Cyfarfod Bwrdd Teithio Llesol: 26 Mai 2023
Crynodeb o gofnodion o gyfarfod y Bwrdd Teithio Llesol ar 26 Mai 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Strwythur y bwrdd
Esboniodd y Cadeirydd rôl a diben y bwrdd:
- craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru, a chyrff eraill sy'n gyfrifol am gyflawni.
- llunio adroddiad blynyddol ar gynnydd, gan gynnwys data cenedlaethol ar fesurau canlyniadau teithio llesol.
- dod â phartneriaid cyflawni at ei gilydd i rannu arferion gorau a nodi heriau.
Cytunodd y bwrdd y dylid sefydlu teithio llesol i'r ysgol (o dan gadeiryddiaeth Chris Roberts a Rhiannon Letman) a theithio llesol cynhwysol (o dan gadeiryddiaeth Christine Boston) fel is-grwpiau o'r bwrdd.
Cynllun cyflawni teithio llesol
Rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar gefndir a chynnydd drafft y cynllun cyflawni teithio llesol.
Mewn ymateb, roedd y Bwrdd o'r farn nad oedd y Cynllun yn cynnwys digon o ddata yn erbyn targedau na synergedd. Cytunodd yr aelodau ei fod wedi cael ei wella ers y cynllun blaenorol, ond roeddent o'r farn nad oedd yn ddigon uchelgeisiol, hyd yn oed wrth ystyried y cyfyngiadau o ran adnoddau. Cytunodd y Cadeirydd i gynnal cyfarfod â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i drafod sut y gall gefnogi'r cynllun teithio llesol.