Mae ATRS yn ddull wedi’i safoni o gofnodi sut mae’r sector cyhoeddus yn defnyddio offer algorithmig ac o rannu’r wybodaeth hon.
Y safon cofnodi tryloywder algorithmig (ATRS)
Mae offer algorithmig a Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn cael eu defnyddio fwyfwy i gefnogi’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ATRS yn ffordd o rannu gwybodaeth â'r cyhoedd am yr hyn sy’n cael ei ddefnyddio, ymhle a sut.
Mae ATRS yn ddull wedi’i safoni o gofnodi gwybodaeth am yr offer algorithmig yr ydych yn eu defnyddio mewn fformat hygyrch a di-dâl, ac o rannu’r wybodaeth hon. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi argymell bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn mabwysiadu ATRS.
Cafodd ATRS ei datblygu gan:
- y Swyddfa Digidol a Data Ganolog
- yr Uned Mabwysiadu Technoleg Gyfrifol
- grwpiau cymdeithas sifil
- arbenigwyr allanol
Mae ATRS wedi cael ei chreu i’w defnyddio gan sefydliadau’r sector cyhoeddus sydd ag offer algorithmig:
- sy’n cael dylanwad sylweddol ar y broses gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar y cyhoedd
- sy’n rhyngweithio’n uniongyrchol â’r cyhoedd
Drwy ddefnyddio ATRS, bydd sefydliadau yn rhannu cofnodion fel cofrestr fyw, gan gynnwys gwybodaeth fel:
- sut mae offer algorithmig yn gweithio
- sut maen nhw’n cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau
- pa broblem mae sefydliad yn ceisio ei datrys drwy ddefnyddio’r offer
- y cyfiawnhad neu’r rhesymeg dros eu defnyddio
- pwy yw perchennog yr offer ac sy’n gyfrifol amdanynt felly
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Cymeradwyaeth
Mae’r Comisiwn AI wedi cymeradwyo y dylid mabwysiadu’r ATRS fel canllaw ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd ATRS yn helpu i wella tryloywder o ran defnyddio AI ar draws y sector i gleifion ac i staff. Bydd hefyd yn cefnogi dulliau diogel a moesegol o fynd ati i fabwysiadu technoleg AI er mwyn gwella gofal i gleifion.
I gael arweiniad ar sut i gydymffurfio â ATRS, dylech gyfeirio at hwb ATRS Llywodraeth y DU.