Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd y cyngor gan yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu i adrodd ar ba mor dda y mae ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm ym Mlwyddyn 6 hyd at Flwyddyn 9. Mae’n ystyried pa mor dda y mae medrau darllen disgyblion yn datblygu, y ddarpariaeth o fewn ysgolion ar gyfer datblygu darllen, a’r ‘diwylliant o ddarllen’ a ysgogir gan ysgolion.

Mae'r adroddiad hwn yn dilyn adroddiad ar ddatblygu medrau darllen Saesneg disgyblion rhwng 10 a 14 oed a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Safonau darllen disgyblion

Dywed Estyn bod effaith negyddol y pandemig yn parhau yn glir ar safonau darllen Cymraeg disgyblion, gyda’r lleiafrif wedi colli’r hyder i gyfathrebu a darllen yn y Gymraeg.

Mae gan lawer o ddisgyblion fedrau darllen sylfaenol cadarn. Pan yn cael y cyfle, mae llawer o ddisgyblion yn gallu dod o hyd neu leoli gwybodaeth a'i hadalw o destunau yn briodol. Maent yn llithr ddarllen yn llwyddiannus i ganfod prif negeseuon a gwybodaeth allweddol, gan anodi’r testun yn bwrpasol. Mae llawer o ddisgyblion yn darllen i ddeall yn llwyddiannus ac yn defnyddio strategaethau darllen sylfaenol i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol.

Mae cyfran uwch o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu medrau darllen uwch nag ym Mlynyddoedd 7 i 9. Mae hyn yn rhannol oherwydd yr heriau o gydlynu datblygiadau medrau darllen yn gyson ar draws yr ystod o bynciau ac athrawon yn y cyfnod uwchradd.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn elwa o ystod o gyfleoedd i 

ddatblygu’u medrau darllen sylfaenol ac uwch o fewn gwersi Cymraeg neu sesiynau iaith ac o fewn pynciau’r dyniaethau. Mae cyfleoedd tu allan i’r gwersi yma yn gyfyng.

Mae llawer o ddisgyblion Blwyddyn 6 a mwyafrif y disgyblion uwchradd yn darllen ar goedd yn hyderus a rhugl. Maent yn amrywio goslef eu llais yn effeithiol i gyd-fynd â gofynion y darnau darllen sydd dan sylw. Mewn ychydig o ysgolion, mae disgyblion yn elwa o ddefnyddio amrywiol strategaethau i godi eu hyder wrth ddarllen ar goedd, yn ogystal â strategaethau defnyddiol i ddatblygu a chyfoethogi eu geirfa. Mae’r disgyblion yn yr ysgolion hyn yn fwy parod i fentro ynganu a dweud geiriau anghyfarwydd ac i ddarllen ar goedd yn annibynnol.

Darparu ar gyfer datblygu sgiliau darllen disgyblion

Er bod arweinwyr ym mron pob ysgol yn cydnabod pwysigrwydd blaenoriaethu datblygiad medrau darllen disgyblion, yn aml nid oedd hyn yn arwain at ddarpariaeth effeithiol ar draws y cwricwlwm, yn enwedig yn y sector uwchradd. 

Nid oedd arweinwyr yn y lleiafrif o ysgolion cynradd a’r mwyafrif o ysgolion uwchradd a phob oed yn defnyddio ystod digon eang o dystiolaeth i adnabod yr union agweddau sydd angen eu gwella a chynllunio camau gweithredu perthnasol. Lle bo arweinyddiaeth ar ei orau, mae arweinwyr yn adnabod y cryfderau o ran darllen ar draws yr ysgol ynghyd â’r nodweddion sydd angen eu gwella ac mae hyn yn glir yng nghynlluniau datblygu’r ysgolion. Mae’r arweinwyr yma yn gwerthuso ansawdd ac effaith y ddarpariaeth yn barhaus ac yn gwneud newidiadau, lle bo’n briodol.

Mae cynlluniau trosglwyddo cyffredinol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu trefnu a’u strwythuro’n ofalus. Mae bron pob ysgol gynradd yn trosglwyddo canlyniadau disgyblion Blwyddyn 6 o brofion darllen safonol i’r ysgolion uwchradd, ond lleiafrif yn unig o’r ysgolion uwchradd sy’n defnyddio’r canlyniadau hyn ac yn cynnal ystod o brofion sylfaenol ar ddisgyblion sy'n symud o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Prin yw’r ysgolion sy’n cynllunio ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion o Flwyddyn 6 i 7 mewn ffordd strwythuredig. Un o’r rhwystrau yw ehangder y clwstwr a bod nifer o ysgolion cynradd o fewn dalgylch mwy nag un ysgol uwchradd.

Mae unedau trochi a chanolfannau iaith, yn datblygu medrau Cymraeg disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr yn effeithiol. Yn fuan iawn, mae’r disgyblion hyn yn datblygu’n siaradwyr rhugl yn yr iaith sydd yn medru astudio’r holl gwricwlwm trwy’r Gymraeg.

Datblygu diwylliant o ddarllen

Mae llawer o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd yn hyrwyddo ethos o fwynhad mewn darllen ar draws yr ysgol trwy gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau gwerthfawr i ddisgyblion. Mae barnau disgyblion yn chwarae rhan bwysig wrth lywio’r gweithgareddau yma ac mae’r ysgolion yma yn gwrando ar y disgyblion ac yn addasu’r gweithgareddau er mwyn hybu diwylliant o ddarllen.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd, mae’r amgylchedd ddysgu’n cynnwys mannau ysgogol a difyr lle gall pob grŵp o ddisgyblion gael mynediad at lyfrau darllen a lleoedd cyfforddus i’w mwynhau. Ceir ardaloedd darllen deniadol a phwrpasol sydd yn hybu darllen fel gweithgaredd pleserus.

Mae tua hanner yr ysgolion uwchradd wedi cadw a diweddaru eu llyfrgelloedd i gynnwys amrywiaeth o ddeunydd darllen papur a digidol. Lle mae darpariaeth llyfrgell ysgolion ar ei fwyaf effeithiol, mae'r lle yn groesawgar, yn cynnwys storfa dda ac amrywiol, yn cael ei oruchwylio ac yn cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth o ddosbarthiadau a phynciau yn ddyddiol. Mae’n gartref hefyd i glybiau gwaith cartref ac yn hafan i ddisgyblion adeg egwyl a chinio i ddarllen ac astudio.

Mae llawer o ysgolion cynradd a lleiafrif o ysgolion uwchradd yn cynnig profiadau niferus i’r disgyblion i’w hannog i ddarllen y tu hwnt i’r dosbarth, ond oherwydd cyfyngiadau yn y gyllideb, mae’r profiadau yma wedi lleihau a phrin yw’r gweithdai sy’n cael eu cynnal a’r awduron sy’n ymweld ag ysgolion.

Mewn arolwg o ddisgyblion, canfuwyd mai disgyblion Blwyddyn 6 oedd yn dangos y brwdfrydedd mwyaf at ddarllen ac yn gwerthfawrogi’r ystod ddiddorol o destunau darllen, o ran llyfrau ac adnoddau digidol, sydd ar gael iddynt yn y Gymraeg. Mae’r brwdfrydedd dros ddarllen yn gostwng ymhlith y disgyblion hŷn.

Fodd bynnag, maent yn fwy cyfarwydd ag awduron Saesneg gan eu bod yn darllen fersiynau o’u gwaith sydd wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg, gan amlaf. Ymysg y disgyblion oed uwchradd, roedd y rhan fwyaf o’r farn nad oedd digon o arlwy o lyfrau Cymraeg ar gael o gymharu â’r Saesneg, yn enwedig llyfrau ffeithiol.

Cymysg oedd teimladau disgyblion ynghylch y cyfieithiadau o lyfrau Saesneg. Teimlai tua hanner y disgyblion bod cyfieithiadau o rai o’r prif nofelau Saesneg yn anodd i’w darllen, bod llif a dychymyg y stori yn cael eu colli mewn cyfieithiad a bod yr eirfa hefyd yn ddieithr ac anghyfarwydd. Ar y llaw arall, anghytunai hanner y disgyblion gan nodi eu bod yn mwynhau y cyfieithiadau am eu bod yn gyfarwydd â’r stori yn Saesneg ac felly’n fwy parod i’w darllen yn y Gymraeg. Yn gyffredinol, roedd yn well gan y rhan fwyaf o ddisgyblion cynradd ac uwchradd ddarllen llyfrau Saesneg. Y prif resymau dros hyn oedd yr eirfa a’r dafodiaith ddieithr a’r prinder dewis o bynciau diddorol yn y Gymraeg.

Argymhellion

Argymhellion ar gyfer arweinwyr mewn ysgolion

Argymhelliad 1

Cryfhau’r cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu amrywiaeth o fedrau darllen, gan gynnwys uwch-fedrau darllen, mewn pynciau ar draws y cwricwlwm yn ogystal â’r Gymraeg. 

Argymhelliad 2

Defnyddio ystod eang o wybodaeth o amrywiaeth o weithgareddau hunanwerthuso i fonitro a gwerthuso medrau darllen disgyblion er mwyn adnabod yn glir pa agweddau o ddarllen sydd angen eu gwella neu’u cryfhau. 

Argymhelliad 3

Cynllunio’n strategol a strwythuro cyfleoedd i gynyddu awydd, dygnwch a hyder disgyblion pan yn darllen yn y Gymraeg. 

Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol

Argymhelliad 4

Hwyluso trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd a goresgyn unrhyw rwystrau i sicrhau bod ysgolion yn gallu cydweithio’n fuddiol i ddatblygu medrau darllen disgyblion.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r argymhellion hyn gan eu bod yn cefnogi ein disgwyliadau i ysgolion ddarparu arweinyddiaeth ac addysgu o ansawdd uchel i alluogi pob dysgwr, waeth beth yw eu cefndir, i feddu ar y sgiliau darllen a llythrennedd ehangach sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial.

Mae llythrennedd wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru fel sgil drawsgwricwlaidd gorfodol. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn hanfodol ar gyfer codi safonau i bawb. Rydym yn parhau i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gynllunio, sefydlu a chyflwyno'r cyfleoedd hyn i'w dysgwyr ar draws pob maes o'r cwricwlwm, ac yn achos darllen Cymraeg mae hynny'n cynnwys cyfleoedd y tu allan i wersi iaith a’r dyniaethau.

Y llynedd, cyhoeddom ein pecyn cymorth llafaredd a darllen sy'n helpu ysgolion i ddatblygu a sefydlu eu dull ysgol gyfan eu hunain o gyflawni safonau uchel o lefaredd a darllen yn Gymraeg a Saesneg. Mae'n atgyfnerthu pwysigrwydd llythrennedd a'r manteision sydd i'w cael pan fydd cymuned gyfan yr ysgol yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydlynol a pharhaus.

Rydym yn cefnogi prosiectau i dreialu a gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau llythrennedd ac iaith Cymraeg wedi'u targedu, megis Rhaglen Iaith a Llythrennedd (RILL) Prifysgol Bangor, sydd hyd yma wedi dangos twf yng ngeirfa Gymraeg dysgwyr (sy'n hanfodol ar gyfer llafaredd ond hefyd datgodio a deall wrth ddarllen) a rhuglder darllen Cymraeg. Rydym yn edrych ar waith pellach i ehangu mynediad at yr ymyrraeth fuddiol hon ledled Cymru.

Fel y nodwyd mewn datganiad diweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill dros y ddwy flynedd nesaf, gan adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio'n dda ar gyfer llythrennedd, i ddatblygu cymorth dwys sydd ar gael yn genedlaethol i'r proffesiwn. Bydd y cymorth hwn yn darparu disgwyliadau clir ar gyfer cynllunio cynnydd llythrennedd i bawb a sefydlu'r sgiliau ar draws pob maes o'r cwricwlwm. 

Ochr yn ochr â hyn i gryfhau ein disgwyliadau, byddwn yn gweithio gyda'r system i adolygu a mireinio'r Fframwaith Llythrennedd i sicrhau ei fod yn darparu'r lefel o fanylion sydd ei hangen ar ysgolion i gynllunio cyfleoedd, ar draws pob maes o'r cwricwlwm, drwy gydol y continwwm dysgu. Byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith diwygiedig fel canllawiau statudol gan ei roi ar yr un sylfaen â chanllawiau ehangach y Cwricwlwm i Gymru, a fydd yn cryfhau ei statws gydag ysgolion.

Byddwn hefyd yn sefydlu egwyddorion cenedlaethol clir i gefnogi addysgu a dysgu llythrennedd, gan gynnwys eglurder am yr elfennau sy'n cefnogi cynnydd mewn llythrennedd ar draws grwpiau oedran, ac ar ddulliau o asesu dysgu a gwerthuso cynnydd. Rydym yn gweithio'n agos gydag Estyn i ddatblygu'r dull o ymdrin â'r meysydd gwaith hyn.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn nodi'r cyfrifoldebau cyfreithiol ynghylch trefniadau pontio ar gyfer pob ysgol ac mae ar gael ochr yn ochr ag ystod o ddeunyddiau ategol ac astudiaethau achos ar sefydlu prosesau pontio effeithiol o fewn ysgolion a rhwng ysgolion. Cyhoeddwyd rhagor o gefnogaeth ar sefydlu prosesau ar dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a chefnogi gwaith clwstwr yn gynharach eleni. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i ystyried sut y gallwn gefnogi trefniadau pontio ymhellach rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd er budd pob dysgwr.

Argymhellion ar gyfer Lywodraeth Cymru

Argymhelliad 5

Creu cyfleoedd i awduron Cymraeg ymgysylltu ag ysgolion a siarad â disgyblion am y math o lyfrau yr hoffent eu darllen yn y Gymraeg. 

Argymhelliad 6

Gweithio gyda phartneriaid fel ‘Adnodd’ i wella a chynyddu’r adnoddau darllen cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gan gynnwys llyfrau ffeithiol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion hyn. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i edrych ar gyfleoedd i awduron Cymraeg ymgysylltu ag ysgolion a sicrhau bod mwy o adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael. 

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi rhoi casgliad o 50 o lyfrau i bob ysgol eu hychwanegu at eu llyfrgelloedd ac ar gyfer ysgolion Cymraeg roedd hynny'n cynnwys cymysgedd o lyfrau dwyieithog, llyfrau gwreiddiol Cymraeg a llyfrau wedi'u cyfieithu. Trwy Brosiect Rhyngom, sydd i'w gwblhau y flwyddyn nesaf, rydym yn gweithio i gyhoeddi adnoddau cyfrwng Cymraeg sy'n dathlu diwylliant, pobl a hanes Cymru.

Manylion cyhoeddi

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar 12 Medi 2024, a gellir ei weld ar wefan Estyn.