Carwyn Jones, First Minister
Ym mis Ionawr eleni cyhoeddais Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy’n amlinellu ein hagenda a'n blaenoriaethau ar gyfer ein gwlad wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE). Dywedais bryd hynny mai dechrau'r sgwrs oedd hyn, yn hytrach na'i diwedd, ac fe ddywedais fy mod yn bwriadu cyhoeddi cyfres o ddogfennau polisi pellach er mwyn ymestyn y drafodaeth yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig (DU). Ym mis Mehefin cyhoeddais y ddogfen gyntaf - 'Brexit a Datganoli'.
Heddiw rwy'n cyhoeddi'r nesaf yn y gyfres honno o ddogfennau polisi, Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl.
Mae'r ffordd y bydd Llywodraeth y DU yn delio â mudo i mewn ac allan o'r UE yn y dyfodol yn hanfodol wrth geisio sicrhau'r canlyniad cywir i negodiadau'r DU ar gyfer ymadael â'r UE, ac mae'n rhaid iddo fod yn ganlyniad sy'n briodol i bob rhan o'r DU. Yn y ddogfen bolisi ddiweddaraf hon ceir cynigion, wedi'u seilio ar dystiolaeth, ynghylch sut y dylid rheoli mudo rhwng yr UE a'r DU ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae'n adeiladu ar y dull gweithredu a amlinellwyd yn y lle cyntaf yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', ac yn defnyddio dadansoddiad arbenigol a ddarparwyd gan yr Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain a Dr Lydia Hayes o Brifysgol Caerdydd.
Rydym yn cynnig polisi mudo teg, lle mae cysylltiad agosach rhwng mudo a gwaith, a sylw priodol yn cael ei roi i'r mater o gamfanteisio ar weithwyr. Byddai'r ffordd hyblyg hon o reoli mudo yn golygu bod modd i bobl o Ewrop barhau i ddod i'r DU i weithio os oes ganddynt gynnig swydd o flaen llaw, neu i chwilio am waith os oes ganddynt gyfle gwirioneddol i ddod o hyd i swydd yn gyflym.
Hefyd rydym yn gosod ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem o gamfanteisio ar weithwyr drwy gamau cryfach gan Lywodraeth y DU i orfodi deddfwriaeth ac amrywiol gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, dan ein hagenda Gwaith Teg, i gefnogi gweithwyr a sicrhau mwy o gydymffurfiaeth ac arfer da ymysg cyflogwyr, gan weithio gyda phartneriaid yn yr undebau llafur. Nid mudwyr yn unig sy'n dioddef camfanteisio o’r fath, felly bydd y camau hyn yn helpu ac yn diogelu pob gweithiwr yng Nghymru.
O ganlyniad byddai Cymru a'r DU yn medru parhau i elwa ar fewnfudo, gan roi sylw ar yr un pryd i bryderon ynghylch mudo a fu'n elfen amlwg o'r drafodaeth yn arwain at y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r UE.
Byddai'r dull gweithredu hwn yn deg i ddinasyddion yr UE sydd eisoes wedi ymgartrefu yng Nghymru ac sy'n gwneud cyfraniad mawr i'n heconomi a'n cymdeithas, ond sydd wedi cael eu trin fel gwystlon mewn gêm gan Lywodraeth y DU.
Byddai'n deg i'r rhai fydd yn dod i Gymru yn y dyfodol, pobl sydd eu hangen arnom i weithio yn ein prif sectorau economaidd, ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn y byd academaidd, a phobl rydym am eu gweld yn dod i astudio yn ein prifysgolion ardderchog.
Byddai hefyd yn deg i bobl o bob cwr o Gymru sy'n teimlo dan fygythiad yn y gystadleuaeth ymddangosiadol am waith, budd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus.
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi mudo, ond rydym yn teimlo ei bod yn mynnu canolbwyntio ar darged mudo net mympwyol, nad yw’n fuddiol i Gymru, a bod perygl i hynny niweidio ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw ei hagwedd at fudo wedi'i seilio ar unrhyw dystiolaeth, fel y gwelir yn glir yn y ffaith iddi fynnu cyfrif myfyrwyr tramor o fewn ffigurau mudo net - rydym yn anghytuno'n llwyr â hynny. Seiliwyd y polisi hwnnw ar amcangyfrif cwbl wallus o nifer y myfyrwyr sy'n aros yn y DU wedi i'w fisâu ddod i ben, ffigur nad yw’n cyfateb o gwbl i'r data diweddaraf ynghylch myfyrwyr tramor sy'n gadael.
Yng ngoleuni'r dystiolaeth a'r gwaith dadansoddi yn ein papur, byddai'n siomedig - ac yn niweidiol - gweld Llywodraeth y DU yn dewis cyflwyno cyfyngiadau meintiol i system fudo ar gyfer dinasyddion yr UE. Petai’r gwaethaf yn digwydd, fodd bynnag, credwn y byddai anghenion Cymru'n cael eu diwallu'n well o gael cwota mudo llawn a theg ei hun, er mwyn i ni bennu meini prawf ein hunain ar gyfer mudo o'r UE i Gymru yn y dyfodol. Yn amlwg, nid dyma'r dull gweithredu y byddem yn ei ddewis, ond byddai'n llai niweidiol i'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus na dull gweithredu wedi'i seilio ar sectorau ar draws y DU, yn cael ei osod gan Lywodraeth y DU.
Yn ein dogfen rydym yn dangos, drwy dystiolaeth a dadansoddiad arbenigol, bod ffordd wahanol, realistig o symud ymlaen sy'n diwallu anghenion Cymru, yn cefnogi'n dyhead i gadw mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl, ac a fyddai'n gweithio i'r DU yn gyfan.Credwn fod ein cynigion yn ymarferol a bod peth tebygrwydd rhyngddynt a dulliau a rheolau a ddefnyddir mewn gwledydd eraill yn Ewrop. Felly mae'n dogfen yn cynnig sylfaen adeiladol ar gyfer negodiadau'r DU gyda'r UE ynghylch ein perthynas yn y dyfodol.
Bydd Datganiad Llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ddiwrnod cyntaf tymor newydd y Cynulliad, er mwyn medru trafod y syniadau yn ein papur yn llawn.