Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn ymateb i argymhellion Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn dilyn ymchwiliad am asedau cymunedol, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Comisiwn Asedau Cymunedol, mewn partneriaeth ag Ystadau Cymru.

Dechreuodd y comisiwn ar ei waith ym mis Mawrth 2024 ar ffurf grŵp gorchwyl a gorffen. Mae ganddo 18 aelod, sy'n cynrychioli grwpiau rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Plunkett Foundation, Un Llais Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Chymdeithas Tai Barcud. Nodir rhestr aelodaeth lawn yn yr atodiad.

Bydd ei waith yn canolbwyntio ar dir, adeiladu ac asedau naturiol – cyfleusterau lleol sy'n dod â phobl ynghyd, gan gynnwys canolfannau celf, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau hamdden a mannau gwyrdd. Mae asedau yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol a'r rhai sydd o dan berchnogaeth gymunedol i gyd o fewn cwmpas y comisiwn. 

Bydd ymchwil academaidd annibynnol a gweithdai rhanddeiliaid thematig yn cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd o 24 Medi i ddeall yr heriau sy'n wynebu asedau cymunedol; opsiynau ar gyfer perchnogaeth a rheolaeth, ac i gwmpasu cynigion i ddatblygu'r agenda asedau cymunedol ymhellach.

Cyhoeddir cylch gorchwyl y comisiwn ar wefan Ystadau Cymru yn www.llyw.cymru/ystadau-cymru

Atodiad: Aelodaeth y Comisiwn Asedau Cymunedol

Cadeirydd: Gwyn Roberts, Galeri Caernarfon

Sara Nason, Prifysgol Bangor

Richard Baker, Llywodraeth Cymru          

Andrew Charles, Llywodraeth Cymru

Chris Buchan, Llywodraeth Cymru

Neil Frow, Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG 

Dominic Driver, Cyfoeth Naturiol Cymru

Lorna Cross, cynrychiolydd awdurdod lleol

Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru 

John Rose, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Alun Jones, WCVA 

Casey Edwards, CWMPAS

Chris Blake, Cymru Gynaliadwy

Meleri Davies, Partneriaeth Ogwen

Chris Cowcher, Plunkett Foundation 

Adam Kennerley, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru

Joanna Rees, Barcud        

Jonathan Fearn, Cyngor Sir Caerfyrddin