Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Ymddengys yn debygol iawn y bydd y Cyngor Ewropeaidd yn cytuno'n ddiweddarach yr wythnos hon bod digon o gynnydd wedi bod ar gam cyntaf y negodiadau Brexit i ganiatáu i'r trafodaethau symud ymlaen at yr ail gam. Rwy'n croesawu hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau'n gyson bod angen symud ymlaen yn gyflym ar y cam cyntaf er mwyn medru dechrau negodi materion hanfodol bwysig fel y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol, a hyd a natur unrhyw gyfnod pontio. Nid oes unrhyw amser i'w golli, a rhaid i hyn ddigwydd ar unwaith.
Cymerwyd mwy o amser na'r angen i sicrhau'r cytundeb hwn, yn sgil diffyg eglurder ac agwedd afrealistig Llywodraeth y DU. Rydym yn gresynu am hyn gan iddo greu ansicrwydd yn y gymuned fusnes sydd yn ei dro o bosib wedi arwain at oedi mewn penderfyniadau pwysig ynghylch buddsoddi. Mae hefyd wedi golygu bod dinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac ar draws y DU, wedi gorfod byw dan gwmwl o ansicrwydd poenus am eu statws yn y dyfodol. Dydy hynny'n fawr o ddiolch am eu cyfraniad rhagorol i'n heconomi a'n bywyd cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio'n gyson ei bod yn bwysig cadw ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, ac rwy'n falch o weld cytundeb ar ffordd ymlaen sy'n gwarantu mai dyma fydd canlyniad y cytundeb terfynol. Credwn mai'r canlyniad gorau a mwyaf rhesymol yw i'r DU yn gyfan barhau i gydweddu’n llawn â’r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau. Byddai hyn hefyd yn amddiffyn buddiannau porthladdoedd Cymru a'u perthynas fasnachol gydag Iwerddon, mater pwysig arall i Lywodraeth Cymru. Dylai ail gam y negodi ddechrau cyn gynted â phosibl ar ôl cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd yr wythnos hon.
Blaenoriaeth arbennig o uchel fydd cytuno ar gyfnod pontio a fydd yn rhoi hyder i fusnesau gynllunio ar gyfer y tymor canolig. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau swyddi a'n ffyniant yn y dyfodol.
Wrth i'r trafodaethau symud ymlaen at yr ail gam, yn edrych ar y cyfnod pontio a pherthynas y DU â'r UE yn y tymor hir, mae'n hanfodol bwysig i'r Gweinyddiaethau Datganoledig gael eu cynnwys yn llawn. Bydd trafodaethau'r ail gam yn cynnwys materion sy'n rhan o gyfrifoldebau'r sefydliadau datganoledig, fel cyfrannu at raglenni Ewropeaidd yn ystod y cyfnod pontio, cymryd rhan mewn rhaglenni fel Horizon 2020 ac Erasmus+ ar ôl Brexit ac i ba raddau y bydd pwerau datganoledig yn cydweddu â rheoliadau UE fel rhan o gytundeb yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE. Mae'n hanfodol i'r Gweinyddiaethau Datganoledig gael eu cynrychioli'n uniongyrchol yn y trafodaethau hyn. Rydym wedi codi'r mater sawl gwaith gyda Llywodraeth y DU, ac mae'n bryd iddyn nhw weithredu. Fel y gwelwyd, mae'n hanfodol i safbwynt negodi'r Deyrnas Unedig adlewyrchu gwir fuddiannau Cymru a'r Deyrnas Unedig yn gyfan.
Yn ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, gosodwyd ein blaenoriaethau ar gyfer Brexit gan ddadlau dros y canlynol:
• mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl, ar sail cydweddiad rheoleiddiol parhaus rhwng y DU a'r UE, a diogelu hawliau cyflogaeth, amgylcheddol a defnyddwyr
• cydweddiad parhaus â'r Undeb Tollau oni bai bod tystiolaeth gadarn bod manteision ymadael â'r Undeb Tollau yn gwrthbwyso'r costau o wneud hynny
• edrych ar fudo mewn ffordd sy'n diogelu hawliau dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ac sydd, yn y tymor hwy, yn rhoi blaenoriaeth i anghenion yr economi
• cyfnod pontio er mwyn sicrhau bod modd negodi cytundeb o'r fath.
Wrth i'r negodi barhau, rydym yn falch iawn o weld Llywodraeth y DU yn symud yn agosach o hyd at ein safbwynt ni. Byddai'r safbwynt hwnnw, yn ein barn ni, yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer perthynas rhwng y DU a'r UE a fyddai'n fanteisiol i'r ddwy ochr. Byddwn yn dadlau hyn yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yr wythnos hon, ac yn rhyddhau datganiad pellach ar ôl hynny.