Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Rydym yn ceisio barn ar gyfarwyddydau statudol a chanllawiau statudol newydd drafft ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae'r cynigion hyn yn rhan allweddol o'r gwaith o ddatblygu a bwrw ymlaen â chyfres o argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn eu hadroddiad terfynol, 'Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru'.

Cyflwyniad

Cafodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, a oedd yn gweithredu o fis Hydref 2018 i fis Gorffennaf 2022, y dasg o ddarparu cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar nifer o feysydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru. Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2016, adolygiad o 'Ymestyn Hawliau' yn 2018, yn ogystal ag arolwg Estyn o wasanaethau i bobl ifanc yng Nghymru yn 2018.

Roedd adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021, yn nodi 14 o argymhellion gyda'r nod o sicrhau model cyflenwi cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Un ohonynt oedd cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae deddfu i greu fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.

Yn dilyn gwaith manwl gyda Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid, ymarferwyr a chynrychiolwyr eraill o bob rhan o'r sector a thu hwnt, yn ogystal â phobl ifanc, rydym nawr am wahodd ymatebion i gynigion drafft i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid.

Mae'r cynigion hyn yn canolbwyntio ar gyflwyno canllawiau statudol a chyfarwyddydau statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon fel y fframwaith statudol newydd.

Mae'r fframwaith statudol hwn yn ymgorffori'r elfennau allweddol canlynol: 

  • diffiniad o waith ieuenctid fel rhan o wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach
  • cyflwyno hawlogaeth gwaith ieuenctid newydd i bobl ifanc 
  • mecanwaith cynllunio ac adrodd strategol diwygiedig ar gyfer gwaith ieuenctid

Mae'r gwaith yn parhau ar nifer o argymhellion eraill y Bwrdd Dros Dro, ac mae rhagor o fanylion am ffocws presennol y gwaith hwn i'w gweld mewn datganiad a wnaed gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd ym mis Rhagfyr 2023.

Yr angen am ddiffiniad cyson o waith ieuenctid o fewn cyd-destun deddfwriaethol

Mae statws gwaith ieuenctid yng Nghymru ac absenoldeb diffiniad cryf a chyson wedi bod yn thema ganolog a chyson mewn trafodaethau polisi diweddar.

Er enghraifft, daeth adolygiad thematig a gynhaliwyd gan Estyn yn 2018 i'r casgliad a ganlyn. 

Ceir diffyg eglurder ymhlith darparwyr gwasanaeth a llunwyr polisi ynglŷn â’r derminoleg a ddefnyddir wrth drafod gwasanaethau i gynorthwyo pobl ifanc. Mae’r term ‘gwaith ieuenctid’ yn cael ei ddrysu’n aml â ‘gwaith gyda phobl ifanc’.

Amlygwyd yr angen am ddiffiniad cadarn o waith ieuenctid yn adroddiad terfynol y Bwrdd Dros Dro. 

Mae sail ddeddfwriaethol bresennol gwasanaethau gwaith ieuenctid yn wan ac yn agored i'w dehongli... At hynny, nid yw'r ddeddfwriaeth gyfredol yn diffinio gwasanaethau gwaith ieuenctid fel un o swyddogaethau statudol awdurdodau lleol, a all arwain at sefyllfa lle mae awdurdodau lleol yn ystyried bod gwasanaethau gwaith ieuenctid yn rhywbeth dymunol yn hytrach na gwasanaeth hanfodol i bobl ifanc.

Mae hyn hefyd wedi'i ategu yn ein gwaith ymgysylltu â llawer o randdeiliaid sydd wedi sôn am yr angen i ddiogelu gwaith ieuenctid fel gwasanaeth fel bod ei natur neilltuol fel dull o weithio gyda phobl ifanc yn cael ei ddeall a'i werthfawrogi'n llawn.

Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, rydym yn cynnig bod pob awdurdod lleol yn cael cyfarwyddyd i ddarparu gwasanaeth gwaith ieuenctid neilltuol o fewn y gwasanaethau cymorth ieuenctid ehangach y mae'n eu darparu i bobl ifanc. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi gosod diffiniad o waith ieuenctid o fewn deddfwriaeth fel y gellir dal pob awdurdod lleol yn atebol am ei gyflenwi.

Ein cynnig yw bod gwaith ieuenctid yn cael ei ddiffinio fel:

'gwasanaethau a ddarperir o fewn y gwasanaeth cymorth ieuenctid gan ddefnyddio dull addysgol neilltuol sy’n seiliedig ar ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc, ac sy’n cael ei gyflenwi gan bersonau sy’n meddu ar gymhwyster gweithiwr ieuenctid neu gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid'.

Cymhwyster gweithiwr ieuenctid a chymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid yn y cyd-destun hwn yw'r rhai a nodir yn Atodlenni 1 a 2 Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016. Mae'r rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid hefyd i'w gweld ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mae'r diffiniad hwn yn tynnu ar y ddealltwriaeth bresennol o waith ieuenctid fel elfen allweddol o wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach, sy'n cael ei llywio gan ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc. Un o'r nodau hefyd yw diogelu gwaith ieuenctid fel proffesiwn cydnabyddedig ac mae'n pwysleisio gwerth cymwysterau cydnabyddedig.

Yn ogystal â disgrifio natur gwaith ieuenctid fel hyn, rydym hefyd yn cydnabod rôl bwysig cymuned ehangach o weithwyr proffesiynol perthynol yn ogystal â gwirfoddolwyr sy'n cefnogi'r gwaith o gyflenwi gwaith ieuenctid ac sy'n cyfoethogi ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

C1. Ydych chi'n teimlo bod y diffiniad arfaethedig o waith ieuenctid yn glir ac yn helpu i wahaniaethu rhwng gwaith ieuenctid a gwasanaethau eraill sy'n cefnogi pobl ifanc?

C2. A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol i'r dull gweithredu hwn?

Cynlluniau strategol gwaith ieuenctid

Ystyrir bod trefnu gwaith ieuenctid yn effeithiol yn helpu i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chynllunio a'i chyflenwi'n strategol, gan edrych i'r tymor hirach wrth fynd i'r afael ag anghenion pobl ifanc yn hytrach nag adweithio i broblemau a materion tymor byr.

Bydd y fframwaith statudol newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddatblygu cynllun strategol gwaith ieuenctid ('y cynllun strategol') gyda'i bartneriaid. Rhaid i'r cynllun strategol gynnwys amcanion ar gyfer gwaith ieuenctid sy'n gydnaws â'r saith nod llesiant ar gyfer Cymru fel y'i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Caiff y cynlluniau strategol eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo. Bydd gofyn i bob awdurdod lleol gyhoeddi adroddiadau monitro bob blwyddyn, gan amlinellu'r cynnydd a wnaed yn erbyn amcanion y cynllun strategol.

C3. Ydych chi'n teimlo y bydd y gofyniad am gynllun strategol gwaith ieuenctid yn helpu i gryfhau'r ffordd y caiff gwaith ieuenctid ei gynllunio a'i gyflenwi?

C4. Ydych chi'n teimlo y bydd y cynllun strategol gwaith ieuenctid yn darparu strwythur atebolrwydd effeithiol ar gyfer gwaith ieuenctid?

Gweithio mewn partneriaeth

Mae'r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid hyd yma wedi pwysleisio gwerth cydweithio wrth gynllunio a chyflenwi cymorth i bobl ifanc. Mae'r fframwaith statudol yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i ymgysylltu ac ymgynghori â phartneriaid i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei llywio gan anghenion pobl ifanc.

C5. Bwriad y cynigion yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynllunio ac yn cyflenwi darpariaeth gwaith ieuenctid mewn ffordd gydweithredol yn unol â'r angen lleol. Ydych chi o'r farn bod angen nodi gofynion manylach?

C6. Ydy'r trefniadau atebolrwydd a gynigir yn y fframwaith statudol yn ddigon cadarn a chlir?

Hawlogaeth gwaith ieuenctid a'r cynnig gwaith ieuenctid

Mae'r fframwaith statudol newydd yn cyflwyno hawlogaeth gwaith ieuenctid newydd i bobl ifanc, gan ddiffinio sut mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i waith ieuenctid gael ei gynllunio a'i gyflenwi.

Y cynnig gwaith ieuenctid yw'r dehongliad lleol o'r hawlogaeth honno, wedi ei deilwra i'r hyn y mae pobl ifanc ei angen a'i eisiau yn yr ardal honno.

C7. Ydy'r hawlogaeth arfaethedig i waith ieuenctid yn crynhoi'n glir sut rydym i gyd yn dymuno gweld gwaith ieuenctid yn cael ei gynllunio a'i gyflenwi?

Strwythurau cyfranogi i bobl ifanc

Yn ein gwaith ymgysylltu hyd yn hyn, mae pobl ifanc wedi dweud wrthym am rai o'r rhwystrau a allai eu hatal rhag manteisio ar waith ieuenctid, gan gynnwys diffyg cludiant i gyrraedd lleoliad, diffyg ymwybyddiaeth o ddarpariaeth, neu deimlad o ddychryn ynghylch pwy arall y gallent ddod ar eu traws mewn lleoliad. Gall cyfraniad gweithredol pobl ifanc wrth gynllunio a chyflenwi darpariaeth helpu i nodi strategaethau i ddileu rhwystrau o'r fath yn ogystal â sicrhau llwybrau clir ar gyfer trafodaethau rhwng pobl ifanc os daw heriau o'r fath i'r amlwg.

Mae'r fframwaith statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod pobl ifanc yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch cynllunio a chyflenwi gwaith ieuenctid. Rhaid iddo hefyd roi trefniadau ar waith fel y gall pobl ifanc ddwyn yr awdurdod lleol i gyfrif ynghylch y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun strategol gwaith ieuenctid.

C8. Mae'r fframwaith statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwaith ieuenctid. Byddai'r union ddull o gyflawni hyn yn cael ei benderfynu ar sail yr angen a'r strwythurau lleol. Ydych chi o'r farn bod angen nodi gofynion manylach?

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi'n teimlo bod y diffiniad arfaethedig o waith ieuenctid yn glir ac yn helpu i wahaniaethu rhwng gwaith ieuenctid a gwasanaethau eraill sy'n cefnogi pobl ifanc?

Cwestiwn 2

A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol i'r dull gweithredu hwn?

Cwestiwn 3

Ydych chi'n teimlo y bydd y gofyniad am gynllun strategol gwaith ieuenctid yn helpu i gryfhau'r ffordd y caiff gwaith ieuenctid ei gynllunio a'i gyflenwi?

Cwestiwn 4

Ydych chi'n teimlo y bydd y cynllun strategol gwaith ieuenctid yn darparu strwythur atebolrwydd effeithiol ar gyfer gwaith ieuenctid?

Cwestiwn 5

Bwriad y cynigion yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynllunio ac yn cyflenwi darpariaeth gwaith ieuenctid mewn ffordd gydweithredol yn unol â'r angen lleol. Ydych chi o'r farn bod angen nodi gofynion manylach? 

Cwestiwn 6

Ydy'r trefniadau atebolrwydd a gynigir yn y fframwaith statudol yn ddigon cadarn a chlir?

Cwestiwn 7

Ydy'r hawlogaeth arfaethedig i waith ieuenctid yn crynhoi'n glir sut rydym i gyd yn dymuno gweld gwaith ieuenctid yn cael ei gynllunio a'i gyflenwi?

Cwestiwn 8

Mae'r fframwaith statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwaith ieuenctid. Byddai'r union ddull o gyflawni hyn yn cael ei benderfynu ar sail yr angen a'r strwythurau lleol. Ydych chi o'r farn bod angen nodi gofynion manylach?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaeth graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/