Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn dilyn adolygiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dystiolaeth ar gyflwr afancod yng Nghymru, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi symud tuag at ailgyflwyno, a hynny dan reolaeth, yr afanc Ewropeaidd (Castor fiber) yng Nghymru.
Ar un adeg roedd afancod yn rhywogaeth frodorol yng Nghymru, cyn iddynt gael eu hela i'r pwynt o ddiflannu am eu crwyn gwerthfawr, castorewm a chig ac i raddau llai yr effaith y cafodd colli eu cynefinoedd lleol arnynt. Yn cael eu galw yn aml yn "beirianwyr natur", mae eu gweithgareddau, megis adeiladu argaeau, creu pyllau a gwlyptiroedd yn helpu i storio dŵr a chefnogi dulliau naturiol o reoli llifogydd. Gall argaeau afancod hefyd gyfrannu at wella ansawdd dŵr drwy storio gwaddodion sy'n cynnwys maetholion a llygryddion, gan leihau'r symiau a fydd yn cael eu cludo i lawr yr afon. Mae hyn yn ei dro yn creu cynefinoedd cyfoethog ac amrywiol sy'n cynnal amrywiaeth eang o rywogaethau eraill. Mae eu gallu i lunio ecosystemau yn hoelio sylw ar eu pwysigrwydd fel rhywogaeth allweddol wrth gynnal cydbwysedd ecolegol. Bydd ailgyflwyno afancod yng Nghymru, gan wneud hynny dan reolaeth, yn canolbwyntio ar gydfodoli o'r newydd lle gall bywyd gwyllt ffynnu ochr yn ochr â chymunedau pobl.
Mae poblogaethau bach o afancod eisoes yn bresennol yn y gwyllt yng Nghymru ond nid ydynt yn cael eu cydnabod fel rhywogaeth frodorol nac yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol. Fel cam cyntaf, byddaf yn rhoi cyfle eleni i bobl yr effeithir arnynt roi sylwadau ar y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig sy'n angenrheidiol i ddiogelu poblogaethau presennol a phoblogaethau'r dyfodol yn y gwyllt.
Yn ail, o ran ailgyflwyno afancod - er bod tystiolaeth eang o fanteision ailgyflwyno afancod, rwy'n cydnabod bod gan rai perchnogion tir bryderon am eu heffaith ar dir fferm a'u potensial i ledaenu afiechydon. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ymgysylltu'n gynnar â rhanddeiliaid er mwyn gallu clywed ystod o safbwyntiau. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen. Bydd y dull cydweithredol hwn yn helpu i daro cydbwysedd rhwng manteision ecolegol ailgyflwyno ac anghenion a phryderon rhanddeiliaid.
Bydd fy swyddogion hefyd yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu ar y camau nesaf ar gyfer dyfodol afancod yng Nghymru.
Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, mae'n rhaid i ni greu rhwydweithiau ecolegol cadarn sy'n caniatáu i rywogaethau a chynefinoedd sydd mewn perygl ffynnu. Mae nodi ein safbwynt polisi ar afancod yng Nghymru yn dangos ymhellach ein hymrwymiad i atal a gwrthdroi'r dirywiad ym myd natur.