Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, Asedau Cymunedol Ystadau Cymru

Cyflwyniad

Clywodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd (y Pwyllgor) dystiolaeth mewn cysylltiad â'u hymchwiliad i asedau cymunedol yn ystod Haf 2022.

Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad:

  • A yw'r fframwaith statudol a pholisi presennol yn grymuso cymunedau yng Nghymru i ddatblygu asedau cymunedol.
  • I ba raddau y mae’r cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn hyrwyddo ac yn cefnogi datblygiad effeithiol asedau cymunedol.
  • Archwilio'r rhwystrau a'r heriau y mae cymunedau yn eu hwynebu wrth gymryd perchnogaeth o asedau sy’n eiddo cyhoeddus neu breifat, gan gynnwys cyllid a gwasanaethau cymorth.
  • Darganfod pa wersi y gellir eu dysgu o du hwnt i ffiniau Cymru.

Y cylch gorchwyl hwn yw'r sail ar gyfer gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a'r nod cyffredinol yw ysgogi meddwl arloesol am berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru. Er bod cyfeiriad at berchnogaeth, dylid ystyried dewisiadau amgen hefyd, megis stiwardiaeth, yr hawl i'w defnyddio etc, er mwyn adlewyrchu modelau gwahanol lle gall cymunedau reoli a/neu gymryd rheolaeth o asedau lleol.

Er mwyn cyflawnrwydd, mae manylion holl argymhellion adroddiad Pwyllgor y Senedd ac sy'n berthnasol i waith y grŵp hwn yn Atodiad 1.

Beth ydyn ni'n ei olygu wrth asedau cymunedol yng nghyd-destun gwaith y grŵp?

Diffiniadau

Er bod diffiniadau wedi'u nodi isod i ffurfio rhan o'r cylch gorchwyl, dylid cofio nad yw diffiniadau penodol mewn perthynas â'r materion hyn yn debygol o fod yn gwbl foddhaol ac efallai na fyddant yn ddefnyddiol maes o law - felly dylid ystyried y rhai a ddarperir fel rhai dros dro sydd i'w hadolygu wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Asedau cymunedol

Mae gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn canolbwyntio ar asedau tir, adeiladau ac asedau naturiol yn hytrach nag asedau anniriaethol. Cyfleusterau lleol sy'n dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys tafarndai, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, mannau gwyrdd, canolfannau celfyddydau a chanolfannau hamdden. Mae asedau sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol/cymunedol i gyd o fewn y cwmpas hwn.

Cymuned

Mae sawl diffiniad posibl o "gymuned" mewn perthynas ag asedau cymunedol.  Prif ffocws y gwaith hwn fydd ar gyfleusterau sydd â gwerth a phwysigrwydd sylweddol i ardaloedd penodol - rhai daearyddol bach fel arfer - fel pentref, ystad dai neu ran benodol o dref, dinas neu ardal wledig.   Ar yr un pryd, fodd bynnag, bydd "cymunedau o ddiddordeb" – h.y. grwpiau o bobl sy'n cael eu cysylltu gan gefndir, diddordebau, diwylliant neu bryderon cyffredin – yn bwysig hefyd.  Mewn llawer o achosion, bydd ffocws daearyddol yn cael ei gyfuno ag un neu fwy cymuned o ddiddordeb mewn cysylltiad ag ased cymunedol penodol.

Diben/Rôl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen

  • Cynghori Gweinidogion dros Newid Hinsawdd, Llywodraeth Leol a Chyllid a Chyfiawnder Cymdeithasol (y Gweinidogion) yn unol ag argymhellion Adroddiad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd ar Asedau Cymunedol (2022).
  • Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn para am hyd at ddwy flynedd a bydd yn dod i ben unwaith y bydd argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i'r Gweinidogion gan y Cadeirydd.
  • Bydd y Grŵp yn cael ei ategu gan ymchwil academaidd, ymgysylltu â rhanddeiliaid a thystiolaeth a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio). Yr Athro Andrew Flynn yw'r arweinydd academaidd ar gyfer y gwaith hwn.

Aelodaeth

  • Nodir aelodaeth o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn Atodiad 2
  • Bydd y Grŵp yn cael ei gadeirio gan Gwyn Roberts.
  • Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldeb cyffredinol dros adrodd yn ôl i'r Gweinidogion a bydd ganddo gymorth ysgrifenyddiaeth - i'w ddarparu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Ond mae'n bwysig pwysleisio y bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn gynnyrch grŵp, a bydd yn cynnwys cyfres o argymhellion. 

Cyfarfodydd

  • Cynhelir cyfarfodydd y Grŵp yn dilyn pob gweithdy yn Atodiad 3. Gwahoddir aelodau'r Grŵp i'r gweithdai hynny fel rhanddeiliaid ond ni fydd yn ofynnol iddynt fod yn bresennol.
  • Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn trefnu ac yn cofnodi cyfarfodydd, i'w cynnal ar Microsoft Teams. 
  • Bydd gofyn i aelodau enwebedig o'r Grŵp fynychu pob cyfarfod lle bo modd a bydd y cyfarfodydd hyn ar gau i'r cyhoedd. Bydd dirprwyon hefyd yn cael eu hystyried. 

Atodiad 1

Argymhelliad 1

Camau gweithredu’r Comisiwn: 

Ysgogi meddwl arloesol ar berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru.

Gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer ei waith.

Gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Argymhelliad 9

Camau gweithredu’r Comisiwn: 

Pecyn Cymorth – archwilio gyda rhanddeiliaid y pecyn cymorth sydd ei angen ar gymunedau er mwyn prynu neu brydlesu tir neu asedau.

Argymhelliad 10

Camau gweithredu’r Comisiwn: 

Fframwaith Rheoleiddio - archwilio opsiynau, gan gynnwys deddfwriaeth i roi cyfle cyfartal i gymunedau wrth gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat wrth brynu asedau o ddiddordeb.

Argymhelliad 11

Camau gweithredu’r Comisiwn: 

Cyllid - Adolygu'r ffrydiau ariannu sy'n cefnogi asedau cymunedol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Lleol, ac archwilio opsiynau i gynyddu'r cyllid benthyg fforddiadwy sydd ar gael i grwpiau cymunedol.

Argymhelliad 12

Camau gweithredu’r Comisiwn: 

Cyllid - Ystyried sefydlu cronfa asedau cymunedol.

Argymhelliad 13

Camau gweithredu’r Comisiwn: 

Fframwaith Rheoleiddio - Ystyried a fyddai cofrestr o asedau'n fuddiol o ran grymuso cymunedau i fod yn gyfrifol am asedau yr hoffent eu gweld yn parhau. (Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn edrych i ehangu'r data sydd ar gael ar DataMap Cymru i gynnwys pob tir cofrestredig. Bydd hyn yn cynnwys 85% o'r eiddo).  

Argymhelliad 15

Camau gweithredu’r Comisiwn: 

Fframwaith Rheoleiddio - ystyried opsiynau ar gyfer datblygu deddfwriaeth benodol i Gymru, wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion Cymru.

Atodiad 2: aelodaeth

CadeiryddGwyn Roberts 

Galeri Caernarfon

Cynllunydd tref Siartredig a Syrfëwr Siartredig

Academydd   Sara Nason 

Asedau Gwledig: Dealltwriaeth polisi ac ymarfer gan y gwledydd datganoledig

Arbenigwr Cyfreithiol – Prifysgol Bangor

Llywodraeth Cymru

Richard Baker 

 

Dirprwy Gyfarwyddwr – Is-adran Lle,

Bwrdd Ystadau Cymru

Llywodraeth CymruPaul DearDirprwy Gyfarwyddwr - Cymunedau
GIG CymruNeil Frow

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru 

Bwrdd Ystadau Cymru

Cyfoeth Naturiol CymruDominic DriverPennaeth Stiwardiaeth Tir
Awdurdod LleolLorna Cross

Cyngor Bro Morgannwg

Is-Gadeirydd Bwrdd Ystadau Cymru

Cynghorau Tref a Chymuned

 

Lyn Cadwallader 

Un Llais Cymru 

Bwrdd Ystadau Cymru

Trydydd Sector - GrantiauJohn RoseCronfa Gymunedol y Loteri Cymru

Trydydd Sector - Benthyciadau

 

Alun Jones

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 

Bwrdd Ystadau Cymru 

Trydydd SectorCasey EdwardsCWMPAS – Tai Cymunedol a busnes cymdeithasol
Trydydd Sector / Annibynnol Chris BlakeCymru Gynaliadwy (Skyline gynt), y Cymoedd Gwyrdd ac Ynni Cymunedol Cymru
Trydydd SectorMeleri DaviesPrif Swyddog - Partneriaeth Ogwen
Y Trydydd Sector Chris CowcherPennaeth Polisi a Chyfathrebu Sefydliad Plunkett 
AnnibynnolAdam Kennerley

Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru 

 

Galluogydd Tai GwledigJoanna ReesBarcud
Awdurdod LleolJonathan Fearn

Pennaeth Tai, Eiddo a Phrosiectau Strategol

Cyngor Sir Caerfyrddin 

Atodiad 3: Cynllun gwaith arfaethedig dan arweiniad Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd

Gweithdy 1

Rhannu gwybodaeth am y system bresennol o asedau cymunedol.

Mapio canfyddiadau rhanddeiliaid o agenda, rhwydweithiau, bylchau gwybodaeth a dadleuon mewn perthynas ag Asedau Cymunedol.

Safbwyntiau cymunedol ar drosglwyddo a rheoli asedau, heriau a chyfleoedd sy’n dod yn sgil gwahanol fathau o asedau, sut mae asedau'n cyfrannu at gymuned a beth fyddai eu habsenoldeb yn ei olygu.

Cytundeb ar bwrpas, cwmpas, a ffyrdd o weithio. Yr uchelgais gyffredinol. Materion allweddol. Eraill y dylid eu gwahodd. Y sail dystiolaeth

Gweithdy 2

Archwilio arferion effeithiol ac aneffeithiol o Gymru a llefyff eraill.

Lleisiau cymunedol ar eu syniadau ynghylch sut i ddefnyddio asedau er lles y gymuned.

Archwilio cymhellion cymunedau, yr hyn sy'n eu rhwystro neu'n eu hannog i reoli asedau. Nodi ffactorau ar gyfer llwyddiant a methiant.

Ymchwilio i sut mae'r rhai sydd ag asedau (e.e. Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, llywodraeth leol, elusennau a pherchnogion tir / adeiladau eraill) yn meddwl am asedau cymunedol. Pa asedau y gallai fod eu hangen arnynt neu y gallent fod eisiau eu trosglwyddo i berchnogaeth gymunedol. Sut mae perchnogion asedau yn meddwl am gytundebau rheoli tymor hir.

Archwilio cymhellion wrth drosglwyddo asedau, o'r rhai fel cynghorau sydd efallai’n prynu tir fferm er mwyn prydlesu, datblygu sgiliau gwledig a bioamrywiaeth er budd y cyhoedd, i'r sefydliadau hynny sydd angen mantoli'r gyllideb a symud rhwymedigaeth allan o'r portffolio eiddo.

Gweithdy 3

Allgymorth: Gweithio gydag ymarferwyr, cymunedau a llunwyr polisi - dullai o weithio i reoli asedau cymunedol.

Esboniad o sut mae'r system cynllunio defnydd tir yn gweithio a sut mae penderfyniadau defnydd tir yn cael eu gwneud gan lywodraeth leol, yn enwedig mewn perthynas â thai.

Mynediad at gyllid ar gyfer asedau cymunedol a'u rheolaeth.

Gallu cymunedol i gymryd rhan mewn proses trosglwyddo asedau a'u rheolaeth barhaus.

Rôl Llywodraeth Cymru wrth osod y cyd-destun strategol ar gyfer asedau cymunedol.

Rôl llywodraeth leol wrth drosglwyddo a rheoli asedau: darparu sgiliau ac arweinyddiaeth 

Cyfrifoldebau a rhwymedigaethau tirfeddianwyr preifat a landlordiaid mewn perthynas ag asedau cymunedol.

Gwahanol fathau o asedau cymunedol a modelau perchnogaeth / stiwardiaeth / prydlesu. Beth sy'n gweithio orau a pham? Enghreifftiau o arferion da/gwael. Beth allwn ni ei ddysgu?

Beth mae pawb yn credu yw'r rhwystrau a'r galluogwyr ar gyfer dulliau gwahanol o reoli asedau.

Gweithdy 4

Archwilio opsiynau i wella'r 'System'.

Dysgu o lefydd eraill (e.e. profiad yr Alban o fynediad i dir, profiad Lloegr o 'Community Rights to Bid')

Opsiynau ar gyfer mathau gwahanol o asedau cymunedol, eu trosglwyddo, eu gwerth a'u llywodraethiant. Archwilio sut gall mathau gwahanol o ddeilliannau lles godi o wahanol asedau.

Nodi tueddiadau'r dyfodol a'u goblygiadau ar gyfer asedau cymunedol. Er enghraifft, mewn hinsawdd sy'n prysur newid, creu mannau cynnes neu oer i bobl agored i niwed, llefydd i rannu'r gwaith o baratoi bwyd a’i fwyta, newidiadau ym mioamrywiaeth mannau gwyrdd.

Gwneud y mwyaf o fuddion niferus asedau cymunedol (e.e. gwella cyfalaf cymdeithasol o fewn cymuned).

Dulliau newydd o gynnwys cymunedau a rheoli asedau cymunedol a pham eu bod nhw'n gweithio ac yn methu - enghreifftiau o Gymru, yr Alban, Lloegr.

Beth sydd ei angen er mwyn gwella'r profiad o reoli asedau cymunedol gan gymunedau, a gan bwy. Nodi perthnasoedd a chyfrifoldebau'r rhai sy'n trosglwyddo asedau yn barhaus.

Gweithdy 5

Strategaeth, arweinyddiaeth ac adnoddau - Cyflawni newid.

Creu opsiynau gwahanol o ran sut y gellir trosglwyddo asedau, archwilio blaenoriaethau ar gyfer cymunedau a'r rhai sy'n dymuno trosglwyddo asedau. Beth yw’r pethau sydd angen cyfaddawdau arnynt wrth gymryd cyfrifoldeb am fathau gwahanol o asedau? Beth yw anfanteision peidio â throsglwyddo ased i'r gymuned?

Mentrau cyllid, polisi a rheoleiddio a fyddai'n galluogi opsiynau arloesol hyfyw ar gyfer trosglwyddo a rheoli asedau. Er enghraifft, mae angen cydnabod hyfforddiant, meithrin gallu, a rheolaeth barhaus ased o fewn cymuned.

Pwy fydd yn rhoi arweiniad wrth nodi cyfleoedd ar gyfer trosglwyddo asedau? Pa rwydweithiau sydd angen eu datblygu i wireddu trosglwyddo ased? Sut fydd cyfrifoldebau'n cael eu neilltuo wrth drosglwyddo ased?

Sut gall cymunedau ddysgu oddi wrth ei gilydd am eu profiadau o drosglwyddo a rheoli asedau? Pa adnoddau sydd eu hangen er mwyn helpu i feithrin sgiliau a gwybodaeth? Sut mae modd rhannu sgiliau a gwybodaeth rhwng cymunedau?