Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC). Dylid trin data fesul deiliadaeth gyda gofal (gweler y Nodiadau am ragor o wybodaeth). 

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd, Chwater 1, 2015-16 i Chwater 1, 2024-25 [Nodyn 1]

Image

Ffynhonnell: Arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos bod nifer y tai newydd yn dechrau rhwng Chwarter 1 2015-16 a Chwarter 1 2024-25, wedi amrywio rhwng 615 a 2,141 tra bod nifer y tai newydd a gwblhawyd wedi amrywio rhwng 1,005 a 2,066

[Nodyn 1] Ni chasglwyd data chwarterol ar gyfer 2020-21 na 2021-22 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).

  • Dechreuwyd 1,011 o anheddau newydd rhwng Ebrill i Mehefin 2024, 19% yn llai na’r un chwarter yn 2023 (1,248). 
  • Gwblhawyd 1,342 o anheddau newydd rhwng Ebrill i Mehefin 2024, 21% mwy na’r un chwarter yn 2022 (1,108). 
  • Roedd mwy na hanner (57%) yr anheddau newydd a gwblhawyd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024 yn cynnwys tair ystafell wely neu fwy.
  • Roedd cynnydd sylweddol yn nifer yr anheddau un ystafell wely a gwblhawyd (o 104 i 270), o'i gymharu â'r un chwarter yn 2023.

Anheddau newydd a gwblhawyd fesul deiliadaeth

Dylid trin y ffigyrau fesul deiliadaeth yn ofalus gan y credir ei fod yn tan gyfrif nifer y tai newydd yn y sector gymdeithasol ond yn gor-gyfrif nifer y tai newydd yn y sector breifat.  Efallai bod adeiladau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) wedi eu gor-gyfrif ac adeiladau awdurdodau lleol wedi eu tan gyfrif (gweler y Nodiadau am ragor o wybodaeth).

  • Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024, roedd y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a adeiladwyd yn perthyn i’r sector preifat (71%), gyda chyfran lai yn perthyn i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (23%) ac awdurdodau lleol (6%).
  • O'i gymharu â'r un chwarter yn 2023, cynyddodd cyfran y gwaith o gwblhau anheddau a gyfrifwyd gan y sector cymdeithasol o 22% i 29%.

Nodiadau

  • Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.
  • Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus. 
  • Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.
  • Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Cyhoeddir pwyntiau allweddol a data StatsCymru yn chwarterol a chyhoeddir adroddiad blynyddol. Mae’r data ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdodau lleol yn ogystal â nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul math yr annedd a nifer yr ystafelloedd gwely.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099