Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2008, Cymru oedd Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi arferion masnach deg a defnydd moesegol. Mae Masnach Deg yn cefnogi cynhyrchwyr ledled y byd i ddiogelu dyfodol rhai o'n bwyd a'n cynhyrchion mwyaf poblogaidd, a'r blaned. 

Eleni,cynhelir Pythefnos Masnach Deg rhwng 09 Medi a 22 Medi i nodi 30 mlynedd ers Pythefnos Masnach Deg, gyda'r thema 'Byddwch y Newid'.

Mae Pythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd rydym wedi'i wneud yn y frwydr yn erbyn tlodi ac anghydraddoldeb byd-eang. Mae ein hymroddiad i egwyddorion masnach deg yn parhau i fod yn ddiwyro, ac rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau dyfodol mwy disglair, teg i bawb. Gyda'n gilydd, rydym am greu byd lle mae tegwch a chyfiawnder wrth wraidd masnach.

Erbyn hyn mae 2 filiwn o ffermwyr a gweithwyr mewn sefydliadau cynhyrchwyr ardystiedig Masnach Deg, ac rwy'n falch o weld ffigurau Masnach Deg diweddaraf y DU sy'n tynnu sylw at sawl datblygiad cadarnhaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, yn 2023 gwelwyd gwerthiant cynnyrch Masnach Deg y DU yn cynhyrchu £28m mewn Premiwm Masnach Deg i ffermwyr a gweithwyr.

Buddsoddodd sefydliadau cynhyrchu ar raddfa fach 36% o'u Premiwm Masnach Deg i wella arferion cynhyrchu a ffermio, a 23% i fanteision ariannol i ffermwyr.

Mae'n galonogol gweld bod nifer y gwerthiannau coco Masnach Deg yn y DU wedi tyfu 6% a chynyddodd nifer y gwerthiannau te Masnach Deg 5%. Rwy'n gobeithio gweld y duedd hon ar i fyny yn parhau.

Rwyf am longyfarch dwy brifysgol ar hugain y DU, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd eleni wedi ennill statws Masnach Deg i gydnabod eu hymrwymiad i hyrwyddo prynwriaeth foesegol a gwthio am gyflogau tecach i ffermwyr a gweithwyr.

Yr haf diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y pryd ein bod yn adfywio'r meini prawf ar gyfer Cenedl Masnach Deg. Byddwn nawr yn mesur lefelau ymwybyddiaeth, ymgysylltu ag ymgyrchoedd, defnyddio a chynhyrchu nwyddau MASNACH DEG, ymgysylltu gwleidyddol â'r mater ac ymgysylltu â materion cyfiawnder masnach ehangach er mwyn adlewyrchu'n well fyd sydd wedi newid cymaint ers 2008. 

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Masnach Deg Cymru, Fforwm Masnach Deg yr Alban a Llywodraeth yr Alban, yn falch o allu cadarnhau'r meini prawf hyn fel y nodir isod.

Mae Cenedl Masnach Deg yn un lle:

  • mae ymwybyddiaeth eang o fasnach deg
  • mae ymgysylltiad sylweddol â masnach deg ar draws gwahanol sectorau o'r gymdeithas
  • mae cynhyrchion Masnach Deg yn cael eu defnyddio a'u cynhyrchu
  • mae cefnogaeth wleidyddol ac ymgysylltiad â masnach deg
  • mae anghydraddoldebau mewn masnach fyd-eang a chymdeithas yn cael eu herio gan Masnach Deg.

Mae'r meini prawf newydd hyn yn adlewyrchu uchelgeisiau Masnach Deg yn well ar gyfer y dyfodol a gellir eu defnyddio gan weinyddiaethau yn rhyngwladol, wrth wella'r broses asesu i sicrhau bod hawliadau'n ystyrlon ac yn gadarn. Dylai hyn ymgorffori egwyddorion tryloywder, annibyniaeth, a chyfranogiad unigolion o wledydd incwm isel a chanolig.

Rwy'n falch iawn o groesawu Jenipher Sambazi o sefydliad Jenipher's Coffi, unwaith eto i Gymru yn ystod Pythefnos Masnach Deg.  Mae wedi bod yn ymwelydd rheolaidd â Chymru o'i chartref ym Mbale, Uganda, ac mae ei phresenoldeb yn tynnu sylw at waith gwerthfawr cynhyrchwyr Masnach Deg. 

Mae Jenipher yn tyfu coffi Masnach Deg ac organig ar ei thyddyn ac mae'n arweinydd ei chwmni Coffee Co-operative. Bydd yn cyfarfod â Gweinidogion ac Aelodau Seneddol yn y Senedd heddiw i drafod ei gwaith a'r manteision a ddaw yn sgil Masnach Deg i ffermwyr a'u cymunedau.

Ddydd Iau, 12fed o Fedi, ymwelodd Jenipher ag ysgolion yn Y Fenni a Threfynwy, ac ar ddydd Sul, y 15fed o Fedi, roedd yn y Drenewydd. Gall aelodau'r cyhoedd hefyd glywed gan Jenipher yn ystod Pythefnos Masnach Deg lle bydd yn mynychu'r digwyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 18 Medi - Ymweld â Ferrari's, Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Dydd Iau 19 Medi - Cwrdd â chwsmeriaid Jenipher's Coffi yn Coffi Un-One, Porthcawl.
  • Gwener 20 Medi – Ymweld ag ysgol ym Mhorthcawl. 
  • Dydd Sadwrn 21 Medi - Mynychu dathliad Masnach Deg yn y Farchnad Foesegol, Canolfan Oasis, Sblot.
  • Dydd Llun 23 Medi - Bydd Jenipher yn cymryd rhan yn yr Uwchgynhadledd Undod Byd-eang a gynhelir gan Hwb Cymru Africa.

Yn ogystal ag ymweliad Jenipher, bydd grwpiau Masnach Deg lleol yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru i ddathlu'r bythefnos. Rwy'n annog Aelodau'r Senedd i gefnogi'r grwpiau hyn i ddangos y gefnogaeth drawsbleidiol i'r fenter hon.