Mae mesurau i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru, gan gynnwys ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, wedi dod yn gyfraith, gan fod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) wedi cael sêl swyddogol.
Mae'r ddeddfwriaeth newydd, a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, yn sefydlu cyfres o newidiadau i wella'r systemau trethi. Bydd yn eu gwneud yn decach ac yn sicrhau eu bod yn gweithio'n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod trethi lleol yn cyd-fynd yn fwy cyson ag amgylchiadau economaidd.
Mae wedi cyflwyno newidiadau pwysig i'r system trethi lleol ac wedi creu fframwaith ar gyfer Cymru fodern, gan ddarparu'r dulliau angenrheidiol o addasu trethi lleol yn y dyfodol, wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid.
Yn y seremoni selio, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:
"Mae ymchwil a phrofiad helaeth, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19 a'r argyfwng costau byw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi dangos bod angen i'n systemau trethi lleol fod yn fwy hyblyg fel y gallwn ymateb i’r amodau newidiol sy’n wynebu pobl a busnesau.
"Rwy'n falch bod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn darparu'r fframwaith sydd ei angen arnom i foderneiddio ein trethi annomestig a'n systemau treth gyngor yn y dyfodol. Mae trethi lleol yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol, y mae pob un ohonom yn cael budd enfawr ohonynt.
"Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith gyda’r Ddeddf bwysig hon, yn enwedig llywodraethau lleol, a sefydliadau sy'n cynrychioli aelwydydd a busnesau."