Rheoliadau cychwynnol system gofrestru y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY): asesiad effaith
Asesiad effaith ar gyfer rheoliadau system gofrestru CADY.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Cyd-destun
Darparodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('Deddf 2022') ar gyfer sefydlu Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil ('y Comisiwn'). Y Comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae Rhan 2 o Ddeddf 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru. Mae angen cyfres o reoliadau i alluogi'r gofrestr a'r system oruchwylio reoleiddiol gysylltiedig i weithredu fel y bwriadwyd.
Ers cyflwyno'r Ddeddf, mae ymarfer brandio sefydliadol wedi'i gynnal a phenderfyniad wedi'i wneud i ddisodli'r acronym 'CTER' gyda'r gair 'Medr', gan olygu sgil a gallu, fel enw'r brand. Cafodd yr awgrym hwn dderbyniad da yn ystod ymgysylltiad diweddar â rhanddeiliaid, oherwydd ei gysylltiad clir ag uchelgais a blaenoriaethau'r Comisiwn, gan hefyd gael ei ystyried yn ddigon syml i weithio'n dda ar lefel ryngwladol. Felly, penderfynwyd defnyddio ei enw cyfreithiol - Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil / Commission for Tertiary Education and Research, a ddefnyddir yn y dyfodol o dan 'y Comisiwn' bob amser wrth gyfathrebu.
Gosodwyd dwy set gyntaf y rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru i'w cymeradwyo ar 1 Hydref 2024. Mae angen y rhain er mwyn i'r Comisiwn allu sefydlu a rhedeg y gofrestr a chael y rhyddid gweithredol i ddatblygu ei ddisgwyliadau ei hun o ran yr hyn sydd ei angen gan ddarparwyr i fodloni gofynion rheoleiddio.
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y categorïau cofrestru, yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr, amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus pellach, y categori y mae terfyn ffioedd yn gymwys iddo, a chymhwystra darparwyr cofrestredig i dderbyn cyllid gan y Comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil ac arloesi. Yn bwysig, maent yn rhagnodi set graidd o wybodaeth o ddiddordeb i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch darparwyr cofrestredig, y mae'n rhaid i'r Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt a sicrhau bod yr wybodaeth ar gael i'r cyhoedd.
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi darparwr fel sefydliad at ddiben gwneud cais cofrestru. Maent yn darparu'r sylfaen i ddarparwr addysg drydyddol wneud cais i gael ei ddynodi'n sefydliad. Maent yn nodi bod yn rhaid gwneud ceisiadau am gael eu dynodi fel "sefydliad" yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ac maent yn pennu'r gofynion gwybodaeth y mae'n rhaid eu cynnwys yn rhan o gais am ddynodiad. Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer tynnu'n ôl dynodiad fel "sefydliad".
I wneud cais am gofrestru gyda'r Comisiwn, mae angen i ddarparwyr addysg drydyddol fod yn "sefydliad". Gall darparwyr nad ystyrir eu bod yn sefydliadau wneud cais i Weinidogion Cymru gael eu dynodi'n sefydliad cyn gwneud cais cofrestru. Gall darparwyr sydd wedi'u dynodi'n "sefydliad" wneud cais cofrestru ond bydd yn dal i fod angen iddynt fodloni disgwyliadau'r Comisiwn o ran yr amodau cofrestru cychwynnol ar gyfer y categori yn y gofrestr y maent yn ceisio cofrestru ynddi.
Os ydynt wedi cofrestru'n llwyddiannus, bydd darparwyr yn elwa o gael dynodi eu cyrsiau addysg uwch perthnasol yn awtomatig at ddibenion cymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr. Yn y pen draw, bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr gan y byddant yn gallu gwneud cais am gyllid benthyciad myfyrwyr ar gyfer astudio. Gan ddibynnu ar eu categori cofrestru, gall darparwyr hefyd fod yn gymwys i gael cyllid gan y Comisiwn at ddibenion addysg uwch, ymchwil neu arloesi.
Effaith
Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi bod yn rhan hanfodol o ddatblygu'r rheoliadau a cheisiodd ymarfer ymgynghori ffurfiol nodi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol posibl. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, penderfynodd Llywodraeth Cymru nad oedd angen gwelliannau pellach i'r rheoliadau ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gofynion a bennir yn y rheoliadau yn ddigonol i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr y gofrestr sy'n berthnasol i oruchwyliaeth reoleiddiol y Comisiwn o ddarparwyr cofrestredig. Bydd llawer o'r ymatebion a dderbynnir yn llywio'r gwaith o baratoi'r rheoliadau pellach sydd eu hangen a bydd yr asesiad effaith hwn yn cael ei ddiwygio yn unol â hynny. Disgwylir hefyd y bydd y Comisiwn yn cynnal ei asesiadau ymgynghori ac effaith ei hun wrth ddatblygu ei ddisgwyliadau ar gyfer sefydlu'r gofrestr ac amodau cysylltiedig.
Ni fydd y Rheoliadau hyn yn sefydlu'r gofrestr ond byddant yn darparu'r sail ddeddfwriaethol i alluogi'r Comisiwn i sefydlu'r gofrestr. Bydd y gofrestr yn galluogi rheoleiddio priodol a chymesur ar gyfer darparwyr addysg uwch sy'n derbyn arian cyhoeddus, gan gynnwys cyllid grant gan y Comisiwn a chymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr . Mae hyn yn hanfodol gan na ellir rheoleiddio darparwyr y mae eu darpariaeth addysg uwch yn cael ei hariannu'n bennaf gan ffioedd dysgu trwy delerau ac amodau'r Comisiwn o ran cyllid yn unig. Mae hyn oherwydd bod taliadau ffioedd dysgu yn ymrwymiad cytundebol rhwng darparwyr a'u myfyrwyr. Bydd y system gofrestru'n creu cysylltiad clir rhwng y manteision sy'n deillio o gael mynediad at y cyllid hwn a'r angen i sicrhau bod darparwyr addysg drydyddol yn atebol i’r cyhoedd ac yn gallu cyfrannu at flaenoriaethau strategol y Comisiwn.
Y nod hirdymor yw symleiddio'r trefniadau presennol ar gyfer darparwyr o Gymru sy'n dymuno i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr trwy ddibynnu ar un porth rheoleiddio y darperir ar ei gyfer gan y gofrestr a goruchwyliaeth reoleiddiol y Comisiwn o ddarparwyr cofrestredig.
Nid yw cofrestr y Comisiwn yn effeithio ar y trefniadau dynodi cyrsiau ar gyfer darparwyr yng ngweddill y DU, gan mai dim ond darparwyr addysg uwch yng Nghymru fydd angen cofrestru, os ydynt yn dymuno elwa o ddynodi eu cyrsiau perthnasol yn awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer dynodi cyrsiau'n awtomatig a bydd yn ymgynghori ar wahân ar hyn.
Mae sail ddeddfwriaethol y gofrestr a'r system oruchwylio reoleiddiol gysylltiedig wedi'i alluogi i addasu i anghenion y dyfodol drwy ganiatáu ehangu'r gofrestr yn y dyfodol pe bai angen polisi dros hynny yn codi. Yn y lle cyntaf, bydd darparwyr addysg bellach neu hyfforddiant yn cael eu rheoleiddio trwy delerau ac amodau cyllido. Fodd bynnag, bydd angen i ddarparwyr addysg bellach sy'n dymuno i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gofrestru gyda'r Comisiwn.
Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi'r gost amcangyfrifedig ar gyfer galluogi'r Comisiwn i sefydlu system gofrestru i fodloni'r gofynion rheoleiddiol hynny, ac i ddatblygu ei ddull penodol ei hun o fonitro ac ymyrryd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw'r Comisiwn wedi sefydlu'r gofrestr na'i disgwyliadau o ddarparwyr mewn perthynas â'r amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus. O'r herwydd, nid yw'n bosibl amcangyfrif yn llawn y costau a godir i sefydlu'r gofrestr, gwahodd ceisiadau i gofrestru a phenderfynu arnynt, gosod amodau cofrestru ac ymgymryd ag ymyriadau rheoleiddiol.
Unwaith y'i rhoddir ar waith, bydd y system reoleiddio newydd yn disodli'r drefn reoleiddio addysg uwch bresennol y darperir ar ei chyfer gan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Ni fydd yn ofynnol cael Cynllun Ffioedd a Mynediad mwyach ac yn lle hynny bydd angen i ddarparwyr cofrestredig gydymffurfio ag ystod o amodau cofrestru parhaus. I ddechrau, bydd angen adnoddau staff ychwanegol ar gyfer datblygu'r system reoleiddio newydd. Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y system reoleiddio newydd o bosibl yn gosod baich rheoleiddiol ychwanegol ar y darparwyr hynny nad ydynt yn ddarparwyr rheoleiddiedig ar hyn o bryd, gan y byddant yn ddarostyngedig i ystod ehangach o ofynion rheoleiddiol nag ar hyn o bryd. Bydd cofrestru yn wirfoddol ond bydd angen cofrestru ar ddarparwyr sy'n dymuno elwa ar ddynodiad awtomatig i'w cyrsiau addysg uwch perthnasol at ddibenion cymorth i fyfyrwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y caiff y gofrestr effaith gadarnhaol yn y tymor hir. Bydd yr amodau cofrestru yn fecanwaith allweddol ar gyfer annog a mesur cyfranogiad mewn addysg drydyddol ac ymchwil o fewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac i helpu i ddymchwel y rhwystrau sy'n bodoli o fewn y system. Byddant yn sicrhau bod gan ddarparwyr brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol ar waith i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Bydd darparwyr monitro yn helpu dros amser i nodi problemau posibl sydd angen gweithredu arnynt ac yn sbarduno newid cadarnhaol.
Adran 8: Casgliadau
Wrth ddatblygu'r cynigion hyn, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ag ystod eang o randdeiliaid wrth baratoi sefydlu'r Comisiwn a'r ddwy set gyntaf o reoliadau.
Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion polisi a rheoliadau drafft yn ymwneud â sefydlu'r gofrestr darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022. Bydd y rheoliadau, pan gânt eu gwneud, yn galluogi'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i sefydlu'r system gofrestru ar gyfer darparwyr addysg drydyddol addysg uwch yng Nghymru.
Roedd yr ymgynghoriad yn fyw rhwng 31 Hydref 2023 a 5 Chwefror 2024. Tynnwyd sylw cynulleidfa eang o randdeiliaid allweddol sydd â diddordeb mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol at yr ymgynghoriad. Cynhaliwyd dwy sesiwn friffio i randdeiliaid ar-lein ym mis Tachwedd 2023 i gefnogi'r ymgynghoriad. Eu prif amcan oedd cynorthwyo dealltwriaeth rhanddeiliaid o gwmpas a diben yr ymgynghoriad, fel bod rhanddeiliaid yn cael eu galluogi i ystyried a rhoi sylwadau ar yr wybodaeth yn well. Denodd 21 o ymatebion, yn bennaf gan sefydliadau, ac roedd y rhain wedi'u lleoli yng Nghymru yn bennaf. Gwahoddwyd ymatebwyr i adolygu'r ddogfen ymgynghori a'r wybodaeth ategol ar-lein ac ymateb i bob un o'r cwestiynau. Ar ôl cael cytundeb Gweinidogol, cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ar 2 Ebrill 2024. Roedd yr ymatebwyr yn croesawu'r cynigion yn fras. Roedd hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o ddarparwyr addysg uwch ac addysg bellach, CCAUC, a rheoleiddwyr.
Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y caiff y gofrestr effaith gadarnhaol yn y tymor hir. Effaith fwyaf arwyddocaol y cynigion fydd eu heffaith ar gydlyniad y ddarpariaeth. Bydd y Comisiwn yn gallu cymryd ymagwedd 'systemau cyfan' at y sector addysg drydyddol, gan sicrhau bod darpariaeth a chyllid yn cael eu cyfeirio lle mae eu hangen. Unwaith y'i rhoddir ar waith, bydd y system reoleiddio newydd yn disodli'r drefn reoleiddio addysg uwch bresennol y darperir ar ei chyfer gan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Ni fydd yn ofynnol cael Cynllun Ffioedd a Mynediad mwyach ac yn lle hynny bydd angen i ddarparwyr cofrestredig gydymffurfio ag ystod o amodau cofrestru parhaus. Bydd yr amodau cofrestru yn fecanwaith allweddol ar gyfer annog a mesur cyfranogiad mewn addysg drydyddol ac ymchwil o fewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac i helpu i ddymchwel y rhwystrau sy'n bodoli o fewn y system. Byddant yn sicrhau bod gan ddarparwyr brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol ar waith i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Bydd darparwyr monitro yn helpu dros amser i nodi problemau posibl sydd angen gweithredu arnynt ac yn sbarduno newid cadarnhaol.
Bydd sefydlu'r corff newydd hwn yn ei gwneud yn bosibl i gynllunio’n genedlaethol ac yn rhanbarthol mewn ffordd gryfach a mwy cadarn, bydd yn cryfhau'r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysg, ac yn darparu system addysg drydyddol sydd mewn sefyllfa well i ymateb i facro-newidiadau, i gynllunio llwybrau ar gyfer dysgwyr ac i dynnu'r sector ynghyd mewn ffordd sy'n caniatáu dysgu a datblygu sgiliau gydol oes go iawn.
Bydd y gofrestr hefyd yn sicrhau bod sefydliadau sy'n derbyn cyllid grant ymchwil y Comisiwn yn parhau i gael eu llywodraethu a'u rheoli'n dda. Bydd Cymru'n cynnal a datblygu gwaith ymchwil rhagorol o fewn y sector addysg drydyddol, gan gydweithio â sefydliadau, yn y DU ac yn rhyngwladol, i fanteisio ar gyfleoedd. Bydd gwaith ymchwil mewn darparwyr cofrestredig yn cefnogi busnesau a sefydliadau Cymru yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Bydd sefydliadau'n gweithio i gynnal a gwella partneriaethau yn eu cymuned leol a ledled Cymru, y DU a'r byd.
Bydd gan y Comisiwn ddyletswydd hefyd i hyrwyddo cenhadaeth ddinesig gan sefydliadau yng Nghymru yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Bydd hefyd yn cael ei alluogi i hyrwyddo cenhadaeth ddinesig mewn eraill, megis cyrff ymchwil ac arloesi y mae'n eu hariannu, os yw'n ystyried hynny'n briodol. Dylai'r system addysg drydyddol hefyd ddarparu arweiniad, dewis effeithiol, mynediad teg a llwybrau priodol at gyfleoedd dysgu i bawb. Dylid cryfhau economi Cymru, drwy annog menter, ymateb i anghenion cyflogwyr a galluogi sylfaen ymchwil berthnasol sy'n tyfu.
Bydd y Comisiwn yn annog y sector addysg drydyddol i gydweithredu'n effeithiol trwy fabwysiadu dull system gyfan o ymdrin â dysgwyr, lle mae addysg bellach, addysg uwch a chweched dosbarth ysgolion yn ymgysylltu â'i gilydd i wella'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y system yn darparu system sy'n canolbwyntio ar y dysgwr sy'n hyrwyddo dysgu gydol oes ac sy'n darparu dewis ac arweiniad effeithiol.
Bydd y dyletswyddau o dan Ddeddf 2022 yn chwarae rhan hanfodol yn hyn ac ar draws y system drydyddol gyfan drwy waith y Comisiwn yn datblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth, gan gynnwys hyrwyddo addysg ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Deddf 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn fonitro cydymffurfiaeth pob darparwr cofrestredig â'u hamodau cofrestru parhaus a bydd y system gofrestru yn ganolog o ran casglu gwybodaeth am gyrsiau ar gyfer goruchwyliaeth reoleiddiol. Rhaid iddo hefyd baratoi adroddiad blynyddol a chynnwys sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae'r gofyniad hwn hefyd yn cynnwys i ba raddau y darparwyd addysg drydyddol yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ba raddau y cafodd y Gymraeg ei dysgu i bobl dros oedran ysgol gorfodol yng Nghymru.
I ddechrau, bydd angen adnoddau staff ychwanegol ar gyfer datblygu'r system reoleiddio newydd. Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y system reoleiddio newydd o bosibl yn gosod baich ychwanegol ar y darparwyr hynny nad ydynt yn ddarparwyr rheoleiddiedig ar hyn o bryd, gan y byddant yn ddarostyngedig i ystod ehangach o ofynion rheoleiddiol nag ar hyn o bryd.
Cefnogi pobl a busnesau i sbarduno ffyniant
Bydd datblygiad y Comisiwn yn cryfhau lles a seiliau economaidd Cymru, drwy annog menter, ymateb i anghenion cyflogwyr a galluogi sylfaen ymchwil berthnasol sy’n tyfu. Bydd Medr yn gyfrifol am hyrwyddo ymchwil yng Nghymru a gwneud ceisiadau am arian ar ran sefydliadau yng Nghymru yn y DU a thu hwnt. Mae'r system Gofrestru yn ganolog o ran casglu gwybodaeth am gyrsiau ar gyfer goruchwyliaeth reoleiddiol o ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yn y sector addysg drydyddol, hyfforddiant ac ymchwil, a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliadau hynny, o fewn ei gylch gwaith ynghylch sicrhau ansawdd.
Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg
Bydd y system gofrestru newydd yn casglu gwybodaeth am ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yn y sector addysg drydyddol. Bydd hyn yn caniatáu i Medr herio anghydraddoldebau trwy gael darparwyr trydyddol i ganolbwyntio ar anghenion yr ardal leol ac annog darparwyr addysg drydyddol lleol i fod yn fwy cydgysylltiedig yn eu darpariaeth a sicrhau bod amrywiaeth eang o feysydd addysgol yn adlewyrchu'r anghenion o ran sgiliau.
Cefnogi pobl ifanc i gyflawni hyd eithaf eu potensial
Unwaith y bydd wedi'i sefydlu, bydd y system gofrestru yn helpu'r Comisiwn i sbarduno ffyrdd newydd ac arloesol o weithio, gan ddod â darparwyr addysg a hyfforddiant yn nes at ei gilydd. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan y dulliau cynllunio strategol a chyllido mwy cadarn, perfformiad ac atebolrwydd cryfach, a threfniadau ar gyfer gwella ansawdd. Bydd system gofrestru'r Comisiwn hefyd yn ei gefnogi i fonitro darparwyr, gan sicrhau bod ganddynt brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol ar waith i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Bydd monitro darparwyr dros amser yn helpu i nodi problemau posibl y mae angen gweithredu arnynt ac yn sbarduno newid cadarnhaol.
Meithrin uchelgais ac annog dysgu gydol oes
Bydd y Comisiwn yn darparu system sy’n canolbwyntio ar y dysgwr sydd yn hyrwyddo dysgu gydol oes ac yn cynnig dewis ac arweiniad effeithiol, ynghyd â mynediad teg at gyfleoedd a llwybrau dysgu priodol, Bydd y system gofrestru yn cefnogi'r Comisiwn i annog y sector addysg drydyddol i gydweithio'n effeithiol trwy fabwysiadu dull system gyfan tuag at ddysgwyr, lle mae addysg bellach, addysg uwch a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir yn ymgysylltu â'i gilydd i wella'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y system yn darparu system sy'n canolbwyntio ar y dysgwr sydd yn hyrwyddo dysgu gydol oes ac sy'n darparu dewis ac arweiniad effeithiol.
O ran Ymchwil ac Arloesi, bydd y Comisiwn yn ymgysylltu ar ran sefydliadau Cymru i wneud ceisiadau am gyllid Ymchwil a Datblygu ledled y DU ar sail gyfartal i sefydliadau ar draws y DU ac yn fyd-eang.
Sicrhau bod gan bawb y sgiliau cywir ar gyfer byd sy’n newid
Rhagwelir y bydd y system gofrestru yn cefnogi'r Comisiwn i gydweithio â sefydliadau, busnesau, y trydydd sector a chyrff eraill, gan ddefnyddio'r wybodaeth am gyrsiau y mae'n ei chasglu i gynyddu gallu i gynllunio ar y cyd ac addasu gyda'i gilydd i newidiadau economaidd a chymdeithasol yn y dyfodol, gan gynnwys y sgiliau sy'n ofynnol gan y gweithle.
Datblygu cymunedau, diwylliant ac iaith sy’n gydnerth
Ar ôl ei sefydlu, bydd y Gofrestr yn cefnogi nodau strategol y Comisiwn i sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol o ran addysg cyfrwng Cymraeg nac i ddysgwyr o bob oed trwy ddisodli'r trefniadau presennol sy'n dod o fewn Deddf Addysg Uwch 2015, unwaith y bydd honno wedi'i diddymu. Bydd y Comisiwn yn gallu defnyddio ei bwerau a'i ddyletswyddau ehangach o dan Ddeddf 2022 i gynyddu mynediad a darpariaeth. Mae darparu system addysg drydyddol yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i ymateb i facro-newidiadau, i gynllunio llwybrau ar gyfer dysgwyr ac i dynnu'r sector ynghyd mewn ffordd sy'n darparu ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau gydol oes go iawn, gan gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darparu seilwaith modern a chysylltiedig
Bydd y system gofrestru yn cynyddu capasiti i gynllunio ac addasu ar y cyd i newidiadau economaidd a chymdeithasol yn y dyfodol. Bydd y Comisiwn yn annog sefydliadau i weithio gyda'i gilydd i ddarparu'r cyrsiau sydd eu hangen ar gymunedau, lleihau dyblygu a chanolbwyntio ar sgiliau sy'n ofynnol gan gyflogwyr i adeiladu'r economi.
Hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd
Mae sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn rhan hanfodol o ymgysylltiad Cymru â'r byd ehangach, gan gynnwys eu darpariaeth addysg i fyfyrwyr o dramor a'u gweithgareddau ym meysydd ymchwil ac arloesi gyda phartneriaid byd-eang ac effaith y rheini. Bydd y gofrestr yn galluogi'r Comisiwn i gefnogi a rheoleiddio darparwyr yn iawn, er enghraifft drwy'r amodau ynghylch llywodraethu a rheoli effeithiol. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gynaliadwy a bod partneriaethau byd-eang hanfodol a hyrwyddo lle Cymru yn y byd ehangach yn parhau.
Mae'r Comisiwn wedi ei osod o dan ddyletswydd i roi sylw i'r angen i gynyddu'r ddarpariaeth o addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys cyrsiau addysg uwch ac addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd hyn yn helpu i gynnal defnydd o'r iaith drwy gydol addysg ac yn galluogi'r Gymraeg i gael ei hymgorffori ymhellach mewn cymunedau a fydd yn ei dro yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni'r targedau a nodir yn Cymraeg 2050. Mae'r Comisiwn hefyd o dan ddyletswydd i hyrwyddo meddylfryd byd-eang mewn addysg drydyddol ac ymchwil.
Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben
Mae'r Ddeddf yn ymdrin â nifer o feysydd sy'n ymwneud â darpariaeth addysg drydyddol. Mae'r darpariaethau hyn yn ymwneud â sefydlu corff newydd i oruchwylio addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi. Eu bwriad yw gwella addysg drydyddol yng Nghymru a galluogi darparwyr i wneud y defnydd gorau o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, ymchwil ac arloesi.
Bydd y rheoliadau hyn yn caniatáu i'r Comisiwn greu'r systemau a'r prosesau manwl sydd eu hangen i weithredu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol. Felly, mae'r asesiadau effaith wedi'u seilio ar yr wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, cyn i'r system gofrestru gael ei datblygu a dechrau gweithredu.
Fel rhan o'i broses o greu adroddiad blynyddol bydd gofyn i'r Comisiwn fyfyrio ar gynnydd yn erbyn ei gynllun strategol a fydd yn cael ei lunio mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau strategol Gweinidogion Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru'n cynnal gwerthusiad ôl-weithredol, ac yn yr un modd â rheoliad 2015 byddwn yn parhau i weithio gyda'r Comisiwn, darparwyr a chyrff cynrychiadol. Bydd angen cynllun hirdymor i gasglu tystiolaeth o gostau a manteision er mwyn darparu asesiad gwerth am arian pan fydd y rheoliadau wedi'u gwreiddio. Awgrymir bod y rhain yn cael eu hadolygu ar gyfnodau o dair blynedd a phum mlynedd. Wrth i fanylion pellach ddodi law drwy werthusiad ôl-weithredol o'r ddeddfwriaeth, a thrwy weithrediad y corff a'r system gofrestru, bydd gwell dealltwriaeth o'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig ag unrhyw newidiadau sy'n cael eu cynnig yn cael ei ddal ar y cam hwnnw mewn asesiadau effaith wedi'u diweddaru.