Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Ar 6 Rhagfyr 2016, cyhoeddais fod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw’r Adar. Gwnes hynny fel ymateb i’r achosion o’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N8 a gafwyd ar draws Ewrop, Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol. Mesur rhagofalus oedd hwn i leihau’r risg i ddofednod ac adar caeth gael eu heintio gan adar gwyllt. Gwnaed y datganiad o dan Erthygl 6 Gorchymyn Ffliw’r Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006
Mewn Parth Atal, rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gadw eu hadar dan do neu gymryd pob cam priodol i’w cadw nhw ac adar gwyllt ar wahân, a gwella’r mesurau bioddiogelwch ar eu heiddo. Cyflwynwyd mesurau tebyg yn Lloegr a’r Alban, gan sicrhau bod yr un drefn mewn grym ledled Prydain. Cyhoeddodd Gogledd Iwerddon ddatganiad ar Barth Atal Ffliw’r Adar ar 23 Rhagfyr 2016.
Ar ôl cadarnhad bod achos o’r Ffliw Adar wedi taro fferm dyrcwn fasnachol yn Lincolnshire ar 16 Rhagfyr 2016, cyhoeddwyd gwaharddiad dros dro ar grynhoi dofednod yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gwaharddiad hwn yn parhau mewn grym.
Hyd yma, yr unig achos o Ffliw’r Adar Pathogenig Iawn a gafwyd mewn adar domestig yng Nghymru yw’r hwnnw a gadarnhawyd ar 3 Ionawr 2017 mewn haid o ieir a hwyaid mewn gardd gefn ym Mhont-y-berem, Sir Gaerfyrddin. Gosodwyd cyfyngiadau ar y safle yn syth a chafodd yr adar eu difa. Gosodwyd Parth Amddiffyn 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km o gwmpas y safle i rwystro’r clefyd rhag lledaenu.
Ar 4 Ionawr, estynnais gyfnod Parth Atal Ffliw’r Adar iddo ddod i ben ar 28 Chwefror. Gwnes hynny fel ymateb i’r achosion yn Sir Gâr a Lincolnshire mewn dofednod ac ar ôl cael hyd i’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn mwn adar gwyllt marw ledled Prydain gydol mis Rhagfyr 2016, gan gynnwys chwiwell yn Sir Gaerfyrddin. Estynnodd Lloegr a’r Alban eu Parthau Atal hwythau tan 28 Chwefror.
Yn sgil cynnal y mesurau rheoli gofynnol yn y Parth Amddiffyn yn Sir Gâr, penderfynwyd ei uno â’r Parth Gwyliadwriaeth ar 26 Ionawr, a gafodd ei ddiddymu ar 4 Chwefror. Ers yr achos yn Sir Gâr, cafwyd 6 achos pellach ym Mhrydain, bob un ohonyn nhw yn Lloegr (cyfanswm o 8 achos hyd yma) ac achosion eraill mewn adar gwyllt marw, gan gynnwys rhai yng Nghymru. Y disgwyl yw y gwelir mwy.
Nid yw lefel y risg i adar gwyllt drosglwyddo’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn i ddofednod ac adar caeth eraill yn debygol o newid cyn y daw Parth Atal Ffliw’r Adar i ben ar 28 Chwefror. O ystyried y perygl hwnnw ac ar ôl holi barn cynrychiolwyr y diwydiant ac arbenigwyr, rwyf wedi penderfynu estyn cyfnod Parth Atal Ffliw’r Adar tan 30 Ebrill 2017. Daw’r datganiad newydd i rym o 00.01 ar 28 Chwefror 2017 a cheir rhai newidiadau pwysig i’r mesurau fydd mewn grym yn y Parth Atal.
Bydd gofyn cyfreithiol ar i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill gynnal hunan-asesiad o gyflwr bioddiogelwch eu safle, gan ddefnyddio ffurflen a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Caiff ceidwaid ddewis un neu fwy o dri opsiwn: parhau i gadw eu hadar dan do, eu cadw nhw’n gwbl ar wahân i adar gwyllt neu rhoi rhyddid cyfyngedig i’w hadar allu mynd allan cyn belled ag y cedwir at fesurau ychwanegol i leihau’r risg.
Cyfrifoldeb y ceidwad fydd penderfynu pa opsiwn neu opsiynau fyddai fwyaf priodol iddyn nhw o ran amddiffyn eu hadar. Rhaid cadw copi o’r ffurflen hunan-asesu a bydd gofyn ei dangos pan fydd swyddogion archwilio neu orfodi’n gofyn amdani.
Yn fy marn i, mae Cymru gyfan mewn perygl a dyna’r rheswm pam y bydd y mesurau y byddaf yn eu cyflwyno ar 28 Chwefror yn effeithio ar y wlad gyfan. Mae fy mhenderfyniad i gyhoeddi Parth Atal Ffliw’r Adar arall a’r mesurau gweithredu a rheoli rwyf wedi’u datgan hyd yma yn gymesur. Rwyf wedi targedu’r gweithgareddau uchaf eu risg er mwyn lleihau’r effaith ar fasnach ryngwladol, yr economi a chynaliadwyedd y diwydiant dofednod maes yng Nghymru.
Rwy’n atgoffa pob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill o’r angen i gadw at fesurau Parth Atal Ffliw’r Adar a’r mesurau gofynnol eraill. Rwyf am i bawb fod yn ymwybodol o’m bwriadau nawr fel bod gan geidwaid yr amser i gynnal yr hunan-asesiad a pharatoi’u hunain ar gyfer y mesurau newydd a ddaw i rym o 28 Chwefror.
Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill fod yn effro i arwyddion y clefyd. Mae Ffliw’r Adar yn glefyd hysbysadwy ac os ydych yn credu bod posibilrwydd y gallai’r clefyd fod ar eich adar, cysylltwch ar unwaith â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae perygl i hyd yn oed adar dan do gael eu heintio a dylai ceidwad gynnal y lefelau bioddiogelwch uchaf.
Rwy’n parhau i bwyso’n gryf ar geidwaid dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestrfa Dofednod. Bydd modd wedyn gysylltu â nhw’n syth, trwy e-bost neu neges destun, os bydd achos o glefyd adar yn taro, er mwyn iddyn nhw allu cymryd camau buan i amddiffyn eu haid.
Os hoffech wybodaeth am amodau Parth Atal Ffliw Adar, arweiniad a hanes y datblygiadau diweddaraf, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
http://gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/disease/avianflu/?skip=1&lang=cy