Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Mae’r Rhaglen Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol yn anelu at gefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau i drawsnewid eu gwasanaethau, moderneiddio eu cyfleusterau ac i wella’r hyn a gynigir ganddynt i bobl a chymunedau. Mae’r rhaglen yn fuddsoddiad pellach yn ein sectorau diwylliannol lleol.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella mynediad, gweithio mewn partneriaeth, datgarboneiddio a datblygu gwasanaethau mwy cynaliadwy. Ers 2017 darparwyd dros £10.5 miliwn, gan helpu i drawsnewid y gwasanaethau hanfodol hyn.
Bydd cylch 2024-25 yn cefnogi 6 phrosiect, 3 amgueddfa a 3 llyfrgell. Mae gwerth rhaglen eleni ychydig dros £1.271 miliwn.
O drawsnewid safleoedd i gael eu defnyddio’n well mewn cymunedau, gan alluogi mwy o fynediad a chyfranogiad a chefnogi iechyd a lles defnyddwyr, i gadw casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae’r rhaglen yn gyfle hanfodol i’r gwasanaethau hyn a’u cymunedau.
Mae pob un o’r prosiectau yn cyd-fynd ac yn cefnogi’r nodau llesiant a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ein hymrwymiadau yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’n cynnydd o ran Cymru Sero Net.
Bydd prosiect Amgueddfa Criced Cymru CC4 Mae criced wedi bod, ac yn dal i fod, yn gêm i bawb yn elwa ar gyfraniad grant i gefnogi'r amgueddfa i gadw a dathlu criced a'i dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a chynyddu cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig lleol.
Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Sir Ddinbych ddatblygu Plas Newydd, gan wella eu mannau arddangos i alluogi mwy o fynediad at stori a chasgliadau Merched Llangollen.
Mae gwybodaeth am yr holl brosiectau sy’n cael eu hariannu drwy’r cyfnod grant diweddar ar gael yma: https://www.llyw.cymru/rhaglen-grant-cyfalaf-trawsnewid-grantiau-ddyfarnwyd
Mae cyfnod grant arall wedi cau yn ddiweddar a bydd yn darparu cyllid i brosiectau llwyddiannus o fis Ebrill 2025.