafodaethau hynny cyn gynted â phosibl, ond byddaf hefyd yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.
Ar ôl i arbenigwyr allanol a gyflogwyd gan Lywodraeth Cymru gynnal proses drwyadl o ddiwydrwydd dyladwy, gwelwyd, oherwydd y modd y lluniwyd y pecyn cyllido, y byddai'r cynnig, fel y mae ar hyn o bryd, yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn agored i fwy na 50% o'r risg. Y rheswm am hynny yw y byddai mwy o risg yn gysylltiedig â'r swm o £210 miliwn y byddai'r Llywodraeth yn ei warantu nag â rhannau eraill o'r pecyn cyllido. O'r herwydd, ar ôl trafodaethau gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys Ei Mawrhydi yn ystod y broses diwydrwydd dyladwy, aseswyd bod risg sylweddol iawn y byddai'r ddyled lawn o £373 miliwn sy'n gysylltiedig â phrosiect Cylchffordd Cymru yn ei gyfanrwydd yn cael ei chategoreiddio'n ddyled a fyddai'n dod o dan wariant cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Dros y tair blynedd nesaf, byddai hynny'n cael yr un effaith ar gyllidebau Llywodraeth Cymru â phe byddem wedi gwario'r arian eisoes ‒ a byddai'n cyfyngu'n sylweddol ar ein gallu i gyflawni prosiectau sydd ar droed ar hyn o bryd ac a fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol i wella seilwaith, tai, ysbytai neu ysgolion yng Nghymru. I roi amcan o faint yr effaith, byddai'r gost yr un peth, er enghraifft, ag ar gyfer adeiladu’r Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol newydd arfaethedig yng Nghwmbrân, 10 ysgol debyg i Ysgol newydd Bae Baglan ym Mhort Talbot, neu'n cyfateb i 5,000 o gartrefi newydd fforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru.
O ystyried y cyfyngiadau presennol ar ein gallu i fenthyca, penderfynodd y Cabinet heddiw, felly, fod effaith bosibl y cynnig presennol ar arian cyhoeddus yn rhy fawr, o gofio'r holl flaenoriaethau eraill i bwrs y wlad, a phenderfynodd na all Llywodraeth Cymru gynnig y warant ariannol y gofynnir amdani ar gyfer y cynnig hwn.
Yn ystod y broses diwydrwydd dyladwy, craffwyd yn fanwl ar amcangyfrif y cwmni o 6,000 o swyddi posibl ar draws holl elfennau'r prosiect a gwelwyd ei fod yn goramcangyfrif yn sylweddol. Roedd y broses honno'n dangos, unwaith y byddai'r trac cychwynnol a'r datblygiadau sy'n uniongyrchol gysylltiedig ag ef – sef yr hyn a gyflwynwyd gerbron y Cabinet heddiw – wedi cyrraedd lefel fasnachu sefydlog tua'r flwyddyn 2024, mai dim ond ychydig dros 100 o swyddi gweithredol uniongyrchol cyfwerth ag amser llawn fyddai wedi cael eu creu. Hefyd, byddai datblygu'r gylchffordd yn creu rhyw 500 o swyddi anuniongyrchol cyfwerth ag amser llawn drwy wariant posibl gan ymwelwyr, yn ogystal â rhyw 500 o swyddi adeiladu cyfwerth ag amser llawn wrth i'r trac gael ei adeiladu.
Mae'r nifer hwn o swyddi'n seiliedig ar lwyddo i gyrraedd y targed o ran nifer y digwyddiadau a gallai methu â chyrraedd y targed o ran perfformiad masnachu olygu y byddai llai o gyfleoedd cyflogaeth. Dangosodd y broses diwydrwydd dyladwy yn glir nad y gylchffordd ei hun fyddai'n creu'r prif fudd i'r economi leol, nac ychwaith y rhan fwyaf o'r swyddi newydd. Yn hytrach, byddai'r budd hwnnw a'r swyddi hynny'n cael eu creu wrth i fusnesau eraill, yn y sector peirianneg a'r sector modurol yn arbennig, glystyru yn y lleoliad fel rhan o barc technoleg arfaethedig a fyddai'n cael ei greu maes o law. Yn ôl y broses diwydrwydd dyladwy, byddai cyfanswm y swyddi a fyddai'n cael eu creu gan y gylchffordd a'r parc technoleg ill dau gryn dipyn yn llai na'r ffigur o 6,000. Ar sail profiad yn y gorffennol, rydym hefyd o'r farn y gallai fod angen symiau sylweddol o arian cyhoeddus ychwanegol ar y parc technoleg arfaethedig.
Gan gydnabod potensial economaidd y math hwn o ddatblygiad a'r ffaith bod pobl Blaenau Gwent wedi aros yn ddigon hir am y swyddi a addawyd iddynt, rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelodau y cytunodd y Cabinet y bore yma i fwrw ymlaen â phrosiect newydd ac arwyddocaol. Bydd yn adeiladu ar wersi'r broses diwydrwydd dyladwy, ac yn defnyddio'r dull gweithredu yr aseswyd y byddai’n sicrhau'r budd mwyaf o ran darparu cyfleoedd economaidd lleol.
Felly, mae'r Llywodraeth heddiw yn ymrwymo i adeiladu parc busnes newydd ar gyfer technoleg fodurol yng Nglyn Ebwy, gyda £100 miliwn o gyllid dros ddeng mlynedd a fydd â’r potensial i gynnal 1,500 o swyddi newydd cyfwerth ag amser llawn. Byddwn yn dechrau'r gwaith hwn drwy ddarparu 40,000 o droedfeddi sgwâr ar gyfer y gwaith gweithgynhyrchu ar dir sydd ar hyn o bryd yn eiddo i'r cyhoedd.
Bydd hwn yn brosiect unigol i'w ddarparu gan y Llywodraeth a phartneriaid lleol gan fod y broses diwydrwydd dyladwy wedi dangos nad oes fawr o dystiolaeth yn y gorffennol, ar raddfa ryngwladol, fod unrhyw drac, ar ei ben ei hun, wedi sbarduno mwy o swyddi lleol.
Ar ben hynny, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i edrych ar y posibilrwydd o leoli depo Metro De Cymru yn Ardal Fenter Glyn Ebwy, a chyflwyno rhaglenni i helpu cyflogwyr newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent i ddatblygu sgiliau'r gweithlu lleol.
Edrychaf ymlaen at ateb cwestiynau'r Aelodau yn y Siambr yn nes ymlaen heddiw.