Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am sefydlu Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a ddaeth yn weithredol ar 1 Awst 2024. Mae Medr yn gorff hyd braich newydd sy’n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru. Mae'n garreg filltir gyffrous. Am y tro cyntaf yng Nghymru, rydym yn tynnu ynghyd mewn un lle y gwaith o oruchwylio addysg uwch ac addysg bellach; chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol; prentisiaethau; dysgu oedolion yn y gymuned a dysgu seiliedig ar waith; ac ymchwil ac arloesi.
Mae'r cyllid ar gyfer 2024 – 25 bellach yn ei le, ac mae Medr yn paratoi ei gynllun strategol cyntaf mewn ymateb i flaenoriaethau'r llywodraeth a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Bydd y cynllun strategol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr. Edrychaf ymlaen at gydweithio â Medr a'r sector yn ehangach i lunio a sbarduno gwelliant ar draws y sector addysg drydyddol yng Nghymru, a chynyddu ac ehangu cyfranogiad mewn addysg ôl-16. Hoffwn ddiolch i bawb fu'n rhan o hyn am eu hymrwymiad a'u gwaith caled sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y pwynt hwn.
Rwyf hefyd yn falch o roi gwybod i chi bod tri Aelod Cyswllt wedi ymuno â bwrdd Medr ar 1 Medi am gyfnod o 4 blynedd. Bydd Aelodau Cyswllt nid yn unig yn helpu i gefnogi'r cyfeiriad strategol, ond hefyd yn dod â safbwynt amhrisiadwy o'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan hyrwyddo anghenion dysgwyr a'r gweithlu mewn addysg drydyddol.
Dyma'r Aelodau:
Aelod y Dysgwyr Deio Owen. Llywydd UCM Cymru
Aelod o'r Gweithlu Addysg (academaidd): Estelle Hart. UCU
Aelod o'r Gweithlu Addysg (anacademaidd): Daniel Beard, Unsain