Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y buddsoddiad mawr o dros £1 biliwn i ailddatblygu Melin Shotton yng Nglannau Dyfrdwy yn y Gogledd yn diogelu 147 o swyddi ac yn creu 220 o swyddi newydd pan fydd y datblygiad ar ei anterth, meddai llywodraethau'r DU a Chymru heddiw (dydd Iau 26 Medi).

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymweld â'r ganolfan ddiwydiannol hanesyddol i gwrdd ag aelodau Eren Holdings, a brynodd Melin Shotton yn 2021. Yno, byddant yn clywed mwy am y  trawsnewidiad sydd wedi digwydd i'r safle, a fydd yn ei droi i fod y ffatri bapur fwyaf yn y DU.

Daw'r cyhoeddiad cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi fis nesaf a fydd yn ei gwneud yn glir bod y DU "ar agor i fusnes" wrth i lywodraeth y DU bennu o'r newydd ei pherthynas â phartneriaid masnachu ledled y byd a chreu amgylchedd gartref sy'n cefnogi busnes, arloesedd a swyddi o ansawdd uchel ac a fydd yn chwarae rhan allweddol i gynnal y twf di-dor mwyaf o holl wledydd y G7.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £13 miliwn o gyllid, hynny ynghyd â'r £136 miliwn o gymorth y bydd UK Export Finance (UKEF), asiantaeth credyd allforio llywodraeth y DU, yn ei roi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, Jonathan Reynolds:

Mae hyn yn arwydd clir o'n hyder yn economi Cymru ac mae'r llywodraeth hon yn bwriadu gwneud Prydain y wlad y bydd busnesau yn dewis buddsoddi yn niwydiannau'r dyfodol ynddi. Bydd y buddsoddiad trawsnewidiol hwn nid yn unig yn cynnal swyddi crefftus lleol ond yn codi safonau byw y gymuned hefyd.

Mae'r cytundeb sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn dyst i'r hyn all ddod o gael llywodraethau Cymru a'r DU yn cydweithio â'i gilydd. 

Rydym hefyd yn falch o ddathlu'r Diwrnod Gweithgynhyrchu Cenedlaethol, i gydnabod yr arloesi aruthrol sy'n digwydd ar draws y sector, yn enwedig yma ym Melin Shotton.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

Mae gan Lannau Dyfrdwy hanes hir a balch fel un o brif ardaloedd diwydiannol Cymru a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan y ddwy lywodraeth yn sicrhau swyddi ac yn helpu i ddod â dyfodol llewyrchus i'r ardal.

Rydym wedi ailbennu’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth agos, rydym yn darparu twf a swyddi da i bobl ledled Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Mae hyn yn newyddion gwych i Lannau Dyfrdwy ac economi ehangach Cymru ac mae'n enghraifft dda o sut y gallwn, trwy ein hymrwymiad i economi werdd ffyniannus, ddenu buddsoddiad a chreu swyddi da a chynaliadwy. A lleihau gwastraff yr un pryd.

Unwaith y bydd y cyfan ar waith, yn hytrach na chludo papur gwastraff gannoedd neu filoedd o filltiroedd dramor i gael ei brosesu, caiff ei droi'n ddeunydd pecynnu wedi'i ailgylchu yma yng Nghymru. Bydd hynny, a chyda natur y dechnoleg, yn golygu gostyngiad net mewn allyriadau carbon sy'n cyfateb i allyriadau 190,000 o gartrefi'r flwyddyn.

Bydd ein cymorth ariannol o £13 miliwn yn helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd gan ddiogelu a chreu swyddi lleol a sicrhau bod y gymuned yn ganolog i lwyddiant y busnes am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae Eren Holding o Dwrci yn gwmni cynhyrchu cynwysyddion a chardbord rhychiog ac mae'n cael ei ystyried yn un o brif gynhyrchwyr Ewrop. Bydd ei gynlluniau'n golygu mai Melin Shotton fydd ffatri bapur fwyaf y DU. Bydd hynny'n hwb i gynhyrchu papur yn y DU drwy ailgylchu papur gwastraff a fyddai fel arall yn mynd dramor neu i safleoedd tirlenwi.

Bydd bron i 100% o'r papur a gynhyrchir gan y ffatri yn bapur wedi'i ailgylchu. Mae ei fodel cynhyrchu yn un eco-gyfeillgar gan ei fod yn puro ei ddŵr gwastraff ei hun ac yn ei ailddefnyddio yn y system. Drwy hynny, bydd yn helpu i greu swyddi da sy'n talu'n dda yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol.

Gwnaeth UKEF helpu trwy roi gwarant, i HSBC a Credit Suisse allu trefnu arian i gyllido dyledion y prosiect. 

Mae disgwyl i fuddsoddiad Eren hybu allforion papur Cymru a'r DU, a chynigiodd UKEF ei gefnogaeth ar yr amod y byddai Melin Shotton yn allforio 10% o'i drosiant ymhen 5 mlynedd. Disgwylir i hyn hefyd leihau dibyniaeth y DU ar fewnforion papur. 

Dywedodd Hamdullah Eren, Uwch-aelod o fwrdd grŵp Eren Holding:

Byddwn yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn ein ffatri newydd ym Melin Shotton, i’w gwneud y safle cynhyrchu papur mwya blaengar yn Ewrop. Bydd y ffatri, a fydd wedi’i hadeiladu’n unswydd at y pwrpas, yn cynnig atebion cynhyrchu soffistigedig a chynaliadwy, a hynny ymhell i’r 21ain ganrif.

Dyma brosiect cyfalaf mawr cyntaf Eren Holding y tu allan i Türkiye ac rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi dewis Glannau Dyfrdwy fel lleoliad perffaith i wireddu’n huchelgais i dyfu. Rydyn ni’n gosod gwreiddiau dwfn ar safle o arwyddocâd diwydiannol hanesyddol.

Rydyn ni’n credu y daw’r ffatri â ffyniant a swyddi tymor hir a fydd yn destun balchder i Lannau Dyfrdwy gan ei gwneud yn arweinydd yn ein diwydiant.

Mae Gogledd-ddwyrain Cymru yn ganolfan ddiwydiannol allweddol, a Glannau Dyfrdwy yw un o'r parciau diwydiannol mwyaf yn Ewrop. Ar un adeg roedd gwaith dur Shotton yn gweithio ar y safle, ac felly mae'r felin yn Shotton wedi gweld dros 100 mlynedd o weithgarwch diwydiannol.

Mae'r buddsoddiad yn dod â bywyd newydd i'r safle a sefydlogrwydd economaidd i Lannau Dyfrdwy a Gogledd Cymru wrth i'r ddwy lywodraeth geisio sicrhau twf hirdymor, cynaliadwy ym mhob rhan o'r DU.

Mae'r cyhoeddiad hefyd yn digwydd ar y Diwrnod Gweithgynhyrchu Cenedlaethol pan fydd y llywodraeth yn dathlu diwydiant gweithgynhyrchu arbennig y wlad. Bydd strategaeth ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU, pan ddaw, yn cefnogi gweithwyr ac yn rhoi'r hyder sydd ei angen ar fuddsoddwyr rhyngwladol i fuddsoddi ym Mhrydain, gan greu swyddi a thwf.

Mae'r DU yn parhau i fod yn lle deniadol ar gyfer buddsoddi gwyrdd a bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu i greu swyddi, tyfu'r economi ac allforio nwyddau cynaliadwy o ansawdd uchel ledled y byd.